Eitem Rhaglen

Ceisiadau'n Gwyro

10.1  VAR/2018/4 – Ger y Mynydd, Brynrefail, Dulas

10.2  FPL/2018/21 – Bronallt, Gaerwen

Cofnodion:

10.1  VAR/2018/4 – Cais o dan Adran 73A i ddiwygio amod (10) (Llwybr troed) o benderfyniad apêl rhif APP/L6805/A/15/3132036 (Codi annedd, gosod gwaith trin carthion ynghyd ag adeiladu mynedfa i gerbydau) fel y gellir cyflwyno cynllun ar gyfer darparu llwybr troed i gerddwyr ar ôl i’r cyfnod 4 mis ddod i ben yn Ger y Mynydd, Brynrefail, Dulas

 

Cyflwynwyd y cais i’r Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion gan fod y cais yn groes i bolisïau yn y Cynllun Datblygu Lleol ar y Cyd ond yn un y mae’r Awdurdod Cynllunio Lleol yn dymuno ei gymeradwyo. 

 

Dywedodd y Cynghorydd Margaret M Roberts, yn siarad fel Aelod Lleol fod y cais hwn wedi cael ei gymeradwyo gydag amod bod rhaid i’r llwybr troed fod mewn lle cyn i unrhyw un symud i mewn i’r annedd. Fodd bynnag, ar ôl symud i mewn i’r annedd fe gyflwynodd yr ymgeisydd gais i gael tynnu’r amod a chafodd hwn ei gymeradwyo wedyn trwy broses apêl, ond gosodwyd amodau mwy caeth ar gyfer darparu’r droedffordd i gerddwyr. Holodd y Cynghorydd Roberts a yw’r amodau hyn dal yn ddilys.

 

Dywedodd y Rheolwr Datblygu Cynllunio fod yr egwyddor o annedd yn y lleoliad hwn eisoes wedi’i sefydlu a’i fod wedi cael caniatâd ar apêl ym mis Rhagfyr 2015, a bod y caniatâd dal yn bodoli. Ymhellach i hyn, mae’r annedd wedi cael ei adeiladu eisoes ac mae rhywun yn byw yno. Fel rhan o’r caniatâd gwreiddiol roedd amod yn mynnu bod troedffordd i gerddwyr yn cael ei darparu o’r safle ac wedi hynny ceisiodd yr ymgeisydd gael dileu’r amod, ond gwrthodwyd y cais hwnnw. Fodd bynnag, caniatawyd y cais ar apêl ym mis Mehefin 2018 gydag amodau diwygiedig, ac roedd y rhain wedi’u nodi yn adroddiad y Swyddog Cynllunio. Yn unol ag amodau’r apêl fe ddylai’r ymgeisydd fod wedi cyflwyno cynllun i’r Awdurdod Cynllunio Lleol erbyn 20 Hydref, 2018 ond ni chyflwynwyd unrhyw fanylion o’r fath ac o ganlyniad mae Tor Amod wedi digwydd. Felly, fe ysgrifennodd yr Awdurdod Cynllunio Lleol at yr ymgeisydd ar 22 Tachwedd, 2018 ynglŷn â’r tor-amod yn rhoi gwybod iddynt fod yr Awdurdod Cynllunio Lleol yn ystyried cyflwyno Rhybudd o Dor Amod er mwyn delio â materion. Er hynny, daeth i’r amlwg oherwydd cam-gyfathrebu rhwng yr ymgeisydd â’r Swyddog Priffyrdd, fod cynllun wedi cael ei gytuno’n uniongyrchol gyda’r Adran Briffyrdd mewn gwirionedd ond nid oedd yr Awdurdod Cynllunio Lleol wedi bod yn ymwybodol ohono, ac roedd y gwaith wedi’i drefnu i ddigwydd yn fuan ym mis Rhagfyr. Ymddengys nawr fod rhaid i’r ymgeisydd gyflwyno cais cynllunio o dan Adran 73A i ddiwygio’r amod.

 

Mynegodd y Cynghorydd Vaughan Hughes bryderon am y diffyg cyfathrebu rhwng yr Adran Briffyrdd a’r Awdurdod Cynllunio Lleol ynglŷn â’r cais hwn.

 

Cynigiodd y Cynghorydd K P Hughes fod y cais yn cael ei gymeradwyo ac eiliodd y Cynghorydd Robin Williams y cynnig.

 

PENDERFYNWYD cymeradwyo’r cais yn unol ag argymhelliad y Swyddog gyda’r amodau sydd wedi eu cynnwys yn yr adroddiad ysgrifenedig.

 

10.2  FPL/2018/21 – Cais llawn i godi annedd ynghyd â chreu mynedfa newydd i gerbydau ar dir ger Bronallt, Pentre Berw

 

Cyflwynwyd y cais i’r Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion gan fod y cais yn groes i bolisïau yn y Cynllun Datblygu Lleol ar y Cyd ond yn un y mae’r Awdurdod Cynllunio Lleol yn dymuno ei gymeradwyo. 

 

Adroddodd y Rheolwr Datblygu Cynllunio fod yr egwyddor o annedd eisoes wedi’i sefydlu mewn cais cynllunio hanesyddol 33C231/DA yn 2004. Yn ddiweddarach cyflwynwyd cais am dystysgrif defnydd cyfreithlon i brofi bod gwaith wedi digwydd i weithredu caniatâd cynllunio A/967A a phrofwyd ei fod yn gyfreithlon ar 26 Ionawr, 2016. Nododd y Rheolwr fod cynlluniau diwygiedig am adeilad dormer wedi cael eu cyflwyno sy’n dangos yr annedd a gymeradwywyd o’r blaen wedi ei ail-ddylunio. Mae Cynllun Lliniaru Ecolegol wedi’i dderbyn ac ystyrir bod hwn yn welliant ar y cais gwreiddiol.

 

Cynigiodd y Cynghorydd Robin Williams fod y cais yn cael ei gymeradwyo ac eiliodd y Cynghorydd Eric W Jones y cynnig.

 

PENDERFYNWYD cymeradwyo’r cais yn unol ag argymhelliad y Swyddog gyda’r amodau sydd wedi eu cynnwys yn yr adroddiad ysgrifenedig.

 

 

Dogfennau ategol: