Eitem Rhaglen

Sefydlu Bwrdd Cymeradwyo Draeniad Cynaliadwy

Cyflwyno adroddiad gan y Pennaeth Priffyrdd, Gwastraff ac Eiddo Dros Dro.

Cofnodion:

Cyflwynwyd i’r Pwyllgor Gwaith ei ystyriedadroddiad y Pennaeth Gwasanaeth Dros Dro (Priffyrdd, Gwastraff ac Eiddo) yn amlinellu gweithdrefn ar gyfer ymdrin â swyddogaeth y Cyngor fel Corff Cymeradwyo ceisiadau am Systemau Draenio Cynaliadwy (Safonau Cenedlaethol) o dan Ddeddf Rheoli Llifogydd a Dŵr 2010.

 

Adroddodd yr Aelod Portffolio ar gyfer Priffyrdd, Gwastraff ac Eiddo fod Atodlen 3 o Ddeddf Rheoli Llifogydd a Dŵr (DRhLlD) 2010 yn gorchymyn y dylai systemau draenio dŵr wyneb ar gyfer datblygiadau newydd gydymffurfio â Safonau Cenedlaethol ar gyfer draenio cynaliadwy (SDCau). Mae Atodlen 3 DRhLlD 2010 hefyd yn gosod dyletswydd ar awdurdodau lleol fel Cyrff Cymeradwyo SDCau i gymeradwyo, mabwysiadu a chynnal a chadw systemau sy’n cydymffurfio ag adran 17 yr Atodlen. Mae Llywodraeth Cymru wedi cyhoeddi y daw gofynion Atodlen 3 i rym yng Nghymru ar 7 Ionawr, 2019. O’r dyddiad hwn felly, bydd rhaid cael systemau draenio cynaliadwy ar gyfer pob datblygiad newydd o fwy nag 1 neu lle mae’r arwynebedd adeiladu yn 100 metr sgwâr neu fwy. Mae’n rhaid i systemau draenio gael eu dylunio a’u hadeiladu yn unol â safonau SDCau statudol a gyhoeddwyd gan Weinidogion Cymru. Fodd bynnag, ni fydd rhaid i geisiadau datblygu a gyflwynwyd cyn 7 Ionawr, 2019 gydymffurfio â’r safonau.

 

Dywedodd yr Aelod Portffolio, er bod ffurfio’r CCS yn ofyniad statudol newydd ar Awdurdodau Lleol, na fydd unrhyw gyllid ychwanegol yn dod o Lywodraeth Cymru i ymgymryd â’r gwaith hwn. Disgwylir i’r CCS fod yn hunan-gynhaliol yn y tymor hir gyda’r ffioedd sydd ynghlwm â cheisiadau Draenio Cynaliadwy yn talu am y costau rhedeg. Yn dilyn adroddiad rheolwr prosiect gan Ymgynghoriaeth Gwynedd (YGC) a ariannwyd gan Lywodraeth Cymru i gefnogi’r gwaith o sefydlu CCS ac i edrych ar opsiynau eraill ar gyfer Gogledd Cymru, cynhaliwyd trafodaethau mewnol gyda’r Gwasanaeth Rheoleiddio ac Economaidd ac YGC ac ystyriwyd nifer o opsiynau ar gyfer cyflawni dyletswyddau’r Cyngor fel Corff Cymeradwyo SDCau. Am y rhesymau a roddwyd yn yr adroddiad penderfynwyd, ac argymhellir y dylai’r dyletswyddau hynny gael eu cyflawni’n fewnol yn y Gwasanaeth Priffyrdd, Gwastraff ac Eiddo gan ddefnyddio trefniadau’r Gwasanaeth Rheoleiddio ac Economaidd ar gyfer gweinyddu a YGC ar gyfer gwydnwch. Bydd gofyn llenwi un swydd weinyddol yn syth ar gyfer hyn er mwyn delio gyda cheisiadau o 7 Ionawr, 2019. Fel arall, hyd nes bydd yr incwm o’r ceisiadau CCS yn ddigon i allu creu a llenwi swyddi newydd, bydd dyletswyddau CCS yn cael eu cyfuno gyda dyletswyddau presennol staff gan ddefnyddio YGC lle nad yw’r arbenigedd ac/neu’r capasiti yn bodoli ar hyn o bryd.

 

Eglurodd y Pennaeth Gwasanaeth Dros Dro (Priffyrdd, Gwastraff ac Eiddo) beth mae system draenio cynaliadwy yn ei olygu, sef sicrhau bod dŵr ffo ar yr wyneb yn cael ei ddraenio’n araf trwy ei gasglu mewn ffosydd a phyllau dŵr yn hytrach na’i fod yn draenio ymaith yn gyflym i mewn i’r system ddraenio, lle gallai hynny arwain at lifogydd yn rhywle arall yn y system yn ystod cyfnodau o law trwm. O’r 7fed o Ionawr, 2019, yn ogystal â chyflwyno cais o dan y broses gynllunio arferol, bydd rhaid i ddatblygwyr hefyd gyflwyno cais SDC o dan broses caniatâd SDC ar wahân os yw’n ddatblygiad am fwy nag un neu os yw’r arwynebedd adeiladu yn 100 metr sgwâr neu fwy. Dywedodd y Swyddog, wrth archwilio’r opsiynau ar gyfer ymgymryd â’r dyletswyddau CCS, daethpwyd i’r casgliad y dylid gwneud cymaint â phosib o’r gwaith CCS yn fewnol gan felly ddarparu gwasanaeth lleol ac yn y tymor hir, y potensial i greu swyddi lleol. Trwy edrych ar geisiadau cynllunio hanesyddol ar Ynys Môn, roedd YGC yn amcangyfrif y byddai’n rhaid i tua 278 o geisiadau gael eu cyflwyno i’r CCS yn flynyddol gan greu incwm o £171,160 yn erbyn costau rhedeg o £168,551. Bydd rhaid penodi aelod o staff llawn amser i ymgymryd â dyletswyddau gweinyddol ym mis Ionawr, 2019. Caiff swyddi ychwanegol eu llenwi fel ac wrth i’r lefelau incwm godi.

 

Roedd y Pwyllgor Gwaith yn croesawu’r cynllun fel un sydd gwir ei angen i fynd i’r afael â rhai o’r problemau llifogydd a brofwyd ar Ynys Môn ac mewn mannau eraill yn ddiweddar. Wrth gefnogi’r cynigion fe ofynnodd y Pwyllgor Gwaith am eglurhad ar y canlynol hefyd

 

           Y broses ar gyfer gwneud penderfyniadau ar geisiadau SDCau

           A oes mecanwaith ar gyfer apelio penderfyniadau

           A yw’r arbenigedd technegol angenrheidiol ar gael ar hyn o bryd yn fewnol

           Y risg y bydd datblygwyr wrth orfod cwrdd â chost y broses ymgeisio ychwanegol hon yn codi’r mater o hyfywdra ac yn ceisio adennill y costau drwy leihau’r ddarpariaeth tai fforddiadwy mewn datblygiad tai.

 

Eglurodd y Pennaeth Gwasanaeth Dros Dro (Priffyrdd, Gwastraff ac Eiddo) fod y broses cymeradwyo SDCau yn broses debyg ond cwbl ar wahân i’r broses cais cynllunio bresennol; fodd bynnag, ni fydd ceisiadau SDCau yn cael eu penderfynu gan y Pwyllgor Cynllunio. Mae swyddogion yn bwriadu rhoi cyflwyniad ar y system CCS i’r Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion a sut mae’n cysylltu i’r system Gynllunio. Mae’r broses o gymeradwyo cais SDC yn dechnegol ac mae gofyn cael arbenigedd yn y maes; mae’r ddyletswydd hon yn cael ei phennu i’r Swyddogion. Mae cael cysondeb trwy Ogledd Cymru wrth wneud penderfyniad ar geisiadau yn cael ei archwilio, gan roi ystyriaeth i’r posibilrwydd o ddelio gydag apeliadau ar y cyd ag awdurdod cyfagos fel bod y neges a roddir i ddatblygwyr hefyd yn gyson. Mae’r Gwasanaeth Priffyrdd, Gwastraff ac Eiddo yn hyderus y gall gydweithio gyda’r Gwasanaeth Cynllunio ar agweddau gweinyddol y gwaith o ystyried ei fod yn debyg iawn i’r broses gynllunio; o ran yr agweddau mwy technegol y bwriad yw defnyddio arbenigedd aelod o staff presennol yn y tymor byr a phe bai angen arbenigedd pellach neu ychwanegol, y bwriad fyddai penodi YGC i gynorthwyo ar yr adegau mwyaf prysur. Yn y tymor hir bydd y Gwasanaeth yn monitro lefelau incwm a phan fyddant yn cyrraedd lefelau digonol bydd y Gwasanaeth yn edrych ar hysbysebu a recriwtio’n lleol. Pwysleisiodd y Swyddog er bod cefnogaeth i’r weithdrefn mewn egwyddor, mae pryderon ynghylch yr amserlen a’r diffyg cyllid i sefydlu a gweithredu’r system newydd i gychwyn wedi cael eu hadrodd wrth Lywodraeth Cymru mewn llythyr ac mewn cyfarfod rhanbarthol. Ni fydd y gofynion newydd yn effeithio ar y ddyletswydd statudol i ddarparu ar gyfer tai fforddiadwy ond oherwydd y costau ychwanegol gallant effeithio ar gynlluniau busnes datblygwr o ran pa ddarpariaeth arall mae’r datblygwyr yn gallu ei wneud.

 

Penderfynwyd

 

           Fod gweithredu cyfrifioldebau statudol y Corff Cymeradwyo SDCau (CCS) yn  cael eu priodoli i’r Gwasanaeth Priffyrdd, Gwastraff ac Eiddo.

           Bod cyfrifoldeb a phwerau’r CCS dan Atodlen 3 o Ddeddf Rheoli Llifogydd a Dŵr 2010 yn cael eu dirprwyo i’r Pennaeth Gwasanaeth Priffyrdd, Gwastraff ac Eiddo gyda’r hawl i ddirprwyo ymhellach fel sy’n briodol.

           Bod yr hawl i sefydlu cyfundrefn benderfynu ceisiadau yn unol â’r Ddeddfwriaeth ac Arweiniad Statudol yn cael ei ddirprwyo i’r Pennaeth Gwasanaeth Priffyrdd, Gwastraff ac Eiddo a’r Pennaeth Gwasanaeth Rheoleiddio ac Economaidd.

           Bod incwm a gynhyrchir o weinyddu’r CCS yn cael ei glustnodi ar gyfer gweithredu dyletswyddau’r CCS.

           Bod yr hawl i greu strwythur a llenwi swyddi er mwyn gweithredu dyletswyddau’r CCS yn cael ei ddirprwyo i’r Deilydd Portffolio a’r Pennaeth Gwasanaeth Priffyrdd, Gwastraff ac Eiddo.

           Bod yr hawl i addasu’r Cynllun Dirprwyo yn y Cyfansoddiad i adlewyrchu’r penderfyniad yma yn cael ei ddirprwyo i’r Swyddog Monitro.

Dogfennau ategol: