Eitem Rhaglen

Monitro Cynnydd - Cynllun Gwella Gwasanaethau Plant

Cyflwyno adroddiad y Pennaeth Gwasanaethau Plant a Theuluoedd.

 

Cofnodion:

Cyflwynwyd, i’r Pwyllgor ei ystyried, adroddiad y Pennaeth Gwasanaethau Plant a Theuluoedd yn amlinellu’r cynnydd hyd yma wrth weithredu’r Cynllun Gwella Gwasanaeth.

 

Adroddodd y Prif Weithredwr Cynorthwyol (Llywodraethiant a Thrawsnewid Prosesau Busnes)/Cyfarwyddwr y Gwasanaethau Cymdeithasol bod cyflymder y gwelliant o fewn y Gwasanaeth wedi bod yn sylweddol ers i’r Cynllun Gwella Gwasanaeth gael ei greu ym mis Chwefror 2017 o ganlyniad i arolygiad AGC yn ystod mis Hydref a Thachwedd 2016 ac erbyn hyn mae 13 o’r 21 cam gweithredu â statws gwyrdd. Nid oes unrhyw gamau gweithredu yn Goch a dim ond 2 yn Ambr, gyda 6 yn Felyn. Mae’r ddau faes Ambr yn ymwneud â gwella ansawdd ymarfer ac adolygu’r holl blant mewn gofal er mwyn gwneud yn siŵr bod cynlluniau cymorth a gofal yn seiliedig ar ganlyniadau mewn lle er mwyn sicrhau fod ganddynt sefydlogrwydd tymor hir. Dywedodd y Swyddog fod y Gwasanaeth yn ymwybodol y bydd rhai agweddau angen mwy o amser i gydymffurfio’n llawn ac mae’r Panel Gwella Gwasanaethau Plant, sydd yn parhau i fonitro cynnydd yn erbyn y Cynllun yn ofalus, wedi trafod y mater. Rhagwelir y bydd gwaith ar y Cynllun yn parhau er mwyn sicrhau fod yr holl bwyntiau gweithredu a godwyd gan AGC yn symud i statws Gwyrdd erbyn mis Mawrth, 2019.

 

Yn ogystal, mae’r Dangosyddion Perfformiad wedi parhau i wella yn ystod y chwarteri diwethaf fel y dengys y tabl ym mharagraff 3 yr adroddiad sydd yn dangos gwelliant yn ystod Chwarter 1 a 2 2018/19 o gymharu â ffigyrau cronnus 2017/18 ar gyfer y DP cenedlaethol a lleol a restrir. Mae’r Gwasanaeth wedi ymrwymo i sicrhau fod y gwelliant hwn yn cael ei gynnal a’i ddatblygu ymhellach.

 

Pwysleisiodd y Pennaeth Gwasanaethau Plant a Theuluoedd fod y Gwasanaeth, yn ogystal â chanolbwyntio ar symud y meysydd Ambr a Melyn i statws Gwyrdd, yn cadw golwg ar y meysydd “Gwyrdd” er mwyn sicrhau nad oes llithriad yn digwydd. Mae’r Gwasanaeth wedi parhau i recriwtio Gweithwyr Cymdeithasol profiadol a gwnaethpwyd nifer o benodiadau gan olygu mai dim ond un swydd Gweithiwr Cymdeithasol sydd angen ei llenwi erbyn hyn. Er bod y Gwasanaeth yn parhau i gyflogi staff asiantaeth dros y sefydliad i gefnogi Gweithwyr Cymdeithasol newydd gymhwyso, fel y cymeradwywyd gan y Pwyllgor Gwaith, mae’r ddibyniaeth ar staff asiantaeth i lenwi swyddi gwag wedi lleihau’n sylweddol.

 

Wrth ystyried yr adroddiad roedd y Pwyllgor yn cydnabod y camau sylweddol y mae’r Gwasanaethau Plant a Theuluoedd wedi eu cymryd i roi sylw i’r meysydd yr oedd angen eu gwella a amlygwyd gan AGC yn eu harolygiad yn 2016 a diolchwyd i staff y Gwasanaeth am eu hymdrechion, a hefyd y Cyfarwyddwr Gwasanaethau Cymdeithasol a Phennaeth Gwasanaeth am eu harweiniad wrth lywio’r Gwasanaeth i gyrraedd y pwynt hwn. Hefyd, gwnaeth y Pwyllgor y pwyntiau a ganlyn - 

 

           Nododd y Pwyllgor fod y pwysau ariannol sy’n mynd law yn llaw â chynnydd mewn galw yn effeithio ar y Gwasanaethau Plant a Theuluoedd gan arwain at orwariant; gofynnodd y Pwyllgor sut mae’r Gwasanaeth yn asesu ei sefyllfa ariannol debygol ar gyfer gweddill y flwyddyn ariannol.

 

Dywedodd y Prif Weithredwr Cynorthwyol (Llywodraethiant a Thrawsnewid Prosesau Busnes)/Cyfarwyddwr y Gwasanaethau Cymdeithasol fod y sefyllfa’n parhau i fod yn heriol ac mae nifer y plant sydd angen gofal wedi cynyddu eto yn ystod y 4 mis diwethaf. Mae’r Tîm Etifeddiaeth, a sefydlwyd i asesu achosion hanesyddol lle mae posibilrwydd na wnaeth y Gwasanaeth ymateb yn briodol iddynt, wedi canfod achosion lle mae angen adolygu mewnbwn gwreiddiol y Gwasanaeth ac o ganlyniad mae dros 20 o blant ychwanegol wedi cael eu derbyn i ofal sy’n golygu fod yr Awdurdod yn gofalu am gyfanswm o 161 o blant a phobl ifanc ar hyn o bryd. Mae goblygiadau ariannol ynghlwm â hyn i’r Gwasanaeth. Mae’r Gwasanaeth yn rhoi cynlluniau mewn lle i gynyddu lleoliadau lleol drwy gyflwyno model Cartrefi Grŵp Bach a chynnig pecyn gwell i Ofalwyr Maeth ac fe ddylai hynny gynorthwyo i ostwng costau yn y tymor hir. Fodd bynnag, mae pwysau yn parhau ar gyllideb y Gwasanaeth.

 

           Gofynnodd y Pwyllgor am eglurhad ynghylch sefyllfa’r Awdurdod mewn perthynas â nifer y plant a phobl ifanc y mae’n gofalu amdanynt o gymharu ag awdurdodau lleol tebyg eu maint. Yn ogystal, gofynnodd y Pwyllgor am ddiweddariad ar waith y Tîm Teuluoedd Gwydn a sefydlwyd i ddarparu ymyrraeth gynnar i blant a’u teuluoedd er mwyn cyfyngu ar ymyriadau mwy dwys a chostus yn hwyrach ymlaen pan fydd plant yn cael eu derbyn i ofal.

 

Dywedodd y Prif Weithredwr Cynorthwyol (Llywodraethiant a Thrawsnewid Prosesau Busnes)/Cyfarwyddwr y Gwasanaethau Cymdeithasol fod ffigyrau ar gyfer nifer y plant mewn gofal fesul 10,000 o boblogaeth yn cael eu cynhyrchu bob blwyddyn ynghyd â’r gost gyfartalog fesul sir. Wrth gymharu’r data ar gyfer awdurdodau lleol mae’n anodd gweld patrwm clir oherwydd efallai fod gan awdurdodau fodelau gwahanol neu eu bod ar gamau gwahanol yn y broses o foderneiddio eu strwythurau ac arferion gwaith ac o ganlyniad gall ffigyrau amrywio o awdurdod i awdurdod. Mae’r Gwasanaeth yn Ynys Môn wedi bod yn glir ynglŷn â chanolbwyntio ar yr anghenion lleol yn ogystal â bod yn ymwybodol o’r ystadegau cenedlaethol - yn hanesyddol, mae nifer y plant mewn gofal wedi bod yn isel iawn; erbyn hyn maent wedi cyrraedd lefel y byddai’r Awdurdod ac AGC yn ei ddisgwyl, onid ydynt ychydig yn uwch oherwydd bod yr Awdurdod yn adolygu achosion hanesyddol ac o ganlyniad mae plant oedd o bosib angen gofal ynghynt yn dod i mewn i’r system yn awr. Mae plant sy’n dod i mewn i ofal yn aros mewn gofal am gryn amser; mae’r Gwasanaeth yn ceisio dychwelyd y plant at eu teuluoedd lle bo modd ac os yw’n ddiogel i wneud hynny.

 

Wrth egluro gwaith y Tîm Teuluoedd Gwydn, dywedodd y Pennaeth Gwasanaethau Plant a Theuluoedd fod y tîm wedi gweithio gyda 58 o blant, ac mae’n debygol y byddai nifer ohonynt wedi cael eu derbyn i ofal oni bai bod y tîm wedi ymyrryd yn gynnar ac wedi gwneud gwaith dwys gyda’u teuluoedd. Mae’r Tîm Teuluoedd Gwydn yn costio oddeutu £250k ac o ystyried bod un lleoliad gofal hefyd yn gallu costio £250k, mae’n dangos beth yw gwerth yr adnodd o ran effeithiolrwydd a gwerth am arian.

 

Dywedodd y Pennaeth Swyddogaeth (Adnoddau)/Swyddog Adran 151 fod sefyllfa ariannol y Gwasanaeth yn ystod y ddwy flynedd ddiwethaf wedi bod yn heriol. Roedd gorwariant o £1.78m yn y Gwasanaeth ar ddiwedd 2017/18. Gan y rhagwelwyd y byddai pwysau ar gyllideb y gwasanaeth yn parhau, rhoddwyd oddeutu £300k ychwanegol o’r Dreth Gyngor i’r Gwasanaeth yn 2018/19. Gwireddwyd y disgwyliadau hynny ac roedd ffigyrau Chwarter 1 2018/19 yn rhagweld gorwariant o £1.28m erbyn diwedd y flwyddyn; erbyn diwedd Ch2 roedd y gorwariant a ragwelwyd wedi cynyddu i £2.03m. Mae adolygiad pellach ddiwedd mis Hydref, 2018 yn dangos ffigwr o £2.07m. O ganlyniad, gobeithir fod y gorwariant wedi cyrraedd uchafbwynt o gwmpas tua £2m ac y bydd gweithredu’r cynllun Cartrefi Grŵp Bach a chynnig gwell pecyn o fuddiannau i Ofalwyr Maeth, fel a gymeradwywyd gan y Pwyllgor Gwaith, yn dechrau dwyn ffrwyth ac yn cynorthwyo i reoli’r gorwariant erbyn diwedd y flwyddyn ariannol. Wrth baratoi rhagolygon ar gyfer y dyfodol, mae’r Gwasanaeth Cyllid yn seilio ei ragolygon ar y sefyllfa waethaf bosib gan gymryd i ystyriaeth plant y mae’r Gwasanaethau Plant yn ymwybodol ohonynt ond nad ydynt mewn gofal eto – os na fydd y plant hyn yn cael eu derbyn i ofal yna bydd y gorwariant yn llai. Yn y gyllideb ddrafft ar gyfer 2019/20 dyrannwyd £1.4m yn ychwanegol i’r Gwasanaethau Plant a Theuluoedd yn seiliedig ar ragdybiaeth y bydd cynyddu’r gyllideb, ynghyd â chynlluniau’r Gwasanaeth ei hun i reoli gwariant, yn lleihau’r gorwariant ac yn arwain at fwy o gysondeb rhwng y gwariant a chyllideb y gwasanaeth ac o ganlyniad bydd disgwyl i’r Gwasanaeth weithredu o fewn ei gyllideb o 2019/20 ymlaen. Oherwydd bod arian wrth gefn y Cyngor yn lleihau, gwnaed y pwynt yn glir y byddai’n anodd cyfiawnhau darparu unrhyw gyllid ychwanegol i’r Gwasanaethau Plant a Theuluoedd oni bai bod cynnydd sylweddol yn nifer y plant sydd angen gofal.

 

           Nododd y Pwyllgor fod cyfnod y Nadolig yn gallu achosi problemau ychwanegol neu ddwysau problemau sydd eisoes yn bodoli o fewn teuluoedd. Gofynnodd y Pwyllgor beth yw trefniadau’r Gwasanaeth ar gyfer delio gyda phlant a allai fod angen gofal ychwanegol yn ystod y cyfnod hwn neu a allai fod angen gofal ar fyr rybudd neu mewn argyfwng o ystyried bod cyfarfod â’r gofynion hynny yn debygol o greu pwysau ychwanegol ar y Gwasanaeth. Nododd y Pwyllgor fod cyflwyno’r system Credyd Cynhwysol yn Ynys Môn ym mis Rhagfyr yn cymhlethu’r sefyllfa ymhellach gan fod hwn yn gyfnod anodd i rai teuluoedd pa un bynnag.

 

Dywedodd y Pennaeth Gwasanaethau Plant a Theuluoedd, er bod y Gwasanaeth wedi gwneud cynlluniau a’u bod yn barod ar gyfer y Nadolig ac y bydd staff yn gweithio yn ystod y cyfnod, yn hanesyddol ni welwyd cynnydd sylweddol yn yr atgyfeiriadau yn ystod y cyfnod hwn. Mae’r Gwasanaeth bob amser yn cynllunio ar gyfer unrhyw ddigwyddiadau sylweddol, gwyliau ayb yn ystod y flwyddyn lle gallai amgylchiadau greu neu gynyddu tensiynau ymysg teuluoedd ac o bosib greu mwy o atgyfeiriadau. Yn ogystal, mae staff y Gwasanaeth wedi derbyn hyfforddiant ar y Credyd Cynhwysol ac maent yn gallu darparu cymorth i’r teuluoedd hynny y mae’r Gwasanaethau Cymdeithasol yn ymwybodol ohonynt; fodd bynnag, bydd y gwasanaeth yn gwirio atgyfeiriadau er mwyn sefydlu a oes cynnydd yn nifer y teuluoedd sydd yn wynebu problemau ariannol neu’n ceisio ymdopi â’r Credyd Cynhwysol.

 

Dywedodd y Pennaeth Swyddogaeth (Adnoddau)/Swyddog Adran 151 ei bod yn debygol y bydd effeithiau’r Credyd Cynhwysol yn cael eu hamlygu yn raddol dros gyfnod o amser wrth i unigolion drosglwyddo i’r system newydd ac ar yr un pryd bydd dealltwriaeth gwasanaethau o’r effaith yn gwella wrth iddynt weld yr effaith ar y rhai sy’n trosglwyddo. Mae’n debygol y bydd y newid mwyaf arwyddocaol i’w weld ddiwedd yr haf wrth i waith tymhorol ddod i ben ac unigolion sydd yn gwneud ceisiadau am fudd-daliadau hawlio budd-daliadau o dan y system Credyd Cynhwysol. Yn y cyfamser, mae’r Gwasanaeth Cyllid yn cynllunio ar sail cynnydd graddol gyda phosibilrwydd y bydd mwy o gynnydd ddiwedd yr haf.

 

Penderfynwyd -

 

           Fod y Pwyllgor yn fodlon â’r camau a gymerwyd i weithredu’r Cynllun Gwella Gwasanaeth a chyflymder y cynnydd hyd yma yn y Gwasanaethau Plant a Theuluoedd, a

           Bod y Pwyllgor yn argymell yr adroddiad i’r Pwyllgor Gwaith.

 

NI CHAFODD UNRHYW GAMAU GWEITHREDU YCHWANEGOL EU HARGYMELL.

Dogfennau ategol: