Eitem Rhaglen

Adroddiad Cynnydd ar y Gwasanaethau Plant a Theuluoedd

Cyflwyno adroddiad gan Bennaeth y Gwasanaethau Plant.

Cofnodion:

Cyflwynwyd i’r Pwyllgor Gwaith ei ystyriedadroddiad Pennaeth y Gwasanaethau Plant a Theuluoedd yn amlinellu cynnydd diweddaraf y Gwasanaeth yn erbyn y Cynllun Gwella Gwasanaeth.

 

Adroddodd y Cadeirydd a’r Aelod Portffolio ar gyfer y Gwasanaethau Cymdeithasol fod angen diolch yn fawr i staff y Gwasanaethau Plant a Theuluoedd am ddod â’r Gwasanaeth i’r pwynt hwnto’r 21 pwynt gweithredu a adnabuwyd fel rhan o’r Cynllun Gwella Gwasanaeth (CGG) yn dilyn arolwg AGC o Wasanaethau Plant Ynys Môn ym mis Tachwedd 2016, dim ond 2 sydd dal yn Ambr. Mae’n rhaid diolch yn fawr hefyd i’r Aelodau Etholedig sydd wedi bod yn rhan o’r broses honno ac wedi cyfrannu ati. O’r 19 pwynt gweithredu arall yn y CGG, mae statws 13 ohonynt yn Wyrdd a 6 yn Felyn. Mae’r gwelliant hwn wedi’i gydnabod gan Arolygiaeth Gofal Cymru (AGC) sy’n ddiweddar wedi cyhoeddi canfyddiadau ei adolygiad dilyn-i-fyny o’r Gwasanaethau Plant a gynhaliwyd ym mis Hydref, 2018. Dywedodd yr Aelod Portffolio fod y Panel Gwella Gwasanaethau Plant yn dal i fonitro a chraffu’r Cynllun Gwella Gwasanaeth a’i fod wedi dechrau ystyried creu Cynllun newydd gyda’r bwriad o ddwyn ynghyd yr holl welliannau a wnaed hyd yma tra hefyd yn sicrhau gwelliant parhaus ar gyfer y tymor hir a thu hwnt.

 

Dywedodd y Prif Weithredwr Cynorthwyol (Llywodraethiant a Thrawsnewid Prosesau Busnes)/Cyfarwyddwr Statudol y Gwasanaethau Cymdeithasol, fod yr adroddiad yn crynhoi’r meysydd hynny sydd wedi bod yn ffocws i waith diweddaraf y Gwasanaeth ac a arweiniodd at welliannau; caiff y rhain eu hadlewyrchu yn y ddibyniaeth is ar staff asiantaeth i lenwi swyddi gwag ar ôl i’r Gwasanaeth benodi’n llwyddiannus i sawl swydd Gweithiwr Cymdeithasol, a hefyd yn y perfformiad yn derbyn Dangosyddion Perfformiad allweddol lle mae’r gwelliant wedi’i gynnal o Chwarter 1 2018/19 drwodd i Chwarter 2 fel mae’r adroddiad yn ei ddisgrifio ym mharagraff 3. Dywedodd y Swyddog fod adroddiad AGC o’r adolygiad dilyn-i-fyny yn cydnabod bod gwelliannau sylweddol wedi’u gwneud yn y Gwasanaethau Plant, bod morâl staff yn uchel a bod angerdd ac ymroddiad ar bob lefel i barhau i weithio i ddarparu gwasanaethau rhagorol i blant. Fodd bynnag, mae’r adroddiad hefyd yn nodi bod yna dal waith i’w wneud; mae’r Gwasanaeth hefyd wedi bod yn gyson wrth adnabod er bod llawer iawn wedi’i gyflawni hyd yma, nad yw’r gwaith yn gyflawn fel mae’r 2 bwynt Ambr yn tystiolaethumae’r rhain yn ymwneud ag elfennau a gaiff eu cwblhau’n llawn dros y tymor hwy ac mae’r Gwasanaeth yn parhau i weithio arnynt. Bydd y meysydd hyn ynghyd â chanfyddiadau’r adolygiad dilyn-i-fyny gan AGC yn cael eu hystyried yn y Flwyddyn Newydd gyda’r bwriad o greu Cynllun Gwella Gwasanaeth newydd a fydd yn cwmpasu’r holl weithgarwch presennol yn ogystal â strategaeth arloesol newydd i gynyddu nifer y lleoliadau i blant sydd ag anghenion cymhleth. Bydd AGC yn rhoi cyflwyniad i’r Pwyllgor Sgriwtini Corfforaethol ym mis Ionawr, 2019 ac wedyn bydd y Gwasanaeth yn trafod gyda’r Arolygiaeth y camau nesaf i’w cymryd i wneud gwelliannau pellach.

 

Adroddodd y Cynghorydd Aled Morris Jones, Cadeirydd y Pwyllgor Sgriwtini Corfforaethol, o gyfarfod y Pwyllgor a gynhaliwyd ar 10 Rhagfyr lle rhoddwyd ystyriaeth i’r gwelliannau diweddaraf a wnaed gan y Gwasanaethau Plant a Theuluoedd yn erbyn y CGG. Nododd y Pwyllgor fod perfformiad lleol yn erbyn dangosyddion perfformiad allweddol wedi gwella’n sylweddol dros y misoedd diwethaf a bod cynnydd sylweddol wedi’i wneud hefyd wrth weithredu’r CGG. Nododd y Pwyllgor ymhellach fod y Gwasanaeth wedi gwneud cynnydd gyda gweithredu’r Strategaeth Gweithlu ddiwygiedig ar gyfer y Gwasanaethau Plant, gydag un swydd yn dal i gael ei llenwi gan Weithiwr Cymdeithasol asiantaeth. Roedd y Pwyllgor yn glir ynghylch y pwysau ariannol ar y Gwasanaethau Plant yn bennaf o ganlyniad i gynnydd yn y nifer o blant y gofelir amdanynt, gyda’r rhagolwg y bydd y gwasanaeth wedi gorwario tua £2m erbyn diwedd y flwyddyn. Nododd y Pwyllgor gyfraniad y Panel Gwella Gwasanaethau Plant tuag at y broses wella ac roedd yn cydnabod yr angen i’r Panel barhau gyda’i waith o fis Ebrill, 2019 ymlaen. Ar ôl ystyried yr holl wybodaeth a gyflwynwyd yn cynnwys yr eglurhad a roddwyd gan Swyddogion i’r pwyntiau a godwyd, cadarnhaodd y Pwyllgor Sgriwtini Corfforaethol ei fod yn fodlon gyda chyflymder y cynnydd wrth weithredu’r CGG a gyda’r gwelliannau a wnaed hyd yma yn y Gwasanaethau Plant.

 

Diolchodd y Pwyllgor Gwaith i’r Pwyllgor Sgriwtini Corfforaethol am ei sylwadau. Wrth gydnabod y pellter a deithiwyd gan y Gwasanaethau Plant o ran graddau’r gwelliannau a wnaed ers yr arolwg gwreiddiol gan AGC ym mis Tachwedd, 2016, pwysleisiodd y Pwyllgor Gwaith yr angen i gynnal y momentwm ac i sicrhau bod y newidiadau a wnaed yn aros dros amser, gan gofio mater sydd wedi codi ei ben dro ar ôl tro yn y gorffennol sef trosiant staff, a bod Gwaith Cymdeithasol yn lwybr gyrfa heriol lle gall y pwysau ar unigolion fod yn uchel weithiau. Ceisiodd y Pwyllgor Gwaith sicrwydd felly fod Strategaeth Gweithlu y Gwasanaeth yn rhoi sylw digonol i’r elfen cadw staff a hefyd y bydd y Gwasanaeth yn y tymor hir yn gallu cynnal y gwelliannau mae wedi eu gwneud i broses ac ymarfer, a adlewyrchir yn y 13 maes Gwyrdd yn y CGG.

 

Dywedodd y Cadeirydd yn ei chapasiti fel Cadeirydd y Panel Gwella Gwasanaethau Plant fod y Panel, yn ei gyfarfod diwethaf, wedi cydnabod a thrafod yr angen i sicrhau nad yw’r newidiadau a wnaed yn cael eu colli neu’n cael llithro wrth ddod â’r Cynllun Gwella Gwasanaeth cyfredol i ben. Bydd y Cynllun Gwella Gwasanaeth diwygiedig nesaf yn cynnwys y gwelliannau sydd yn parhau a hefyd yn ymgorffori camau gweithredu a fydd yn galluogi’r Gwasanaeth i wneud gwelliannau pellach. Yn ogystal, bydd y Panel Gwella Gwasanaethau Plant yn parhau gyda’i gwaith craffu a monitro tu hwnt i gwblhau’r CGG presennol er mwyn cefnogi a sicrhau gwelliant parhaus.

 

Dywedodd y Prif Weithredwr Cynorthwyol a Chyfarwyddwr y Gwasanaethau Cymdeithasol  mai dwy o’r elfennau pwysicaf mewn ymarfer Gwaith Cymdeithasol llwyddiannus yw cefnogaeth a chyfeiriadmae’r strwythur newydd a roddwyd ar waith yn y Gwasanaethau Plant yn sicrhau bod yr elfennau hyn nawr ar gael i staff y Gwasanaeth. Mae creu Grwpiau Ymarfer llai dan arweiniad Arweinydd Ymarfer wedi arwain at lwythi achosion is ac mae’n golygu bod pob Gweithiwr Cymdeithasol yn cael arweiniad a goruchwyliaeth reolaidd lle gallant drafod unrhyw faterion sy’n codi o’u hachosion. Er bod llwythi achos wedi cynyddu mymryn yn ddiweddar, yn rhannol o ganlyniad i ail-edrych ar achosion etifeddiaeth sydd wedi arwain at ragor o blant yn dod i ofal, mae’r broses hon nawr yn tynnu at ei therfyn.

 

Penderfynwyd cadarnhau bod y Pwyllgor Gwaith yn fodlon gyda’r canlynol

 

           Y camau a gymerwyd i weithredu’r Cynllun Gwella Gwasanaeth a chyflymder y  cynnydd.

           Cyflymder y cynnydd a’r gwelliannau a wnaed hyd yma yn y Gwasanaethau Plant a Theuluoedd.

 

Dogfennau ategol: