Eitem Rhaglen

Polisi Taliadau Tai Dewisol

Cyflwyno adroddiad gan y Pennaeth Swyddogaeth (Adnoddau)/ Swyddog Adran 151.

 

Cofnodion:

Cyflwynwyd i’w ystyriedadroddiad y Pennaeth Swyddogaeth (Adnoddau) a Swyddog Adran 151 yn ceisio cymeradwyaeth y Pwyllgor Gwaith i Bolisi diwygiedig ar gyfer y Cynllun Taliadau Tai Dewisol Lleol am 2019/20. Rhoddai’r adroddiad wybodaeth am weithrediad y TTD yn ystod 2018/19 a p’un a oes angen unrhyw newidiadau i’r dyfodol ar y sail honno.

 

Adroddodd yr Aelod Portffolio Cyllid fod TTD yn darparucymorth ariannol pellachi hawlwyr gwrdd â’u costau tai, ar ben unrhyw fudd-daliadau lles eraill y maent yn eu derbyn o bosib, os yw’r Awdurdod Lleol yn ystyried bod cymorth ychwanegol o’r fath yn angenrheidiol. Mae’n rhaid i’r holl ddyfarniadau TTD gael eu gwneud o fewn y cyfyngiadau arian cyffredinol fel y pennir gan yr Adran Gwaith a Phensiynau (AGP). Bydd yr AGP yn rhoi swm i’r Awdurdod Lleol bob blwyddyn tuag at weinyddu’r cynllun a gall awdurdodau lleol ychwanegu hyd at 150% at gyfraniad y Llywodraeth; fodd bynnag, byddai’n rhaid i daliadau ychwanegol ddod o gronfeydd y Cyngor ei hun. Yn dilyn y mesurau diwygio lles ym mis Ebrill 2013, fe wnaeth y galw am TTD gynyddu’n aruthrol ond mae i weld yn lleihau erbyn hyn. Roedd grant yr AGP i’r Cyngor yn 2018/19 yn £153,307 ac roedd £142, 432 o hwn wedi’i wario erbyn 1 Mawrth, 2019. Bu tanwariant yn y grant yn 2017/18 a derbyniodd yr Awdurdod gryn sylw negyddol am hyn oherwydd, o dan reolau’r cynllun, mae’n rhaid iddo ddychwelyd unrhyw arian sydd heb ei wario o’r dyraniad i’r AGP. Er mwyn sicrhau’r defnydd mwyaf effeithiol o’r gyllideb TTD gan gynnwys dyrannu’r holl gyllideb yn llawn ac er mwyn ymateb i unrhyw addasiadau yng nghanllawiau’r AGP, mae’r Cyngor yn adolygu a phan fo angen, yn addasu ei bolisi TTD bob blwyddyn.

 

Dywedodd yr Aelod Portffolio Cyllid fod polisi’r Awdurdod wedi cael ei newid y llynedd i ddarparu cymorth efo clirio ôl-ddyledion rhent, lle roedd hynny’n rhwystr i bobl symud i lety mwy addas. Mae profiad yn ystod y flwyddyn wedi dangos bod angen datblygu’r polisi ymhellach yn hyn o beth er mwyn cefnogi pobl i aros yn eu tai, lle tybir bod y denantiaeth yn gynaliadwy, trwy gyfrannu at dalu dyledion rhent lle bo hynny o fudd i’r hawliwr. Dyma’r unig newid y bwriedir ei wneud ar gyfer 2019/20 a manylir ar hyn ym mharagraff 2.10 y polisi.

 

Dywedodd y Pennaeth Swyddogaeth (Adnoddau)/Swyddog Adran 151, yn seiliedig ar y wybodaeth ddiweddaraf, fod oddeutu £150k o grant yr AGP yn 2018/19 DWP wedi’i wario bellach.

 

Penderfynwyd cymeradwyo’r Polisi Lleol diwygiedig ar gyfer y Cynllun Taliadau Tai Dewisol (TTD) am 2019/20 a’r blynyddoedd dilynol fel y nodir yn Atodiad A yr adroddiad, gan nodi y bydd y cynllun a gymeradwyir yn berthnasol am y blynyddoedd dilynol ac y bydd yn dod yn ôl gerbron y Pwyllgor Gwaith dim ond pan fydd angen ei ddiwygio yn y dyfodol.

 

Dogfennau ategol: