Eitem Rhaglen

Gweddill y Ceisiadau

12.1  32LPA1047/CC – Tre Ifan, Caergeiliog

12.2  FPL/2018/4 – Maes yr Ysgol, Caergybi

12.3  FPL/2018/24 – Adran 4 Ffordd Gyswllt Llangefni

12.4  39C597 – Chwarel Cambria, Ffordd Cambria, Porthaethwy

Cofnodion:

12.1    32LPA1047/CC – Cais llawn ar gyfer codi 6 annedd ynghyd â chreu mynedfa i gerbydau ar dir yn Tre Ifan, Caergeiliog

 

Cyflwynwyd y cais i’r Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion oherwydd mai Cyngor Sir Ynys Môn yw’r ymgeisydd a pherchennog y tir.

Adroddodd y Rheolwr Datblygu Cynllunio fod rhan o’r cynnig yn golygu creu mynedfa newydd drwy Stad Tre Ifan yn ogystal â darparu llefydd parcio ar gyfer 12 o gerbydau. Oherwydd bod safle’r cais yn agos at safle Llu Awyr y Fali, cynhaliwyd asesiad sŵn ac mae Gwasanaethau Amgylcheddol y Cyngor wedi cadarnhau ei fod yn dderbyniol. Os bydd y cais yn cael ei ganiatáu bydd rhaid gosod amodau fydd yn ei gwneud yn ofynnol i ymgorffori mesurau lliniaru sŵn wrth adeiladu’r anheddau, a dyma sy’n cael ei gynnig. Ar hyn o bryd mae manylion draenio yn cael eu hasesu a chyflwynir amodau er mwyn sicrhau eu bod yn dderbyniol. Dywedodd y Swyddog bod y Gwasanaeth Dysgu Gydol Oes wedi cadarnhau, ar ôl i’r adroddiad gael ei gyhoeddi, nad oes angen cyfraniad tuag at addysg o ganlyniad i alw yn deillio o’r datblygiad arfaethedig. Fodd bynnag, mae’r amodau sy’n cael eu cynnig yn cynnwys amod i sicrhau fod y datblygiad yn darparu cyfran o dai fforddiadwy. Mae’r cynnig yn cydymffurfio â pholisi ac ystyrir ei fod yn dderbyniol yn ei leoliad. O ganlyniad, yr argymhelliad yw caniatáu’r cais.

 

Gofynnodd y Cynghorydd Kenneth Hughes a fyddai’r datblygiad yn mynd yn ei flaen petai’r ysgol leol yn llawn ac yn methu derbyn unrhyw ddisgyblion ychwanegol.

 

Eglurodd y Rheolwr Datblygu Cynllunio yr ymgynghorir â’r Gwasanaeth Dysgu Gydol Oes ynghylch ceisiadau tebyg i hwn er mwyn cael gwybod a yw’n ystyried bod angen cyfraniad ariannol tuag at ddarparu addysg yn yr ardal. Yn yr achos hwn, mae’r Gwasanaeth wedi cadarnhau nad yw’n gofyn am gyfraniad. Fodd bynnag, mae’r cais yn cael ei ystyried a gwneir penderfyniad ar sail cynllunio yn hytrach nac ar sail addysgol.

 

Dywedodd y Cynghorydd Kenneth Hughes, gan mai dyna oedd y sefyllfa, ei fod o’r farn fod gofyn i’r Gwasanaeth Dysgu Gydol Oes a yw’n dymuno gofyn am gyfraniad ariannol yn ddiffyg yn y broses gan fod rhieni â’r hawl i ddewis i ba ysgol i anfon eu plant a bod ganddynt yr hawl i beidio ag anfon eu plant i’r ysgol o gwbl, ond yn hytrach eu haddysgu gartref. Gofynnodd y Cynghorydd Hughes, o ystyried hawliau rhieni, a ddylai’r Awdurdod Cynllunio ofyn y cwestiwn hwn i’r Gwasanaeth Dysgu Gydol Oes.

 

Dywedodd y Rheolwr Datblygu Cynllunio fod gofyn am gyfraniad ariannol tuag at wasanaeth neu gyfleusterau, yn cynnwys addysg lle bernir bod hynny’n angenrheidiol, yn bolisi a fabwysiadwyd ac a weithredwyd gan y Cyngor fel rhan o’r Cynllun Datblygu Lleol ar y Cyd sydd yn nodi’r gofynion ynghylch cyfraniadau gan y datblygwr. Os yw pryderon yr Aelod ynglŷn â’r polisi yn rhai cyffredinol yn hytrach nag yn ymwneud â’r cais penodol dan ystyriaeth, yna mae’r mater hwnnw tu hwnt i gyfrifoldeb y Pwyllgor.

 

Dywedodd y Cynghorydd Hughes y dylai’r Awdurdod Cynllunio, yn ei farn ef, roi ystyriaeth ofalus i beth fyddai’r oblygiadau petai’r polisi’n cael ei newid.

Cynigiodd y Cynghorydd Vaughan Hughes bod y cais yn cael ei gymeradwyo yn unol ag argymhelliad y Swyddog; eiliwyd y cynnig gan y Cynghorydd John Griffith.

 

Penderfynwyd cymeradwyo’r cais yn unol ag argymhelliad ac adroddiad y Swyddog gyda’r amodau cynllunio sydd wedi eu cynnwys ac yn amodol hefyd ar gynnwys amod ychwanegol mewn perthynas ag amodau lliniaru sŵn.

 

12.2    FPL/2018/4 – Cais llawn ar gyfer dymchwel y modurdai presennol ynghyd â chodi 4 annedd un person yn cynnwys lle parcio ym Maes yr Ysgol, Caergybi.

 

Cyflwynwyd y cais i’r Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion oherwydd bod y cais yn cael ei wneud gan Gyngor Sir Ynys Môn.

 

Adroddodd y Rheolwr Datblygu Cynllunio fod cais wedi cael ei wneud ar y safle hwn yn gynharach eleni a chynhaliwyd ymweliad safle bryd hynny oherwydd pryderon ynglŷn â thraffig yn lleol. Er bod gosodiad yr anheddau arfaethedig ar y safle yn debyg i’r hyn a ganiatawyd eisoes, mae’r dyluniad yn wahanol ac yn fwy traddodiadol ei edrychiad na’r hyn a ganiatawyd. Fel rhan o’r cynllun a ganiatawyd yn barod, roedd 10 o lefydd parcio yn cael eu darparu mewn ymateb i bryderon lleol am golli’r modurdai a’r llefydd parcio, ond fel rhan o’r cynllun sy’n cael ei gynnig yn awr, darperir 6 o lefydd parcio. Dywedodd y Swyddog ei bod ar ddeall fod trafodaethau wedi digwydd rhwng preswylwyr a’r Gwasanaeth Tai oherwydd pryderon am golli llefydd parcio a bod ystyriaeth yn cael ei roi i ba fesurau y gallai’r Gwasanaeth eu rhoi ar waith, fydd yn debygol o ddilyn gyda rhagor o geisiadau cynllunio i’w cyflwyno i’r Pwyllgor. Fodd bynnag, nid yw’r Gwasanaeth Priffyrdd yn gwrthwynebu’r cynnig. Mae Aelodau Lleol yn cefnogi’r cais hefyd. Gan mai’r Cyngor Sir sy’n gwneud y cais, bydd y ddarpariaeth tai fforddiadwy yn cael ei sicrhau drwy amod cynllunio gan nad oes modd i’r Cyngor wneud cytundeb cyfreithiol gydag ef ei hun. Bwriad yr ymgeisydd fodd bynnag yw darparu 100% o dai fforddiadwy ar y safle. Ar sail yr uchod, felly, argymhelliad y Swyddog yw cymeradwyo’r cais.

 

Gofynnodd y Cynghorydd John Griffith pam fod y cynnig yn benodol ar gyfer anheddau ar gyfer yr henoed gan nad oedd dynodiad o’r fath ynghlwm â’r cais a ganiatawyd yn flaenorol. Yn ogystal, mae’r adroddiad yn nodi fod drychiadau cefn yr unedau arfaethedig yn agosach at y ffin nag a ganiateir fel arfer, sef rhwng 1 a 1.9m o bellter oddi wrth y ffin, er bod y canllawiau yn gofyn am bellter o 10.5m. Gofynnodd y Cynghorydd Griffith beth oedd y rheswm dros wyro oddi wrth y gofynion.

 

Eglurodd y Rheolwr Datblygu Cynllunio, yn dilyn trafodaethau gyda phreswylwyr lleol o ganlyniad i’r pryderon a fynegwyd ynghylch y datblygiad a gymeradwywyd yn flaenorol, fod y cynnig yn awr ar gyfer unedau ar gyfer yr henoed. Mewn perthynas â’r pellter gwahanu rhwng y cynnig a’r ffin, mae gosodiad y datblygiad yr un fath â’r hyn a gymeradwywyd. Mae ffin arfaethedig y Gogledd Ddwyrain yn ffinio â iard chwarae’r ysgol gynradd yn hytrach nag unrhyw ddatblygiad preswyl, maent yn unedau un llawr ac mae’r dulliau amgáu yn cynnwys codi ffens 2m o uchder ar y ffin â’r ysgol gynradd a wal flociau 2m o uchder i’r De a’r Gorllewin. Felly, ystyrir na fydd y datblygiad yn cael unrhyw effaith ar fwynderau preswyl o ran edrych drosodd neu golli golau, sef yr hyn y mae’r canllawiau ynghylch pellteroedd yn ei reoleiddio.

Cynigiodd y Cynghorydd Kenneth Hughes fod y cais yn cael ei gymeradwyo yn unol ag argymhelliad y Swyddog; eiliwyd y cynnig gan y Cynghorydd Robin Williams.

 

Penderfynwyd cymeradwyo’r cais yn unol ag argymhelliad ac adroddiad y Swyddog gyda’r amodau sydd wedi eu cynnwys yn yr adroddiad.

 

12.3    FPL/2018/24 – Cais ôl-weithredol ar gyfer adeiladu mynedfa amaethyddol a ffurfiodd ran o Adran 4 Ffordd Gyswllt Llangefni yn A5514, Llangefni

 

Cyflwynwyd y cais i’r Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion oherwydd bod y cais yn cael ei wneud gan Gyngor Sir Ynys Môn.

 

Adroddodd y Rheolwr Datblygu Cynllunio fod y fynedfa amaethyddol y gofynnir am ganiatâd ar ei chyfer wrth ymyl mynedfa bresennol fferm Nant Newydd (sydd wedi cau erbyn hyn) ond ei bod wedi ei lleoli yn bellach oddi wrth y gylchfan er budd diogelwch y briffordd. Nid oes unrhyw wrthwynebiad i’r cynnig o safbwynt Priffyrdd ac ystyrir ei fod yn dderbyniol o fewn y dirwedd ac ni fydd yn effeithio ar yr Asesiad o Effaith Amgylcheddol nac yn creu unrhyw oblygiadau mewn perthynas â’r Asesiad o Effaith Amgylcheddol a gwblhawyd fel rhan o ddatblygiad y Ffordd Gyswllt.

 

Cynigiodd y cynghorydd Eric Jones fod y cais yn cael ei gymeradwyo yn unol ag argymhelliad y Swyddog; eiliwyd y cynnig gan y Cynghorydd Robin Williams.

 

Penderfynwyd cymeradwyo’r cais yn unol ag argymhelliad ac adroddiad y Swyddog gyda’r amodau sydd wedi eu cynnwys yn yr adroddiad.

 

12.4    39C597 - Cais llawn ar gyfer codi annedd ynghyd ag addasu'r fynedfa bresennol i gerbydau ar dir yr hen Chwarel Cambria, Ffordd Cambria, Porthaethwy

 

Cyflwynwyd y cais i’r Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion gan ei fod ar dir ym mherchnogaeth y Cyngor ac mae Aelod Lleol hefyd wedi gofyn i’r cais gael ei benderfynu gan y Pwyllgor.

 

Adroddodd y Rheolwr Datblygu Cynllunio fod safle’r cais o fewn Ardal Gadwraeth Porthaethwy ac yn agos i Adeiladau Rhestredig cyfagos. Derbyniwyd gwrthwynebiadau i’r cynnig a chyfeirir atynt yn adroddiad y Swyddog. Nid yw’r ymgyngoreion perthnasol yn codi unrhyw wrthwynebiadau ac maent yn argymell rhoi caniatâd amodol. Yn ogystal â’r amodau a restrir yn adroddiad y Swyddog, mae Adran Iechyd yr Amgylchedd yn gofyn am gynnwys amod i sicrhau yr ymdrinnir ag unrhyw dir llygredig fel rhan o’r datblygiad. Barn y Swyddog yw bod y cynnig yn ddefnydd cynaliadwy o safle segur o fewn y dref ac felly’r argymhelliad yw caniatáu’r cais.

 

Dywedodd y Cynghorydd Robin Williams,  a oedd yn siarad ar ran y Cynghorydd Alun Mummery, a oedd wedi galw’r cais i mewn ond a oedd yn methu bob yn bresennol yn y cyfarfod, fod pryderon wedi codi ynghylch perchnogaeth y tir pan gafodd y cais ei gyflwyno’n wreiddiol ac am effaith bosib y datblygiad ar fwynderau parcio yn yr ardal. Erbyn hyn mae’r Cynghorydd Mummery yn fodlon bod y materion hynny wedi cael sylw ac yn cefnogi’r cais.

 

Cynigiodd y Cynghorydd Robin Williams fod y cais yn cael ei gymeradwyo yn unol ag argymhelliad y Swyddog; eiliwyd y cynnig gan y Cynghorydd Vaughan Hughes.

 

Penderfynwyd cymeradwyo’r cais yn unol ag argymhelliad ac adroddiad y Swyddog gyda’r amodau sydd wedi eu cynnwys yn yr adroddiad ac yn amodol ar amod ychwanegol yn ei gwneud yn ofynnol i ddelio ag unrhyw dir llygredig fel rhan o’r datblygiad.

Dogfennau ategol: