Eitem Rhaglen

Datblygu a Hyfforddiant Aelodau

Adroddiad gan y Rheolwr Datblygu Adnoddau Dynol ar hyfforddiant Aelodau.

Cofnodion:

Cyflwynwydadroddiad cynnydd gan y Rheolwr Datblygu Adnoddau Dynol ar y cyfleoedd datblygu a gynigiwyd i Aelodau etholedig ers cyflwyno’r adroddiad blaenorol i’r Pwyllgor hwn ar 12 Medi 2018.  

 

Adroddodd y Rheolwr Datblygu AD fod 10 o sesiynau datblygu ffurfiol ychwanegol wedi cael/yn cael eu cynnig i Aelodau rhwng 12 Medi 2019 a Mawrth 2019, yn ymwneud ag ystod o feysydd pwnc, rhai ohonynt yn fandadol. Nodwyd fod nifer dda wedi mynychu’r Sesiynau Sgriwtini ar Ddatblygu Aelodau.

 

Adroddodd y Rheolwr Datblygu Adnoddau Dynol ar y canlynol:-

 

  Yn ystod 2019/20 bwriedir datblygu a marchnata E-ddysgu ymhellach er mwyn annog yr Aelodau i gynyddu eu defnydd o’r modiwlau. Nodwyd y gellid newid y llwyfan mae’r Cyngor yn ei ddefnyddio ar hyn o bryd am fersiwn mwy llyfn, sy’n haws cael mynediad ati. Yn y cyfamser mae AD yn gwneud gwaith gyda CLlLC a’r Bwrdd Iechyd i wella’r system gyfredol. 

 Cafodd holiadur sgiliau TGCh ei gylchredeg i’r holl Aelodau ym mis Ionawr i sefydlu anghenion hyfforddiant. Mae’r adborth wedi’i ddwyn ynghyd a bydd sesiynau hyfforddiant pwrpasol yn cael eu trefnu i gwrdd ag anghenion hyfforddiant unigol yr Aelodau. Mynegwyd pryder nad oedd wedi bod yn bosib cael mynediad i wybodaeth benodol trwy I-pads, yn arbennig y modiwlau E-ddysgu. Nodwyd fod staff AD yn gweithio’n agos gyda’r tîm TGCh ar ddarpariaeth amgen i wneud y broses yn haws i ddefnyddwyr.

  Mae rhai Aelodau wedi mynegi yr hoffent fynd ar hyfforddiant cyfryngau cymdeithasol pellach ar Twitter a Facebook.

  Amlygwyd yr angen i Aelodau gofnodi eu hyfforddiant ar-lein yn syth ar ôl mynychu unrhyw sesiynau hyfforddiant. Cafwyd cais i gael ffordd i’r Aelodau allu cofnodi hyfforddiant yn electronig.

  Mewn perthynas ag Adolygiadau Datblygiad Personol (ADP), roedd rhywfaint o adborth wedi’i dderbyn gan yr Arweinyddion Grwpiau. Bydd y Pennaeth Gwasanaethau Democrataidd yn monitro cynnydd trwy gyfarfodydd yr Arweinyddion Grwpiau. 

  Mae gwaith yn mynd rhagddo ar y Rhaglen Ddatblygu ar gyfer 2019/20.  Bydd adborth a gafwyd ar anghenion datblygu yr Aelodau o ADP, arweiniad gan yr Uwch Dîm Arweinyddiaeth ac Arweinyddion Grwpiau yn cael eu cynnwys yn y Rhaglen. Bydd y Cynllun yn cael ei gyflwyno i’w ystyried gan y Pwyllgor Gwasanaethau Democrataidd ym mis Mawrth 2019, ac wedi hynny gan y Cyngor llawn yn ei gyfarfod ym mis Mai 2019.

 

Mynegwyd pryderon ynglŷn â’r diffyg presenoldeb gan Aelodau mewn rhai sesiynau hyfforddiant, a’r angen i roi sylw i’r mater hwn. Adroddodd y Pennaeth Gwasanaethau Democrataidd fod yr Arweinyddion Grwpiau yn cael eu hatgoffa’n rheolaidd am y cyfleoedd hyfforddiant sydd ar gael i’r Aelodau.

 

Canolbwyntiodd y drafodaeth ar p’un a fyddai’r Aelodau efallai’n wynebu canlyniadau am beidio mynychu hyfforddiant mandadol. Ymatebodd y Swyddog Monitro nad oes unrhyw gosbau clir am beidio mynychu, ond eglurodd y gallai’r Pwyllgor Safonau gyhoeddi data cydymffurfiaeth o’r fath mewn adroddiad i’r Pwyllgor Safonau, petaent yn dymuno gwneud hynny. Nid oedd y Pwyllgor yn ffafrio’r opsiwn hwn a theimlai fod gan Arweinyddion Grŵp gyfrifoldeb i sicrhau bod Aelodau’n mynychu’r hyfforddiant y mae arnynt ei angen i gyflawni eu rôl, yn enwedig hyfforddiant mandadol.

 

Soniodd y Pennaeth Gwasanaethau Democrataidd am yr angen i sicrhau bod y pedwar aelod cyfetholedig ar y Pwyllgor Sgriwtini Corfforaethol a’r ddau aelod cyfetholedig ar y Pwyllgor Archwilio a Llywodraethu yn cael y cyfle i fynychu sesiynau hyfforddiant. Nodwyd fod sesiwn hyfforddiant wedi’i threfnu gan y Swyddogion Sgriwtini ar gyfer yr aelodau cyfetholedig Sgriwtini ar 9 Ebrill 2019.

 

Canolbwyntiodd y drafodaeth ar arfer orau i sicrhau bod aelodau annibynnol yn derbyn gwybodaeth am sesiynau hyfforddiant. Awgrymwyd, a derbyniwyd gan y Pwyllgor, yn ogystal â’r adroddiad blynyddol i’r Cyngor, y dylid hefyd gynhyrchu amserlen chwarterol o sesiynau hyfforddiant ar gyfer yr holl aelodau etholedig a’i hanfon ymlaen at y Swyddogion Arweiniol ar gyfer Safonau, Sgriwtini ac Archwilio a Llywodraethu fel y gallant adnabod unrhyw hyfforddiant corfforaethol a fyddai’n berthnasol i’w haelodau cyfetholedig, ac yna gwneud trefniadau iddynt fynychu’r hyfforddiant hwnnw. Nid ystyriwyd ei bod yn ddoeth anfon y rhestr gyfan o gyfleoedd hyfforddiant i’r holl aelodau cyfetholedig oherwydd efallai na fyddai’n glir iddynt pa sesiynau hyfforddiant fyddai’n briodol a pha rai na fyddai’n briodol.

 

PENDERFYNWYD:-

 

  Nodi’r cynnydd a wnaed o ran Datblygu Aelodau.

  Y Rheolwr Datblygu AD i anfon ffurflenni electronig ar gyfer gwerthuso hyfforddiant ymlaen i’r Aelodau pan fydd yn cylchredeg gwybodaeth am sesiynau hyfforddiant. 

  Y Cadeirydd i godi’r mater o diffyg presenoldeb gan Aelodau mewn sesiynau hyfforddiant yng nghyfarfod nesaf yr Arweinyddion Grwpiau.

  Y Cadeirydd i wneud cais fod yr Arweinyddion Grwpiau yn trafod gydag Aelodau unigol eu rhesymau am beidio mynychu sesiynau hyfforddiant, yn enwedig hyfforddiant mandadol.

  Cylchredeg rhestr chwarterol o gyrsiau hyfforddiant i’r Swyddogion Arweiniol ar gyfer y Pwyllgor Sgriwtini Corfforaethol (y Rheolwr Sgriwtini), y Pwyllgor Archwilio a Llywodraethu (y Pennaeth Archwilio a Risg) a’r Pwyllgor Safonau (y Pennaeth Swyddogaeth (Busnes y Cyngor)/Swyddog Monitro) fel y gallant ei hanfon ymlaen, fel bo’n briodol, i bob aelod cyfetholedig.

 

Gweithredu: Gweler y Penderfyniad uchod

Dogfennau ategol: