Eitem Rhaglen

Ceisiadau'n Codi

7.1       FPL/2019/253 – Penfor, Porth Swtan

Cofnodion:

7.1  FPL/2019/253 - Cais llawn ar gyfer trosi adeiladau allanol i ddwy uned gwyliau sydd yn cynnwys addasu ag ehangu ynghyd â gosod paced trin carthffosiaeth yn Penfor, Porth Swtan

 

Cyflwynwyd y cais i’r Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion ar gais Aelod Lleol. Yn ei gyfarfod ar 5 Chwefror 2020, penderfynodd y Pwyllgor ymweld â safle’r cais cyn penderfynu ar y cais. Ymwelwyd â’r safle ar 19 Chwefror 2020.

 

Siaradwr Cyhoeddus

 

Dywedodd Mr Wharmby (ymgeisydd) bod y felin a’r granar ar y safle mewn cyflwr gwael a heb fuddsoddiad mae’n debygol y bydd yr adeiladau’n dymchwel. Bydd trosi’r adeiladau allanol a’r felin yn unedau gwyliau hunan wasanaeth yn diogelu adeiladau y mae perygl o’u colli oni bai bod incwm yn cael ei gynhyrchu i’w trosi. Ychwanegodd bod pryderon ynghylch goredrych eiddo cyfagos a chyflwynwyd cynlluniau diwygiedig i liniaru pryderon lleol. Cyfeiriodd Mr Wharmby at bryderon mewn perthynas ag effaith cynnydd mewn traffig yn ystod cyfnod adeiladu a chyfnod gweithredol yr unedau gwyliau ond nododd ei fod o’r farn na fyddai’r traffig ychwanegol yn sylweddol.

 

Gofynnodd y Cynghorydd John Griffith beth oedd pwrpas trosi’r adeiladau allan yn Penfor, Porth Swtan ac a fyddai’r ymgeisydd yn rhoi sicrwydd na fyddai’n byw yn yr eiddo. Dywedodd Mr Wharmby bod polisïau cynllunio’n gwahardd defnyddio’r adeiladau fel eiddo preswyl a bod rhaid iddynt fod yn llety gwyliau. Ychwanegodd y Cynghorydd Griffith bod y ffordd un trac i’r safle yn gul a bod gwelededd yn y gyffordd gyfagos yn wael; gofynnodd a yw’r ymgeisydd yn bwriadu gwella’r ffordd a’r fynedfa yn sgil cynnydd yn y defnydd o ganlyniad i’r datblygiad. Dywedodd Mr Wharmby bod Astudiaeth Traffig wedi dangos mai un ddamwain yn unig sydd wedi digwydd o fewn radiws o ddeng milltir i’r safle yn ystod yr 20 mlynedd diwethaf. Ychwanegodd nad ef yw perchennog y cloddiau ger y gyffordd felly ni fyddai modd iddo eu tocio er mwyn gwella llain welededd y gyffordd.

 

Dywedodd y Rheolwr Gorfodaeth Cynllunio bod Caniatâd Adeilad Rhestredig wedi cael ei roi’n barod ar gyfer yr adeilad ar y safle ac ni dderbyniwyd yr un gwrthwynebiad gan yr ymgyngoreion statudol mewn perthynas â’r cais arfaethedig. Yr argymhelliad yw cymeradwyo’r cais gyda’r amodau a gynigiwyd gan yr Awdurdod Cynllunio; bod lle parcio’n cael ei ddarparu ar y safle a bod cynllun rheoli traffig adeiladu’n cael ei gyflwyno a’i gymeradwyo cyn cychwyn gwaith ar y datblygiad.

 

Dywedodd y Cynghorydd K P Hughes ei fod yn fodlon bod yr ymgeisydd wedi rhoi sylw i oredrych eiddo cyfagos. Cyfeiriodd at bryderon lleol ynghylch y lôn ddi-ddosbarth at y safle arfaethedig - mae’n llwybr cyhoeddus, nid oes llefydd pasio arni ac mae’n rhy gul i’r lori sbwriel ei defnyddio. Gofynnodd y Cynghorydd Hughes a yw llain welededd y gyffordd T yn ddigonol. Dywedodd y Peiriannydd Rheoli Datblygu (Priffyrdd), yn dilyn cyflwyno Asesiad Trafnidiaeth, bod yr Awdurdod Priffyrdd yn fodlon na fyddai’r datblygiad yn cael fawr o effaith ar y rhwydwaith ffyrdd cyfagos oherwydd cyflymder isel cerbydau ger y gyffordd ac ni chofnodwyd unrhyw ddamweiniau. Ychwanegodd y gofynnwyd am Gynllun Rheoli Trafnidiaeth Adeiladu fel rhan o’r datblygiad arfaethedig.

 

Cynigiodd y Cynghorydd Robin Williams bod y cais yn cael ei gymeradwyo ac eiliodd y Cynghorydd Vaughan Hughes y cynnig.

 

PENDERFYNWYD cymeradwyo’r cais yn unol ag argymhelliad y Swyddog, ynghyd ag amodau ychwanegol mewn perthynas â pharcio ceir ar y safle a bod cynllun rheoli traffig adeiladu yn cael ei gyflwyno a’i gymeradwyo cyn i waith ddechrau ar y datblygiad.

 

 

Dogfennau ategol: