Eitem Rhaglen

Materion yn Codi - Dilyniant i'r Adroddiad Blynyddol Iechyd a Diogelwch Corfforaethol 2017/18

Cyflwyno adroddiad yr Ymgynghorydd Iechyd a Diogelwch Corfforaethol.

Cofnodion:

Cyflwynodd yr Ymgynghorydd Iechyd a Diogelwch Corfforaethol adroddiad dilynol i Adroddiad Blynyddol 2017/18 ar Iechyd a Diogelwch Corfforaethol. Roedd yr adroddiad yn rhoi dadansoddiad pellach mewn perthynas â’r materion a godwyd gan y Pwyllgor Archwilio a Llywodraethu ar yr Adroddiad Blynyddol Iechyd a Diogelwch Corfforaethol 2017/18 pan gafodd ei gyflwyno i’r Pwyllgor yn ei gyfarfod ym mis Chwefror, 2019. Dyma’r materion a godwyd ganddo

 

           Y gwahaniaeth rhwng y ddau gategori o Ymosodiadau Corfforol gan Berson yn y tabl Mathau o Ddigwyddiadau ar dudalen 6 o Adroddiad Blynyddol 2017/18

 

Adroddodd yr Ymgynghorydd Iechyd a Diogelwch Corfforaethol fod y system adrodd am ddamweiniau yn cynnwys dau gategori o Ymosodiad Corfforol, un yw Ymosodiad Corfforol a’r llall yw Ymosodiad CorfforolYmddygiad Heriol. Roedd y ffigwr o 56 digwyddiad yn 2016/17 a 103 digwyddiad yn 2017/18 yn perthyn i’r categori Ymosodiad CorfforolYmddygiad Heriol, ac maent yn ddigwyddiadau lle gallai materion iechyd meddwl fod yn bresennol neu lle gellid cwestiynu capasiti meddyliol, ac efallai nad oedd unrhyw fwriad i achosi niwed corfforol. Mae’r categori Ymosodiad Corfforol yn cynnwys digwyddiadau lle mae person wedi taro person arall ond nad yw capasiti meddyliol yn cael ei gwestiynu. Roedd y ffigyrau ar gyfer y categori hwn yn 37 digwyddiad yn 2016/17 a 45 digwyddiad yn 2017/18. Yn 2017/18, roedd 9 digwyddiad a gofnodwyd fel digwyddiadau bach yn rhai yn erbyn staff.

 

           A oedd unrhyw resymau penodol am y cynnydd yn nifer yr ymosodiadau corfforol ac a yw’r cynnydd yn arwydd bod tuedd yn datblygu?

 

Adroddodd yr Ymgynghorydd Iechyd a Diogelwch Corfforaethol, wrth adolygu’r digwyddiadau canfuwyd fod 11 o safleoedd ychwanegol ar draws yr holl wasanaethau wedi adrodd am ddigwyddiadau yn 2017/18 o gymharu â 2016/17, ac ystyrir mai’r rheswm pennaf am hyn yw gwell ymwybyddiaeth o ofynion Iechyd a Diogelwch ar ôl gwneud gwaith yn 2016/2017 i godi proffil Iechyd a Diogelwch o fewn y Cyngor, yn enwedig mewn perthynas ag adrodd am ddigwyddiadau o drais ac ymddygiad ymosodol. Mae’r siart Digwyddiadau Ymosodiad Corfforol yn yr adroddiad yn dangos bod nifer y digwyddiadau wedi gostwng rhwng 2013 a 2017 ond fe wnaethant gynyddu eto yn y cyfnod o 2016/17 i 2017/18. Fel mae’r siart yn dangos, mae nifer y digwyddiadau o dan y categori Ymosodiad CorfforolYmddygiad Heriol wastad wedi bod yn uwch nac ar gyfer y categori Ymosodiad Corfforol ac mae’n cynnwys digwyddiadau lle nad oedd efallai fwriad i achosi niwed. Felly, mae’n bosib mai gwell ymwybyddiaeth yw’r rheswm am y cynnydd yn y ffigwr a gofnodwyd. Roedd nifer yr Ymosodiadau Corfforol ar eu hisaf yn 2015/16, sef 20, ond maent wedi cynyddu ers hynny. Mae angen monitro’r ffigwr hwn yn agosach oherwydd gallai’r digwyddiadau adlewyrchu bwriad i achosi niwed.

 

Dywedodd y Swyddog y bydd y ffigyrau yn Adroddiad Blynyddol 2018/19 pan gânt eu dwyn ynghyd yn darparu gwell eglurder ynghylch unrhyw dueddiadau sy’n dod i’r amlwg, ac os ydynt yn dal i gynyddu yn y categorïau hynny, efallai y bydd rhaid ymchwilio’n bellach yn enwedig os yw’r digwyddiadau a gofnodwyd yn ymwneud â gwasanaethau eraill ar wahân i Addysg a Gwasanaethau Cymdeithasol (lle mae nifer y digwyddiadau o Ymosodiad CorfforolYmddygiad Heriol wedi bod yn uwch yn hanesyddol).

 

Rhoddodd y Pwyllgor ystyriaeth i’r adroddiad ac wrth nodi’r angen i fonitro’r ffigyrau ar gyfer 2018/19 er mwyn cymharu â’r blynyddoedd cynt, nododd hefyd y dylid annog staff i adrodd am ymosodiadau corfforol wrth yr Heddlu.

 

Dywedodd yr Ymgynghorydd Iechyd a Diogelwch Corfforaethol, er y gellir annog staff i wneud hynny ac y gall y Cyngor ddod â digwyddiadau o’r fath i sylw’r Heddlu, yn y bôn mater i’r unigolyn yw penderfynu mynd ar ôl y mater ai peidio a mater i’r Heddlu yw p’un a ddylid mynd â’r mater ymhellach.

 

Penderfynwyd derbyn a nodi’r wybodaeth ychwanegol a ddarparwyd gan yr Ymgynghorydd Iechyd a Diogelwch Corfforaethol fel dilyniant i Adroddiad Blynyddol Iechyd a Diogelwch Corfforaethol 2017/18.

 

NI CHYNIGIWYD UNRHYW GAMAU GWEITHREDU YCHWANEGOL.

 

Dogfennau ategol: