Eitem Rhaglen

Opsiynau Gofal - Grwp Tai Bach

Cyflwyno adroddiad Pennaeth y Gwasanaethau Plant a Theuluoedd.

Cofnodion:

Cyflwynwyd er sylw’r Pwyllgor Gwaithadroddiad y Pennaeth Gwasanaethau Plant a Theuluoedd mewn perthynas â datblygu Cartref Grŵp Bychan fel opsiwn gofal ar gyfer plant ar Ynys Môn. Cafwyd yn yr adroddiad grynodeb o’r hyn y mae model gofal Cartrefi Grŵp Bychan (CGB) yn ei olygu ynghyd â’r costau a’r arbedion posibl.

 

Dywedodd y Cadeirydd a’r Aelod Portffolio ar gyfer Gwasanaethau Cymdeithasol y byddai model gofal Cartref Grŵp Bach yn darparu gofal ar gyfer plant 8 oed a hŷn gyda phob neu fflat (CGB) yn lletya dau o blant ar y mwyaf. Mae’r cysyniad o Gartrefi Grŵp Bychan wedi cael ei egluro i Aelodau’r Cyngor mewn sesiynau briffio, i’r Fforwm Cynghorau Tref a Chymuned a’r Panel Gwella Gwasanaethau Plant. Y syniad yw bod plant o Ynys Môn sydd angen gofal ac sydd efallai yn byw ar hyn o bryd mewn lleoliadau all-sirol ymhell o’u cymunedau yn gallu, lle mae hynny’n briodol, dderbyn gofal ar yr ynys, mynd i ysgolion lleol a chymryd rhan ym mywyd y gymuned.

 

Dywedodd y Pennaeth Gwasanaethau Plant a Theuluoedd bod Cartrefi Grŵp Bychan wedi cael eu dylunio i ddarparu gofal yn yr amgylchedd lleiaf cyfyngus posibl ac i integreiddio plant a phobl ifanc i’r gymuned, gwella ansawdd eu bywydau a lleihau’r stigma ar gyfer plant nad ydynt yn byw gyda’u teuluoedd neu ofalwyr maeth. Bydd pob CGB yn cael ei staffio gan dîm bychan o weithwyr gofal preswyl lleol a fydd yn cael eu recriwtio o’r newydd, gan sicrhau parhad y gofal ar gyfer y plant sy’n byw yn y cartrefi hyn. Dywedodd y Swyddog y bydd datblygu Cartrefi Grŵp Bychan yn fodd i’r Cyngor gynnig darpariaeth amgen a gwell na’r hyn sydd ar gael ar hyn o bryd. Yn aml, mae’n rhaid iddo fynd at asiantaethau annibynnol i sicrhau’r ddarpariaeth sy’n golygu wedyn mai ychydig iawn o ddylanwad sydd ganddo o ran ble mae plant sydd angen gofal ar Ynys Môn yn cael eu lleoli. Byddai’r Cyngor hefyd yn gwneud arbedion sylweddol petai CGB yn cael eu datblygu ar adeg ble mae’r cynnydd yn y galw a’r pwysau ariannol ar y Gwasanaethau Plant hefyd yn ystyriaeth o bwys.

 

Roedd y Pwyllgor Gwaith yn croesawu’r cynnig fel modd o alluogi’r Cyngor i ddiwallu anghenion plant sy’n derbyn gofal yn well ac yn lleol yn y gymuned pryd bynnag y mae hynny’n bosibl mewn modd sydd hefyd yn rhoi gwell gwerth am arian na lleoliadau all-sirol. Mewn ymateb i gwestiwn gan y Pwyllgor Gwaith am y term “Cartrefi Grŵp Bychandywedodd y Swyddog fod y Gwasanaeth yn ymgynghori gyda phlant sydd wedi bod, neu sydd mewn gofal am eu syniadau am enw posibl i’r ddarpariaeth gan olygu y gall y teitlCartrefi Grŵp Bychannewid yn y man.

 

Penderfynwyd bod y Gwasanaethau Plant a Theuluoedd yn bwrw ymlaen i chwilio am lety addas a bodloni gofynion cofrestru Arolygiaeth Gofal Cymru er mwyn agor darpariaeth Cartref Grŵp Bychan ar yr Ynys ar gyfer plant lleol sy’n derbyn gofal.

Dogfennau ategol: