· Cyflwyno adroddiad y Pennaeth Gwasanaethau Plant a Theuluoedd.
· Cyflwyno adroddiad y Panel Gwasanaethau Plant.
Cofnodion:
• Cyflwynwyd adroddiad y Pennaeth Gwasanaethau Plant a Theuluoedd yn nodi’r cynnydd hyd yma wrth weithredu’r Cynllun Gwella Gwasanaethau Plant ar gyfer ystyriaeth y Pwyllgor.
Adroddodd yr Arweinydd a’r Deilydd Portffolio Gwasanaethau Cymdeithasol fod yr adroddiad yn garreg filltir ym mhroses gwella’r Gwasanaethau Plant oherwydd cytunwyd i gau’r Cynllun Gwella Gwasanaeth (CGG) presennol i lawr ac i gynhyrchu Cynllun Datblygu Gwasanaeth ar gyfer 2019-22. Bydd yn cynnwys unrhyw weithredoedd sy’n weddill o’r CGG presennol ac sydd angen eu datblygu ymhellach ac yn ymgorffori’r 14 maes datblygiad a nodwyd gan Arolygiaeth Gofal Cymru yn ei adroddiad ail-archwilio yn Rhagfyr, 2018. Bydd y gwasanaeth cyfan yn gweithio dan y Cynllun Datblygu Gwasanaeth newydd a fydd yn cael ei gytuno arno gan Uwch Dîm Rheoli’r Gwasanaeth, y Panel Gwella Gwasanaethau Plant, y Pwyllgor Sgriwtini Corfforaethol a’r Pwyllgor Gwaith. Bydd y Gwasanaeth hefyd yn ymgymryd â’r gweithgareddau gwella penodol a restrir yn yr adroddiad er mwyn atgyfnerthu’r cynnydd a wnaed eisoes.
Cyfeiriodd y Pennaeth Plant a Theuluoedd at y cynnydd o ran recriwtio a chadw staff ynghyd â datblygu’r model Cartrefi Grŵp Bach sy’n fenter a fydd yn galluogi rhai o’r plant a allai fod mewn lleoliadau gofal ymhell i ffwrdd o Ynys Môn i dderbyn gofal mewn amgylchedd “cartrefol” sy’n efelychu’r ffordd y mae eu cyfoedion yn byw h.y. byw yn y gymuned, mynd i’r ysgol leol, gwneud ffrindiau yn yr ardal. Hefyd, fel rhan o’r ymdrech i wella opsiynau lleoli er mwyn bodloni’r galw, mae’r Gwasanaeth yn edrych i recriwtio a chadw mwy o Ofalwyr Maeth ac mae’r adroddiad yn crynhoi’r buddion y bydd y pecyn Gofal Maeth newydd yn eu darparu i Ofalwyr Maeth yr Awdurdod pan gaiff ei weithredu yn Ebrill, 2019.
Yn y drafodaeth ddilynol ar yr adroddiad yn y Pwyllgor, codwyd y materion canlynol –
• Bod cynnydd sylweddol wedi’i wneud gan y Gwasanaethau Plant dros oes y Cynllun Gwella Gwasanaeth. Fodd bynnag, cafodd 14 maes ar gyfer datblygiad pellach eu hadnabod gan Arolygiaeth Gofal Cymru. Oes yna unrhyw feysydd o fewn y 14 a gafodd eu hadnabod sydd angen sylw fel blaenoriaeth ac a oes gan y gwasanaeth y adnoddau er mwyn gallu mynd i’r afael a materion a datblygu’r Cynllun Datblygu Gwasanaeth?
• Trefniadau mewn perthynas â’r Cartrefi Grŵp Bach gan gynnwys staffio, cofrestru a chynlluniau ar gyfer agor mwy o gartrefi grŵp bach y tu hwnt i’r 2 y disgwylir eu hagor yn ystod blynyddoedd ariannol 2019/20 a 2020/21.
• A oes ystyriaeth wedi’i rhoi i ddyrannu tai cyngor i unigolion / teuluoedd sy’n dymuno maethu a fyddai’n cyflawni’r un amcan a chael staff yn gofalu am blant mewn eiddo sy’n berchen i’r Cyngor.
Darparwyd cadarnhad/esboniad i Swyddogion ac Aelodau Portffolio fel a ganlyn –
• Yn ystod y cyfnod o weithredu’r Cynllun Gwella Gwasanaethau Plant, mae’r Gwasanaethau Plant wedi datblygu gwell hunan-ymwybyddiaeth ac yn gwybod lle mae’r Gwasanaeth, lle mae’n dymuno mynd a’r modd y bydd yn gwneud hynny. Mae ôl-ofal plant a phobl ifanc a rhai sy’n gadael gofal ymysg y meysydd blaenoriaeth ar gyfer y cam nesaf y mae cynlluniau’n cael eu datblygu ar eu cyfer. Mae’r broses o wella a hunanwerthuso yn y Gwasanaethau Plant yn un barhaus ac mae’n rhaid i’r broses hon ddigwydd o fewn cyd-destun yr adnoddau sydd ar gael. Y dasg yw cynnal cyflymder y gwelliannau gan felly ddatblygu gwasanaeth sy’n gallu gwrthsefyll yr heriau y mae’r Gwasanaethau Plant yn eu hwynebu.
• Bydd Cartrefi Grŵp Bach yn galluogi rhai plant sydd ar hyn o bryd mewn lleoliadau gofal ymhell o Ynys Môn i ddychwelyd i’r ardal leol er mwyn byw o dan amodau sy’n dyblygu i’r raddfa y mae hynny’n bosibl, amgylchedd cartrefol arferol. Nid eu bwriad yw darparu ar gyfer plant sy’n derbyn gofal y mae ganddynt anghenion acíwt neu gymhleth a fydd yn parhau i dderbyn darpariaeth arbenigol sy’n briodol ar gyfer eu hanghenion penodol. O ran staff, y prif nod yw cadw’r rota staffio yn gyson, lleihau’r newidiadau staffio er mwyn i’r plant a fydd yn byw yn y Cartrefi Grŵp Bach weld yr un wynebau ac i gael cyswllt parhaus â’r un gofalwyr a fydd yn dod â pharhad a normalrwydd i’r gofal y byddant yn ei dderbyn. Mae eiddo Awdurdodau Lleol wedi eu hadnabod ac mae gwaith wedi dechrau ar wneud y cartrefi hynny’n addas gan ystyried gofynion cofrestru AGC. Bydd adnabod eiddo pellach mewn lleoliadau addas yn cael ei wneud mewn cydweithrediad â’r Gwasanaethau Tai ac Addysg.
• Yn unol â’r polisi tai, gall y Gwasanaeth Tai ystyried mynediad i dai cyngor i, er enghraifft, deuluoedd maeth / gofalwyr maeth sydd angen ystafell wely ychwanegol er mwyn lletya plentyn maeth a allai fel arall fod wedi eu rhoi mewn gofal ac y byddai asesiad wedi ei wneud yn seiliedig ar yr angen hwnnw.
Yn dilyn ystyried yr holl wybodaeth a gyflwynwyd ynghyd â’r cadarnhad a ddarparwyd gan y Swyddogion / Aelodau Portffolio ar y pwyntiau a godwyd, penderfynwyd fod y Pwyllgor Sgriwtini Corfforaethol yn cadarnhau ei fod yn fodlon â’r canlynol –
• Y camau a gymerwyd er mwyn datblygu gweithrediad y Cynllun Gwella Gwasanaeth a chyflymder y cynnydd;
• I’r Gwasanaeth symud ymlaen â Chynllun Datblygu Gwasanaeth newydd a fydd yn disodli’r Cynllun Gwella Gwasanaeth presennol;
• Cyflymder y cynnydd a’r gwelliannau a wnaed hyd yma o fewn y Gwasanaethau Plant a Theuluoedd.
NI CHYNIGIWYD UNRHYW WEITHREDOEDD YCHWANEGOL
• Cyflwynwyd adroddiad gan y Panel Gwella Gwasanaethau Plant yn disgrifio gwaith ac allbwn y Panel yn ystod y cyfnod rhwng Rhagfyr 2018 a Chwefror, 2019 ar gyfer ystyriaeth y Pwyllgor.
Adroddodd y Cynghorydd Richard Griffiths, cynrychiolydd y Pwyllgor Sgriwtini Corfforaethol ar y Panel, ar y prif bwyntiau gan nodi nad oes unrhyw faterion penodol wedi eu huwchgyfeirio ar gyfer sylw’r Pwyllgor yn ystod y chwarter hwn; gofynnir i’r Pwyllgor ystyried a yw’n fodlon â chadernid y Panel o ran monitro hyd yma.
Nododd y Pwyllgor fod y Panel yn ei gyfarfod Chwefror, 2019 wedi rhoi ystyriaeth i addysg ddewisol yn y cartref a’i fod wedi gofyn am ddiweddariad ar ddatblygiadau ymhen 6 mis. Hysbyswyd y Pwyllgor, yn absenoldeb canllawiau cenedlaethol ar hyn o bryd, fod y Panel wedi cytuno i weithio â phobl leol er mwyn cefnogi rhieni sy’n addysgu eu plant yn y cartref a hynny drwy becyn gwybodaeth.
Nododd y Pwyllgor ymhellach, ar Ddiwrnod Gwaith Cymdeithasol, ei bod yn briodol i Aelodau ddatgan eu diolch a’u gwerthfawrogiad am y gwaith a wneir gan Weithwyr Cymdeithasol y Cyngor a hynny mewn amgylchedd sy’n gallu bod yn hynod heriol ar adegau.
Yn dilyn ystyried yr adroddiad, penderfynodd y Pwyllgor Sgriwtini Corfforaethol nodi’r canlynol –
• Y cynnydd a wnaed hyd yma o ran gwaith y Panel Gwella Gwasanaethau Plant o ran cyflawni ei raglen waith.
• Bod y Cynllun Gwella Gwasanaeth presennol bellach wedi ei gau gyda’r 2 faes blaenoriaeth sydd eto i gael eu gweithredu’n llawn i gael eu trosglwyddo i’r Cynllun Datblygu Gwasanaeth newydd.
• Y meysydd gwaith a grybwyllwyd yn ystod Ymweliadau Laming fel ffordd o gryfhau atebolrwydd a gwybodaeth a dealltwriaeth Aelodau’r Panel.
• Rhaglen ddatblygu barhaus Aelodau’r Panel gyda llawer ohoni’n cael ei darparu’n fewnol.
NI CHYNIGIWYD UNRHYW WEITHREDOEDD YCHWANEGOL
Dogfennau ategol: