Eitem Rhaglen

Materion Aelodau

Adroddiad gan Bennaeth Gwasanaethau Democrataidd yn darparu diweddariad ar nifer o faterion yn ymwneud ag Aelodau.

Cofnodion:

Cyflwynwyddiweddariad gan y Pennaeth Gwasanaethau Democrataidd ar y materion canlynol sy’n ymwneud â’r Aelodau:-

 

  Gan gyfeirio at Adroddiadau Blynyddol yr Aelodau ar gyfer 2017/18, nodwyd bod 29 o Aelodau wedi cwblhau a chyhoeddi eu hadroddiadau ar-lein bellach. 

  Cafodd y mater o Aelod oedd heb gwblhau ei Gofrestr o Ddiddordebau ei drafod yng nghyfarfod diwethaf y Pwyllgor Safonau. Roedd y Cadeirydd wedi ysgrifennu at yr Aelod ynglŷn â’r mater, ac rydym bellach wedi derbyn cadarnhad fod yr Aelod dan sylw wedi ymateb i gais y Cadeirydd.   

  Disgwylir Mesur Llywodraeth Leol newydd ar ddiwedd 2019. Nodwyd nad yw’n glir ar hyn o bryd beth fydd y newidiadau o ran disgwyliadau a gofynion ar aelodau etholedig mewn perthynas â pherfformiad/cyhoeddi gwybodaeth; na sut bydd y rhain yn cael eu rheoli.

  Trefnwyd y bydd yr Adroddiadau Blynyddol yn cael eu cyhoeddi ar wefan y Cyngor erbyn 30 Mehefin 2019.

  Nodwyd nad oedd y bwriad i ailgyflwyno cais y Cyngor am y Siarter Cefnogi a Datblygu Aelodau gan Gymdeithas Llywodraeth Leol Cymru wedi digwydd yn ystod Chwarter 3, 2018/19; yn groes i’r ymrwymiad blaenorol, oherwydd penderfynwyd fod angen i’r Strategaeth Datblygu Aelodau am y 3 blynedd nesaf fod mewn lle cyn cyflwyno’r cais. Bydd y Strategaeth Datblygu Aelodau am y 3 blynedd nesaf yn cael ei chyflwyno i’r Pwyllgor Gwasanaethau Democrataidd ym mis Mawrth 2019 i’w chymeradwyo, ac wedyn caiff ei chyflwyno i CLlLC, gyda’r cais am statws siarter, erbyn diwedd mis Mawrth 2019.

  Gan gyfeirio at y gwiriadau GDG, mae’r holl Aelodau wedi cwblhau’r broses gofrestru. Bydd y gwiriadau yn cael eu hadolygu a’u diweddaru yn unol â gofynion y polisi.

  Mae Bywgraffiadau’r Aelodau nawr ar gael ar wefan y Cyngor ac maent yn cynnwys presenoldeb mewn cyfarfodydd Pwyllgor a chofnodion hyfforddiant. Fodd bynnag, tra bod y wybodaeth am bresenoldeb yn cael ei diweddaru’r awtomatig, bydd angen i’r Aelodau ddiweddaru eu gwybodaeth eu hunain yn rheolaidd ar hyfforddiant. 

  Mewn perthynas ag aelodaeth yr Aelodau ar gyrff allanol, mae dolenni bellach ar gael ar wefan y Cyngor. Nodwyd y bydd angen adolygu’r atodlen o gyrff allanol mewn ymgynghoriad â’r Arweinyddion Grwpiau a’i hadrodd i’r Cyngor ym mis Mai 2019. Bydd y Pwyllgor Sgriwtini Partneriaeth ac Adfywio yn monitro gwaith y prif bartneriaethau ar Raglen Waith y Pwyllgor.

  Nodwyd nad oes cyfleuster ar y system Modern.Gov i aelodau cyfetholedig allu cyhoeddi eu datganiadau o ddiddordeb ar-lein.

 

PENDERFYNWYD:-

 

  Unwaith y daw disgwyliadau’r Mesur Llywodraeth Leol newydd yn glir, y Pennaeth Gwasanaethau Democrataidd i gynnwys y disgwyliadau hynny yn ei adroddiad nesaf i’r Pwyllgor Safonau, a sut y byddant yn cael eu mesur, eu monitro, eu hadrodd a’u cefnogi. 

  Bod y Pennaeth Gwasanaethau Democrataidd yn cylchredeg copi o’r cais am Siarter Cymru ar gyfer Cefnogi a Datblygu Aelodau gan CLlLC i aelodau’r Pwyllgor Safonau er gwybodaeth yn unig.

  Nodi pob cynnydd arall fel y manylir yn yr adroddiad.

 

Gweithredu: Gweler y Penderfyniad uchod

Dogfennau ategol: