Eitem Rhaglen

Cymeradwyo Strategaeth Gomisiynu a Chynllun Gwario Grant y Rhaglen Cefnogi Pobl

Cyflwyno adroddiad gan Bennaeth y Gwasanaethau Tai.

 

Cofnodion:

Cyflwynwyd i’w ystyriedadroddiad Pennaeth y Gwasanaethau Tai yn ceisio cymeradwyaeth y Cyngor ar gyfer Strategaeth Gomisiynu a Chynllun Gwario Grant y Rhaglen Cefnogi Pobl 2019/20.

 

Adroddodd yr Aelod Portffolio ar gyfer Tai a Chefnogi Cymunedau fod y Rhaglen Cefnogi Pobl yn fenter fframwaith polisi a chyllid gan Lywodraeth Cymru sy’n darparu cymorth yn gysylltiedig â thai i amrywiaeth o grwpiau o bobl sydd yr un mor fregus â’i gilydd. Nid yw’r gwasanaethau yn cynnwys ariannu costau llety na chostau gofal nac iechyd. Yn dilyn penderfyniad Llywodraeth Cymru i gyfuno Grant y Rhaglen Cefnogi Pobl, y Grant Atal Digartrefedd a’r Grant (Gorfodaeth) Rhentu Doeth Cymru, bydd pob un o’r tri grant yn dod o dan yr enw grant Cymorth yn Gysylltiedig â Thai o fis Ebrill, 2019 ymlaen. Mae Llywodraeth Cymru hefyd wedi cyfuno 7 o grantiau unigol eraill o dan yr enw Rhaglen Grant Plant a Chymunedau, ac o 1 Ebrill, 2019 bydd y rhaglen honno’n cyfuno’r grantiau unigol sydd wedi eu rhestru ym mharagraff 1.4 yr adroddiad.

 

Pwysleisiodd yr Aelod Portffolio pa mor bwysig ydyw bod y grant yma’n parhau ar yr un lefel, neu ar lefel uwch hyd yn oed, er mwyn cynnal y gefnogaeth i rai o unigolion a theuluoedd mwyaf bregus yr Ynys.

 

Dywedodd y Prif Swyddog Datblygu (Tai) fod yr hinsawdd bresennol yn heriol yn ariannol, ac mae ansicrwydd hefyd ynglŷn â’r fformiwla ar gyfer ailddosbarthu cyllid Cefnogi Pobl. Pan gafodd y fformwla ei hadolygu yn 2012/13 a 2013/14 gwelwyd y cyllid ar gyfer awdurdodau Gogledd Cymru yn lleihau 23% o ganlyniad dros y 6 blynedd dilynol. Mae Llywodraeth Cymru yn ystyried addasu’r fformiwla eto ac mae’n rhaid i Ynys Môn fod yn barod am golli cyllid o bosib. Ar gyfer Ynys Môn, mae’r grant yn hanfodol i raglen ataliol y Cyngor sy’n caniatáu iddo ddarparu ar gyfer anghenion 650 o unigolion ar yr Ynys bob wythnos. Byddai unrhyw ostyngiad pellach yn yr arian grant yn cael effaith ddifrifol, gan efallai beryglu dyfodol rhai o’r cynlluniau yn y Rhaglen Cefnogi Pobl.

 

Dywedodd y Pennaeth Swyddogaeth (Adnoddau)/Swyddog Adran 151 fod swyddogion o Lywodraeth Cymru wedi annerch cyfarfod diweddar o Drysoryddion Llywodraeth Leol yng Nghymru ar newidiadau yn y modd y caiff y grant ei ddosbarth trwy Gymru. Mae is-grŵp o Drysoryddion Llywodraeth Leol yng Nghymru yn cael ei sefydlu i edrych ar y mater gyda Llywodraeth Cymru er mwyn canfod ffordd o warchod awdurdodau a fydd yn cael eu heffeithio fwyaf gan y newidiadau yn y fformwla gyllido. Gan fod y rhain yn fwy tebygol o fod yng ngogledd Cymru, bydd un Trysorydd o chwech awdurdod Gogledd Cymru yn aelod o’r is-grŵp.

 

Roedd y Pwyllgor Gwaith yn gytûn bod gwasanaethau a ariennir gan Cefnogi Pobl yn eithriadol o bwysig wrth helpu i ddarparu cymorth i amrywiaeth o grwpiau o bobl fregus dros ystod eang o raglenni, lle fel arall byddai’n rhaid i’r Cyngor ddiwallu eu anghenion o’i gyllideb graidd ei hun. Nododd y Pwyllgor Gwaith y gallai unrhyw ostyngiad pellach yn y cyllid o ganlyniad i newidiadau i’r fformiwla gyllido, gael effaith andwyol ar y ddarpariaeth, ac yn ddelfrydol bod angen sefydlogrwydd ar ffurf sicrwydd cyllid dros y tymor hir.

 

Penderfynwyd cymeradwyo’r canlynol

 

           Argymhellion y Cynllun Comisiynu Cefnogi Pobl 2019-20.

           Y dyraniad cyllid ar gyfer pob maes Gwasanaeth fel yr amlinellir ar dudalen 13 y Cynllun Comisiynu Cefnogi Pobl.

Dogfennau ategol: