Eitem Rhaglen

Diweddariad Archwilio Mewnol

Cyflwyno adroddiad y Pennaeth Archwilio a Risg.

Cofnodion:

Cyflwynwyd i’r Pwyllgor ei ystyried, adroddiad y Pennaeth Archwilio a Risg a oedd yn rhoi diweddariad ar gynnydd diweddaraf y Gwasanaeth Archwilio Mewnol mewn perthynas â darparu gwasanaeth, darpariaeth sicrwydd ac adolygiadau a gwblhawyd.

 

Amlygodd y Pennaeth Archwilio a Risg y prif bwyntiau fel a ganlyn -

 

           Cwblhawyd dau adroddiad adolygu archwilio yn ystod y cyfnod sef un yn ymwneud â Threfniadau Casglu Incwm Ysgolion a dderbyniodd farn Sicrwydd Cyfyngedig a’r llall yn ymwneud â Thwyll Tocynnau Teithio Rhatach a dderbyniodd farn Sicrwydd Rhesymol.

           Cynhaliwyd yr adolygiad Twyll Tocynnau Teithio Rhatach yn dilyn adroddiadau yn y wasg am dwyll yn erbyn Cyngor Gwynedd a chafwyd perchnogion dau gwmni bysiau yn euog o droseddau yn cynnwys cynllwynio i gyflawni twyll trwy wybodaeth ffug. Gwnaed ymholiadau gyda Chyngor Gwynedd a Gwasanaeth Cludiant y Cyngor er mwyn sicrhau nad yw’r Cyngor yn agored i’r twyll hwn. Roedd un o’r cwmnïau wedi gweithredu dau gontract gyda’r Cyngor yn ad-dalu tocynnau teithio rhatach ond nid oeddent yn llwyddiannus pan wnaeth y Cyngor ail-dendro’r contractau yn 2015. Nid oedd y cwmni arall wedi derbyn unrhyw daliadau ers Mehefin, 2014. Yn ogystal, mae’r mesurau rheoli canlynol mewn lle a ddylai sicrhau fod llai o risg i’r Cyngor wrth ad-dalu tocynnau rhatach –

           Mae Cyngor Sir y Fflint, ar ran holl Gynghorau Gogledd Cymru, yn darparu adroddiadau cryno yn uniongyrchol o’r system Wayfarer i gefnogi ad-dalu hawliadau ar gyfer tocynnau rhatach rhag i’r contractwyr allu ymyrryd â nhw. Mae Gwasanaeth Trafnidiaeth y Cyngor yn gwirio pob cais am docynnau rhatach a gyflwynwyd gan y gweithredwr bysiau yn erbyn yr adroddiadau.

           O fis Gorffennaf 2016, cyflwynodd Llywodraeth Cymru adroddiadau system fisol manwl er mwyn i Gynghorau allu monitro gweithgaredd cardiau clyfar. Mae’r system adrodd newydd yn golygu bod y Cyngor yn gallu canfod unrhyw anghysonderau ac ymchwilio iddynt, ac felly mae llai o risg o golledion yn sgil hawliadau rhy uchel neu dwyllodrus ar gyfer ad-dalu tocynnau rhatach.

           Mae’r Cyngor yn cymryd rhan yn y cynllun “Dywedwch Wrthym Unwaith” ac mae’n canslo cardiau pan fydd rhywun yn marw. Mae’r Cyngor yn cadw cardiau wedi’u difrodi ac os dywedir wrth y Cyngor bod cerdyn ar goll mae’n cael ei ganslo.

 

           Cynhaliwyd yr adolygiad Archwilio Allanol o Drefniadau Casglu Incwm Ysgolion yn dilyn cais gan y Pennaeth Dysgu blaenorol o ganlyniad i amryw o bryderon ynghylch prosesau casglu incwm ysgolion. Ymwelwyd â thair ysgol gynradd fel rhan o’r archwiliad. Canfu’r adolygiad bod polisïau a gweithdrefnau yn ymwneud ag incwm wedi dyddio; anghysondebau ynghylch rhoi cyfrif am incwm; diffyg monitro corfforaethol, trefniadau monitro dyledion yn amrywio o ysgol i ysgol; trefn lywodraethu wan ar gyfer cronfeydd ysgolion a systemau rheoli mynediad amhriodol. Roedd y rhan fwyaf o’r gwendidau a ganfuwyd yn y prosesau casglu incwm a fabwysiadwyd gan ysgolion yn deillio o ddiffyg gwybodaeth a hyfforddiant, h.y. nid yw’r Gwasanaeth Dysgu wedi cyflwyno polisïau cyfredol i ysgolion, wedi’u cefnogi gan weithdrefnau a hyfforddiant. Hefyd, mae diffyg monitro cydymffurfiaeth gorfforaethol gan y Gwasanaeth Dysgu yn golygu bod y Cyngor yn agored i risgiau.

           Cwblhawyd pedwar adolygiad dilyn i fyny adroddiadau Sicrwydd Cyfyngedig yn ystod y cyfnod yn ymwneud â Dyledwyr Amrywiol (graddfa Sicrwydd Cyfyngedig yn parhau); Fframwaith Caffael Corfforaethol (uwchraddiwyd i Sicrwydd Rhesymol); Paratoadau’r Cyngor ar gyfer GDPR (uwchraddiwyd i Sicrwydd Rhesymol) a Diogelu Corfforaethol (uwchraddiwyd i Sicrwydd Rhesymol).

           Canfu adolygiad Dilyn i Fyny cyntaf Dyledwyr Amrywiol, er bod y Tîm Dyledwyr wedi gwneud gwaith sylweddol er mwyn mynd i’r afael â’r materion a’r risgiau a godwyd yn yr adolygiad gwreiddiol, yn cynnwys gweithredu newidiadau sylweddol i systemau ar yr un pryd â chynnal y llwyth gwaith dyddiol, ond mewn sawl achos nid oedd hynny’n ddigonol i fynd i’r afael yn llawn â’r risg ac felly mae’r raddfa Sicrwydd Cyfyngedig yn parhau. O’r 19 o faterion/risgiau a godwyd yn ystod yr adolygiad archwilio gwreiddiol, mae’r Rheolwr Gwasanaeth Refeniw a Budd-daliadau wedi goddef un risg isel yn ymwneud ag ad-daliadau a risg o dwyll; mae 5 wedi cael sylw, 11 yn y broses o dderbyn sylw ac nid yw gwaith wedi cychwyn ar 2. Os yw gwaith wedi dechrau ac wedi lleihau’r tebygolrwydd o risg yn codi, adlewyrchwyd hynny yn y raddfa risg. Bydd Archwilio Mewnol yn ailymweld â’r gwasanaeth ym mis Gorffennaf 2019 er mwyn monitro cynnydd wrth fynd i’r afael â’r risgiau.

           Cynhelir ail adolygiad dilyn i fyny cyn diwedd y flwyddyn ariannol mewn perthynas â’r tri adroddiad â graddfa Sicrwydd Cyfyngedig. Yr adroddiadau yw Gorchmynion Llys Gofal Plant o dan yr Amlinelliad Cyfraith Gyhoeddus; (Ymweliad Dilynol yng Ngorffennaf, 2018), Safonau Diogelwch y Diwydiant Cardiau Talu (Ymweliad Dilynol yn Hydref, 2018), a Rheoli Systemau - Mynediad Rhesymegol a Gwahanu Dyletswyddau (Ymweliad Dilynol yn Rhagfyr, 2018). Mae’r tri adolygiad dilyn i fyny ar y gweill ar hyn o bryd.

           Mae’r Cyngor wedi gwella ei berfformiad yn raddol wrth fynd i’r afael â materion/risgiau a godwyd yn ystod archwiliadau a gynhaliwyd yn 2017/18 ac mae wedi parhau i gynnal perfformiad da yn ystod dau chwarter cyntaf 2018/19. Bydd fersiwn newydd wedi ei ddiweddaru o’r system olrhain camau gweithredu ar gael yn fuan, sydd yn darparu swyddogaethau ychwanegol ac yn lleihau’r baich gweinyddol.

           Ers penodi’r ddau Uwch Archwilwyr newydd, mae gwaith ar y Cynllun Gweithredu Archwilio Mewnol wedi gwneud cynnydd da. Fodd bynnag, oherwydd i’r swyddi fod yn wag cyhyd, ymchwiliadau hir, gwaith dilynol sylweddol ac absenoldeb mamolaeth y trydydd Uwch Archwiliwr, bydd yn anodd cyflawni’r targed o roi sylw i 80% o risgiau gweddilliol coch ac ambr yn y gofrestr risg corfforaethol. Hyd yma rhoddwyd sylw i 29% o’r risgiau gweddilliol coch ac ambr yn y gofrestr risg ac mae gwaith yn digwydd yn y 7 maes a restrwyd ym mharagraff 42 yr adroddiad. Os nad yw’r Cynllun Gweithredu yn cynnwys dyddiad targed ar gyfer adrodd i’r Pwyllgor, mae hynny oherwydd y rhagwelir na fydd unrhyw waith yn cael ei wneud ar y meysydd hynny – efallai bod gwaith arall yn cael ei wneud yn y meysydd hyn e.e. gwaith gweithredu systemau ar y gweill mewn perthynas â’r Gyflogres y bydd rhaid eu sefydlu’n gadarn cyn y gall Archwilio Mewnol adolygu’r maes neu efallai nad yw maes yn flaenoriaeth ar hyn o bryd neu efallai bod maes yn destun gwaith rheoleiddio/goruchwylio arall e.e. Rhaglen Ynys Ynni/Wylfa Newydd y mae llawer o graffu arnynt gan ffynonellau eraill oherwydd eu harwyddocâd.

           Mae yswirwyr y Cyngor, Zurich Municipal, wedi cynnal Archwiliad Iechyd Rheoli Risg annibynnol. Mae’r canlyniad yn debyg iawn i’r disgwyl gydag ychydig o gyfleoedd i wella. Bydd adroddiad yr Ymgynghorwyr Risg Strategol ynghyd â’r cynllun gweithredu gwelliannau yn cael ei rannu gyda’r Pwyllgor unwaith y bydd yr adroddiad wedi’i gwblhau.

           Yn ystod y chwarter olaf, mae Archwilio Mewnol wedi bod yn gofyn am, casglu, adolygu ac uwchlwytho’r holl ddata angenrheidiol ar gyfer Ymarferiad y Fenter Twyll Genedlaethol 2018/19 - ymarfer bob dwy flynedd sydd yn cydweddu data ar draws sefydliadau a systemau er mwyn helpu cyrff cyhoeddus i ganfod hawliadau neu drafodion sydd o bosib yn dwyllodrus neu’n anghywir. Ymarferiad y Fenter Twyll Genedlaethol yn 2016/17 oedd y mwyaf llwyddiannus hyd yma ac yn barod canfuwyd twyll a gordaliadau gwerth £5.4m yng Nghymru a £301m ar draws y DU.

 

Rhoddodd y Pwyllgor ystyriaeth i’r adroddiad a gwnaeth y pwyntiau a ganlyn -

           Nododd y Pwyllgor fod y twyll tocynnau teithio rhatach yn erbyn Cyngor Gwynedd wedi amlygu problem sydd yn creu risg sylweddol. Gofynnodd y Pwyllgor a oes data ar gael mewn perthynas â defnydd ar hyn o bryd ac yn y gorffennol ar draws awdurdodau.

 

Dywedodd Mr Alan Hughes, SAC, er nad oedd modd iddo gadarnhau hynny, ei fod ar ddeall fod Llywodraeth Cymru wedi cynnal adolygiad i sefydlu a yw’r broblem a ddaeth i’r amlwg yng Ngwynedd yn ehangach na hynny. Dywedodd y Pennaeth Archwilio a Risg y byddai’n cysylltu â Llywodraeth Cymru i weld a oes rhagor o wybodaeth ar gael, o ystyried mai Llywodraeth Cymru sydd yn cyllido’r Cynllun Teithio Rhatach Cymru Gyfan.

 

           Mewn perthynas â’r archwiliad o drefniadau Casglu Incwm Ysgolion nododd y Pwyllgor fod y materion/risgiau a godwyd yn ymwneud ag arian yn bennaf. Gofynnodd y Pwyllgor oni ddylai’r Gwasanaeth Cyllid yn hytrach na’r Gwasanaeth Dysgu arwain y gwaith o fynd i’r afael â’r materion hynny gan y byddai’n disgwyl i’r Gwasanaeth Cyllid fod â mwy o arbenigedd mewn perthynas â phrosesau casglu incwm ac felly’r gwasanaeth hwnnw fyddai’n gallu datrys y broblem orau.

 

Dywedodd y Pennaeth Swyddogaeth (Adnoddau)/Swyddog Adran 151, er bod cyfrifoldeb am gasglu incwm yn disgyn ar y Swyddog Adran 151 yn y pendraw, mae’r ffaith bod ysgolion yn cael eu cynnwys yn cymhlethu’r mater. Gan fod ysgolion yn endidau cyfreithiol ynddynt eu hunain a’u bod â lefelau gwahanol o gefnogaeth weinyddol, mae’n anodd sefydlu proses sy’n gweithio yn yr un ffordd i bawb. Yn y gorffennol, roedd incwm yn cael ei gasglu â llaw, ac er ei bod yn broses lafurus mae’n ddull profedig; fodd bynnag, mae cyflwyno’r system School Comms a thaliadau heb arian mewn rhai ysgolion yn cymhlethu’r system yn yr ystyr ei bod yn anoddach cysoni’r incwm a gesglir gan ysgol gyda thaliadau a wneir yn ddigidol ar y system School Comms lle nad yw ysgol wedi trin unrhyw arian. Cyflwynwyd y system gydag arian grant ond nid oedd yn ddarostyngedig i unrhyw adolygiad pellach ac er nad yw’r archwiliad wedi canfod unrhyw broblemau yn yr ystyr bod arian wedi mynd ar goll mae’r anghysonderau a’r amrywiadau ynghyd â’r diffyg goruchwyliaeth a system fonitro gorfforaethol yn golygu nad oes modd rhoi sicrwydd nad yw’r Cyngor mewn perygl o golli arian o ganlyniad i broblemau gyda’r broses gysoni. Mae’n fater i’r Gwasanaeth Cyllid sicrhau fod camau rheoli priodol yn cael eu rhoi mewn lle, a gyda mewnbwn gan y Gwasanaeth Dysgu ac ysgolion, yn llunio proses sydd yn gweithio i bawb, y mae pawb yn ei deall ac sy’n darparu’r sicrwydd angenrheidiol.

 

           Nododd y Pwyllgor yr ymwelwyd â thair ysgol yn unig fel rhan o’r archwiliad; gofynnodd y Pwyllgor sut y penderfynwyd ar y sampl hwn ac a yw’n bosib ei ystyried yn sampl cynrychioliadol.

 

Dywedodd y Pennaeth Archwilio a Risg fod yr ymweliad archwilio wedi targedu ysgol newydd a oedd wedi defnyddio’r system am gyfnod byr yn unig; ysgol oedd wedi bod yn defnyddio’r system am amser hir a ble y byddai disgwyl i’r broses fod wedi gwreiddio ac ysgol lle’r oedd problemau yn hysbys. Roedd y canlyniadau gwahanol ym mhob un o’r ysgolion a archwiliwyd yn cadarnhau'r diffyg cysondeb y gellir tybio ei fod yn cael ei ailadrodd yng ngweddill yr ysgolion. Y materion craidd yw bod y feddalwedd wedi cael ei arsefydlu heb ddarparu hyfforddiant a chanllawiau cyfatebol ac yn ogystal â hynny mae’r system wedi cael ei sefydlu i wneud gwahanol bethau mewn gwahanol ysgolion. Fodd bynnag, dywedodd y Swyddog bod y Swyddog Cefnogi Busnes Ysgolion sydd newydd gael ei phenodi a’i chynllun gweithredu ar gyfer rhoi sylw i’r mater a mynd i’r afael â’r risgiau/materion a nodwyd yn rhoi sicrwydd iddi.

 

Roedd y Prif Weithredwr yn cydnabod bod y sefyllfa a amlygwyd gan yr adolygiad archwilio yn annerbyniol ond dywedodd ei fod yntau hefyd wedi ei galonogi gan y Cynllun Gweithredu cynhwysfawr a rhoddodd sicrwydd i aelodau y byddai’n cael ei weithredu.

 

Nododd y Pwyllgor mai un wers i’w dysgu o’r adolygiad archwilio o drefniadau casglu incwm ysgolion yw bod angen adolygu prosiectau ar ôl iddynt gael eu cyflwyno, pa un ai ydynt yn cyflwyno system newydd ai peidio, ac yn yr achos hwn byddai wedi helpu i nodi’r problemau yn gynharach a chaniatáu iddynt gael sylw mwy amserol. Yn ogystal, gofynnodd y Pwyllgor a oedd data meincnodi ar gael ar gyfer casglu incwm prydau ysgol a fyddai’n helpu’r Pwyllgor i gael darlun o’r sefyllfa.

 

Dywedodd y Pennaeth Archwilio a Risg y byddai’n ceisio darparu’r wybodaeth.

 

           Nododd y Pwyllgor, mewn perthynas ag Adolygiad Dilyn i Fyny Cyntaf Dyledwyr Amrywiol, bod bron i ddwy flynedd o fwlch rhwng yr adolygiad Archwilio Mewnol gwreiddiol ym mis Tachwedd 2017 a’r Ail Adolygiad Dilyn i Fyny y bwriedir ei gynnal ym mis Gorffennaf 2019 ac roedd o’r farn fod hyn yn gyfnod rhy hir i fynd i’r afael â’r materion a’r risgiau a godwyd. Yn ogystal, nododd y Pwyllgor ei bod yn ymddangos fod diffyg capasiti wedi atal y Tîm Dyledwyr rhag gwneud mwy o gynnydd a gofynnodd a oedd achos dros gael mwy o adnoddau. Yn ogystal, gofynnodd y Pwyllgor, oherwydd y pwysau ariannol ar y Cyngor a’r angen parhaus i ganfod arbedion, a ddylai gwneud y mwyaf o incwm, casglu incwm ac adennill dyledion fod yn flaenoriaeth.

 

Esboniodd y Pennaeth Swyddogaeth (Adnoddau)/Swyddog Adran 151 fod y buddsoddiad ar raddfa fawr mewn systemau yn cynnwys Dyledwyr, Casglu Arian a Chyfrifo, y Dreth Gyngor a Budd-daliadau Tai a wnaethpwyd gan y Gwasanaeth Cyllid yn ystod y ddwy flynedd ddiwethaf wedi cynnwys yn benodol y timau Casglu Dyledion ac Incwm. Yn ystod y cyfnod hwnnw hefyd, ailstrwythurwyd y staff yn gyfan gwbl ac mae hynny ynddo’i hun wedi bod yn broses hir. Ar ôl gwella’r System Dyledwyr a chyrraedd pwynt lle mae’r drefn yn gweithio’n weddol dda gydag anfonebau yn cael eu codi yn brydlon a’r tîm yn gweithio ar darged 3 diwrnod ar gyfer awdurdodi dyledwyr newydd, mae’r Gwasanaeth Cyllid yn edrych yn awr ar drosglwyddo’r tasgau hynny i’r gwasanaethau eu hunain eu cyflawni. Er bod ôl-groniad yn parhau ac mae’r tîm yn gweithio drwyddynt mae prosesau mewn lle erbyn hyn i sicrhau nad yw’r ôl-groniad yn cynyddu. Elfen arall yn gysylltiedig â’r broses yw’r system arian barod ac mae meddalwedd newydd gyda mwy o swyddogaethau yn cael ei gyflwyno ar hyn o bryd. Mae hyn o ganlyniad i fid llwyddiannus am adnoddau o dan y fenter Buddsoddi i Arbed lle mae arian yn cael ei ryddhau ar gyfer prosiectau sydd yn gwella prosesau busnes y Cyngor a nod y system arian parod newydd yw gwella taliadau ar-lein ymlaen llaw ar gyfer gwasanaethau. Cafwyd peth oedi o ran gweithredu’r system oherwydd cymhlethdodau o ganlyniad i systemau meddalwedd deuol. Fodd bynnag, pan fydd y dulliau talu amgen a gynlluniwyd wedi eu sefydlu h.y. ar-lein, tôn cyffwrdd - bydd yn rhyddhau adnoddau ar gyfer cyflawni tasgau eraill o fewn y Timau Incwm a Dyledwyr. Yn ystod y ddwy flynedd ddiwethaf gwnaed llawer o gynnydd a phan fydd y gwaith wedi’i gwblhau dylai’r gwelliannau a’r systemau newydd ganiatáu i’r Gwasanaeth gyfeirio adnoddau lle bod eu hangen ac i ddelio â materion cyn i broblemau godi.

 

Mewn perthynas â dyledion heb eu casglu ac adennill dyledion, dywedodd y Swyddog fod y Cyngor wedi casglu cyfanswm o £15.7m drwy’r system Dyledwyr yn 2017/18 neu 11,500 o anfonebau. Ar ddiwedd Chwarter 2 y flwyddyn ariannol bresennol roedd dyledion o tua £4m heb eu casglu ac roedd £2.3m o’r cyfanswm hwnnw yn ddyledion dros 120 diwrnod oed. Gallai’r ffigwr hwn gynnwys un neu ddau o ddyledion mawr gan gyrff cyhoeddus fydd yn lleihau’r swm yn sylweddol pan gaiff yr arian ei dalu. Yn ogystal, ailstrwythurwyd y Tîm Adennill ac mae swyddog wedi cael ei recriwtio ar sail perfformiad sydd â’r dasg o ddelio gyda hen ddyledion, hyd at £1.5m yn y lle cyntaf. Hyd yma mae’r swyddog wedi delio gyda dros £500k o ddyledion a chasglwyd £250k o’r swm hwnnw. Felly, mae adnoddau ychwanegol yn cael eu clustnodi ar gyfer casglu dyledion oherwydd ei bod yn hysbys y bydd yr arian a gesglir yn uwch na chost cyflogi swyddog i wneud y gwaith.

 

           Mewn perthynas ag Ail Adolygiad Dilyn i Fyny y Fframwaith Caffael Corfforaethol, nododd y Pwyllgor nad yw 6 o’r 20 mater/risg a godwyd yn yr adolygiad gwreiddiol ym Medi 2017 wedi derbyn sylw a nododd hefyd fod y Rheolwr Caffael Corfforaethol wedi ymestyn y dyddiadau terfyn ar gyfer mynd i’r afael â’r risgiau sy’n weddill. Gofynnodd y Pwyllgor am sicrwydd nad yw’r materion sy’n weddill yn effeithio ar effeithlonrwydd y broses.

 

Cadarnhaodd y Pennaeth Archwilio a Risg fod y trefniadau sy’n caniatáu i reolwyr ymestyn dyddiadau gweithredu wedi cael eu dileu erbyn hyn. Aeth y Swyddog ymlaen i amlinellu’r meysydd y mae’r materion yn weddill yn ymwneud â nhw sydd yn cynnwys llwytho’r Gofrestr Contractau Canolog ar wefan allanol, a nododd bod oedi wedi digwydd gyda’r gwaith hwn oherwydd gwaith ail-gyflunio ar y wefan; adolygu Rheolau Gweithdrefn Contract a sefydlu cyfres o Ddangosyddion Perfformiad i fesur effeithiolrwydd gweithgareddau caffael.

 

Nododd y Pwyllgor, mewn perthynas â’r GDPR, er bod trefniadau’r Cyngor yn rhoi sicrwydd Rhesymol erbyn hyn, roedd Adroddiad Blynyddol yr Uwch Berchennog Risg Gwybodaeth a gyflwynwyd i gyfarfod blaenorol y Pwyllgor yn amlygu’r ffaith nad oedd oddeutu 50% o staff y Cyngor wedi cwblhau’r hyfforddiant e-ddysgu diogelu data. Gofynnodd y Pwyllgor am sicrwydd fod gwaith ar y gweill i sicrhau fod pob aelod o staff yn cyflawni’r gofyn hwn. Yn ogystal, nododd y Pwyllgor fod y GDPR wedi bod yn broblem i ysgolion a bod y Cyngor wedi cael trafferth recriwtio Swyddog Diogelu Data Ysgolion.

 

Dywedodd y Pennaeth Archwilio a Risg fod y Penaethiaid Gwasanaeth yn gyfrifol am sicrhau fod eu staff yn cwblhau hyfforddiant diogelu data a’u bod yn derbyn adroddiadau yn nodi nifer y staff sydd wedi gwneud hynny. Mae’r swyddogaeth Clicio i Dderbyn o fewn y Porth Polisi yn rhoi sicrwydd fod polisïau yn cael eu darllen a’u derbyn gan staff unigol. Mewn perthynas ag ysgolion, bydd y Gwasanaeth Archwilio Mewnol yn gwirio sefyllfa Llywodraethu Gwybodaeth mewn ysgolion yn ystod Chwarter 4 2018/19 a bydd yn edrych ar ddiogelu data.

 

Penderfynwyd, yn dilyn ystyried y wybodaeth a gyflwynwyd ac eglurhad gan Swyddogion, bod y Pwyllgor Archwilio a Llywodraethu yn derbyn ac yn nodi cynnydd diweddaraf y Gwasanaeth Archwilio Mewnol o ran ei ddarpariaeth gwasanaeth, darparu sicrwydd, yr adolygiadau a gwblhawyd a pherfformiad ac effeithiolrwydd y gwasanaeth o ran gyrru gwelliant.

 

CAMAU GWEITHREDU PELLACH A GYNIGIWYD: Y Pennaeth Archwilio a Risg i ddarparu’r canlynol i’r Pwyllgor -

 

           Data ar ddefnydd presennol o docynnau teithio rhatach a defnydd yn y gorffennol

           Data meincnodi mewn perthynas â chasglu incwm prydau ysgol

Dogfennau ategol: