Eitem Rhaglen

Sylfaen y Dreth Gyngor ar gyfer 2019/2020

Cyflwyno adroddiad gan y Pennaeth Swyddogaeth (Adnoddau)/Swyddog Adran 151.

Cofnodion:

Cyflwynwyd er sylw’r Pwyllgor Gwaithadroddiad y Pennaeth Swyddogaeth (Adnoddau)/Swyddog Adran 151 ar gyfrifo Sylfaen y Dreth Gyngor ar gyfer 2018/19.

 

Dywedodd yr Aelod Portffolio Cyllid bod yr adroddiad yn nodi’r cyfrifiadau i bwrpas gosod sylfaen y Dreth Gyngor ar gyfer 2018/19 yn seiliedig ar nifer yr eiddo yn y gwahanol fandiau Treth Gyngor ar y rhestr brisio ar 31 Hydref, 2018 gan gymryd i ystyriaeth y disgowntiau, eithriadau a phremiymau ynghyd ag unrhyw newidiadau tebygol i’r rhestr brisio yn 2019/20. Roedd manylion y cyfrifiadau ar gael yn Atodiad A yr adroddiad.

 

Dywedodd y Pennaeth Swyddogaeth (Adnoddau)/Swyddog Adran 151 bod cyfanswm y sylfaen a gynigir ar gyfer 2019/20 i bwrpas pennu’r dreth yn 31,571.46 sy’n gynnydd o 2.59% o gymharu â 2018/19. Petai’r newidiadau i bremiwm y Dreth Gyngor yn cael eu gadael allan, mae’r cynnydd yn 0.7% sydd, yn gyffredinol, yn cyd-fynd â’r sefyllfa mewn awdurdodau eraill yng Nghymru. Bydd y cyfrifiad ar gyfer Sylfaen y Dreth Gyngor yn cael ei ddefnyddio gan Lywodraeth Cymru i bennu’r Grant Cymorth Refeniw ar gyfer y Cyngor yn 2019/20 ond ni fydd yn adlewyrchu’r premiwm Dreth Gyngor ac o’r herwydd ni fydd y newidiadau i’r premiwm yn effeithio ar lefel y GCR y bydd y Cyngor yn ei dderbyn gan Lywodraeth Cymru.

 

Gofynnodd y Pwyllgor Gwaith a oedd diffyg capasiti yn Asiantaeth y Swyddfa Brisio sy’n arwain at oedi gyda gweithredu newidiadau i fandiau’r Cyngor yn dilyn apeliadau yn cael effaith ar gyfrifo sylfaen y Dreth Gyngor. Dywedodd y Pennaeth Swyddogaeth (Adnoddau)/Swyddog Adran 141 bod y penderfyniadau a wneir gan Asiantaeth y Swyddfa Brisio mewn perthynas â newidiadau i fandiau’r Dreth Gyngor yn cael eu hôl-ddyddio i’r dyddiad y cytunwyd ar y newid - p’un ai i fyny neu i lawr. Pan mae sylfaen y Dreth Gyngor yn cael ei gosod, mae’n bosibl y bydd angen i’r Cyngor wneud ad-daliadau mewn achosion lle mae’r newid y cytunwyd iddo gan yr Asiantaeth Brisio yn golygu symud o Fand Treth Gyngor uwch i un is felly, yn yr amgylchiadau hynny, mae’n effeithio rhyw fymryn ar y Cyngor yn ariannol.  

 

Penderfynwyd

 

           Nodi cyfrifiad sylfaen y Dreth Gyngor gan y Pennaeth Swyddogaeth (Adnoddau) a’r Swyddog Adran 151 fydd yn cael ei ddefnyddio gan Lywodraeth Cymru ar gyfer cyfrifo’r Grant Cynnal Refeniw i Gyngor Sir Ynys Môn am y flwyddyn 2019/20, sef 30,876.09. (Rhan E6 o Atodiad A i’r adroddiad)

           Cymeradwyo’r cyfrifiad at ddiben pennu Sylfaen y Dreth Gyngor gan y Pennaeth Swyddogaeth (Adnoddau) a’r Swyddog Adran 151 am y cyfan o’r ardal ac am rannau ohoni dros y flwyddyn 2019/20 (Rhan E5 o Atodiad A i’r adroddiad)

           Yn unol â Deddf Cyllid Llywodraeth Leol 1972 a Rheoliadau Awdurdodau Lleol (Cyfrifo Sylfaen y Dreth Gyngor (Cymru) 1995  (SI19956/2561) fel y cawsant eu diwygio gan SI1999/2935 a Rheoliadau Awdurdodau Lleol (Cyfrifo Sylfaen y Dreth Gyngor) a’r Dreth Gyngor (Dosbarthiadau Rhagnodedig o Anheddau) (Cymru) (Diwygiad) 2004 a Rheoliadau Awdurdodau Lleol (Cyfrif Sylfaen y Dreth Gyngor (Cymru) (Diwygiad) 2016, y cyfansymiau y mae Cyngor Sir Ynys Môn wedi eu cyfrif fel Sylfaen y Dreth am 2019/20 fydd 31,571.46, ac fel y nodir yn nhabl 3 yr adroddiad am y rhannau hynny o’r ardal a restrir yn y tabl.

 

Dogfennau ategol: