Eitem Rhaglen

Rhaglen Moderneiddio Ysgolion: Achos Strategol Amlinellol ac Achos Busnes Amlinellol - Ehangu Ysgol y Graig a Chau Ysgol Talwrn

Cyflwyno adroddiad y Pennaeth Dysgu.

 

Cofnodion:

Cyflwynwyd adroddiad y Pennaeth Dysgu yn ymgorffori’r Achos Strategol Amlinellol a’r Achos Busnes Amlinellol (ASA/ABA) ar y cyd i ymestyn Ysgol y Graig drwy adeiladu bloc newydd ar gyfer y Cyfnod Sylfaen a chau Ysgol Talwrn er mwyn i’r Pwyllgor ei ystyried a chyflwyno sylwadau arno.

 

Dywedodd y Deilydd Portffolio Addysg, Llyfrgelloedd, Diwylliant ac Ieuenctid fod yr adroddiad ASA/ABA yn un technegol sydd yn nodi’r sail strategol, economaidd, masnachol, ariannol a rheolaethol dros ymestyn Ysgol y Graig drwy adeiladu bloc Cyfnod Sylfaen newydd a chau Ysgol Talwrn, yn unol a phroses Achos Busnes Ysgolion yr 21ain Ganrif er mwyn derbyn arian cyfalaf ar gyfer y prosiect.

 

Dywedodd y Pennaeth Dysgu fod yr ASA/ABA yn amlinellu’r achos dros foderneiddio ysgolion yn ardal ddwyreiniol Llangefni fydd yn cael ei wireddu drwy adeiladu bloc Cyfnod Sylfaen newydd yn Ysgol y Graig i dderbyn y nifer cynyddol o blant yn y dalgylch ac i dderbyn plant o Ysgol Talwrn a fyddai’n cael ei chau. Cyfeiriodd at agweddau allweddol y cynnig a chostau tebygol y prosiect ynghyd â safle posib ar gyfer y bloc newydd, trefniadau caffael a manyleb y gwaith adeiladu. Mae’r achos ariannol yn rhoi sylw i sut fydd y prosiect yn cael ei ariannu a’i fforddiadwyedd cyffredinol ac mae’r achos rheoli yn nodi cynllun amlinellol y prosiect a’r amserlen gyflenwi.

Dangosodd y Rheolwr Gwasanaethau Pensaernïol gynllun o’r safle posib ar gyfer y Bloc Cyfnod Sylfaen Newydd i’r Pwyllgor, safle a gafodd ei nodi yn dilyn ymarfer arfarnu safleoedd a oedd yn rhoi pwyslais penodol ar yr angen i leoli’r bloc newydd cyn agosed â phosibl at adeilad presennol Ysgol y Graig. Wrth esbonio’r cynllun, cyfeiriodd y Swyddog at yr ystyriaethau a ganlyn –

 

           Nid yw’r safle a nodwyd ar gyfer y bloc newydd wedi cael ei gadarnhau.

           Ni chynhaliwyd arolwg manwl o’r safle. Fodd bynnag, gan fod y safle yn wlyb iawn, mae’n debygol y bydd angen gwneud gwaith draenio sylweddol er mwyn datrys y problemau draenio dŵr ar y safle.

           Yn ogystal, mae’n debygol y bydd rhaid gwneud gwaith archwilio archeolegol dwys a helaeth er mwyn sefydlu a oes unrhyw nodweddion archeolegol posib o dan y tir.

           Gallai gwaith uwchben yn ogystal â gwaith posib arall e.e. symud y llinell bŵer uwchben, gael effaith ar gyfanswm cost y prosiect.

           Mae safleoedd posib eraill yn yr ardal gyfagos yn cael eu hystyried, gan gadw’r ffactor agosatrwydd mewn cof.

           Mae problemau traffig sylweddol ar safle presennol Ysgol y Graig. Mae’r Gwasanaeth Priffyrdd wedi nodi fod rhaid datrys y problemau traffig ar gyfer y campws cyfan fel rhan o’r datblygiad, ac mae hynny’n golygu creu maes parcio newydd fydd yn cydymffurfio â’r gofynion parcio sylfaenol ar gyfer ysgolion ac yn diwallu anghenion  adeilad presennol yr ysgol yn ogystal â’r bloc Cyfnod Sylfaen newydd. Mae’r cynllun arfaethedig yn cynnwys maes parcio newydd wedi ei leoli rhwng adeilad presennol Ysgol y Graig a’r bloc Cyfnod Sylfaen newydd a bydd yn gwasanaethu’r ddau adeilad.

Ystyriodd y Pwyllgor y wybodaeth a gyflwynwyd gan wneud y pwyntiau a ganlyn -

           O’r cynllun a gyflwynwyd, nododd y Pwyllgor ei fod yn ei chael yn anodd gweld sut y byddai’r ddau adeilad – adeilad presennol yr ysgol a’r bloc Cyfnod Sylfaen Newydd – yn gweithio fel un ysgol ar lefel ymarferol. Nododd y Pwyllgor nad yw’r ddau safle mor agos at ei gilydd ag y byddai wedi’i ddymuno ac o ganlyniad bod mwy o risg y byddai’r ddau adeilad yn cael eu rhedeg fel dau endid ar wahân; roedd y Pwyllgor yn pryderu ynghylch hyn.

 

           Nododd y Pwyllgor fod y cynnig yn golygu lleoli maes parcio newydd mewn ardal rhwng y ddau adeilad a bod ganddo amheuon ynghylch diogelwch gan fod problemau traffig difrifol yn yr ardal. Gofynnod y Pwyllgor pa mor briodol oedd lleoli’r maes parcio yn y lleoliad hwn.

 

Dywedodd y Pennaeth Priffyrdd, Gwastraff ac Eiddo Dros Dro fod Ysgol y Graig, pan y’i hadeiladwyd yn wreiddiol, wedi cael ei dylunio yn unol â chanllawiau “ysgol werdd” Llywodraeth Cymru gan olygu mai y nifer lleiaf posib o lefydd parcio a ddarparwyd gan mai’r bwriad oedd y byddai’r disgyblion yn cerdded i’r ysgol gan fod stad dai fawr gerllaw. Mewn gwirionedd, mae nifer fawr o ddisgyblion yn cael eu cludo i’r ysgol mewn ceir ac mae disgyblion eraill o du allan i’r dalgylch yn dod i Ysgol y Graig mewn ceir hefyd. Mae lleoli’r maes parcio arfaethedig rhwng y ddau adeilad yn golygu fod modd cael mynediad i’r ddau adeilad yr un mor rhwydd o’r maes parcio oherwydd petai’r maes parcio newydd yn cael ei leoli ym mhen pellaf y safle byddai mwy o waith cerdded i ddisgyblion yr ysgol bresennol.

 

           Nododd y Pwyllgor y bydd yn her i’r Awdurdod ddarparu ei gyfran o gostau’r prosiect pa un bynnag. Yn ogystal, nododd y Pwyllgor fod costau y’i gelwir yn “gostau annormal” yn gysylltiedig â’r prosiect oherwydd amodau’r safle. Gofynnodd y Pwyllgor a oes risg i un neu fwy o’r costau hyn gynyddu, ac o bosib effeithio ar y prosiect yn ei gyfanrwydd. Nododd y Pwyllgor hefyd petai’r costau yn cynyddu o ganlyniad i eitemau annormal gallai hynny effeithio ar y cyllid cyffredinol ar gyfer prosiectau mewn ardaloedd eraill ar yr Ynys.

 

Yn ddibynnol ar leoliad terfynol y bloc Cyfnod Sylfaen newydd, dywedodd y Rheolwr Gwasanaethau Pensaernïol efallai na fydd rhai o’r costau annormal yn gysylltiedig ag amodau’r safle yn dod i’r golwg neu y byddai modd eu lliniaru. Mae “eitemau annormal” yn cael eu cynnwys fel mater o drefn yn yr achos busnes amlinellol a gyflwynir i Lywodraeth Cymru oherwydd os yw’r costau rhagamcanol yn uwch na safonau cost dylunio Llywodraeth Cymru (cost fesul metr sgwâr) yr eitemau annormal hyn fydd i gyfrif am hynny. Serch hynny, cadarnhaodd y Swyddog bod risgiau’n gysylltiedig ag amodau safle annisgwyl. Cynhelir arolwg o’r safle cyn gynted â phosib a bydd unrhyw waith a nodir o ganlyniad i’r arolwg yn cael eu cynnwys yn yr Achos Busnes Llawn.

 

Dywedodd y Pennaeth Swyddogaeth (Adnoddau)/Swyddog Adran 151 fod y prosiect uchod yn cael ei ariannu o’r adnoddau a ddyrannwyd i Band B gan Lywodraeth Cymru. Bydd Llywodraeth Cymru yn ariannu’r costau hyd at gost benodol fesul metr sgwâr yn ogystal â’r costau annormal yn unol â beth mae’n barnu sy’n rhesymol. Bydd yr Awdurdod Lleol yn gyfrifol am unrhyw gostau uwchlaw hynny y mae Llywodraeth Cymru yn barnu eu bod yn afresymol. Os yw Llywodraeth Cymru’n derbyn bod y costau annormal yn rhesymol ac yn gostau y mae’n rhaid i’r Awdurdod eu talu yna mae hynny’n debygol o effeithio ar swm y cyllid Band B y bydd yr Awdurdod yn ei ddefnyddio ar gyfer y prosiect gan olygu o bosib y bydd llai o adnoddau ar gael ar gyfer prosiectau eraill yn amlen gyllido Band B yr Awdurdod. Fodd bynnag, byddai modd trosglwyddo rhai prosiectau i Band C, er nad yw cyllid Band C wedi’i gadarnhau eto. Opsiwn cyllido arall sydd ar gael gan Lywodraeth Cymru yw’r Model Buddsoddi Cydfuddiannol, lle mae partner preifat yn adeiladu ac yn cynnal yr ysgol a’r Awdurdod yn gwneud taliad blynyddol er mwyn defnyddio’r adeilad am gyfnod cytunedig. Mae Llywodraeth Cymru yn cyfrannu at y gost flynyddol.

 

           Nododd y Pwyllgor bod angen darparu llefydd ychwanegol ar gyfer y nifer cynyddol o ddisgyblion yn Ysgol y Graig. Gofynnodd y Pwyllgor a fyddai’n rhesymol ystyried adolygu’r dalgylch er mwyn caniatáu i ddisgyblion o’r ardal fynychu’r ysgol newydd arfaethedig i gymryd lle Ysgol Corn Hir ac Ysgol Bodffordd. O ganlyniad, efallai y byddai estyniad llai i Ysgol y Graig yn ddigonol ac yn lleihau costau’r prosiect ac o bosib yn caniatáu i’r estyniad gael ei leoli yn nes at yr ysgol.

 

O safbwynt capasiti, dywedodd y Pennaeth Dysgu bod angen estyniad i Ysgol y Graig ac ysgol newydd ar gyfer Ysgol Corn Hir ac Ysgol Bodffordd, yn unol â’r cynlluniau. Petai’r dalgylch yn cael ei newid i ganiatáu i ddisgyblion o’r ardal fynychu’r ysgol newydd i gymryd lle Ysgol Corn Hir ac Ysgol Bodffordd a maint yr estyniad yn Ysgol y Graig yn cael ei leihau o ganlyniad i hynny, byddai’n rhaid i’r Ysgol Corn Hir newydd fod yn fwy er mwyn cynnwys y disgyblion ychwanegol a byddai hynny’n cynyddu’r costau ac yn gwrthbwyso unrhyw arbedion o ganlyniad i leihau maint yr estyniad yn Ysgol y Graig.

 

Dywedodd y Rheolwr Gwasanaethau Pensaernïol fod problemau capasiti yn ardaloedd dwyreiniol a gorllewinol Llangefni yn golygu fod rhaid gwneud newidiadau i Ysgol y Graig ac Ysgol Corn Hir. Petai’r ysgol newydd i gymryd lle Ysgol Corn Hir ac Ysgol Bodffordd yn cael ei chwblhau gyntaf, mae’n bosib y byddai rhieni yn dewis anfon eu plant i’r ysgol newydd. Serch hynny, mae datblygiadau arfaethedig yn gysylltiedig â champws Coleg Menai yn golygu y byddai’n rhaid gwneud newidiadau i Ysgol y Graig pa un bynnag.

 

           Mewn cyfnod pan mae’r Cyngor yn wynebu rhaglen heriol o doriadau yn y gyllideb dros y tair blynedd nesaf o leiaf, nododd y Pwyllgor ei fod yn ymrwymo ei hun i gynllun benthyca digymorth. Gofynnodd y Pwyllgor pa mor fforddiadwy yw’r cynigion yn y ASA/ABA ar y cyd o ystyried costau'r cynlluniau moderneiddio ysgolion eraill y mae’r Cyngor eisoes wedi ymrwymo iddynt.

 

Dywedodd y Pennaeth Swyddogaeth (Adnoddau)/Swyddog Adran 151 fod y Cyngor wedi cydnabod o’r cychwyn y byddai’r rhaglen moderneiddio ysgolion yn creu costau ychwanegol. Bydd cynnydd o 50% i 65% yng nghyfraniad Llywodraeth Cymru tuag at gostau pob prosiect ym Mand B o gymorth mawr i gynghorau wrth iddynt weithredu cynlluniau moderneiddio ysgolion. Er y bydd cost i’r Gyllideb Refeniw ar ffurf y Ddarpariaeth Isafswm Refeniw (MRP) (sef y swm lleiaf y mae’n rhaid i’r Cyngor ei godi ar y Gyllideb Refeniw bob blwyddyn er mwyn talu am y gost o fenthyca a chostau llog) mae’r cynnig yn creu arbedion blynyddol a gellir defnyddio arian cyfalaf a dderbynnir drwy werthu Ysgol Talwrn fel rhan o gyfraniad y Cyngor tuag at y costau ac o ganlyniad leihau’r swm y bydd rhaid iddo ei fenthyg er mwyn cyllido’r prosiect. Mae’n annhebygol y bydd rhaglen gyfalaf i fuddsoddi mewn ysgolion yn cael ei chynnig eto lle mae 65% o gostau’r prosiect yn cael eu hysgwyddo gan Lywodraeth Cymru ac o ganlyniad mae’n hanfodol fod y Cyngor yn manteisio ar y cyfle hwn i sicrhau fod ei stoc ysgolion yn cyfarfod â safonau'r 21ain Ganrif; fel arall, dim ond gohirio’r broblem o foderneiddio ysgolion fyddai’r Cyngor yn ei wneud ac mae’n debygol y byddai’n rhaid iddo gyllido’r cyfan o’r costau moderneiddio o’i goffrau ei hun rywbryd yn y dyfodol. Mae’r rhaglen Ysgolion yr Unfed Ganrif ar Hugain yn rhaglen fuddsoddi hirdymor lle mae awdurdodau lleol yn cymryd benthyciadau tymor hir er mwyn cyllido eu prosiectau moderneiddio ysgolion a’r costau hynny’n cael eu hymestyn dros y tymor hir / cyfnod gweithredu’r ysgol.

 

Ar ôl craffu ar y ASA/ABA, penderfynodd y Pwyllgor Sgriwtini Corfforaethol argymell i’r Pwyllgor Gwaith, ar yr amod ei fod yn nodi pryderon y Pwyllgor ynglŷn â thraffig, lleoliad y maes parcio a’r her o wneud i’r Ysgol y Graig bresennol a’r Bloc Cyfnod Sylfaen newydd weithio fel un endid, ei fod yn cymeradwyo -

           Yr Achos Strategol Amlinellol a’r Achos Busnes Amlinellol (ASA/ABA) ar y cyd i ehangu Ysgol y Graig drwy adeiladu bloc Cyfnod Sylfaen Newydd a chau Ysgol Talwrn.

           Anfon yr Achos Strategol Amlinellol a’r Achos Busnes Amlinellol (ASA/ABA) ar y cyd i ehangu Ysgol y Graig drwy adeiladu bloc Cyfnod Sylfaen newydd a chau Ysgol Talwrn at Lywodraeth Cymru. (Ataliodd y Cynghorydd Lewis Davies ei bleidlais)

 

NI CHAFODD UNRHYW GAMAU GWEITHREDU YCHWANEGOL EU HARGYMELL