Eitem Rhaglen

Strategaeth Foderneiddio - Ardaloedd Llangefni a Seiriol

Cyflwyno adroddiad gan y Pennaeth Dysgu.

Cofnodion:

Cyflwynwyd i’r Pwyllgor Gwaith ei ystyried – adroddiad y Pennaeth Dysgu yn gofyn i’r Pwyllgor Gwaith ddiddymu ei benderfyniadau blaenorol ynglŷn â dyfodol y ddarpariaeth addysg yn ardaloedd Llangefni a Seiriol.

 

Gan iddo ddatgan diddordeb personol sy’n rhagfarnu yn y mater hwn, gadawodd y Cynghorydd Richard Dew y cyfarfod yn ystod y drafodaeth a’r penderfyniad ar y mater.

 

Adroddodd y Prif Weithredwr, o ganlyniad i nifer o sylwadau a phryderon ynglŷn â’r broses ymgynghori ar foderneiddio ysgolion yn ardaloedd Llangefni a Seiriol, ac oherwydd i gŵyn gael ei chyflwyno ynglŷn â diffyg cydymffurfiaeth â’r Cod Trefniadaeth Ysgolion (006/2013), roedd y Swyddogion wedi cynnal adolygiad mewnol o’r broses ymgynghori statudol a wnaethpwyd yn y ddwy ardal. Roedd y canfyddiadau o’r adolygiad mewnol wedi dwyn sylw at bryderon technegol ynglŷn â chydymffurfiaeth â’r Cod Trefniadaeth Ysgolion (006/2013), ac mae enghreifftiau penodol o’r diffyg cydymffurfiaeth i’w gweld yn yr adroddiad. Oherwydd y pryderon hyn, y risgiau sy’n gysylltiedig â’r broses a’r angen i allu dangos bod y broses wedi bod yn gwbl drylwyr a thryloyw, ac oherwydd parch y Cyngor at y cymunedau dan sylw, roedd y Swyddogion yn argymell bod y Pwyllgor Gwaith yn diddymu ei benderfyniadau blaenorol ar ddyfodol addysg yn ardaloedd Llangefni a Seiriol.

 

Dywedodd y Prif Weithredwr nad y Pwyllgor Gwaith na’r Aelodau Etholedig, a oedd wedi gweithredu ar gyngor y Swyddogion, oedd yn gyfrifol am y llithriad hwn; mae wedi codi oherwydd pwyntiau penodol lle nad oedd proses ymgynghori y Cyngor yn cydymffurfio â gofynion y Cod, ac ni sylwyd ar y pwyntiau penodol hyn ar y pryd. Fel y Prif Weithredwr ac fel y Swyddog oedd â’r cyfrifoldeb cyffredinol am y rhaglen ar y pryd, roedd yn edifar ganddo ac roedd yn siomedig iawn fod hyn wedi digwydd, yn enwedig gan fod y broses Moderneiddio Ysgolion yn un o raglenni mwyaf heriol y Cyngor sy’n golygu gorfod gwneud penderfyniadau anodd iawn ar brydiau. Ymddiheurodd am hyn, ac yn arbennig wrth yr holl fudd-ddeiliaid a oedd wedi rhoi o’u hamser i gymryd rhan yn y prosesau ymgynghori a wnaed yn ardaloedd Llangefni a Seiriol. Amcan y Rhaglen Moderneiddio Ysgolion yn dal i fod yw darparu amgylchedd dysgu o’r radd flaenaf i ddisgyblion, athrawon a Phenaethiaid yr Ynys gan felly greu’r amgylchiadau lle gallant gyflawni a llwyddo. Dywedodd y Prif Weithredwr ei fod ef a’r Pwyllgor Gwaith yn gweld llwyddiant plant ysgol yr Ynys a llwyddiant addysg fel mater o bwysigrwydd eithriadol.

 

Dywedodd yr Aelod Portffolio dros Addysg, Llyfrgelloedd, Diwylliant ac Ieuenctid ei fod yntau, fel y Prif Weithredwr, hefyd yn siomedig gyda’r datblygiad hwn, gan ystyried yr holl waith oedd wedi digwydd ar ran y Cyngor a phawb sy’n gysylltiedig â’r ysgolion yn y ddwy ardal, ac yn enwedig am ei fod o ganlyniad i lithriad mewn proses. Er i’r materion perthnasol dderbyn sylw a chael eu trafod yn y cyfarfodydd sgriwtini a chyfarfodydd eraill, ni wnaeth hyn gydymffurfio’n llwyr â’r Cod. Tra bod y llithriad yn lithriad yn y broses, mae’r Cyngor a’i aelodau etholedig yn ymddiheuro i bawb sy’n gysylltiedig â’r ysgolion yn ardaloedd Llangefni a Seiriol. Yn wyneb y manylion yn yr adroddiad, cynigiodd argymhelliad y Swyddog y dylid diddymu’r penderfyniadau blaenorol ar y ddarpariaeth addysg yn ardaloedd Llangefni a Seiriol. Cynigiodd hefyd y dylid gofyn i’r Swyddogion edrych o’r newydd ar y gwahanol faterion sy’n ymwneud â moderneiddio ysgolion a’r gofynion o dan Gôd Trefniadaeth Ysgolion 2018 yn ardaloedd Llangefni a Seiriol, a dod ag adroddiad priodol yn ôl i’r Pwyllgor Gwaith maes o law.

 

Cytunodd y Pwyllgor Gwaith gyda chynigion y Aelod Portffolio.

 

Penderfynwyd –

 

           Diddymu’r penderfyniadau blaenorol a wnaed gan y Pwyllgor Gwaith ynglŷn â dyfodol addysg yn ardaloedd Llangefni a Seiriol.

           Gofyn i’r Swyddogion edrych o’r newydd ar y gwahanol faterion mewn perthynas â moderneiddio ysgolion a’r gofynion o dan Gôd Trefniadaeth Ysgolion 2018 yn ardaloedd Llangefni Seiriol ac i ddychwelyd gydag adroddiad priodol i’r Pwyllgor Gwaith maes o law.

 

(Ni wnaeth y Cynghorydd Carwyn Jones bleidleisio ar y mater)

Dogfennau ategol: