Eitem Rhaglen

Gweddill y Ceisiadau

12.1  41C137A/DA – Afallon, Penmynydd

Cofnodion:

12.1  41C137A/DA – Cais am faterion a gadwyd yn ôl ar gyfer codi annedd, adeiladu mynedfa i gerbydau ynghyd â gosod system trin carthion yn  Afallon, Penmynydd

 

Cyflwynwyd y cais i’r Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion ar gais yr Aelod Lleol.

 

Siaradwr Cyhoeddus

 

Dywedodd Mr Aled Jones (yn cefnogi’r cais) fod caniatâd cynllunio amlinellol wedi’i gymeradwyo yn 2016 ynghyd â’r fynedfa i’r safle. Dywedodd ymhellach fod lleoliad yr annedd wedi cael ei symud i ganol y plot a bod uchder y to wedi’i ostwng hefyd yn unol ag argymhellion y Swyddogion Cynllunio. Dywedodd Mr Jones fod trafodaethau wedi bod yn mynd rhagddynt gyda’r Adain Ddraenio ynglŷn â’r system ddraenio; roedd ar ddeall fod Swyddogion yr Adain Ddraenio wedi ymateb heddiw yn dweud bod y system ddraenio yn dderbyniol. Nododd fod preswylwyr yr eiddo sydd drws nesaf i Afallon wedi mynegi pryderon ynglŷn ag edrych drosodd â’r lefelau sŵn o’r safle ond bydd ffens acwstig yn cael ei chodi i leddfu unrhyw niwed i fwynderau’r eiddo cyfagos.

 

Dywedodd y Cynghorydd Alun Mummery, yn siarad fel Aelod Lleol, ei fod wedi galw’r cais i mewn oherwydd pryderon gan drigolion lleol. Darllenodd e-bost a dderbyniwyd ym mis Medi 2018 gan Swyddogion Cynllunio yn datgan nad oedd y cais yn cydymffurfio â’r cais amlinellol a gymeradwywyd oherwydd ei uchder a’i leoliad ar y safle. Dywedodd y Cynghorydd Mummery fod yr adroddiad ar gyfer y pwyllgor heddiw bellach yn datgan bod uchder a lleoliad yr annedd yn dderbyniol ac mae’r Adain Ddraenio hefyd wedi cadarnhau bod y system ddraenio yn dderbyniol. Holodd a oedd yn rhywbeth arferol i roi caniatâd i geisiadau cynllunio tra bod materion statudol heb gael sylw. Ymatebodd y Rheolwr Datblygu Cynllunio mai diben y cais gerbron y Pwyllgor oedd cyflwyno materion a gadwyd yn ôl a manylion am y cais. Dywedodd yr Aelod Lleol ymhellach fod Cyngor Cymuned Penmynydd wedi mynegi pryderon ynglŷn â’r mynediad i’r safle o’r briffordd ac ystyriwyd y dylai’r Adran Briffyrdd ystyried torri’r gordyfiant o’r gwrychoedd yn ystod misoedd yr haf wrth y gyffordd yn ymyl safle’r cais. Ymatebodd y Rheolwr Datblygu Cynllunio fod y mynediad i’r safle hefyd wedi’i gynnwys yn y cais amlinellol a gymeradwywyd yn 2016.  Nododd fod llythyr gan Gyngor Cymuned Penmynydd yn mynegi pryderon ynglŷn â’r mynediad i safle’r cais wedi’i dderbyn. Dywedodd y Swyddog eu bod wedi ymdrin â’r manylion ynglŷn â’r mynediad i’r safle yn ystod y broses cais amlinellol.

 

Adroddodd y Rheolwr Datblygu Cynllunio mai cais materion a gadwyd yn ôl yw’r cais hwn a’i fod yn cydymffurfio â’r caniatâd cynllunio amlinellol sy’n bodoli ac a gymeradwywyd yn flaenorol ym mis Mai 2016 o dan yr hen Gynllun Lleol Ynys Môn ac o dan ddarpariaethau Polisi 50. Nodwyd fod llythyr pellach o wrthwynebiad wedi’i dderbyn ynglŷn â’r cais. Dywedodd fod lleoliad yr annedd wysg ei ochr o fewn y plot er mwyn lleddfu’r mater edrych drosodd ar eiddo cyfagos. Bydd ffens acwstig yn cael ei chodi gyda’r ffin sydd gyfagos ag Afallon, yr eiddo gerllaw, er mwyn lleddfu pryderon ynghylch sŵn o’r fynedfa newydd arfaethedig, a oedd yn amod ar y caniatâd amlinellol. Dywedodd y Swyddog fod yr Adain Ddraenio wedi cadarnhau bod y system ddraenio yn dderbyniol.

 

Dywedodd y Cynghorydd Robin Williams gan fod y fynedfa o’r safle wrth ymyl troeon peryglus, hoffai wybod a oes gan yr Adran Briffyrdd unrhyw gynlluniau i wella lleiniau gwelededd y briffordd. Ymatebodd y Peiriannydd Rheoli Datblygu (Priffyrdd) fod y fynedfa o’r safle wedi derbyn sylw o fewn y cais cynllunio amlinellol ac nid yw’r awdurdod priffyrdd wedi gwneud unrhyw sylwadau pellach ynglŷn â’r cais oherwydd ystyriwyd na fyddai’r datblygiad yn achosi cynnydd uchel yn y traffig. Fodd bynnag, dywedodd fod gan yr Awdurdod Priffyrdd bwerau i warchod gwelededd ar gyffyrdd. Mynegodd y Cynghorydd Williams ymhellach fod angen torri’r gordyfiant yn rheolaidd yn y gwrychoedd wrth ymyl y gyffordd ger safle’r cais hwn.

 

Cynigiodd y Cynghorydd Bryan Owen fod y cais yn cael ei gymeradwyo ac eiliodd y Cynghorydd K P Hughes y cynnig. 

 

PENDERFYNWYD cymeradwyo’r cais yn unol ag argymhelliad y Swyddog gyda’r amodau sydd wedi eu cynnwys yn yr adroddiad ysgrifenedig.

 

 

Dogfennau ategol: