Eitem Rhaglen

Gweddill y Ceisiadau

12.1 FPL/2019/51 – Preswylfa, Y Fali

 

12.2 FPL/2019/31 - Ty Mawr, Pentraeth

 

12.3 FPL/2019/9 – Maes y Coed, Ffordd y Ffair, Porthaethwy

 

12.4 28C527B/VAR/ENF – Maes Carafannau Afallon, Llanfaelog

 

12.5 DIS/2019/20 – Cyffordd Star, Star

 

12.6 DIS/2019/28 – Cyffordd Star, Star

 

12.7 DIS/2019/24 – Maes yr Ysgol, Caergybi

Cofnodion:

12.1    FPL/2019/51 – Cais llawn i newid defnydd tir yn lle storio agored ar gyfer cerrig sy’n gysylltiedig â’r prif Y Fali a wneir o’r tir gan ymgymerwyr angladdau ar dir cyferbyn â Preswylfa, Valley

 

Cafodd y cais ei adrodd i’r Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion gan fod y ddau Aelod Lleol wedi ei alw i mewn i’r Pwyllgor.

 

Yn siarad fel Aelod Lleol, dywedodd y Cynghorydd Richard Dew fod hwn yn gais cwbl syml gan gwmni ymgymerwyr angladdau lleol i ddefnyddio’r tir i gael storio deunydd yn ymwneud â’r busnes ac nid oedd yn cynnwys unrhyw strwythur neu adeilad newydd. Mae’r safle o fewn Parth Llifogydd C2, a’r unig reswm dros argymell ei wrthod yw oherwydd yr arweiniad gan Gyfoeth Naturiol Cymru sy’n cynghori y dylid cyfyngu ar ddatblygiadau mewn ardaloedd o’r fath oherwydd y risg o lifogydd. Dywedodd y Cynghorydd Richard Dew petai safle’r cais yn dioddef llifogydd byth, y tebygolrwydd yw y byddai Fali gyfan o dan ddŵr hefyd. Mae’r risg yn fach ac yn yr achos hwn, gan mai cais ar gyfer defnydd busnes ydyw yn benodol ar gyfer storio cerrig, nid yw’r safle mor fregus ag y byddai petai at ddibenion preswyl.

 

Eglurodd y Cynghorydd Gwilym O. Jones, sydd hefyd yn Aelod Lleol, fod gofynion y busnes wedi tyfu a bod yr ardal mae’n ei gwasanaethu wedi ehangu, a bod yr ymgeisydd angen mwy o le i gadw deunydd cerrig gan nad oes digon o le storio ar y safle yn Preswylfa. Mae Tyddyn Cob sef y brif amddiffynfa ar gyfer tref Y Fali tua 1.5 milltir o safle’r cais, ac yn agos at Tyddyn Cob mae’r llifddorau sydd wedi cael eu hadnewyddu yn y blynyddoedd diweddar. Cyfeiriodd y Cynghorydd Jones at y tir yn y canol gan ddweud ei fod yn goleddu tuag at Y Fali a’i fod hefyd yn cynnwys y rheilffordd a’r A55. Nododd y Cynghorydd Jones y dywedwyd mewn cyfarfod lle bu’n bresennol fod mapiau llifogydd Cyfoeth Naturiol Cymru yn “amrwd”. Pwysleisiodd, petai unrhyw amheuon ynglŷn â’r cais, y byddai Cyngor Cymuned Y Fali wedi lleisio’r amheuon hynny. Yn ogystal, nid oedd unrhyw un yn lleol wedi gwrthwynebu i’r cais. Gofynnodd i’r Pwyllgor gefnogi’r cais gydag amodau priodol.

 

Adroddodd y Rheolwr Rheoli Datblygu, tra nad oes modd cefnogi cynigion datblygu sydd mewn parth Llifogydd C2 ac sy’n hynod o fregus yn eu natur, mae modd o fewn polisi cefnogi datblygiadau llai bregus fel yr un dan sylw, cyhyd â bod y cynnig yn cydymffurfio â’r meini prawf ym mharagraff 6.2 o TAN 15 – Datblygiadau a Risg Llifogydd. Mae’r cynnig wedi cael ei asesu yn erbyn y meini prawf hynny a darparwyd Asesiad Risg Llifogydd a baratowyd gan ymarferydd proffesiynol ar ran yr ymgeisydd gyda’r cais yn unol â maen prawf (iv) o baragraff 6.2. Canfu’r asesiad fod y cynnig yn rhoi sylw digonol i’r risg llifogydd sy’n gysylltiedig â phetai Tyddyn Cob yn methu. Dywedodd y Swyddog y gallai ddiweddaru’r Pwyllgor fod Cyfoeth Naturiol Cymru yn gwrthwynebu’r datblygiad ar y sail fod yr Asesiad Risg Llifogydd fel ei cyflwynwyd yn anghywir gan ei fod yn cyfeirio at uchder crib y llifddorau yn Nhyddyn Cob fel 7 metr AOD, ond mewn gwirionedd 4.4 metr yw’r uchder. Yn ogystal, mae’r Asesiad Risg Llifogydd yn dibynnu ar hen ddadansoddiad o doriad yn Nhyddyn Cob trwy ddefnyddio data o astudiaethau blaenorol, pan fo astudiaethau mwy diweddar wedi’u cynnal mewn perthynas â datblygiad Wylfa Newydd. Felly, nid yw’r cynnig yn bodloni maen prawf (iii) gan ei fod ar gae amaethyddol ac nid ar dir a ddatblygwyd o’r blaen, a maen prawf (iv) gan fod yr Asesiad Risg Llifogydd yn anghywir yn dechnegol sy’n golygu na ellir rhoi unrhyw bwys i’r canfyddiadau ynddo gan eu bod yn seiliedig ar wybodaeth anghywir. Yr argymhelliad felly yw gwrthod y cais.

 

Gofynnodd y Pwyllgor am eglurhad ynghylch a fyddai’n briodol gosod amod ar ganiatâd cynllunio i wahardd unrhyw un rhag codi adeilad ar y safle yn y dyfodol, a gofynnodd hefyd a yw’r cais yn dderbyniol o safbwynt Priffyrdd.

 

Eglurodd y Rheolwr Rheoli Datblygu gan nad yw’r cais yn cynnwys codi unrhyw adeilad, ni ellir cyfiawnhau gosod amod yn gwahardd hynny.

Cadarnhaodd y Peiriannydd Rheoli Datblygu fod y Gwasanaeth Priffyrdd yn fodlon gyda’r bwriad yn nhermau gwelededd a’r lle troi.

 

Ar ôl ystyried y bwriad ac ar ôl clywed barn yr Aelodau Lleol, dewisodd y Pwyllgor gymeradwyo’r cais yn groes i argymhelliad y Swyddog oherwydd tybiai fod y risg o lifogydd yn fychan, ac yn unol â maen prawf (iv) o TAN 15, roedd wedi ystyried y canlyniadau posib petai llifogydd yn digwydd ar gyfer y math penodol hwn o ddatblygiad [yn yr achos hwn, datblygiad masnachol llai bregus] ac yn nhermau’r meini prawf sydd wedi eu cynnwys yn Atodiad 1, roedd wedi casglu bod y rheini yn dderbyniol ar y sail y bydd y safle’n cael ei ddefnyddio i storio cerrig yn bennaf. Nododd y Pwyllgor na châi’r bwriad unrhyw effaith negyddol ar yr eiddo sydd yn union gerllaw.

 

Cynigiodd y Cynghorydd Robin Williams fod y cais yn cael ei gymeradwyo yn groes o argymhelliad y Swyddog; eiliwyd y cynnig gan y Cynghorydd Trefor Lloyd Hughes.

 

Penderfynwyd cymeradwyo’r cais yn groes i argymhelliad y Swyddog oherwydd ystyrir ei fod yn cydymffurfio gyda TAN 15 (iv).

 

Yn unol â Chyfansoddiad y Cyngor, cafodd y cais ei ohirio’n awtomatig tan y cyfarfod nesaf er mwyn rhoi cyfle i Swyddogion baratoi adroddiad mewn perthynas â’r rheswm a roddwyd am gymeradwyo’r cais.

 

12.2    FPL/2019/31 – Cais llawn ar gyfer newid defnydd adeilad allanol yn uned wyliau ynghyd â gosod tanc septig newydd yn Tŷ Mawr, Pentraeth

 

Cafodd y cais ei adrodd i’r Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion oherwydd bod Aelod Lleol wedi ei alw i mewn i’r Pwyllgor.

 

Siaradwr Cyhoeddus

 

Siaradodd Mr Aled Davies o blaid y cais a dywedodd ei fod yn dymuno addasu’r adeilad allanol un uned wyliau i’w gosod, er mwyn arallgyfeirio’r busnes gan felly ei wneud yn fwy gwydn. Byddai’r bwthyn gwyliau arfaethedig o’r safon uchaf ac yn cynnwys pedair ystafell wely, gyda lle felly i 8 i 10 o bobl. Byddai buddsoddi yn y datblygiad hwn yn dod â refeniw i’r Ynys ar ffurf ymwelwyr newydd a byddai’n darparu busnes i adeiladwyr lleol, ac i ddodrefnwyr lleol a staff lleol. Byddai busnesau, bwytai ac atyniadau lleol hefyd yn elwa o ragor o dwristiaid yn aros am gyfnodau hirach. Mae’r adeilad allanol yn rhan o glwstwr o 4 adeilad – 3 annedd gyda’r annedd drws nesaf 5 metr i ffwrdd, ac sydd newydd dderbyn caniatâd cynllunio ar gyfer ei ddymchwel a’i ailadeiladu fel tŷ modern newydd. Dywedodd Mr Davies fod Swyddog Treftadaeth y Cyngor yn hapus gyda’r bwriad a’i fod wedi treulio llawer o amser gyda phensaer lleol i sicrhau bod dyluniad y bwriad yn sensitif i’r ardal o’i amgylch, mae’r bwriad yn cadw waliau’r hen adeilad allanol ac mae ar yr un ôl-troed. Gorffennodd Mr Davies trwy ddweud ei fod yn ffyddiog fod yr achos busnes ar gyfer y fenter hon yn gryf a thrwy ei gefnogi, y byddai’r Pwyllgor hefyd yn cefnogi busnes lleol, diwylliant lleol a threftadaeth leol adeilad hanesyddol.

 

Holodd y Pwyllgor Mr Davies sut fyddai modd cael mynediad i safle’r cais petai argyfwng gan ei fod yn croesi traeth Pentraeth ac mae adroddiad y Swyddog yn nodi nad oes modd croesi ar adeg y penllanw. Cododd y Pwyllgor hefyd y mater o raddfa’r adeilad arfaethedig, wedi’i addasu, gan ei fod wedi’i leoli mewn Ardal o Harddwch Naturiol Eithriadol.

 

Dywedodd Mr Aled Davies bod rhaid weithiau aros tua 15 munud i’r llanw gilio ar adeg y penllanw yn ystod y gwanwyn a’r haf. Mae’r trac mynediad ar dop y traeth a pheth prin iawn yw methu croesi – yn y gorffennol mae tri theulu wedi byw yn y byngalo, y fferm a’r chalet a fydd yn cael ei ailadeiladu yn gartref newydd. Byddai cerbyd 4 x 4 yn medru croesi’n hawdd mewn argyfwng. Mae’r trac yn debyg i drac fferm, mae ychydig yn arw ond nid oes angen ei darmacio. Efallai y bydd angen gwneud ychydig o waith lefelu os yw’r trac wedi’i ddifrodi ar ôl y gaeaf. Dywedodd Mr Davies fod y Swyddog Priffyrdd wedi bod efo fo i edrych ar y safle a bod digonedd o le parcio yn cael ei ddarparu yn y lle parcio.

 

O ran pa mor weladwy yw’r datblygiad arfaethedig yn yr AHNE, dywedodd Mr Aled Davies na ellir gweld yr adeilad o unrhyw bwynt bron iawn oherwydd bod llwybr yr arfordir wedi’i leoli i’r cefn a chaiff ei guddio gan goed uchel a gwrychoedd. Wrth edrych o Lwybr yr Arfordir, y chalet a welir gyntaf, wedyn adeilad y fferm, y ffermdy ac wedyn y byngalo. ’Does ond modd eu gweld o bellter agosach, a bwriedir darparu sgrinio ychwanegol. Ni fyddai’r datblygiad arfaethedig yn weladwy o’r traeth. Mewn perthynas ag uchder yr adeilad, mae goleddf y to wedi’i ddylunio fel ei fod yn gostwng, ond wrth i lefel y ddaear fynd yn is hefyd, mae lle i ddau lawr. Mae’r ddau stabl ar y pen eisoes yn dal ac roedd eu huchder yn ddeulawr beth bynnag.

 

Yn siarad fel Aelod Lleol, dywedodd y Cynghorydd Ieuan Williams ar ôl i’r cais gwreiddiol gael ei wrthod, fod yr ymgeisydd wedi gwneud newidiadau i’r cynllun. Mae derbynioldeb y cynllun yn dibynnu ar y dehongliad o beth sy’n estyniad helaeth, gan fod yr egwyddor o addasu adeilad yn llety gwyliau wedi ei dderbyn o dan Bolisi TWR2. Nid yw ôl-troed yr adeilad arfaethedig yn fwy na 2% i 3% yn fwy nag ôl-troed yr adeilad presennol (er bod rhan o’r adeilad wedi cael ei ddiystyru fel ôl-troed presennol am nad yw’n addas i’w addasu) ac mae enghreifftiau lle mae addasiadau tebyg wedi cael eu cymeradwyo e.e. Llanfair-yn-y-cwmwd tu ôl i Llanfair Hall, sydd felly’n gosod cynsail am adeiladau deulawr. Mae Swyddog Treftadaeth y Cyngor o’r farn fod y dyluniad yn dderbyniol ac yn cyd-fynd â’r ardal o’i amgylch. Mae’n eironig fod y polisi yn caniatáu i’r byngalo chalet drws nesaf gael ei ddymchwel ac i godi tŷ modern yn ei le, ond o dan bolisi addasu adeiladau, ystyrir fod y datblygiad arfaethedig yn annerbyniol er ei fod yn cadw cymeriad yr adeilad presennol ac er bod y Swyddog Treftadaeth yn ei gefnogi. Dywedodd y Cynghorydd Williams na fyddai’r bwriad yn weladwy ac na fyddai’n effeithio ar fwynderau neb arall ac ni ystyriai ei fod yn ormodol i’w leoliad. Ychwanegodd ei fod yn gobeithio y byddai’r Pwyllgor mewn sefyllfa i wneud penderfyniad ar y cais o’r wybodaeth a gyflwynwyd yn y cyfarfod heddiw, ond os ddim, yna byddai croeso iddynt ystyried gwneud ymweliad safle.

 

Cynigiodd y Cynghorydd Trefor Lloyd Hughes y dylai’r Pwyllgor ymweld â’r safle fel y gallai’r Aelodau gael gwell gwerthfawrogiad o’r datblygiad

arfaethedig yn ei gyd-destun; eiliwyd y cynnig gan y Cynghorydd John Griffith.

 

Penderfynwyd cynnal ymweliad safle am y rheswm a roddwyd.

 

12.3    FPL/2019/9 – Cais llawn ar gyfer dymchwel y garejys presennol ynghyd ag adeiladau maes parcio, ffordd fynediad a lle troi newydd ym Maes y Coed, Ffordd y Ffair, Porthaethwy

 

Cafodd y cais ei adrodd i’r Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion oherwydd mai Cyngor Sir Ynys Môn sy’n gwneud y cais ar dir sy’n eiddo i’r Cyngor.

Adroddodd y Rheolwr Rheoli Datblygu fod safle’r cais sydd oddi mewn i Ardal Gadwraeth Porthaethwy, yn ardal wedi ei tharmacio ar hyn o bryd ac mae’n cynnwys nifer o garejys math ‘prefab’. Mae’r garejys yn ddolur llygad ac mewn cyflwr gwael. Mae’r cynnig yn bwriadu dymchwel y garejys a chreu 14 o lefydd parcio i geir, ac ystyrir y bydd hyn yn gwella cymeriad yr ardal ac yn creu lle mwy defnyddiol i ddeiliaid y fflatiau Maes y Coed gerllaw. Mae’r safle wedi’i amgylchynu gan goed sy’n destun Gorchymyn Gwarchod Coed, ac er y bydd y cynllun yn cynnwys tynnu rhai coed, cynigir amodau i warchod y coed fydd yn cael eu cadw yn ystod y cyfnod adeiladu.

 

Wrth gefnogi’r cais fel Aelod Lleol, dywedodd y Cynghorydd Robin Williams fod y garejys yn eu cyflwr presennol ar y safle yn ddolur llygad ac ar y cyfan, nid oes modd eu defnyddio; dylid croesawu’r bwriad i’w dymchwel ac ail ddatblygu’r safle at y diben a gynigir. Felly cynigiodd y Cynghorydd Robin Williams fod y cais yn cael ei gymeradwyo; eiliwyd y cynnig gan y Cynghorydd Eric Wyn Jones.

 

Penderfynwyd cymeradwyo’r cais yn unol ag argymhelliad ac adroddiad y Swyddog gyda’r amodau cynllunio sydd wedi eu cynnwys yn yr adroddiad.

 

12.4    28C527B/VAR/ENF – Cais o dan Adran 73A i amrywio amodau (05) (mynedfa) a (10) (cynlluniau a gymeradwywyd) o ganiatâd cynllunio rhif 28C527A (creu safle carafanau teithiol, codi bloc cawodydd a chreu mynedfa newydd i gerbydau) er mwyn addasu’r fynedfa, gosodiad y safle a dyluniad y bloc cawodydd ym Maes Carafanau Afallon, Llanfaelog 

 

Cafodd y cais ei gyflwyno i’r Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion ar gais Aelod Lleol.

 

Gan ei fod wedi datgan diddordeb personol sy’n rhagfarnu yn y cais, gadawodd y Cynghorydd Eric Jones y cyfarfod yn ystod y drafodaeth a’r bleidlais ar y cais.

 

Yn siarad fel Aelod Lleol, dywedodd y Cynghorydd Gwilym O. Jones er na ddaeth unrhyw sylwadau/gohebiaeth i law yr Adran Gynllunio, mae trigolion lleol wedi codi pryderon am y datblygiad yn y Cyngor Cymuned ac o ganlyniad, mae’r Cyngor Cymuned yn gofyn i’r Pwyllgor ymweld â’r safle gan fod hwn yn gais ôl-weithredol. Ymysg y pryderon mae uchder uwch y bloc cawodydd, a lleoliad newydd y fynedfa i’r safle.

 

Dywedodd y Cynghorydd Bryan Owen na chredai bod unrhyw beth o bwys i’w elwa o ymweld â’r safle, o gofio bod y Swyddogion o’r farn fod y bloc mwynderau yn dderbyniol fel mae wedi’i adeiladu, ac felly cynigiodd na ddylai’r Pwyllgor ymweld â’r safle; eiliwyd y cynnig gan y Cynghorydd John Griffith. Yn y bleidlais ddilynol, penderfynodd y Pwyllgor beidio ymweld â’r safle.

 

Dywedodd y Cynghorydd Gwilym O. Jones ymhellach wrth y Pwyllgor fod cynrychiolydd o’r Cyngor Cymuned wedi gobeithio cael siarad yn y cyfarfod ond credai y dylai ymweliad safle ddigwydd yn gyntaf. Cadarnhaodd y Cadeirydd fod cais wedi dod i law i gael siarad yn y cyfarfod, ond am na chafodd ei gyflwyno mewn pryd ac er mwyn peidio gosod cynsail, nid oedd wedi derbyn y cais.

 

Adroddodd y Rheolwr Rheoli Datblygu fod y cais yn un ôl-weithredol i gael amrywio amodau (05) a (10) er mwyn addasu’r dull mynediad i’r safle ac er mwyn addasu dyluniad y bloc cawodydd a threfniant y safle. Er y rhoddwyd caniatâd i gais am safle carafanau teithiol (25 llain) ac i godi bloc cawodydd ar y safle, mae’r bloc cawodydd sydd wedi’i adeiladu yn wahanol i’r cynllun a gymeradwywyd gan ei fod 1.4 metr yn uwch er mwyn gwneud lle i danciau storio dŵr i wasanaethu’r safle; mae’r fynedfa i’r safle wedi cael ei hadleoli 10 metr ymhellach i’r de na’r fynedfa a gymeradwywyd, ac mae’r safle wedi cael ei aildrefnu fel bod y lleiniau teithiol o dan y cynllun diwygiedig ymhellach i ffwrdd o derfyn y safle gyda’r eiddo agosaf, sef Neuadd. Mae’r Awdurdod Priffyrdd o’r farn nad oes unrhyw sail i wrthod y cais gan nad yw’r newid i’r fynedfa yn peri niwed sylweddol i ddiogelwch y briffordd, ac ym marn y Swyddog Cynllunio ni fydd dyluniad presennol y bloc toiledau/mwynderau ac ail-drefniant y safle yn cael effaith andwyol ar fwynderau’r eiddo cyfagos nac ar yr ardal o gwmpas. Yr argymhelliad felly yw cymeradwyo’r cais.

 

Cynigiodd y Cynghorydd Bryan Owen fod y cais yn cael ei gymeradwyo yn unol ag argymhelliad y Swyddog; eiliwyd y cynnig gan y Cynghorydd Trefor Lloyd Hughes.

 

Penderfynwyd cymeradwyo’r cais yn unol ag argymhelliad ac adroddiad y Swyddog gyda’r amodau cynllunio sydd wedi eu cynnwys yn yr adroddiad.

 

12.5    DIS/2019/20 – Cais i ryddhau amod (14) (datganiad dull yn nodi bod yr holl argymhellion a ddisgrifir yn adran 7 o’r adroddiad Asesiad Ecolegol a gyflwynwyd yn cael eu dilyn a’u mabwysiadu) o ganiatâd cynllunio 41LPA1041/FR/TR/CC cais llawn ar gyfer newid defnydd tir amaethyddol i’w ddefnyddio fel man stopio dros dro (10 llecyn) ar gyfer Sipsiwn a Theithwyr, creu mynedfa gerbydau newydd, ffurfio mynedfa a phafin newydd i gerddwyr ynghyd â datblygiadau cysylltiedig ar dir i’r dwyrain o Gyffordd Star, Star

 

Cafodd y cais ei adrodd i’r Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion gan mai Cyngor Sir Ynys Môn sy’n berchen y tir.

 

Gan fod y Rheolwr Rheoli Datblygu wedi datgan diddordeb yn y cais, gadawodd y cyfarfod yn ystod y drafodaeth a’r bleidlais ar y cais.

 

Adrodd y Rheolwr Tîm Rheoli Datblygu fod amod (14) wedi’i gynnwys er mwyn gwarchod ac amddiffyn buddiannau ecolegol safle’r datblygiad. Mae Datganiad Dull Ecoleg wedi’i dderbyn gyda’r cais cynllunio sy’n amlinellu’r holl argymhellion a ddisgrifir yn adran 7 yr Asesiad Ecolegol. Mae’r Ymgynghorydd Amgylcheddol Ecolegol wedi cadarnhau bod y wybodaeth yn foddhaol ac y gellir felly ryddhau’r amod. Gan yr ystyrir fod y wybodaeth a gyflwynwyd yn dderbyniol a’i bod yn cwrdd â gofynion amod (14) o gais cynllunio 41LPA1041/FR/TR/CC, yr argymhelliad yw cymeradwyo’r cais.

 

Cynigiodd y Cynghorydd John Griffith fod y cais yn cael ei gymeradwyo yn unol ag argymhelliad y Swyddog; eiliwyd y cynnig gan y Cynghorydd Vaughan Hughes.

 

Penderfynwyd cymeradwyo’r cais yn unol ag argymhelliad ac adroddiad y Swyddog. (Fe wnaeth y Cynghorwyr Bryan Owen a Robin Williams atal eu pleidlais ar y cais hwn)

 

12.6    DIS/2019/28 – Cais i ryddhau amod (12) (cyfrifiadau dylunio ategol cefnogi cyfrifiadau dylunio ar gyfer system ddraenio dŵr wyneb gwanedig) o ganiatâd Cynllunio 41LPA1041/FR/TR/ cais llawn ar gyfer newid defnydd tir amaethyddol i’w ddefnyddio fel man stopio dros dro (10 llecyn) ar gyfer Sipsiwn a Theithwyr, creu mynedfa gerbydau newydd, ffurfio mynedfa a phafin newydd i gerddwyr ynghyd â datblygiadau cysylltiedig ar dir i’r dwyrain o Gyffordd Star, Star

 

Cafodd y cais ei adrodd i’r Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion gan mai Cyngor Sir Ynys Môn sy’n berchen y tir.

 

Gan fod y Rheolwr Rheoli Datblygu wedi datgan diddordeb yn y cais, gadawodd y cyfarfod yn ystod y drafodaeth a’r bleidlais ar y cais.

 

Adrodd y Rheolwr Tîm Rheoli Datblygu fod amod (12) wedi’i gynnwys er mwyn sicrhau bod safle’r cais yn cael ei ddraenio’n ddigon da. Mae gwybodaeth am ddraenio wedi’i derbyn ac mae’r Adain Ddraenio wedi cadarnhau bod y strategaeth a’r cynlluniau draenio i weld yn ddigonol i reoli’r dŵr ffo o’r datblygiad arfaethedig. Gan yr ystyrir fod y wybodaeth a gyflwynwyd yn dderbyniol a’i bod yn cwrdd â gofynion amod (12) o gais cynllunio 41LPA1041/FR/TR/CC, yr argymhelliad yw cymeradwyo’r cais.

 

Cynigiodd y Cynghorydd Kenneth Hughes fod y cais yn cael ei gymeradwyo yn unol ag argymhelliad y Swyddog; eiliwyd y cynnig gan y Cynghorydd Vaughan Hughes.

 

Penderfynwyd cymeradwyo’r cais yn unol ag argymhelliad ac adroddiad y Swyddog. (Fe wnaeth y Cynghorwyr Bryan Owen a Robin Williams atal eu pleidlais ar y cais hwn)

 

12.7    DIS/2019/24 – Cais ar gyfer rhyddhau amodau (04) (Cynllun Rheoli Traffig Adeiladu), (06) (darpariaeth ar gyfer tai fforddiadwy) a (07) (cynllun manwl ar gyfer yr ardd gymunedol) o ganiatâd cynllunio FPL/2018/4 (cais llawn ar gyfer dymchwel y modurdai presennol ynghyd â chodi 4 annedd un person yn cynnwys lle parcio) ym Maes yr Ysgol, Caergybi)

 

Cafodd y cais ei adrodd i’r Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion gan mai Cyngor Sir Ynys Môn sy’n berchen y tir.

 

Adroddodd y Rheolwr Rheoli Datblygu eu bod yn ystyried bod y wybodaeth a gyflwynwyd yn dderbyniol ac yn cwrdd â gofynion amodau (04), (06) a (07) o gais cynllunio FPL/2018/4. Yr argymhelliad felly yw cymeradwyo’r cais.

 

Cynigiodd y Cynghorydd Robin Williams fod y cais yn cael ei gymeradwyo yn unol ag argymhelliad y Swyddog. Eiliwyd y cynnig gan y Cynghorydd Vaughan Hughes.

 

Penderfynwyd cymeradwyo’r cais yn unol ag argymhelliad ac adroddiad y Swyddog.

Dogfennau ategol: