Eitem Rhaglen

Cais am ganiatâd arbennig

Ystyried cais am Ganiatâd Arbennig.

Cofnodion:

Cyflwynwyd cais ar y cyd am ganiatâd arbennig gan y Cynghorwyr Richard Dew, R. Meirion Jones, Alun Mummery, R G Parry OBE FRAgS a Robin W Williams (Aelodau’r Pwyllgor Gwaith), yn gofyn i’r Pwyllgor Safonau ystyried rhoi caniatâd arbennig er mwyn goresgyn diddordebau sy’n rhagfarnu ym mhrosiect y Cyngor Sir ar gyfer moderneiddio’r ddarpariaeth addysg ôl-16 yn y Sir.

 

Roedd y Panel Caniatâd Arbennig, drwy’r Cadeirydd, eisoes wedi cytuno i ystyried cais ar y cyd ar ffurf ymarfer papur yn unig.

 

Adroddodd y Swyddog Monitro fod Cyngor Sir Ynys Môn, fel rhan o’i Strategaeth Moderneiddio Ysgolion, yn ymgynghori ynghylch dyfodol addysg ôl-16. Ar 28 Ionawr 2019 cynhaliodd y Pwyllgor Safonau Wrandawiad i ystyried cais am ganiatâd arbennig gan y Cynghorydd Llinos M Huws. Roedd un o’r rhesymau dros y cais hwnnw’n ymwneud â’r prosiect moderneiddio ysgolion ar gyfer addysg ôl-16. Yn y Gwrandawiad hwnnw, esboniodd Panel y Pwyllgor Safonau ei fod o’r farn y dylai aelodau eraill o’r Pwyllgor Gwaith, sydd yn rhieni ac yn neiniau a theidiau i blant/pobl ifanc ar Ynys Môn, a all hefyd gael eu heffeithio gan benderfyniadau ynghylch addysg ôl-16, wneud cais am ganiatâd arbennig hefyd.

 

Mae’r broses ymgynghori statudol ar addysg ôl-16 yn debygol o gychwyn yn ystod y misoedd nesaf. Bydd rhaid i’r Pwyllgor Gwaith gymeradwyo’r ymgynghoriad ac efallai y bydd gofyn i’r Pwyllgor Gwaith wneud nifer o benderfyniadau yn ystod yr ymgynghoriad ac wedi iddo ddod i ben.

 

Ymhellach, adroddwyd fod y Cynghorwyr R Meirion Jones a Robin W Williams yn Llywodraethwyr yn Ysgol David Hughes, Porthaethwy. Penodwyd y ddau Aelod yn rhinwedd eu rôl fel aelodau etholedig o’r Cyngor Sir. Mae eu penodiad fel Llywodraethwyr yn golygu fod ganddynt ddiddordeb personol yn unol â’r Côd Ymddygiad (Paragraff 10(2)(a)(viii)). Fodd bynnag, nid oes angen ystyried y prawf ym mharagraff 12(1) y Côd Ymddygiad er mwyn penderfynu a yw’r diddordeb personol hefyd yn ddiddordeb sy’n rhagfarnu oherwydd bod eithriad awtomatig ym mharagraff 12(2)(a)(iii) y Cod sy’n golygu nad oes ganddynt ddiddordeb sy'n rhagfarnu.

 

Cyflwynwyd y cais ar y cyd yn bennaf ar y sail bod, ym marn y Pwyllgor Gwaith, dros hanner aelodau’r Pwyllgor Gwaith (mae 9 aelod o’r Pwyllgor Gwaith ac mae 5 wedi eu henwi yn y cais atodol) efo diddordeb personol a rhagfarnol.

 

Nododd y Cadeirydd, at ddibenion y cais hwn, y bydd y Panel felly yn ystyried cysylltiadau teuluol yr Ymgeiswyr mewn perthynas â’r Prosiect Moderneiddio Ysgolion ôl-16 yn unig.

 

Yn dilyn hynny, cynhaliodd y Panel drafodaeth breifat ac yn dilyn y drafodaeth, cyhoeddodd y Cadeirydd fod y Panel Caniatâd Arbennig wedi

 

PENDERFYNU:-

 

  rhoi caniatâd arbennig ar y cyd i’r Cynghorwyr Richard A Dew, R Meirion Jones, Alun W Mummery, Bob Parry OBE FRAgS a Robin W Williams hyd ddiwedd yr holl faterion mewn perthynas â’r Prosiect Moderneiddio Ysgolion ôl-16 neu am dymor y Cyngor Sir hwn (Mai 2022), pa un bynnag yw’r hwyaf;

  bod yr Aelodau yn datgan eu diddordeb sy’n rhagfarnu, a hefyd y ffaith eu bod wedi derbyn caniatâd arbennig gan Banel y Pwyllgor Safonau, ym mhob cyfarfod perthnasol pan fydd y Prosiect Moderneiddio Ysgolion ôl-16 yn cael ei drafod a/neu pan fydd pleidlais yn cael ei chynnal ar y mater hwnnw.

Dogfennau ategol: