Eitem Rhaglen

Gweddill y Ceisiadau

12.1    HHP/2019/301 – Tan y Fron, Pentraeth

 

12.2    FPL/2019/341 – Safle Hen Ysgol Gynradd Llaingoch, Caergybi

Cofnodion:

12.1  HHP/2019/301 - Cais ôl-weithredol ar gyfer addasu ac ehangu yn cynnwys ardal teras, pwll nofio, ystafell gemau ynghyd â chodi sied ddomestig yn Tan y Fron, Pentraeth

 

Cyflwynwyd y cais i’r Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion ar gais Aelod Lleol.

 

Dywedodd y Cynghorydd Margaret M Roberts, Aelod Lleol, nad oedd yn dymuno gwrthwynebu argymhelliad y Swyddog o ganiatáu’r cais. Nododd bod Clerc Cyngor Cymuned Pentraeth wedi ysgrifennu at Lywodraeth Cymru yn mynegi dicter ynghylch y modd y bu i’r ymgeisydd anwybyddu rhybudd gan Swyddogion Cynllunio i atal gwaith ar y safle nes byddai’r cais cynllunio wedi cael ei gyflwyno i’r Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion. Dywedodd bod ceisiadau ôl-weithredol, yn ei barn hi ac ym marn Cyngor Cymuned Pentraeth, yn tanseilio’r broses gynllunio a’i bod yn annheg i’r mwyafrif o bobl sy’n parchu’r broses. Gofynnodd y Cynghorydd Roberts i’r Pwyllgor roi pwysau ar Lywodraeth Cymru i wahardd ceisiadau ôl-weithredol gan eu bod yn tanseilio’r Awdurdod Cynllunio a’r Pwyllgor Cynllunio.

 

Dywedodd y Rheolwr Gorfodaeth Cynllunio bod elfen o’r cais yn ôl-weithredol, fodd bynnag, sefydlwyd yr egwyddor o ddatblygu’r safle eisoes dan y caniatâd cynllunio blaenorol am ganiatâd i godi annedd newydd. Cynhaliwyd trafodaethau gyda’r ymgeisydd, y Swyddog Achos Cynllunio a’r Swyddog Tirwedd i gytuno ar ddyluniad a maint derbyniol ar gyfer yr annedd yn Tan y Fron, Pentraeth a gyflwynwyd i’r Pwyllgor hwn. Mae’r Awdurdod Cynllunio o’r farn bod y newidiadau a wnaed i’r cynlluniau yn dderbyniol.

 

Cynigiodd y Cynghorydd K P Hughes bod y cais yn cael ei gymeradwyo ac eiliodd y Cynghorydd Bryan Owen y cynnig.

 

PENDERFYNWYD cymeradwyo’r cais yn unol ag argymhelliad y Swyddog gyda’r amodau sydd wedi eu cynnwys yn yr adroddiad ysgrifenedig.

 

12.2  FPL/2019/341 - Cais llawn ar gyfer codi 26 annedd (3 fforddiadwy), addasu mynedfa bresennol i gerbydau ynghyd â chreu gwaith cysylltiedig yn Ysgol Gynradd Llaingoch, South Stack Road, Caergybi

 

Cyflwynwyd y cais i’r Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion gan fod yn cael ei wneud ar dir ym mherchnogaeth y Cyngor.

 

Siaradwr Cyhoeddus

 

Dywedodd cynrychiolydd o Cadnant Planning (asiant yr ymgeisydd) bod y datblygiad arfaethedig ar gyfer codi 26 annedd gydag un, dwy a phedair ystafell wely sydd yn cydymffurfio â’r angen am dai cymdeithasol yn yr ardal. Mae’r datblygiad arfaethedig hefyd yn cydymffurfio â Pholisi TAI1 y Cynllun Datblygu Lleol ar y Cyd (CDLlC). Dywedodd, petai’r datblygiad arfaethedig yn cael ei gymeradwyo, y rhagwelir y byddai’r datblygiad wedi’i gwblhau erbyn Mai 2021 ac y bydd yr unedau’n cael eu trosglwyddo i’r awdurdod lleol ar gyfer cynllun tai cymdeithasol. Defnyddir arian grant tai fforddiadwy Llywodraeth Cymru i adeiladu’r unedau tai fforddiadwy ac mae’n rhaid cael caniatâd cynllunio i ganiatáu i’r anheddau barhau i fod yn dai cymdeithasol. Bydd y safle’n cael ei dirlunio a darperir man agored cymunedol mawr. Ychwanegodd bod materion wedi cael eu codi yn ystod y cyfnod ymgynghori ac ar y sail hynny bod Swyddogion Cynllunio yn gofyn am bwerau dirprwyedig i ddelio gyda’r wybodaeth ychwanegol a gyflwynwyd yn ddiweddar gan y datblygwr, gan gynnwys cynllun tirlunio manwl, adroddiad ecoleg a’r pellter rhwng yr anheddau arfaethedig ac eiddo cyfagos. Ystyrir y byddai’r datblygiad arfaethedig yn gydnaws â chymeriad yr ardal leol. Gwneir cyfraniad ariannol i’r Cyngor Tref tuag at gae chwaraeon.

 

Dywedodd y Cynghorydd Glyn Haynes na fu gwrthwynebiad yn lleol i’r datblygiad arfaethedig ond ei fod yn cwestiynu cyfanswm y cyfraniad ariannol tuag at gaeau chwaraeon. Dywedodd y cynrychiolydd o Cadnant planning y bydd cyfraniad o £8,050 yn cael ei roi tuag at gaeau chwaraeon yng Nghaergybi oherwydd bod diffyg cyfleusterau o’r fath yn yr ardal.

 

Cyflwynodd y Rheolwr Gorfodaeth Cynllunio fanylion y cais gan ddiweddaru’r Pwyllgor bod yr Awdurdod Priffyrdd yn ceisio caniatâd gydag amodau ac y gofynnir am gyfraniad ariannol tuag at Orchymyn Rheoli Traffig. Bydd angen cyfraniad ariannol tuag at ddarparu tai fforddiadwy cyn rhyddhau’r caniatâd cynllunio. Yn ogystal, bydd Swyddogion yn cael pwerau dirprwyedig i ddiwygio amodau cynllunio gan roi ystyriaeth i’r cynlluniau diwygiedig/gwybodaeth ychwanegol a sylwadau’r ymgyngoreion statudol ar y manylion hyn.

 

Cynigiodd y Cynghorydd K P Hughes bod y cais yn cael ei gymeradwyo ac eiliwyd y cynnig gan y Cynghorydd Robin Williams.

 

PENDERFYNWYD cymeradwyo’r cais yn unol ag argymhelliad y Swyddog gyda’r amodau yn yr adroddiad ysgrifenedig ynghyd â:-

 

·      cyfraniad ariannol tuag at Orchymyn Rheoli Traffig a gwelliannau i’r briffordd cyn rhydau’r caniatâd cynllunio;

·      cyfraniad ariannol tuag at ddarpariaeth tai fforddiadwy cyn rhyddhau’r caniatâd cynllunio;

·      bod Swyddogion yn derbyn pwerau dirprwyedig i ddiwygio amodau cynllunio gan gymryd i ystyriaeth y cynlluniau diwygiedig/gwybodaeth ychwanegol a sylwadau’r ymgyngoreion statudol ynghylch y manylion hyn.

 

Dogfennau ategol: