Eitem Rhaglen

Rhybudd o Gynnig yn unol â Rheol 4.1.13.1 o'r Cyfansoddiad

·      Derbyn Rhybudd o Gynig gan y Cynghorwyr K P Hughes a Bryan Owen :-

 

‘Bod y Cyngor hwn yn cefnogi mewn egwyddor, ac yn amodol ar ganlyniad y prosesau statudol perthnasol, drigolion Llanfachraeth yn eu hymdrechion i ostwng y cyfyngiad cyflymder drwy’r pentref o 30mya i 20mya.’

 

Derbyn y Rhybuddion o Gynigiad isod gan y Cynghorwyr Bryan Owen a Shaun Redmond :-

 

1.     Rhybudd o Gynigiad yw hwn yn gofyn i aelodau’r Cyngor wrthod argymhelliad y swyddogion i beidio ag ariannu ysgolion yn ôl cost lawn yr holl bwysau cyllidebol y byddant yn eu hwynebu yn 2019/20.

 

Gofynnir i’r Cyngor Llawn gefnogi eu cyllido’n llawn er mwyn cwrdd â’r pwysau ariannol a fydd arnynt yn 2019/20.

 

2.     Rhybudd o Gynigiad yw hwn yn gofyn i aelodau’r Cyngor gefnogi cadw’r holl staff dysgu yn holl ysgolion Ynys Môn am weddill cyfnod y Weinyddiaeth hon – hyd at 2022.

 

Yn ychwanegol at hyn, bod yr aelodau’n cefnogi penodi i’r holl swyddi dysgu mewn modd sy’n gymesur â’r lefelau a argymhellir yn ôl niferoedd disgyblion yn ystod yr un cyfnod.

 

 

Cofnodion:

·           Cyflwynwyd – y Rhybudd o Gynigiad gan y Cynghorwyr K P Hughes a Bryan Owen:-

 

           ‘Bod y Cyngor hwn yn cefnogi mewn egwyddor, ac yn amodol ar ganlyniad y

            prosesau statudol perthnasol, drigolion Llanfachraeth yn eu hymdrechion i

     ostwng y cyfyngiad cyflymder drwy’r pentref o 30mya i 20mya.’

 

Dywedodd y Cynghorydd K P Hughes ei fod wedi derbyn deiseb gan drigolion Llanfachraeth yn cynnwys 310 o lofnodion gan oedolion a 26 gan blant mewn perthynas â phryderon bod damwain ddifrifol yn debygol o ddigwydd o ganlyniad i oryrru eithafol drwy’r pentref. Dywedodd, yn ystod prawf cyflymder a wnaed drwy'r pentref, y cyflymder uchaf a gofnodwyd oedd 62mya ar gyfer ceir a 47mya ar gyfer loriau. Yn ystod yr ychydig wythnosau diwethaf mae 4 o gerbydau wedi cael damweiniau traffig ac mewn 2 o'r achosion hynny, roedd angen i’r gwasanaethau brys fynychu. Nododd y Cynghorydd Hughes fod yr Adran Briffyrdd yn ymwybodol o’r pryderon lleol ac eu bod wedi mynychu cyfarfod â chynrychiolwyr o’r pentref, Aelodau Lleol, yr Heddlu, Aelodau Seneddol ac roedd y Deilydd Portffolio Priffyrdd, Eiddo a Gwastraff hefyd yn bresennol. Nododd hefyd nad oedd yr Aelod Cynulliad yn gallu mynychu’r cyfarfod ond ei fod wedi bod mewn cysylltiad â’r gymuned leol mewn perthynas â’r mater hwn. Mynegodd y safbwynt nad oedd y ffordd drwy Llanfachraeth yn ddigonol i ymdopi â’r traffig sy’n teithio drwy’r pentref. Yn dilyn y cyfarfod, roedd pawb a oedd yn bresennol yn gytûn bod angen mynd i’r afael â’r mater o oryrru drwy’r pentref. Mynegodd Heddlu Gogledd Cymru eu bod yn fodlon hyfforddi unigolion o’r pentref i ddefnyddio monitor cyflymder (gwn cyflymder) fel y maent wedi’i wneud mewn pentrefi eraill; fodd bynnag, nid yw’r cynnig wedi’i dderbyn. Bu’r Cynghorydd Hughes hefyd dynnu sylw at dair congl ddall yn y pentref a’r ffaith nad yw lorïau yn gallu pasio ei gilydd heb fynd ar y pafin sy’n achosi perygl i gerddwyr a phlant sy’n cerdded adref ar ôl cael eu gollwng gan y bws ysgol. Yn fwy na hynny, dywedodd y Cynghorydd Hughes fod Gweinidog Llywodraeth Cymru sydd â chyfrifoldeb am Drafnidiaeth yn gefnogol o barthau 20mya o fewn cymunedau lleol.            

 

Eiliwyd y cynnig gan y Cynghorydd Bryan Owen. 

 

Ymatebodd y Deilydd Portffolio Priffyrdd, Gwastraff ac Eiddo ei fod yn ymwybodol o’r traffig ym mhentref Llanfachraeth ond dywedodd fod yr holl bentrefi ar yr ynys yn profi problemau traffig. Dywedodd fod cais wedi’i dderbyn gan yr Adran Briffyrdd ar gyfer cyfyngiad cyflymder 20mya ar yr A5025 yn Llanfachraeth. Nododd ymhellach, petai’r prosiect Wylfa Newydd wedi mynd rhagddo, ei fod yn cael ei ragweld y byddai ffordd osgoi wedi cael ei hadeiladu ar gyfer Llanfachraeth. Cadarnhaodd y gall yr Awdurdod Priffyrdd osod cyfyngiad cyflymder 20mya drwy bentrefi neu dwmpathau cyflymder lle mae’n ystyried hynny’n briodol o dan Adran 84 Deddf Traffig y Ffyrdd. Byddai proses gyfreithiol yn cael ei chynnal cyn gosod y cyfyngiad cyflymder o 20mya drwy bentref a petai unrhyw wrthwynebiadau’n dod i law byddai angen i Bwyllgor Cynllunio a Gorchmynion y Cyngor ddelio â’r mater. Fodd bynnag, mae Canllawiau Cenedlaethol yn nodi na ddylid cyflwyno cyfyngiadau cyflymder heb ymgynghori â’r Heddlu a chael ei gefnogaeth. Mae’r Heddlu yn ystyried arolygon cyflymder a dywedodd y Deilydd Portffolio mai cyfartaledd y cyflymder a gofnodwyd drwy’r pentref oedd 28mya. Mae Heddlu Gogledd Cymru wedi cynnig helpu i sefydlu cynllun gwylio cyflymder cymunedol yn y pentref; mae rhai pentrefi yng Ngwynedd wedi sefydlu cynllun o’r fath ac mae hynny wedi arwain at ostyngiad mewn cyflymder drwy’r pentrefi hynny. Dywedodd y Deilydd Portffolio, tra bo Gweinidog Llywodraeth Cymru sydd â chyfrifoldeb am Briffyrdd yn cefnogi parthau 20mya o fewn ardaloedd preswyl, byddai’r gost ynghlwm â chynllun o’r fath ar draws yr Ynys yn sylweddol.     

 

Dywedodd y Deilydd Portffolio Priffyrdd, Eiddo a Gwastraff ei fod yn gwneud argymhellion a chadarnhaodd y byddent yn cael eu gweithredu beth bynnag:-

 

·      Sefydlu Grŵp llywio mewnol er mwyn cadarnhau’r weithdrefn y tu allan i ysgolion ac i gyflwyno mesurau ar argymhellion y Grŵp Llywio;

·      Cynnal arolwg cyflymder newydd ym mhentref Llanfachraeth ac ystyried y cais ar gyfer gosod cyfyngiad cyflymder o 20mya drwy bentref Llanfachraeth ar ôl asesu canlyniadau’r arolwg cyflymder ac yn dilyn trafodaethau â Heddlu Gogledd Cymru pan mae mwy o sicrwydd am effeithiau’r cynnydd ar draffig mewn pentrefi ar hyd yr A5025 o ganlyniad i ddatblygiad Wylfa Newydd;   

·      Gweithio gyda Heddlu Gogledd Cymru, Cyngor Cymuned Llanfachraeth ac Aelodau Lleol er mwyn sefydlu grŵp Gwylio Cyflymder Cymunedol yn Llanfachraeth;

·      Sicrhau bod Swyddogion Cyngor Sir Ynys Môn yn rhan o Grŵp Cenedlaethol sy’n ymchwilio i bolisïau 20mya ac sy’n adolygu trefniadau lleol yn unol ag unrhyw ganllawiau cenedlaethol newydd.  

 

Codwyd y prif faterion canlynol gan y Cyngor Sir:-  

 

·      Mae cerbydau yn goryrru ger ysgolion a ffyrdd trwy pentrefi a threfi lleol ar yr Ynys yn destun pryder; 

·      Mae’r mater o oryrru yn broblem yn yr holl drefi a phentrefi ac mae angen rhoi mesurau yn eu lle er mwyn rheoli goryrru mewn cyfyngiadau cyflymder 30mya;  

·      Dylid erlyn modurwyr os gwelir eu bod yn torri’r cyfyngiad cyflymder;

·      Mae problemau’n codi o ganlyniad i oryrru drwy strydoedd cul ac mae materion parcio hefyd yn bryder.

 

    Dywedodd y Cynghorydd Carwyn Jones ei bod yn bwysig cofio, os yw modurwyr yn torri’r cyfyngiad cyflymder eu bod yn torri’r gyfraith ac eu bod angen eu herlyn. Cynigiodd y dylid cynnwys o dan argymhellion y Deilydd Portffolio bod gwahoddiad yn cael ei ymestyn i Heddlu Gogledd Cymru fynychu Sesiwn Briffio Aelodau er mwyn trafod y mater o oryrru. Derbyniodd yr Aelod Portffolio y cynnig a bod angen i gynrychiolydd o’r Heddlu fod yn rhan o’r Grŵp Llywio.     

    

     Dywedodd Arweinydd y Cyngor ei bod hi’n bwysig bod y mater o gyfyngiadau cyflymder yn cael ei ystyried ar sail yr ynys gyfan. Nododd fod angen i fodurwyr fod yn ymwybodol o gyfyngiadau cyflymder a dylid eu herlyn os byddant yn goryrru. Cefnogodd yr Arweinydd argymhelliad y Deilydd Portffolio Priffyrdd, Gwastraff ac Eiddo y dylid sefydlu Grŵp Llywio ac y dylai gael aelodaeth traws bleidiol o blith yr holl bleidiau gwleidyddol ac y dylid hefyd cael cynrychiolaeth gan Heddlu Gogledd Cymru.  

 

     Nododd y Cynghorydd Hughes ei bod hi’n bwysig bod pryderon pobl leol yn cael eu hystyried a’u gweithredu arnynt.

    

     Cymerodd y Cadeirydd bleidlais ar y Cynnig ac fe bleidleisiodd y mwyafrif o blaid y cynnig.

 

 

Cafodd y cynnig ei basio.

 

·      Dywedodd y Cynghorydd Shaun Redmond ei fod yn dymuno tynnu’n ôl y Rhybuddion o Gynnig yr oedd wedi eu cyflwyno.

 

1. Rhybudd o Gynigiad yw hwn yn gofyn i aelodau’r Cyngor wrthod

argymhelliad y swyddogion i beidio ag ariannu ysgolion yn ôl cost lawn yr

holl bwysau cyllidebol y byddant yn eu hwynebu yn 2019/20.

 

Gofynnir i’r Cyngor Llawn gefnogi eu cyllido’n llawn er mwyn cwrdd â’r

pwysau ariannol a fydd arnynt yn 2019/20.

 

2. Rhybudd o Gynigiad yw hwn yn gofyn i aelodau’r Cyngor gefnogi cadw’r holl

staff dysgu yn holl ysgolion Ynys Môn am weddill cyfnod y Weinyddiaeth

hon – hyd at 2022.

 

Yn ychwanegol at hyn, bod yr aelodau’n cefnogi penodi i’r holl swyddi dysgu

mewn modd sy’n gymesur â’r lefelau a argymhellir yn ôl niferoedd disgyblion

yn ystod yr un cyfnod.