Eitem Rhaglen

Monitro Cynnydd - Panel Gwella Gwasanaethau Plant

Cyflwyno adroddiad cynnydd y Panel Gwella Gwasanaethau Plant.

 

Cofnodion:

Cyflwynwyd, i’r Pwyllgor ei ystyried, adroddiad y Panel Gwella Gwasanaethau Plant ar waith y Panel hyd yma.

 

Cyflwynodd y Cynghorydd Richard Griffiths, cynrychiolydd y Pwyllgor Sgriwtini Corfforaethol ar y Panel Gwella Gwasanaethau Plant, ddiweddariad i’r Pwyllgor ar waith y Panel yn ystod y cyfnod o fis Medi i fis Tachwedd 2018 ac adroddodd fod y Panel wedi cyfarfod 16 o weithiau ers mis Gorffennaf, 2017 ac yn ystod y cyfnod hwnnw bod yr aelodau wedi datblygu llawer gwell dealltwriaeth o’r materion a’r cymhlethdodau sydd ynghlwm â darparu’r Gwasanaethau Plant. Cyfeiriodd y Cynghorydd Griffiths at y rhestr o ymweliadau Laming a gynhaliwyd yn ystod y cyfnod mis Hydref 2017 i fis Medi 2018 a oedd wedi ei gynnwys yn Atodiad A yr adroddiad a oedd hefyd yn rhoi crynodeb o bwrpas a chynnwys pob ymweliad a gynhaliwyd.

Dywedodd y Prif Weithredwr Cynorthwyol (Llywodraethiant a Thrawsnewid Prosesau Busnes)/Cyfarwyddwr y Gwasanaethau Cymdeithasol fod y Panel wedi bod o gymorth mawr i’r broses wella a’r bwriad yw y bydd y Panel yn parhau, er y bydd y trefniadau tymor hir yn cael eu hadolygu. Fodd bynnag, pwysleisiodd y Swyddog nad yw’r daith wella wedi gorffen a bod y Gwasanaeth yn llwyr ymwybodol fod angen gwneud mwy o waith er mwyn cwblhau pob elfen o’r Cynllun Gwella Gwasanaeth a bod y gwaith hwnnw’n debygol o gymryd 9 i 12 mis arall.

 

Wrth dderbyn a nodi’r diweddariad gofynnodd y Pwyllgor beth yw’r sefyllfa mewn perthynas â gwaith partneriaeth a phlant sy’n cael eu haddysgu gartref, ac yn benodol a oes protocol cenedlaethol ar gael ynglŷn â hynny.

Cadarnhaodd y Prif Weithredwr Cynorthwyol (Llywodraethiant a Thrawsnewid Prosesau Busnes)/Cyfarwyddwr y Gwasanaethau Cymdeithasol fod y Gwasanaethau Plant wedi ymgynghori â’r Gwasanaeth Oedolion er mwyn datblygu trefniadau i ddarparu cymorth i’r bobl ifanc hynny sy’n trosglwyddo o’r Gwasanaethau Plant i’r Gwasanaethau Oedolion. Yn ogystal, mae cydweithio mewnol gyda’r Gwasanaeth Dysgu ac ysgolion, ac yn allanol gyda BIPBC a Heddlu Gogledd Cymru, wedi gwella. Erbyn hyn mae’r Gwasanaeth yn cydgynllunio â’r Gwasanaethau Oedolion a’r Gwasanaeth Tai yn hytrach nac yn rhannu gwybodaeth yn unig. Mewn perthynas â phlant sy’n cael eu haddysgu gartref, mae’r Gwasanaeth yn ceisio sicrhau ei fod yn ymwybodol o blant sy’n cael eu haddysgu gartref ar Ynys Môn ond y Gwasanaeth Dysgu sy’n gyfrifol am fonitro ansawdd yr addysg y maent yn ei dderbyn.

 

Dywedodd y Pennaeth Gwasanaethau Plant a Theuluoedd, oherwydd y cynnydd yn nifer y plant sydd yn derbyn addysg gartref ar yr Ynys, fod y Gwasanaeth wedi cynnal tri chyfarfod er mwyn deall y tuedd ar i fyny a’r rhesymau tu ôl iddo. Mae trefniadau mewnol yn cael eu hystyried ar gyfer rhannu gwybodaeth ac asesu’r plant os oes angen yn ogystal â threfniadau ar gyfer ymyrryd yn briodol er mwyn mynd i’r afael ag unrhyw broblemau posib a allai olygu fod plant angen cynllun amddiffyn plant.

 

Cadarnhaodd y Pennaeth Dysgu, er bod y Gwasanaeth Dysgu yn cynnal cofrestr o blant sy’n cael eu haddysgu gartref, ei bod yn anodd i’r Gwasanaeth gael unrhyw ddylanwad ar ansawdd yr addysg y mae plant sy’n cael eu haddysgu yn y modd hwn yn ei dderbyn.

 

Penderfynwyd nodi’r canlynol

 

           Y cynnydd a wnaed hyd yma gyda gwaith y Panel Gwella Gwasanaethau Plant o ran cyflawni ei raglen waith.

           Bod yr holl ffrydiau gwaith sy’n perthyn i’r Cynllun Gwella Gwasanaeth i weld ar darged hyd yn hyn.

           Y meysydd gwaith yr ymdriniwyd â hwy yn ystod yr Ymweliadau Laming, fel modd o gryfhau atebolrwydd, gwybodaeth a dealltwriaeth aelodau’r Panel ymhellach.

           Y rhaglen ddatblygu barhaus ar gyfer aelodau’r Panel, lle caiff llawer ohoni ei darparu’n fewnol.

           Yn ogystal, nododd y Pwyllgor fod y Panel wedi cyfeirio i’w sylw y ffaith fod staff asiantaeth yn dal i lenwi nifer fechan o swyddi gweithwyr cymdeithasol, er bod cynnydd da wedi’i wneud ar weithredu’r strwythur staffio diwygiedig. Mae hyn yn cael sylw trwy benodi gweithwyr cymdeithasol (rhai profiadol a newydd gymhwyso) a thrwy gefnogi gweithwyr i gymhwyso. Mae’r Pwyllgor yn nodi’r camau gweithredu a gymerwyd i fynd i’r afael â hyn.

 

NI CHAFODD UNRHYW GAMAU GWEITHREDU YCHWANEGOL EU HARGYMELL.

Dogfennau ategol: