Eitem Rhaglen

Proses Dyranu Grantiau Mawr

Cyflwyno adroddiad gan y Trysorydd.

Cofnodion:

(Yn ystod y drafodaeth, datganodd y Cynghorydd Aled M Jones ddiddordeb mewn perthynas â Ffermwyr Ifanc Ynys Môn, ond yn dilyn derbyn cyngor cyfreithiol roedd modd iddo gymryd rhan yn y drafodaeth ond gadawodd yr ystafell yn ystod y bleidlais ar y mater).

 

Cyflwynwyd – adroddiad gan y Trysorydd mewn perthynas â’r broses ar gyfer dyrannu grantiau mawr, yn cynnwys penderfynu ar lefel y cyllid sydd ar gael a’r broses ar gyfer monitro grantiau a ddyfarnwyd.

 

Adroddodd y Trysorydd fod yr Ymddiriedolaeth wedi dyfarnu grantiau mawr ers 2016 gyda gwahoddiad agored i sefydliadau gyflwyno ceisiadau am gymorth. Yn 2018, derbyniwyd cyfanswm o 34 o geisiadau ac roedd 14 sefydliad yn llwyddiannus, gan dderbyn grantiau o rhwng £6,000 a £66,414 gyda chyfanswm grantiau o £349,768 yn cael eu dyfarnu. Nododd y Trysorydd, gan nad yw’r Ymddiriedolaeth Elusennol bresennol yn cyflogi ei staff ei hun mae cyfyngiad ar yr hyn y gellir ei gyflawni ac mae’n debyg mai dosbarthu grantiau yn y modd hwn yw’r gorau y gall yr Ymddiriedolaeth ei wneud o ystyried yr adnoddau presennol. Bydd sefydlu Sefydliad Corfforedig Elusennol (SCE) yn caniatáu i’r Ymddiriedolaeth ailystyried sut mae’n defnyddio ei chronfeydd er mwyn cyflawni’r budd mwyaf i bobl Ynys Môn.

 

Cynhaliwyd cyfarfod o’r Pwyllgor Buddsoddi a Chontractau ar 6 Tachwedd 2018 ac ar ôl ystyried perfformiad y portffolio buddsoddi yn ystod y 12 mis blaenorol a’r risgiau ynghyd â’r angen i gynnal gwerth y gronfa ar lefel sy’n cynhyrchu digon o incwm blynyddol, argymhellodd y Pwyllgor y dylai’r swm sydd ar gael ar gyfer grantiau mawr barhau ar yr un lefel ag yn 2018, h.y. £350k.

 

Gofynnodd yr Ysgrifennydd a oedd yr Ymddiriedolaeth Elusennol yn dymuno ystyried ceisiadau gan Urdd Gobaith Cymru a Ffermwyr Ifanc Ynys Môn fel rhan o’r Cynllun Dyfarnu Grantiau Mawr gan fod y trefniant i gyllido’r sefydliadau hyn yn dod i ben yn 2019. Ym mis Mehefin 2014 penderfynodd yr Ymddiriedolaeth Elusennol roi grant o £40k y flwyddyn i Urdd Gobaith Cymru a grant o £30k y flwyddyn i Ffermwyr Ifanc Ynys Môn, am gyfnod o 5 mlynedd i’r ddau sefydliad. Ychwanegodd yr Ysgrifennydd y gallai’r Ymddiriedolaeth Elusennol ystyried cyllido’r sefydliadau hyn am flwyddyn ychwanegol nes bydd y SCE wedi cael ei sefydlu.

 

Mynegodd rhai Aelodau o’r Ymddiriedolaeth Elusennol bryder na chyfeiriwyd at y sefydliadau hyn yn yr adroddiad. Er yn derbyn bod y ddau sefydliad yn hollbwysig o ran cynnig cyfleoedd i bobl ifanc gymryd rhan mewn cystadlaethau a gweithgareddau, ystyriwyd y dylid ymdrin â phob sefydliad yn gyfartal yn ystod y broses dyfarnu grantiau. Yn dilyn trafodaeth, cytunwyd y dylid cyflwyno adroddiad i gyfarfod yr Ymddiriedolaeth Elusennol ym mis Ionawr 2019 er mwyn trafod opsiynau ar gyfer cyllido Urdd Gobaith Cymru a Ffermwyr Ifanc Ynys Môn yn y dyfodol.

 

 

PENDERFYNWYD :-

 

·      Dyrannu grantiau mwy eto yn 2019 a bod yr SCE, unwaith y bydd wedi ei sefydlu, yn adolygu a ddylid parhau i ddyfarnu grantiau mwy o 2020 ymlaen.

·      Dyrannu swm o £350,000, fel yr argymhellir gan y Pwyllgor Buddsoddiadau a Chontractau, i gyllido'r grantiau mwy yn 2019.

·      Gwahodd ceisiadau ar unwaith gyda dyddiad cau o 31 Ionawr 2019 ar gyfer cyflwyno’r ceisiadau.

·      Bod y Pwyllgor Adfywio yn ystyried y ceisiadau a dderbyniwyd yn ei gyfarfod ar 13 Chwefror 2019, gan ddilyn y meini prawf a nodir ym mharagraffau 5.1 a 5.2 o’r adroddiad hwn, gydag argymhellion y Pwyllgor hwn yn cael eu hystyried gan yr Ymddiriedolaeth lawn ar 16 Ebrill 2019.

·      Bod adroddiad yn cael ei gyflwyno i gyfarfod yr Ymddiriedolaeth Elusennol ym mis Ionawr 2019 ynglŷn ag a ddylid dyrannu arian grant i Urdd Gobaith Cymru a Ffermwyr Ifanc Ynys Môn.

 

 

Dogfennau ategol: