Eitem Rhaglen

Ceisiadau'n Codi

7.1 30C225K/ECON – Treetops Country Club, Tynygongl

 

7.2 FPL/2018/57 – Parc Tyddyn Bach, Caergybi

 

7.3 FPL/2019/13 – Mast Teleffon, Nebo

Cofnodion:

7.1       30C225K / ECON - Cais amlinellol ar gyfer lleoli 25 o gabanau gwyliau ynghyd â chyfadeiladau hamdden a ffyrdd mynediad cysylltiedig gyda rhai materion wedi eu cadw’n ôl yn Treetops Country Club, Tyn y Gongl

 

Cyflwynwyd y cais i'r Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion ar gais dau Aelod Lleol.

 

Siaradodd y Cynghorwyr Margaret M. Roberts a Ieuan Williams fel Aelodau Lleol i ail-bwysleisio effaith annerbyniol y datblygiad arfaethedig ar yr ardal o ran ei effaith ar y dirwedd, gorddarpariaeth o lety gwyliau, traffig a diogelwch priffyrdd.

 

Cyfeiriodd y Cynghorydd Ieuan Williams at y modd y mae'r cynnig yn ei farn ef yn anghydnaws â Pholisi TWR 3 ac yn arwain at ddwysáu’n sylweddol y ddarpariaeth o'r math hwn o lety gwyliau gan ddwyn sylw at y ffaith bod 20 o safleoedd eraill o'r un math yn darparu ar gyfer 1,212 o garafanau sefydlog a 554 o garafanau teithiol rhwng 600m i 1.5 km o bellter o'r safle. Rhoddwyd caniatâd cynllunio ar gyfer 9 o gabanau ar safle sydd heb ei ddatblygu eto yn Lôn y Glyn ac yn Storws Wen ac o fewn 400m i safle'r cais mae pentref gwyliau yn cynnwys 30 o unedau gwyliau. Ymhellach draw, mae 6 o safleoedd ar gyfer carafanau sefydlog o amgylch Pentraeth - Penrhyn Point, Traeth Bychan, Nant Bychan ym Moelfre ac ati – cyfanswm o 5,000 o garafanau sefydlog. Mae Benllech eisoes â phroblemau traffig gyda thagfeydd yn aml at y sgwâr; mae pryder ynghylch gallu'r sgwâr i ddelio â thraffig ychwanegol. Mae goryrru trwy Bwlch hefyd yn broblem. At hynny, bydd datblygiadau tai sydd naill ai wedi'u cymeradwyo neu sydd ar y gweill hefyd yn ychwanegu at y traffig ac ar ben hyn, mae safleoedd Lleoliad Ardystiedig (CL) ar gyfer 5 carafán hefyd yn ymddangos mewn sawl ardal. Mae Polisi Cynllunio newydd Cymru yn rhoi pwyslais ar gynaliadwyedd ac ar gymryd golwg strategol ar gynllunio wrth edrych i'r dyfodol. Dywedodd y Cynghorydd Williams nad oedd yn credu bod arfarniad digon holistaidd o'r cynnig wedi'i wneud gan gynnwys ei effaith ar yr ardal a'r mwynderau y tu draw i Fenllech. Gan ystyried yr holl ddarpariaeth gan gynnwys y llecynnau parcio yn y Feddygfa sydd ar gael gyda'r nos ac ar benwythnosau, mae 126 o leoedd parcio ym Menllech sydd i fod i wasanaethu 5,000 o bobl ychwanegol yn yr haf. Gorffennodd y Cynghorydd Williams drwy ddweud bod y cynnig yn groes i bolisi oherwydd mae’n arwain at ormodedd o lety gwyliau yn yr ardal ac ychwanegodd fod angen i'r prawf ar gyfer asesu gor-gapasiti fod yn fwy penodol gan gymryd i ystyriaeth faint o’r math yma o lety sydd yn yr ardal mewn gwirionedd yn ogystal â sensitifrwydd y dirwedd.

 

Gofynnodd y Pwyllgor i’r Aelod Lleol am eglurhad o'r rhesymau dros beidio â dangos y dystiolaeth fideo o draffig ym Menllech y cyfeiriwyd ati yng nghyfarfod blaenorol y Pwyllgor. Soniodd y Pwyllgor hefyd am y budd economaidd a ddaw twristiaid i Fenllech a'r ardal gyfagos.

 

Yn dilyn digwyddiad ar Sgwâr Benllech yn ymwneud â lori, eglurodd y Cynghorydd Ieuan Williams fod y Technegydd Priffyrdd ar y pryd wedi gwneud ffilm o’r sefyllfa draffig yn Sgwâr Benllech. Gan fod y dystiolaeth ffilm wedi'i chymryd ar ffôn y Swyddog a gan nad yw'r Swyddog yn gweithio i'r Cyngor mwyach, ni fedrir ei dangos. Fodd bynnag, oherwydd pryderon parhaus ynghylch y traffig yn sgwâr Benllech ac o’i gwmpas, cynhelir arolwg pellach yn ystod yr wythnos nesaf. O ran y budd economaidd a ddaw yn sgil twristiaeth, dywedodd y Cynghorydd Williams ei fod yn cytuno bod twristiaeth a'r refeniw ychwanegol a ddaw yn ei sgil yn bwysig i'r economi leol, ond serch hynny, rhaid darparu ar ei chyfer mewn safleoedd sy'n briodol ac yn chwaethus ac nid mewn safle fel yr un presennol lle bydd 25 o unedau gwyliau’n cael eu gwasgu i safle sy'n fwy addas ar gyfer 10 uned oherwydd bod hynny'n fwy hyfyw. Yn ôl y canllawiau cynllunio atodol, dylai safleoedd fel hyn gael eu sgrinio gan y dirwedd naturiol ac ni ddylai fod angen unrhyw gynllun tirlunio ychwanegol arnynt. Gan nad yw safle'r cais wedi'i guddio'n ddigonol o'r B5108 gan y dirwedd naturiol, cynigir sgrin tirlunio newydd sy'n groes i'r CCA. Felly mae sail polisi ar gyfer gwrthod y cais.

 

Dywedodd y Rheolwr Rheoli Datblygu fod cefnogaeth a gwrthwynebiad i'r cynnig yn lleol fel yr adlewyrchir gan y broses ymgynghori statudol a gynhaliwyd. Cyhoeddwyd barn sgrinio sy'n cadarnhau nad oes angen Asesiad Effaith Amgylcheddol. Dywedodd y Swyddog fod yr ymgeisydd bellach wedi cyflwyno apêl ar sail diffyg penderfyniad gan yr Awdurdod Cynllunio Lleol ac, oherwydd natur y cais, mae'r ymgeisydd yn ceisio gwrandawiad fel rhan o'r broses apelio. Unwaith y bydd y broses apelio wedi cael ei dilysu gan yr Awdurdod Cynllunio Lleol, h.y. y Pwyllgor sef y corff y cyfeiriwyd y cais ato, mae ganddo bedair wythnos i benderfynu ar y cais ac yna bydd mewn sefyllfa apêl lle gwrandewir apêl yn erbyn gwrthodiad ar sail diffyg penderfyniad o fewn yr amserlen. Mae'r cais wedi cael ei asesu yn erbyn Polisi TWR3 a'r meini prawf ynddo ac o ganlyniad, ystyrir bod yr ardal yn gallu derbyn y datblygiad. Yr ystyriaeth allweddol yw Astudiaeth Sensitifrwydd a Chynhwysedd Ynys Môn. Mae paragraff 6.3.6.9 o'r esboniadau i Bolisi TWR3 yn nodi y comisiynwyd yr astudiaeth i asesu gallu ardal i ddarparu ar gyfer y math hwn o ddatblygiad ac nad yw'n ymwneud â chyfaint o ran niferoedd ond yn hytrach â gallu'r dirwedd i dderbyn datblygiadau fel hyn. Hon yw’r brif ystyriaeth dan y polisi. Mae llythyr a gyflwynwyd gan asiant yr ymgeisydd yn rhoi eglurhad pam fod y cais yn un am 25 uned ac nid 10 ar safle 1 hectar (maeTabl 2.1 o Deipolegau Datblygiad Parciau Carafanau Sefydlog / Cabanau yn Astudiaeth Sensitifrwydd Tirwedd Ynys Môn, Gwynedd ac Awdurdod Parc Cenedlaethol Eryri yn nodi y byddai 10 uned yn fwy derbyniol ar safle 1 hectar) ac yn pwysleisio mai brasamcan yw hwn. Dywed yr astudiaeth “ei bod yn bwysig nodi bod yr adroddiad yn astudiaeth strategol ac nad yw'n rhagnodol ar lefel safle unigol. Nid yw'n disodli'r angen i'r Cynghorau ac Awdurdod y Parc asesu ceisiadau cynllunio unigol ar gyfer asesiad effaith tirwedd a gweledol lleol fel rhan o AEA ffurfiol fesul achos . Mae asesiad strategol wedi'i gynnal ac mae'r adroddiad ysgrifenedig yn darparu asesiad o effeithiau'r cynnig ar y dirwedd ac mae hwnnw’n dderbyniol. O safbwynt economaidd, mae'r cynnig yn darparu ar gyfer 20 o swyddi ac o ran cynaladwyedd mae'r safle yn agos at y cysylltiadau trafnidiaeth gyhoeddus presennol - mae dau arhosfan bws wedi eu lleoli gerllaw'r safle a bwriedir creu llwybr troed a chroesfan newydd fel rhan o'r cais yn ogystal â mynedfa newydd i briffordd yr B5108. Er bod Dŵr Cymru yn fodlon â'r cynnig, mae adran Draenio'r Cyngor yn gofyn am fwy o wybodaeth am ddraenio wyneb dŵr ac yn amodol ar dderbyn y wybodaeth hon, mae’r argymhelliad yn un gymeradwyo.

 

Wrth ystyried y cais cododd y Pwyllgor y pwyntiau canlynol –

 

           A fyddai'n ymarferol caniatáu’r cais ar yr amod na fyddai cabanau newydd yn cael eu codi ar y rhan honno o'r safle sydd heb ei datblygu hyd yma (mae'r cynllun yn darparu ar gyfer crynodiad yr unedau ar un rhan o'r safle).

 

Dywedodd y Rheolwr Rheoli Datblygu fod manylion cynllun y safle fel y'u cyflwynwyd fel rhan o'r cais. Ni ellir gwneud unrhyw newidiadau i'r gosodiad trwy osod cabanau ychwanegol heb ymgymryd â phroses statudol h.y. byddai'n rhaid cael caniatâd cynllunio ffurfiol ar wahân ar gyfer unrhyw unedau ychwanegol sydd uwchlaw’r nifer a bennwyd fel rhan o'r cais hwn.

 

           Yng ngoleuni'r achos dros or-gapasiti a wnaed gan yr Aelodau Lleol a yw'n gynamserol i wneud penderfyniad ar y cais cyn cynnal yr arolwg traffig a fydd, yn ôl yr Aelod Lleol yn cael ei gynnal yr wythnos nesaf.

 

Dywedodd y Rheolwr Rheoli Datblygu fod y cais wedi cael ei asesu gan yr Awdurdod Priffyrdd ar sail y cynnydd, os gwbl, mewn traffig a fyddai’n cael ei gynhyrchu yn sgil y cynnig a’r defnydd a fyddai’n cael ei wneud ohono. Cyflwynwyd asesiad trafnidiaeth hefyd fel rhan o'r cais. Dywedodd y Swyddog, yng ngoleuni’r posibilrwydd o apêl, y gallai fod yn annoeth i'r Pwyllgor ohirio gwneud penderfyniad ar y cais hyd nes y ceir canlyniad yr arolwg traffig o'r sgwâr ym Menllech pan na ellir profi o ble y daw’r traffig ar y sgwâr a ble na ellir ei briodoli i’r datblygiad arfaethedig gan nad yw'n bodoli ar hyn o bryd. Felly ni fyddai'n bosibl tynnu unrhyw gasgliadau o'r arolwg am effeithiau'r cynnig ar draffig; pe bai problemau traffig yn yr ardal gyfan, byddai'n rhaid dangos bod y datblygiad arfaethedig yn ychwanegu'n sylweddol at y problemau hynny er mwyn i'r cynnig gael ei ystyried yn annerbyniol a byddai'n rhaid cyflwyno tystiolaeth o'r un peth mewn apêl er mwyn cyfiawnhau gwrthod ar y sail honno.

 

           P'un a yw'r Awdurdod Priffyrdd yn fodlon ai peidio bod capasiti'r priffyrdd yn ac o gwmpas ardal Benllech yn ddigonol i allu delio â'r cynnig hwn.

 

Dywedodd y Peiriannydd Rheoli Datblygu fod arolwg trafnidiaeth manwl wedi'i gyflwyno fel rhan o'r cais a daeth i’r casgliad na fydd y datblygiad arfaethedig yn arwain at gynnydd sylweddol mewn traffig uwchlaw’r hyn sy'n bodoli ar hyn o bryd. Er bod gan yr Awdurdod Priffyrdd bryderon am gapasiti'r sgwâr ym Benllech, sef y rheswm dros gynnal arolwg traffig, mae hwn yn fater ar wahân i'r datblygiad arfaethedig; ni ddylai'r ymgeisydd gael ei gosbi am broblemau sydd eisoes yn bodoli.

 

           Gan fod y cynnig yn un ar gyfer 25 o gabanau mewn ardal lle mae'r Astudiaeth Sensitifrwydd a Chynhwysedd Tirwedd yn argymell 10 uned i bob 1 hectar a chan fod y cynnig hefyd yn cynnwys canolfan hamdden sy'n ei wneud yn ddatblygiad sylweddol a thrwy hynny’n cynyddu ei effaith weledol a'i effaith ar fwynderau, a yw'n mynd yn groes i Bolisi TWR 3 sy'n datgan na fydd cynigion o'r fath yn cael eu caniatáu oni bai eu bod mewn lleoliad anymwthiol sydd wedi'i guddio'n dda gan nodweddion presennol y dirwedd  a lle gellir cydweddu'r unedau yn hawdd i'r dirwedd mewn modd nad yw'n peri niwed sylweddol i ansawdd gweledol y dirwedd, a gellir ei wrthod ar y sail honno.

 

Eglurodd y Rheolwr Rheoli Datblygu fod Polisi TWR3 yn nodi na fydd cynigion o'r fath yn cael eu caniatáu oni bai eu bod wedi'u lleoli mewn lleoliad anymwthiol sydd wedi'i guddio'n dda gan nodweddion presennol y dirwedd a / neu lle gellir cydweddu’r unedau'n hawdd i'r dirwedd mewn ffordd nad yw’n peri niwed sylweddol i ansawdd gweledol y dirwedd. Dywedodd y Swyddog y cynigir cynllun tirlunio fel rhan o'r cynnig a fydd yn lliniaru unrhyw effaith weledol gan ei wneud yn anymwthiol o fewn ei leoliad ac yn golygu na fydd yn achosi niwed sylweddol i ansawdd gweledol y dirwedd.

 

Er bod rhai aelodau o'r Pwyllgor yn gwrthwynebu'r cynnig oherwydd eu bod yn ystyried ei fod yn ymwthiol yn weledol o fewn ei dirwedd ac oherwydd eu bod yn credu y byddai'n arwain at ddwysáu mewn modd annerbyniol ddarpariaeth gwyliau o'r fath yn yr ardal, roedd mwyafrif aelodau'r Pwyllgor yn dymuno cymeradwyo’r cais oherwydd eu bod yn cyd-fynd â barn y Swyddog ei fod yn bodloni gofynion polisi a’u bod o’r herwydd yn ystyried ei fod yn fanteisiol yn economaidd i'r ardal.

 

Cynigiodd y Cynghorydd Kenneth Hughes y dylid cymeradwyo'r cais yn unol ag argymhelliad y Swyddog; eiliwyd y cynnig gan y Cynghorydd Bryan Owen. Cynigiodd y Cynghorydd John Griffith y dylid gwrthod y cais ar sail gor-gapasiti ac effaith weledol; eiliwyd y cynnig gan y Cynghorydd Vaughan Hughes.Yn y bleidlais ddilynol, cafodd y cynnig i gymeradwyo'r cais ei gario.

 

Penderfynwyd cymeradwyo’r cais yn unol ag argymhelliad ac adroddiad y Swyddog gyda’r amodau cynllunio sydd wedi’u cynnwys ynddo ac yn amodol hefyd ar dderbyn manylion am warediad dŵr wyneb.

 

7.2       FPL / 2018/57 - Cais llawn i godi 46 o anheddau ynghyd â chreu mynedfa newydd i gerbydau ar dir ger Parc Tyddyn Bach, Caergybi

 

Cyflwynwyd y cais i'r Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion oherwydd iddo gael ei alw i mewn i'r pwyllgor gan Aelod Lleol.

 

Dywedodd y Rheolwr Rheoli Datblygu eu bod yn dal i ddisgwyl am fanylion draenio mewn perthynas â’r cynnig uchod ac yn ogystal, mae mater polisi wedi codi yr wythnos hon mewn perthynas â'r cymysgedd o unedau fydd yn rhan o'r datblygiad arfaethedig. O ganlyniad, mae'r ymgeisydd wedi gofyn am ohirio ystyried y cais er mwyn rhoi amser i ymateb i'r materion hyn.

 

Cynigiodd y Cynghorydd Robin Williams y dylid gohirio'r cais yn ôl y gofyn; eiliwyd y cynnig gan y Cynghorydd Richard Owain Jones.

 

Penderfynwyd gohirio ystyried y cais am y rhesymau a roddwyd.

 

7.3       FPL/2019/13 – Cais llawn ar gyfer codi sied amaethyddol i gadw anifeiliaid a storio peiriannau a bwyd ynghyd ag adeiladu trac mynediad llain caled ar dir ger Mast Teleffon, Nebo

 

Cyflwynwyd y cais i'r Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion oherwydd i Aelod Lleol ei alw i mewn i'w benderfynu arno gan y Pwyllgor.

 

Gan ei fod wedi datgan diddordeb personol a rhagfarnus yn y cais, safodd y Cynghorydd Richard Owain Jones i lawr fel Is-gadeirydd ond arhosodd yn y cyfarfod er mwyn cyflwyno sylwadau fel Aelod Lleol.

 

Dywedodd y Cynghorydd Richard Owain Jones bod y cais yn un am sied amaethyddol gymharol fychan nad yw'n annhebyg i fodurdy mewn tŷ safonol a'i bod mewn pant ar Fynydd Eilian. O leoliad arfaethedig y sied nid oes llawer i'w weld hyd at Borth Llechog ar yr arfordir ac yn sicr nid yw'r sied yn weladwy o Borth Llechog. Os bydd y gwrychyn ger y ffordd yn tyfu'n uwch, bydd bron yn anweledig o'r ffordd. Mae'r ymgeisydd hefyd wedi dweud y byddai'n barod i adleoli'r sied i safle sydd yn is i lawr yn y cae. Mewn trafodaeth gyda'r Prif Swyddog Cynllunio, awgrymodd y swyddog bod yr ymgeisydd yn lleoli’r sied ger y siediau sydd eisoes ar y safle. Ni wnaeth yr ymgeisydd hynny er mwyn integreiddio'r datblygiad yn well ar y safle fel sy'n ofynnol gan y CDLl ar y Cyd. Bydd y cynllun plannu y bwriedir ei gynnal yn arwain at enillion o ran bioamrywiaeth, ecoleg a'r amgylchedd ac mae i'w groesawu fel un sy'n cydymffurfio â Pholisi PCYFF 4. Mae’r egwyddor gyffredinol o ddatblygiad at ddibenion amaethyddol yn cael ei dderbyn mewn polisïau cynllunio lleol a chenedlaethol ar yr amod y gellir cyfiawnhau’r datblygiad. Oherwydd ei leoliad, mae'n bosibl cyfiawnhau'r cynnig oherwydd bod angen sied i gadw peiriannau fferm a bwyd ac ati yn ddiogel ac i ddarparu cysgod i'r anifeiliaid mewn tywydd gwael. Mae'r safle'n ffurfio rhan o hen safle gorsaf radio Ynys Môn gyda sylfeini bloc concrid - mae rhwydwaith o geblau yn dal i fodoli ar y safle. Mae'n bosibl dadlau bod hwn yn safle tir llwyd masnachol y mae’r ymgeisydd yn bwriadu ei ddychwelyd i ddefnydd amaethyddol mewn ffordd sydd wedi'i integreiddio â'r dirwedd a’i fod o’r herwydd yn cydymffurfio â Pholisi AMG 2, 6.5.1 sef “Amcan Gwarchodaeth Ardaloedd Tirwedd Arbennig yw sicrhau fod unrhyw fwriad ar gyfer datblygu yn rhoi ystyriaeth i gynnal, cyfoethogi neu adfer cymeriad ac ansawdd cydnabyddedig yr ardaloedd.” Eglurodd y Cynghorydd Jones fod 16 o Ardaloedd Tirwedd Arbennig wedi'u nodi ar gyfer Gwynedd ac Ynys Môn sy'n cynnwys Mynydd Parys, ond nid Mynydd Eilian sef lleoliad y datblygiad arfaethedig. I gloi, mae'r safle yn agos at yr ATA, ond nid yw wedi'i leoli yn yr ATA ac nid yw’n weladwy o’r ATA chwaith, nid yw'r sied mewn lleoliad amlwg, nid yw'n weladwy o'r ffordd ac felly nid yw'n nodwedd amlwg ar y dirwedd. Mae'r bwriad yn rhesymol o ran maint, lleoliad a defnydd ac mae’n dderbyniol o ran y CDLl ar y Cyd ac mae'n cydymffurfio â Pholisïau PCYFF 4 ac AMG 2 6.5.1.

 

Cyfeiriodd y Cynghorydd Aled Morris Jones at nodweddion eraill yn y dirwedd yn yr ardal hon megis y felin wynt, y mast radio, yr hen orsaf radio a chwe thŷ sydd o fewn tafliad carreg i'r datblygiad arfaethedig.  Yn ei farn ef, mae'r rhain yn llawer amlycach o ran y ffaith eu bod yn “sefyll allan” na'r sied sy'n destun y cais. Mae Mynydd Parys sydd o fewn yr ATA filltir i ffwrdd o safle'r datblygiad. Bwriad y datblygiad yw galluogi unigolyn o'r ardal i ddychwelyd i ffermio a darparu cysgod i anifeiliaid a storfa ar gyfer cerbydau fferm. Gofynnodd i'r Pwyllgor gefnogi'r cais.

 

Gofynnodd y Pwyllgor am eglurhad ynghylch faint o anifeiliaid y mae'r ymgeisydd yn berchen arnynt ar hyn o bryd, a faint y gobeithiai eu prynu o gofio bod y sied yn cael ei chyfeirio ati fel un sy’n debyg i fodurdy o ran maint.

 

Cadarnhaodd y Cynghorydd Richard Owain Jones nad oedd gan yr ymgeisydd unrhyw anifeiliaid ar hyn o bryd am ei fod wedi dal arni i brynu stoc hyd nes bod y cais am y sied wedi'i benderfynu; nid oedd yr ymgeisydd yn berchen ar unrhyw dir yn unman arall. Dywedodd y Cynghorydd Jones nad oedd yn gwybod faint o anifeiliaid yr oedd yr ymgeisydd yn bwriadu eu prynu.

 

Dywedodd y Rheolwr Rheoli Datblygu fod gan yr ymgeisydd 2.3 hectar o dir ac mae'n bwriadu anifeiliaid yn y sied a storio peiriannau a bwyd ynddi. Nid yw'r ymgeisydd yn berchen ar unrhyw anifeiliaid ar hyn o bryd ac mae marc cwestiwn ynghylch faint o beiriannau fyddai eu hangen i gynnal y tir hwn. Mae safle'r cais o fewn Ardal Tirwedd Arbennig Mynydd Parys ac mae'n ffinio â'r Ardal o Harddwch Naturiol Eithriadol. Ystyrir bod y safle mewn lleoliad amlwg ac er bod mastiau cyfagos yn nodweddion sy’n tynnu sylw, mae'n parhau i fod yn lleoliad sensitif. Mae'r sied arfaethedig yn mesur 6 metr x 9.6 metr neu ychydig o dan 60m2 mewn arwynebedd llawr; mae canllawiau DEFRA yn nodi y dylid cadw 5 o ddefaid fesul erw sy'n golygu y byddai'r sied yn ddigonol ar gyfer 30 o ddefaid. Fodd bynnag, ni chyflwynwyd unrhyw dystiolaeth na chyfiawnhad fel rhan o'r cynnig i ddangos bod yr adeilad fel y'i cynigir yn angenrheidiol o ran maint, lleoliad a phwrpas mewn cysylltiad â defnydd amaethyddol, ac oherwydd y byddai'n ymwthiol o fewn y dirwedd, ystyrir ei fod yn annerbyniol gyda'r argymhelliad felly yn un o wrthod.

 

Dywedodd y Cynghorydd Eric Jones, yn siarad o'i brofiad fel ffermwr, fod y Weinyddiaeth Amaeth yn ei gwneud yn ofynnol i ffermwyr ddarparu lle gyda chyfleusterau priodol i drin anifeiliaid e.e. pan fyddant yn cael profion am wahanol glefydau. Mae sied yn angenrheidiol i bwrpas amaethyddol i storio bwyd / cynnyrch ac i ddarparu cysgod i'r anifeiliaid. Efallai mai bwriad yr ymgeisydd fydd cadw anifeiliaid dros y gaeaf sydd ddim yn bosibl ar hyn o bryd oherwydd nad oes ganddo sied. Er mwyn gwireddu potensial llawn yr anifeiliaid sy'n cael eu prynu, mae'n rhaid eu cadw am flwyddyn ychwanegol - gallai sied fod o gymorth i'r ymgeisydd gyflawni ei ddisgwyliadau o ran pris ei anifeiliaid.

 

Wrth ystyried y cynnig ac wedi gwrando ar y sylwadau a wnaed gan yr Aelodau Lleol, nododd y Pwyllgor ei fod o blaid cymeradwyo'r cais a'i fod yn derbyn yr angen am yr adeilad at ddibenion amaethyddol fel y’u bwriadwyd. Roedd mwyafrif y Pwyllgor ymhellach o’r farn, yng nghyd-destun nodweddion amlwg eraill amlwg ar y dirwedd yn ardal safle'r cais, na fyddai'r datblygiad arfaethedig yn achosi unrhyw niwed ychwanegol yn enwedig gan fod gwaith tirlunio yn cael ei gynnig i sgrinio’r fynedfa ac o amgylch yr adeilad ac y byddai hynny’n lliniaru unrhyw effeithiau gweledol. Am y rhesymau hyn, roedd y Pwyllgor o’r farn bod y cynnig yn cydymffurfio â Pholisïau CYFF4 ac AMG2 y Cynllun Datblygu Lleol ar y Cyd.

 

Cynigiodd y Cynghorydd Eric Jones y dylid cymeradwyo'r cais yn groes i argymhelliad y Swyddog. Eiliodd y Cynghorydd Kenneth Hughes y cynnig.

Cynigiodd y Cynghorydd Robin Williams y dylid gwrthod y cais yn unol ag argymhelliad y Swyddog; eiliwyd y cynnig gan y Cynghorydd John Griffith.

 

Yn y bleidlais ddilynol, derbyniwyd y cynnig i ganiatáu'r cais yn groes i argymhelliad y Swyddog.

 

Penderfynwyd cymeradwyo'r cais yn groes i argymhelliad y Swyddog oherwydd ystyrir ei fod yn cydymffurfio â Pholisïau CYFF4 ac AMG2 y CDLl ar y Cyd.

 

Yn unol â gofynion Cyfansoddiad y Cyngor, gohiriwyd y cais yn awtomatig tan y cyfarfod nesaf er mwyn rhoi cyfle i Swyddogion baratoi adroddiad ar y rheswm a roddwyd dros gymeradwyo'r cais.

Dogfennau ategol: