Eitem Rhaglen

Strategaeth Rhanbarthol Digartrefedd

Cyflwyno adroddiad gan Bennaeth y Gwasanaethau Tai.

Cofnodion:

Cyflwynwyd i’r Pwyllgor Gwaith ei ystyriedadroddiad Pennaeth y Gwasanaethau Tai yn ymgorffori’r Strategaeth Ranbarthol Digartrefedd a Chynllun Gweithredu Lleol.

 

Adroddodd yr Aelod Portffolio ar gyfer Tai a Chefnogi Cymunedau fod gofyn i bob Awdurdod Lleol, yn ôl y gyfraith, fabwysiadu Strategaeth Digartrefedd yn 2018 er mwyn atal digartrefedd; i ddarparu llety addas i bobl sy’n ddigartref neu rai a allai fynd yn ddigartref, ac i sicrhau bod cefnogaeth ddigonol ar gael i bobl sy’n ddigartref neu rai a allai fynd yn ddigartref. Cyn cynhyrchu’r strategaeth, roedd rhaid i awdurdodau lleol gynnal adolygiad yn unol ag adran 51 Cod Arweiniad Llywodraeth Cymru ar Ddyrannu Llety a Digartrefedd. Roedd gofyn i Awdurdodau Lleol gynnal adolygiad o’r Gwasanaeth Digartrefedd fel sail i gynhyrchu’r Strategaeth. Roedd y Penaethiaid Gwasanaeth trwy Ogledd Cymru wedi cytuno y dylid cynhyrchu Strategaeth Digartrefedd Ranbarthol oherwydd y manteisionfel y nodir yn yr adroddiad – a geid o sefydlu dealltwriaeth a dull ar y cyd tuag at atal digartrefedd.

 

Dywedodd yr Aelod Portffolio yr hoffai gymryd y cyfle i ddiolch i staff y Gwasanaeth Digartrefedd am eu gwaith a hefyd y Gwasanaeth Tai ehangach am ei gyfraniad tuag at ffurfio’r Strategaeth Digartrefedd Ranbarthol sy’n destament i’r gweithio partneriaeth effeithiol sydd wedi digwydd ar y strategaeth hon.

 

Adroddodd y Cynghorydd G.O. Jones, Cadeirydd y Pwyllgor Sgriwtini Partneriaeth ac Adfywio, ar drafodaethau’r Pwyllgor ar y mater hwn yn ei gyfarfod ar 13 Tachwedd, 2018 fel rhan o ymgynghoriad helaeth a wnaed wrth gynnal adolygiad o’r Gwasanaeth Digartrefedd. Dywedodd y Cynghorydd Jones fod y Pwyllgor, wrth gefnogi ac argymell y Strategaeth a’r Cynllun Gweithredu Lleol i’r Pwyllgor Gwaith ac wrth groesawu’r cydweithio rhanbarthol a oedd wedi digwydd i’w gynhyrchu, wedi codi nifer o bwyntiau er mwyn cael eglurhad arnynt, ac roedd y Swyddogion wedi rhoi sicrwydd i’r Pwyllgor; roedd y pwyntiau hynny’n cynnwys y canlynol

 

           Y trefniadau ar gyfer monitro’r strategaeth yn lleol er mwyn sicrhau ei bod yn dal i gwrdd â’i hamcanion.

           P’un a oes unrhyw wahaniaethau yn y modd mae’r Strategaeth yn berthnasol i’r cynghorau hynny sydd wedi cadw cyfrifoldeb am eu stoc tai h.y. Cyngor Sir Ynys Môn o gymharu â’r rheini yn y rhanbarth sydd wedi trosglwyddo eu stoc i landlordiaid cymdeithasol cofrestredig.

           Bod 50% o’r rhai a oedd wedi ymateb i’r ymgynghoriad ar draws y rhanbarth yn teimlo nad oedd staff wastad yn gwrtais neu’n barod eu cymwynas wrth ddelio gyda’r sefyllfaoedd anodd mae pobl yn eu wynebu. Ni chredai’r Pwyllgor fod y Strategaeth yn mynd i’r afael â’r mater hwn; awgrymwyd y gallai Ynys Môn arwain ar anghenion hyfforddiant posib y staff yn y chwe awdurdod lleol yng Ngogledd Cymru wrth ddelio gyda materion sensitif sy’n gysylltiedig â digartrefedd.

           P’un a yw’r Awdurdod yn gallu ymateb i geisiadau am gymorthroedd y Pwyllgor wedi nodi bod rheoli disgwyliadau yn cael ei ystyried yn her.

           Yr angen i sicrhau bod unigolion gyda phroblemau iechyd meddwl yn cael sylw priodol gan y strategaeth.

           Bod y Pwyllgor wedi nodi, er nad oes gan yr Awdurdod ganolfan bwrpasol i ddarparu llety dros nos i bobl ddigartref, fod yna brotocol ar gyfer darparu llety Gwely a Brecwast i rai sy’n cysgu ar y stryd.

           Effaith bosib datblygiad Wylfa Newydd o yrru’r rhenti’n uwch yn y sector preifat gan felly eu gwneud yn llai fforddiadwy i nifer gynyddol o bobl.

           Effaith cyflwyniad y system Credyd Cynhwysol, a’r posibilrwydd y bydd pobl yn methu talu eu rhenti.

 

Diolchodd y Pwyllgor Gwaith i’r Pwyllgor Sgriwtini am ei fewnbwn; wrth nodi sylwadau’r Pwyllgor, ceisiodd y Pwyllgor Gwaith sicrwydd bod staff yr Awdurdod yn delio’n briodol ac yn sensitif gyda phob unigolyn digartref sy’n ceisio cael cymorth a chefnogaeth gan y Cyngor. Dywedodd Pennaeth y Gwasanaeth Tai fod staff yn Ynys Môn wedi cael canmoliaeth am y ffordd maent yn delio gydag unigolion sy’n ddigartref neu mewn perygl o fod yn ddigartref a dyma fyddai’r Rheolwyr Tai yn ei ddisgwyl gan eu staff.

 

Dywedodd y Pwyllgor Gwaith fod nifer y bobl ddigartref yn cynyddu, yn anffodus, sy’n gwneud y Strategaeth hyd yn oed yn fwy perthnasol ac amserol. Ceisiodd y Pwyllgor Gwaith eglurhad ar sut mae’r strategaeth yn berthnasol i landlordiaid preifat yn enwedig mewn amgylchiadau lle mae llety rhent preifat yn is-safonol a/neu lle nad yw’n cael ei gynnal a’i gadw’n iawn, neu lle caiff tenantiaid preifat eu trin yn annheg gan o bosib eu gwneud yn ddigartref, ac a oes trefniadau ar gyfer datrys sefyllfaoedd fel y rhain. Dywedodd Pennaeth y Gwasanaethau Tai er bod yna broses ffurfiol y mae disgwyl i landlordiaid preifat ei dilyn wrth ymrwymo i gytundeb tenantiaeth, mae nifer fechan o landlordiaid yn peidio â chadw at y broses ac mae’n fater o geisio gweithio efo nhw i sicrhau eu bod yn cydymffurfio â’r broses. Hefyd, o safbwynt y Cyngor, mewn achosion lle mae ymgeiswyr am cymdeithasol wedi methu â chynnal a chadw eu cartref presennol neu flaenorol yn iawn, bydd hyn yn cael ei adlewyrchu yn eu safle ar y gofrestr aros am .

 

Penderfynwyd cymeradwyo’r Strategaeth Digartrefedd Rhanbarthol a’r Cynllun Gwaith Lleol.

Dogfennau ategol: