Eitem Rhaglen

Adroddiad Cynnydd a Chynllun Gweithredu Asesiad Digonolrwydd Gofal Plant

Cyflwyno adroddiad gan y Pennaeth Dysgu.

Cofnodion:

Cyflwynwyd ar gyfer ystyriaeth y Pwyllgor Gwaith, adroddiad y Pennaeth Dysgu yn nodi'r cynnydd a wnaed hyd yn hyn o ran digonolrwydd trefniadau gofal plant yn ardal yr Awdurdod ynghyd â chynllun gweithredu diwygiedig.

 

Dywedodd yr Aelod Portffolio Addysg, Llyfrgelloedd, Ieuenctid a Diwylliant mai dyma'r ail ddiweddariad a'r adroddiad cynnydd o ran digonolrwydd gofal plant yn dilyn yr asesiad llawn cyntaf a gynhaliwyd ym mis Ebrill, 2017; mae'n darparu gwybodaeth ar y modd y mae'r bylchau yn y ddarpariaeth a nodwyd ym mis Ebrill 2017, ac yn cael sylw. Mae'r cynllun gweithredu diwygiedig yn ystyried y ffaith bod y galw am wasanaethau gofal plant a'r farchnad gofal plant yn esblygu.

 

Dywedodd y Rheolwr Uned Cefnogi Teuluoedd fod yr asesiad yn cael ei gynnal bob blwyddyn a bod y sefyllfa bresennol yn sefydlog. Mae niferoedd y gwarchodwyr plant yn gymharol isel ac mae angen sicrhau digonolrwydd i alluogi rhieni yn enwedig menywod, i fynd i weithio neu i  aros yn y gwaith. Mae cynnig gofal plant Llywodraeth Cymru o 30 awr yr wythnos o ofal plant am ddim i rieni sy’n gweithio ac sydd â phlant 3 i 4 oed wedi arbed swm sylweddol i rieni o ran costau gofal plant ac mae hefyd werth tua £ 100k y mis i'r economi leol. Dywedodd y Swyddog, ers i'r adroddiad gael ei ysgrifennu, bod Awdurdod wedi clywed ei fod wedi bod yn llwyddiannus gyda chais cyfalaf i ddatblygu canolfannau gofal plant ar safleoedd ysgolion gyda'r nod o’i gwneud yn haws i rieni ddod o hyd i ofal plant sy'n ffitio o gwmpas y diwrnod gwaith ac oedran amrywiol eu plant. Mae’r fid yn werth £ 2.7m a bydd yn ariannu saith o ganolfannau gofal plant ar draws yr Ynys.  Fel rhan o'r datblygiad, rhoddir sylw i ran ogleddol yr Ynys nad yw wedi cael ei hasesu hyd yma gyda'r nod o gydlynu gweithgarwch â’r broses moderneiddio ysgolion. Er bod amrywiaeth o ddarpariaethau ar gael ar yr Ynys, mae nifer y gwarchodwyr plant yn parhau i fod yr agwedd fwyaf problemus - gall y gwaith fod yn heriol a chydag oriau hir. Mae pob ymdrech yn cael ei wneud i greu diddordeb ac i gefnogi busnesau i sicrhau bod y gweithlu yn hygyrch a, chyda'r grant cyfalaf, i sicrhau bod busnesau'n gynaliadwy.

 

Wrth nodi'r adroddiad, roedd y Pwyllgor Gwaith yn cydnabod pwysigrwydd gofal plant wrth ddod â rhieni i'r gweithlu sydd, o ganlyniad, yn rhoi hwb i'r economi leol. Er bod y Pwyllgor Gwaith yn nodi bod cynnydd cadarnhaol wedi cael ei wneud, roedd yn derbyn fod lle i gryfhau'r trefniadau yn lleol yn enwedig o ran cynyddu nifer y gwarchodwyr plant ar draws y sir, ac y bydd y cynllun gweithredu diwygiedig yn mynd â materion yn eu blaen.

 

Penderfynwyd derbyn yr adroddiad cynnydd ar Ddigonolrwydd Gofal Plant a chymeradwyo’r camau gweithredu yn y cynllun gweithredu diwygiedig.

Dogfennau ategol: