Eitem Rhaglen

Archwilio Allanol : Adolygiad Dilynol o Gynigion ar gyfer Gwella - Cyngor Sir Ynys Môn

Cyflwyno adroddiad Archwilio Allanol.

Cofnodion:

Cyflwynwyd i’r Pwyllgor ei ystyried, yr adroddiad Archwilio Allanol ar ganlyniad adolygiad o effeithiolrwydd trefniadau’r Cyngor ar gyfer mynd i’r afael â chynigion ar gyfer gwella ac argymhellion gan Swyddfa Archwilio Cymru. Roedd yr adroddiad hefyd yn ystyried a yw’r Cyngor yn gwerthuso i ba raddau y mae ei gamau gweithredu yn cyfrannu at gyflawni perfformiad gwasanaeth a chanlyniadau gwell i ddinasyddion.

 

Adroddodd Charlotte Owen, SAC, fod yr Archwiliwr Cyffredinol wedi cyhoeddi ei Adroddiad Gwella Blynyddol ar gyfer y Cyngor ym mis Rhagfyr 2015. Daeth yr adroddiad, a oedd yn cynnwys canfyddiadau o Asesiad Corfforaethol 2015, i’r casgliad bod hunanymwybyddiaeth y Cyngor a’i hanes o wella trefniadau llywodraethu a rheoli yn debygol o’i helpu i wneud trefniadau i sicrhau gwelliant parhaus yn 2015/16. Roedd yr adroddiad yn cynnwys 6 chynnig ar gyfer gwella y manylir arnynt yn yr adroddiad uchod. Er mwyn cael sicrwydd bod gan y Cyngor drefniadau effeithiol ar gyfer mynd i’r afael â’r cynigion ar gyfer gwella, ym mis Mehefin 2018 adolygodd SAC y cynnydd yr oedd y Cyngor wedi’i wneud wrth weithredu ar y cynigion hynny ar gyfer gwella ac effeithiolrwydd ei drefniadau i wneud hynny. Canfu’r adolygiad fod gan y Cyngor brosesau boddhaol ar gyfer mynd i’r afael â’r cynigion ar gyfer gwella ac argymhellion gan Swyddfa Archwilio Cymru ond y gellid cryfhau trefniadau er mwyn rhoi mwy o sicrwydd o ran cynnydd i aelodau etholedig. Daeth yr adolygiad i’r casgliad hwn oherwydd

 

           Mae gan y Cyngor drefniadau boddhaol ar gyfer ymateb i’r cynigion ar gyfer gwella ac argymhellion gan Swyddfa Archwilio Cymru, ond nid yw aelodau etholedig yn cael gwybod yn gyson am gynnydd; ac

           Mae’r Cyngor wedi mynd i’r afael â’r cynigion ar gyfer gwella a gyflwynwyd yn yr adroddiadau dethol.

 

Mae’r adroddiad yn gwneud y cynigion a ganlyn ynglŷn â sut y gallai’r Cyngor wella ei drefniadau ar gyfer ymateb i gynigion ar gyfer gwella ac argymhellion - 

 

           Sicrhau bod aelodau etholedig yn derbyn gwybodaeth am gynigion ar gyfer gwella ac argymhellion gan Swyddfa Archwilio Cymru, a chynnydd y Cyngor yn ymwneud â nhw drwy:

 

           Ddosbarthu holl adroddiadau Swyddfa Archwilio Cymru i aelodau’r Pwyllgor Archwilio a Llywodraethu er gwybodaeth, ac

           Adrodd yn flynyddol i’r Pwyllgor Archwilio a Llywodraethu ar gynnydd a wnaed tuag at gynigion ar gyfer gwella ac argymhellion Swyddfa Archwilio Cymru sy’n weddill.

 

Wrth dderbyn yr adroddiad a’i gynigion, nododd y Pwyllgor, mewn perthynas â’r sylwadau ynglŷn â’r Gwasanaeth TGCh, fod yr argymhelliad sy’n weddill yn dilyn yr adolygiad allanol  Gwasanaeth TGCh yn ymwneud â defnyddio trefniadau rheoli prosiectau corfforaethol mewn prosiectau sy’n ymwneud â thechnoleg. Ni chafodd yr argymhelliad ei weithredu oherwydd bod y Cyngor yn penderfynu ar ei ddull o reoli prosiect. Nododd y Pwyllgor yn ogystal ei fod wedi nodi yn y gorffennol pa mor ddefnyddiol yw mewnbwn rheoli prosiect wrth weithredu argymhellion Archwilio Mewnol fel modd o gydlynu’r ymateb i weithredu cynigion ar gyfer gwella gan Archwilio Mewnol a thrwy hynny leihau'r oedi a all ddigwydd yn arbennig mewn adolygiadau cymhleth neu draws-wasanaeth neu os yw adolygiadau yn cynnwys nifer fawr o swyddogion.

 

Penderfynwyd derbyn yr adroddiad archwilio allanol a’i gynigion i wella ymhellach drefniadau’r Cyngor ar gyfer ymateb i gynigion gwella ac argymhellion SAC.

 

NI CHYNIGIWYD UNRHYW GAMAU GWEITHREDU PELLACH.

Dogfennau ategol: