Eitem Rhaglen

Cerdyn Sgorio Corfforaethol – Chwarter 3, 2018/19

Cyflwyno adroddiad gan y Pennaeth Proffesiwn, AD a Thrawsnewid.

 

Cofnodion:

Cyflwynwyd i’r Pwyllgor Gwaith ei ystyriedadroddiad y Pennaeth Proffesiwn (Adnoddau Dynol) a Thrawsnewid Corfforaethol yn ymgorffori’r Cerdyn Sgorio Corfforaethol ar gyfer Chwarter 3, 2018/19.

 

Adroddodd yr Aelod Portffolio ar gyfer Busnes Corfforaethol fod y perfformiad yn erbyn y mwyafrif o Ddangosyddion Perfformiad ar ddiwedd Chwarter 3 ar darged, ac mae’n arbennig o dda o gymharu â’r perfformiad yn Chwarter 3 2017/18. Mae tri Dangosydd Perfformiad wedi’u cofnodi fel rhai sy’n tanberfformio, ac mae dau o’r rheini yn y Gwasanaethau Oedolion – PM20a: canran yr oedolion a oedd wedi cwblhau cyfnod o ail-alluogi, oedd yn derbyn pecyn gofal a chymorth ar lefel is 6 mis yn ddiweddarach, a PAM/025 (PM19): cyfradd y bobl a gedwir yn yr ysbyty tra’n aros am ofal cymdeithasol fesul 1,000 o’r boblogaeth 75+, ac roedd un dangosydd - PAM018 – yn y Gwasanaeth Rheoleiddio a Datblygu Economaidd ac mae’n ymwneud â chanran yr holl geisiadau cynllunio sy’n cael eu penderfynu mewn pryd. Mae’r adroddiad yn amlinellu’r prif resymau am y perfformiad is na’r targed yn y meysydd hyn a’r camau lliniaru sy’n cael eu rhoi ar waith i adfer y sefyllfa ym mhob achos.

 

Ar gyfer presenoldeb yn y gwaith, roedd Chwarter 3 yn dangos sgôr o 2.69 dyddiau o waith a gollwyd fesul pob aelod staff llawn amser, sydd bron union yr un sgôr ag yn Chwarter 3 2017/18. Mae’r perfformiad yng nghyswllt absenoldeb salwch yn y sector ysgolion cynradd yn dangos yn GOCH ar y Cerdyn Sgorio; mae Adnoddau Dynol a’r Gwasanaeth Dysgu yn darparu cefnogaeth wedi’i dargedu ar gyfer y 10 ysgol gynradd sydd â’r lefelau uchaf o absenoldeb salwch. 

O ran Gwasanaeth Cwsmer, mae darparu ymatebion ysgrifenedig ar amser i gwynion yn dal yn broblem yn y Gwasanaethau Plant, er bod y Gwasanaeth wedi rhoi mesurau penodol mewn lle i wella ei berfformiad wrth ymateb i gwynion. Fe wnaeth presenoldeb y Cyngor ar gyfryngau cymdeithasol gynyddu unwaith eto yn Chwarter 3 i 29k o ddilynwyr, fel y gwnaeth nifer y defnyddwyr cofrestredig ar AppMônmae nifer y defnyddwyr wedi cynyddu dros 1,700 ers diwedd Chwarter 2 i 6,607 ar ddiwedd Chwarter 3. Ni ellir darparu unrhyw ddata am gwynion gan gwsmeriaid tu allan i’r Gwasanaethau Cymdeithasol neu ynghylch ceisiadau o dan y Ddeddf Rhyddid Gwybodaeth ar gyfer y chwarter, oherwydd absenoldeb tymor hir y swyddog sy’n casglu’r data. Mae’r her yn parhau i sicrhau bod perfformiad positif y mwyafrif o wasanaethau’r Cyngor yn cael ei gynnal yn Chwarter 4, a bod meysydd o danberfformiad yn derbyn sylw.

Adroddodd y Cynghorydd Dylan Rees, Is-gadeirydd y Pwyllgor Sgriwtini Corfforaethol a’r Cadeirydd yng nghyfarfod y Pwyllgor ar 19 Mawrth, 2019 lle trafodwyd adroddiad Monitro’r Cerdyn Sgorio Corfforaethol ar gyfer Chwarter 3, fod y Pwyllgor wedi nodi bod y perfformiad yn ystod Ch3 yn erbyn dangosyddion perfformiad cenedlaethol yn dda ar y cyfan, gydag ychydig o feysydd sydd angen rhagor o sylwyn y Gwasanaethau Cynllunio, Dysgu ac Oedolion. Nododd y Pwyllgor y lefelau absenoldeb salwch hefyd gyda’r UDA yn argymell y dylid rhoi blaenoriaeth i wella presenoldeb yn y gwaith yn y Gwasanaethau Oedolion, y Gwasanaeth Priffyrdd, Gwastraff ac Eiddo ac o fewn ysgolion cynradd yn y Gwasanaeth Dysgu. Er bod y Pwyllgor yn bryderus am yr amser a gymer y Gwasanaethau Plant i ymateb i gwynion ffurfiol, fe nododd effaith bositif y mesurau lliniaru a roddwyd mewn lle yn ddiweddar. Roedd y Pwyllgor wedi penderfynu nodi’r meysydd y mae’r Uwch Dîm Arweinyddiaeth yn eu rheoli er mwyn sicrhau gwelliannau ynddynt i’r dyfodol fel yr amlinellir yn yr adroddiad, ac argymell y mesurau lliniaru ar gyfer y meysydd hynny sydd wedi’u nodi yn yr adroddiad.

 

Cadarnhaodd yr Aelod Portffolio ar gyfer Addysg, Llyfrgelloedd, Diwylliant a Ieuenctid, er yn derbyn y bu problem gydag absenoldeb salwch mewn ysgolion cynradd, fod cynllun gwella salwch yn cael ei weithredu; ac mewn perthynas â’r perfformiad is na’r targed yn y Gwasanaeth Cynllunio wrth benderfynu ceisiadau cynllunio mewn pryd, dywedodd yr Aelod Portffolio ar gyfer Cynllunio a Gwarchod y Cyhoedd fod yna ffactorau penodol sy’n cyfrif am y gostyngiad hwn yn y perfformiad, fel mae’r adroddiad yn ei ddangos.

 

Eglurodd Pennaeth y Gwasanaethau Plant a Theuluoedd y camau sy’n cael eu cymryd i sicrhau bod y Gwasanaethau Plant yn darparu ymateb ysgrifenedig prydlon i’r holl gwynion a dderbynnir. Mae’r Gwasanaeth wedi addasu ei weithdrefnau ymateb i gwynion ac mae hyn yn dechrau dwyn ffrwyth. Mae ymateb cynt i ddatrys cwynion wedi gostwng nifer y cwynion, ac os nad yw’n bosib ymateb o fewn yr amserlen, mae’r Gwasanaeth yn ceisio darparu eglurhad, er mwyn cael cytundeb yr achwynydd i ymestyn yr amserlen ac i gadw cyswllt gyda’r achwynydd. Mae tri chŵyn a dderbyniwyd yn fwy diweddar oll wedi derbyn ymateb ar amser.

 

Penderfynwyd derbyn adroddiad y Cerdyn Sgorio Corfforaethol ar gyfer Ch3 2018/19, nodi’r meysydd y mae’r Uwch Dîm Arweinyddiaeth yn eu rheoli er mwyn sicrhau gwelliannau i’r dyfodol, a derbyn y mesurau lliniaru mewn perthynas â’r meysydd hynny a amlinellir yn yr adroddiad.

 

Dogfennau ategol: