Eitem Rhaglen

Cofnodion y Cyfarfod Blaenorol

Cyflwyno cofnodion cyfarfod blaenorol y Pwyllgor Archwilio a Llywodraethu a gynhaliwyd ar 12 Chwefror, 2019.

Cofnodion:

Cyflwynwyd cofnodion y cyfarfod blaenorol o’r Pwyllgor Archwilio a Llywodraethu a gynhaliwyd ar 12 Chwefror, 2019 a chadarnhawyd eu bod yn gywir.

 

Yn codi ohonynt –

 

           Adroddodd y Pennaeth Archwilio a Risg, mewn perthynas â’r ddyled arian cinio ysgol, ei bod wedi cysylltu â Chyngor Dinas Caerdydd a Chyngor Rhondda Cynon Taf [fel y cynghorau sydd â rhai o’r dyledion isaf yng nghyswllt arian cinio ysgol o blith y cynghorau hynny a oedd wedi ymateb i arolwg y BBC ar ddyledion cinio ysgol yng Nghynghorau Cymru yn 2017/18] er mwyn dod i ddeall mwy am eu harferion ar gyfer cadw’r ddyled i lawr. Dywedodd y Swyddog ei bod wedi gallu sefydlu bod cyfanswm dyledion Cyngor Dinas Caerdydd mewn perthynas ag arian cinio ysgol yn uwch mewn gwirionedd na’r ffigwr a gyhoeddwyd yn erthygl y BBC ac nad oedd cynnwys yr holl ddyled ddi-arian. Roedd Rhondda Cynon Taf wedi darparu ei brotocol ar gyfer delio â dyledion cinio ysgol, ac anfonwyd y protocol ymlaen at y Rheolwr Prosiect yn y Gwasanaeth Dysgu sy’n adolygu’r system talu am brydau ysgol mewn ysgolion.

 

Dywedodd y Pennaeth Swyddogaeth (Adnoddau)/Swyddog Adran 151, ar ôl casglu’r data ar ddiwedd tymor y Pasg, y gallai bellach adrodd ar sefyllfa dyledion Cyngor Môn mewn perthynas ag arian cinio ysgol. Mae cyfanswm o £48,084 yn ddyledus i’r Cyngor mewn arian cinio ysgol, ac o’r ffigwr hwnnw mae £38,046 ar gofrestri’r ysgolion sy’n golygu bod yr ysgolion dal wrthi’n delio â’r dyledion hynny. Y balans cyfartalog fesul ysgol yw £906 a’r balans uchaf yw £6,978. Mae cyfanswm o 89 anfoneb sydd werth £10,037 yn dal i fod heb eu talu – dyma lle mae’r ddyled wedi cael ei throsglwyddo o’r ysgolion i Dîm Incwm y Cyngor i’w hadfer. Y balans cyfartalog yw £113 a’r balans uchaf yw £410. O ran sefyllfa gymharol Ynys Môn, nid yw’n annhebyg i sefyllfa’r awdurdodau a restrwyd yn arolwg y BBC. Mae’r Gwasanaeth Dysgu yn edrych ar y polisi arian cinio ysgol a sut mae delio â dyledion gwasanaethau cymdeithasol ar y cyd â’r ysgolion a’r Gwasanaeth Cyllid. Un ffactor sy’n dylanwadu ar hyn oll yw cyflwyniad y Credyd Cynhwysol. O dan yr hen system budd-daliadau, byddai ceisiadau am brydau ysgol am ddim wedi cael eu penderfynu’n gyflym, ond nawr nid oes penderfyniad ar gais teuluoedd am brydau ysgol am ddim hyd nes bod eu cais am Gredyd Cynhwysol yn cael ei gadarnhau, a gall hynny gymryd sawl wythnos. Mae’r Awdurdod yn ystyried beth yw’r ffordd orau o ddelio gyda’r plant hynny sydd yn y cyfnod o aros am benderfyniad ar eu cais Credyd Cynhwysol, hynny yw a ddylid codi tâl neu beidio am brydau ysgol yn ystod y cyfnod hwn, a sgil-effeithiau codi a pheidio codi tâl. Bydd hyn ynghyd â materion eraill yn ffurfio rhan o’r adolygiad polisi.

 

Gan fod Ynys Môn yn awdurdod cymharol fach o ran maint, holodd y Pwyllgor a yw’n dderbyniol bod gennym werth tua £50k o ddyled cinio ysgol. Ceisiodd y Pwyllgor sefydlu hefyd a oedd modd asesu effaith Credyd Cynhwysol ar lefelau dyledion cinio ysgol yn yr awdurdodau hynny lle mae’r budd-dal newydd wedi dod i rym o gymharu ag Ynys Môn.

 

Dywedodd y Pennaeth Swyddogaeth (Adnoddau)/Swyddog Adran 151, er ei bod yn bwysig casglu unrhyw arian sy’n ddyledus a chadw dyledion cyn ised â phosib, yng nghyd-destun yr incwm a gesglir o’r 3,000 i 4,000 o brydau ysgol a ddarperir bob dydd ar gost o £2.50 fesul pryd (gan ddiystyru’r oddeutu 1,500 sy’n gymwys i gael prydau am ddim a’r rheini sy’n dod â’u cinio eu hunain i’r ysgol), ac o gymharu â dyledion eraill sy’n ddyledus i’r Cyngor, nid yw £48k yn swm enfawr. Mae’n rhaid dod i farn ynglŷn â gwerth adfer dyled gan bwyso a mesur y swm sy’n ddyledus yn derbyn y gost o’i hadfer, ac weithiau deuir i’r casgliad ei bod yn aneconomaidd ceisio adfer dyled, yn enwedig yn achos dyledion llai. Hefyd, mae’r teuluoedd sy’n ei chael yn anodd talu am brydau ysgol yn deuluoedd ar incwm isel sydd fymryn uwchben y trothwy budd-dal, ac efallai fod ganddynt fwy nag un ddyled i’r Cyngor. Gall fod yn anodd adfer dyledion yn yr amgylchiadau hyn. Felly, o ystyried yr holl ffactorau sy’n cyfrannu, nid yw lefel y ddyled cinio ysgol yn afresymol.

 

O ran effaith Credyd Cynhwysol ar lefel y ddyled, mae Credyd Cynhwysol yn cyfuno budd-daliadau mewn gwaith a budd-daliadau nid-mewn-gwaith sy’n golygu bod rhai teuluoedd bellach yn gymwys am brydau ysgol am ddim o dan Gredyd Cynhwysol, lle nad oeddent efallai’n gymwys o dan yr hen system lle roedd y ddau fath o fudd-daliadau ar wahân. Mae Llywodraeth Cymru wedi rhoi gwarchodaeth i deuluoedd a oedd ar Gredyd Cynhwysol ac yn derbyn prydau ysgol am ddim cyn 1 Ionawr, 2019; felly, mae nifer fawr o deuluoedd mewn awdurdodau lle mae Credyd Cynhwysol wedi’i weithredu yn derbyn y warchodaeth hon. Fodd bynnag, gan na ddaeth Credyd Cynhwysol i rym yn Ynys Môn tan fis Rhagfyr, 2018, mae nifer y teuluoedd sy’n elwa o’r warchodaeth hon yn llai oherwydd cyn Ionawr, 2019, roeddent o dan yr hen system. Felly, gall fod yn gamarweiniol cymharu Ynys Môn gydag awdurdodau lle mae Credyd Cynhwysol wedi bod mewn grym am beth amser oherwydd nifer y teuluoedd sy’n derbyn y warchodaeth yn yr awdurdodau hynny.

 

           Gofynnodd y Pwyllgor pa bryd y byddai’n derbyn yr holiadur hunanwerthuso i asesu lefel cydymffurfiaeth y Pwyllgor â chanllawiau newydd CIPFA ar rôl Pwyllgorau Archwilio.

 

Dywedodd y Pennaeth Archwilio a Risg fod yr holiadur yn ddarn o waith y mae Grŵp Prif Archwilwyr Cymru yn gweithio arno ar hyn o bryd, ac y bydd mewn dau ran – bydd un rhan yn canolbwyntio ar sgiliau a dawn aelodau unigol o’r Pwyllgor Archwilio a bydd y rhan arall yn canolbwyntio ar ba mor effeithiol yw’r Pwyllgor gyda’i gilydd yn erbyn ei gylch gorchwyl. Gan mai dogfen gan CIPFA yw hon, bydd angen creu fersiwn Gymraeg hefyd i sicrhau bod yr holiadur yn berthnasol i Ynys Môn. Unwaith mae hyn wedi’i wneud, bydd yr holiadur yn cael ei anfon ymlaen at aelodau’r Pwyllgor.

 

                  Eglurodd y Pennaeth Archwilio a Risg mai’r bwriad yn wreiddiol oedd cyflwyno’r Adroddiad Yswiriant Blynyddol i’r cyfarfod hwn o’r Pwyllgor, bydd yr adroddiad nawr yn cael ei gyflwyno i gyfarfod y Pwyllgor ym mis Gorffennaf, gan fod y cyfnod o ddiwedd y flwyddyn ariannol ar 31 Mawrth hyd at y dyddiad cau ar gyfer cyflwyno adroddiadau i’r cyfarfod hwn yn rhy fyr i’r Cwmni Yswiriant allu darparu’r wybodaeth angenrheidiol.

 

NI CHYNIGIWYD UNRHYW GAMAU GWEITHREDU YCHWANEGOL MEWN PERTHYNAS AG UNRHYW UN O’R MATERION A GODWYD

Dogfennau ategol: