Eitem Rhaglen

Adroddiad Cynnydd ar y Gwasanaethau Plant a Theuluoedd

Cyflwyno adroddiad gan Bennaeth y Gwasanaethau Plant.

 

Cofnodion:

Cyflwynwyd i’r Pwyllgor Gwaith ei ystyriedadroddiad Pennaeth y Gwasanaethau Plant a Theuluoedd yn nodi’r cynnydd hyd yma yn erbyn y Cynllun Gwella Gwasanaeth.

 

Adroddodd y Cadeirydd a’r Aelod Portffolio ar gyfer Gwasanaethau Cymdeithasol, wrth symud ymlaen, y cytunwyd i gau i lawr y Cynllun Gwella Gwasanaeth (CGG) cyfredol ac i gynhyrchu Cynllun Datblygu Gwasanaeth ar gyfer 2019-22. Bydd hwn yn ymgorffori’r ddau faes ambr nad ydynt wedi’u cwblhau’n llawn o’r CGG ynghyd â’r 14 maes i’w datblygu a nodwyd yn adroddiad ail-arolwg AGC ym mis Rhagfyr 2018. Yn ogystal, bydd y Gwasanaeth hefyd yn cymryd y camau a ddisgrifir yn yr adroddiad mewn perthynas â hybu cyfranogiad plant a phobl ifanc sy’n derbyn gofal; adolygu polisi a sicrwydd ansawdd, parhau i gynnal ymweliadau Laming a chryfhau perthnasau a threfniadau gweithio ar y cyd.

 

Dywedodd Pennaeth y Gwasanaethau Plant a Theuluoedd fod gwaith yn mynd yn ei flaen yn gyflym ar ddatblygu Cartrefi Grŵp Bach a’r pecyn Gofalwyr maeth newydd, dau beth a ddyluniwyd i gynyddu’r dewis o leoliadau. Mae’r pecyn Gofalwyr Maeth sy’n cynnig buddion ehangach i Ofalwyr Maeth yr Awdurdod yn cael ei farchnata ar hyn o bryd, a daw’r newidiadau i rym ym mis Ebrill, 2019.

 

Adroddodd y Cynghorydd Dylan Rees o gyfarfod y Pwyllgor Sgriwtini Corfforaethol ar 19 Mawrth, 2019 lle trafodwyd adroddiad cynnydd y Gwasanaethau Plant a Theuluoedd. Gan nodi y byddai’r Cynllun Gwella Gwasanaeth yn cael ei amnewid am Gynllun Datblygu Gwasanaeth 3 blynedd, roedd y Pwyllgor yn cydnabod y cynnydd sylweddol a wnaed trwy gydol y Cynllun Gwella Gwasanaeth, ac fe nododd hefyd fod angen cynnal momentwm y gwelliant trwy gydol y Cynllun Datblygu Gwasanaeth. Nododd y Pwyllgor ymhellach y datblygiadau gyda’r Cartrefi Grŵp Bach a’r pecyn Gofalwyr Maeth, a chan gofio bod dydd Mawrth 19 o Fawrth yn ddiwrnod Rhyngwladol Gwaith Cymdeithasol, mynegodd Aelodau’r Pwyllgor eu diolch i Weithwyr Cymdeithasol yr Awdurdod am eu hymdrechion a’u hymroddiad mewn amgylchedd sy’n aml yn heriol. Cadarnhaodd y Pwyllgor ei fod yn fodlon gyda’r camau a gymerwyd i fwrw ymlaen â gweithredu’r Cynllun Gwella Gwasanaeth a chyflymder y cynnydd gyda hyn a chyda gweithredu gwelliannau yn y Gwasanaethau Plant, a’i fod hefyd yn fodlon i’r Gwasanaeth symud ymlaen gyda’r Cynllun Datblygu Gwasanaeth newydd.

Nododd y Pwyllgor Gwaith fod cau’r Cynllun Gwella Gwasanaeth yn marcio diwedd cyfnod arwyddocaol i’r Gwasanaethau Plant yn y Cyngor, gan gydnabod hefyd y gwelliannau a gyflawnwyd yn ystod y cyfnod hwn a gwaith staff y Gwasanaeth i wneud hynny’n bosib. Nododd y Pwyllgor Gwaith ymhellach fod y cynnydd a wnaed yn ystod y CGG yn rhoi sail gadarn i fynd â’r Cynllun Datblygu Gwasanaeth yn ei flaen gan felly gynnal y broses wella i’r dyfodol.

 

Penderfynwyd cadarnhau

 

           Bod y Pwyllgor Gwaith yn fodlon â’r camau a gymerwyd i weithredu’r Cynllun Gwella Gwasanaeth a chyflymder y cynnydd, a’i fod hefyd yn fodlon i’r Gwasanaeth symud ymlaen â’r Cynllun Datblygu Gwasanaeth newydd a fydd yn cymryd lle’r Cynllun Gwella Gwasanaeth presennol.

           Bodd y Pwyllgor Gwaith yn fodlon â chyflymder y cynnydd a’r gwelliannau a wnaed hyd yma yn y Gwasanaethau Plant a Theuluoedd.

Dogfennau ategol: