Eitem Rhaglen

Adroddiad ar Wrthwynebiadau i Ysgol Gynradd newydd yn lle Ysgol Bodffordd ac Ysgol Corn Hir a Chymeradwyaeth y Cynnig Gwreiddiol

Cyflwyno adroddiad gan y Pennaeth Dysgu.

Cofnodion:

Cyflwynwyd i’r Pwyllgor Gwaith ei ystyriedadroddiad y Pennaeth Dysgu yn amlinellu’r gwrthwynebiadau a dderbyniwyd ar ôl cyhoeddi’r rhybuddion statudol am ysgol gynradd newydd yn lle Ysgol Bodffordd ac Ysgol Corn Hir. Roedd yr adroddiad yn ceisio cymeradwyaeth y Pwyllgor Gwaith i’r cynnig gwreiddiol.

 

Ar ôl datgan diddordeb sy’n rhagfarnu yn yr eitem hon, gadawodd y Cynghorydd Richard Dew y cyfarfod tra oedd y drafodaeth yn mynd rhagddi a thra gwnaed penderfyniad.

 

Adroddodd yr Aelod Portffolio ar gyfer Addysg, Llyfrgelloedd, Diwylliant a Ieuenctid fod yr adroddiad yn cael ei wneud mewn ymateb i’r broses statudol. Cafodd y Rhybudd Statudol ei gyhoeddi ar 2 Hydref, 2018 gyda’r cyfnod 28 diwrnod ar gyfer derbyn gwrthwynebiadau yn dod i ben ar 29 Hydref, 2018. Roedd 111 o wrthwynebiadau wedi’u derbyn, ac roedd 109 o’r rhain wedi’u derbyn ar ffurflen safonol fel yn Atodiad 2 yr adroddiad.

 

Dywedodd y Pennaeth Dysgu, yn unol â’r Cod Trefniadaeth Ysgolion 2013 a gyhoeddwyd gan Lywodraeth Cymru, bod rhaid i Gyngor Sir Ynys Môn fel y cynigydd gyhoeddi adroddiad yn disgrifio unrhyw wrthwynebiadau a dderbyniwyd. Mae’r Adroddiad Gwrthwynebu wedi’i gynnwys yn Atodiad 1 sy’n rhoi manylion am natur y gwrthwynebiadau a gyflwynwyd gan fudd-ddeiliaid. Gellir grwpio’r rhain yn fras o dan y themâu Cludiant a Theithio, Dewis, cynnal y Broses Ymgynghori, a dyfodol y Ganolfan Gymunedol ac Adeilad yr Ysgol. Mae’r adroddiad hefyd yn amlinellu ymateb yr Awdurdod i’r gwrthwynebiadau.

 

Dywedodd y Cynghorydd R.G. Parry, OBE, FRAgS, Aelod Portffolio ar gyfer Priffyrdd, Gwastraff ac Eiddo ac Aelod Lleol, fod dau brif fater o bryder yn lleol sef natur beryglus y rhwydwaith ffyrdd lleol yng nghyffiniau’r safle a ffafrir ar gyfer yr ysgol newydd a goblygiadau hynny i’r disgyblion a fydd yn teithio i’r ysgol newydd o Fodffordd, a hefyd dyfodol y Ganolfan Gymunedol ym Modffordd sy’n ffurfio rhan o’r ysgol ac a fydd yn parhau i fod ar gael i’w defnyddio gan y gymuned ar ôl i’r ysgol gau. Dywedodd yr Aelod Portffolio fod y posibilrwydd o weithredu mesurau traffig yn ardal yr ysgol newydd wedi cael ei ystyried gydag arbenigwyr allanol, a daethpwyd i’r casgliad fod angen cylchfan ar y B5109 i ddarparu mynediad i’r ysgol. Bydd yr Awdurdod yn penderfynu p’un a fydd yn darparu cludiant i’r ysgol gynradd newydd ai peidio yn dilyn asesiad diogelwch ar y llwybr teithio. O ran y ganolfan gymunedol, mae cyfarfodydd wedi’u cynnal gyda Chyngor Cymuned Bodffordd i ystyried ffyrdd o gynnal y neuadd gymuned yn unol â phenderfyniad gwreiddiol y Pwyllgor Gwaith.

 

Dywedodd yr Aelod Portffolio ar gyfer Addysg, Llyfrgelloedd, Diwylliant a Ieuenctid fod y mater hwn wedi bod dan ystyriaeth ers dros ddwy flynedd ac yn ystod y cyfnod hwnnw, mae wedi bod yn destun trafodaeth helaeth trwy broses ymgynghori statudol ac anstatudol. Cafodd y broses ei hoedi hefyd er mwyn ailystyried yr opsiynau ar gyfer yr ardal hon. Er ar un llaw fod y cynnig yn golygu bod ysgol yn cau, sydd wastad yn gynnig anodd, ar y llaw arall bydd yr ardal yn cael ysgol newydd sbon a fydd yn ei gwasanaethu am nifer o flynyddoedd i ddod.

 

Fe wnaeth y Pwyllgor Gwaith y pwyntiau canlynol wrth ystyried yr adroddiad -

 

           Pwysleisiodd y Pwyllgor Gwaith eto y pwysigrwydd o ganfod ffyrdd o sicrhau adnodd at ddefnydd y gymuned pan fo ysgol y gymuned yn cau.

           Nododd y Pwyllgor Gwaith fod llythyrau oedd wedi cael eu hanfon gan rai rhieni yn yr ardal at aelodau’r Pwyllgor Gwaith wedi derbyn ystyriaeth a bod eu cynnwys wedi’i adlewyrchu yn adroddiad y Swyddog.

           Nododd y Pwyllgor Gwaith fod cynllun amgen a gynigiwyd gan Cymdeithas yr Iaith wedi cael ei ystyried yn gynharach yn y broses.

           Nododd y Pwyllgor Gwaith ei fod wastad wedi cydnabod bod cau ysgol yn gwrs anodd i’w gymryd; caiff penderfyniadau o’r fath eu gwneud ar y cyd gan roi ystyriaeth i ystod eang o wybodaeth yn cynnwys arweiniad proffesiynol y Swyddogion gyda’r bwriad o sicrhau’r opsiwn gorau ar gyfer pob ardal.

 

Penderfynwyd -

 

           Cymeradwyo’r cynigion gwreiddiol sefcynnig peidio â chefnogi Ysgol Bodffordd, Bodffordd, Ynys Môn, LL77 7LZ ac Ysgol Corn Hir, Llangefni, Ynys Môn, LL77 7JB  sydd ar hyn o bryd yn cael eu cynnal gan Gyngor Sir Ynys Môn a sefydlu ysgol gynradd gymunedol cyfrwng Cymraeg newydd i’w chynnal gan Gyngor Sir Ynys Môn ar safle ysgol newydd ar dir ger stad Bryn Meurig, Llangefni, LL77 7JB ar gyfer bechgyn a merched 3-11 oed.

           Awdurdodi Swyddogion i barhau gyda’r broses o adeiladu ysgol gynradd newydd ar dir ger stad Bryn Meurig (yn amodol ar i’r safle fod yn addas).

Dogfennau ategol: