Eitem Rhaglen

Monitro Gwelliannau yn y Gwasanaethau Plant

·        Cyflwyno adroddiad y Pennaeth Gwasanaethau Plant a Theuluoedd.

 

·        Cyflwyno adroddiad y Panel Gwella Gwasanaethau Plant.

Cofnodion:

           Cyflwynwyd adroddiad y Pennaeth Gwasanaethau Plant a Theuluoedd yn nodi’r meysydd yr oedd y Gwasanaethau Plant a Theuluoedd wedi canolbwyntio arnynt ers cyflwyno’r adroddiad cynnydd chwarterol blaenorol ar gyfer ystyriaeth y Pwyllgor. Nodwyd fod y gwaith o wella’r gwasanaeth bellach yn cael ei yrru gan Gynllun Datblygu Gwasanaeth 3 blynedd newydd yn cynnwys 5 o themâu a oedd wedi disodli’r Cynllun Gwella Gwasanaeth Blaenorol.   

 

Dywedodd y Pennaeth Gwasanaethau Plant a Theuluoedd fod yr adroddiad diweddaraf hwn yn darparu tystiolaeth graffigol o’r gwelliant mewn perfformiad yn erbyn dangosyddion perfformiad allweddol yn Chwarter 4 2018/19 o’u cymharu â pherfformiad yn erbyn yr un dangosyddion yn Chwarter 4 2017/18. Aeth â’r Pwyllgor drwy bob un o’r Dangosyddion Perfformiad gan egluro’r agweddau o’r gwasanaeth a fesurwyd gan amlygu arwyddocâd y gwelliant mewn perthynas â phob un yn unigol ac ar y cyd, gan adlewyrchu ar y newidiadau positif a’r datblygiadau cadarnhaol a oedd yn digwydd i’r gwasanaeth yn gyffredinol. Cafodd y positifrwydd ei atgyfnerthu ymhellach gan y gostyngiad yn nifer y cwynion Cam 1 yr oedd y Gwasanaeth wedi eu derbyn yn ystod Chwarter 4 ynghyd â’r 68 o ganmoliaethau a dderbyniwyd yn ystod y flwyddyn yn dangos gwerthfawrogiad o broffesiynoldeb staff, y gefnogaeth a dderbyniwyd gan deuluoedd a’r perthnasau cadarnhaol a ffurfiwyd gyda defnyddwyr gwasanaeth yn cynnwys plant. Yn ogystal â chanolbwyntio ar berfformiad, mae’r Gwasanaeth wedi treulio amser yn datblygu polisïau sy’n ymwneud yn benodol ag ôl-ofal a materion ariannol ar gyfer plant sy’n derbyn gofal ac mae Pecyn Maethu newydd wedi’i lansio sy’n creu mwy o ddiddordeb mewn maethu.    

 

Gan gyfeirio at drefniadau’r dyfodol, gofynnodd yr Aelod Portffolio Gwasanaethau Cymdeithasol am ganiatâd y Pwyllgor i sefydlu’r Panel Gwella Gwasanaethau Cymdeithasol a fyddai’n ymdrin â Gwasanaethau Oedolion ynghyd â’r Gwasanaethau Plant a Theuluoedd, Byddai hyn yn galluogi’r Gwasanaethau Oedolion i dderbyn yr un lefel o graffu ag y mae’r Gwasanaethau Plant a Theuluoedd wedi’i dderbyn yn y blynyddoedd diwethaf a byddai hefyd yn galluogi Aelodau Etholedig i ddatblygu gwybodaeth fanylach am y prosesau a’r heriau o fewn y Gwasanaethau Oedolion. Roedd y cynnig hwn wedi’i argymell gan y Bwrdd Trawsnewid Gofal Cymdeithasol i Oedolion a'r Panel Gwella Gwasanaethau Plant yn eu cyfarfodydd ar 22 Mai, 2019 a 23 Mai 2019.   

 

Trafodwyd y materion canlynol wrth ystyried yr adroddiad –

 

           Roedd y Pwyllgor yn falch o nodi’r gwelliant mewn perfformiad y mae’r data yn yr adroddiad yn tystio iddo ac fe groesawyd hefyd y cynnydd sydd wedi’i wneud o ran gwella cadernid polisïau, prosesau a gweithdrefnau o fewn y Gwasanaeth. Roedd y Pwyllgor yn awyddus i ddeall sut roedd y gwelliant sylweddol mewn perfformiad wedi’i gyflawni, o ran nifer y plant ysgol sydd wedi newid ysgol am resymau nad ydynt yn rhai triosiannol, o ystyried y llynedd bod bron i draean o’r plant oedran ysgol wedi gorfod newid ysgol am resymau nad oeddynt yn rhai trosiannol gyda 19 ym mis Medi yn unig o gymharu â 6.5% ar gyfer eleni. Cynghorwyd y Pwyllgor fod mwy o sefydlogrwydd o fewn y tîm Gweithwyr Gofal Cymdeithasol Plant sy’n golygu bod modd datblygu perthnasau mwy sefydlog a chyson gyda phlant unigol a bod hyn ynghyd â gwaith y Tîm Teuluoedd Gwydn a'r Gwasanaeth yn bod yn fwy parod i herio rhybuddion gan asiantaethau preifat o ddod â lleoliad i ben er mwyn trafod unrhyw faterion a allai fod wedi codi, i gyd wedi cyfrannu at sicrhau bod perfformiad yn y cyswllt hwn yn is na’r targed.      

           Roedd y Pwyllgor yn gefnogol o sicrhau’r un lefel o graffu i’r Gwasanaethau Plant ond gofynnwyd am fwy o eglurder pam yr ystyriwyd y byddai cyfuno’r gwaith o graffu dau wasanaeth o fewn un panel yn fwy effeithiol na chael dau banel ar wahân. Cadarnhaodd yr Aelod Portffolio Gwasanaethau Cymdeithasol yr ystyriwyd fod yr arbenigedd a'r wybodaeth o Wasanaethau Plant y mae Aelodau wedi’i chael drwy’r Panel Gwella Gwasanaethau Plant angen ei efelychu gyda’r Gwasanaethau Oedolion. Y ffordd orau o gyflawni hyn, gan gymryd i ystyriaeth y capasiti cyfyngedig o ran niferoedd yr Aelodau Etholedig ar y Cyngor, fyddai drwy gael un panel gyda chylch gwaith i gynnwys Gwasanaethau Plant a Theuluoedd a’r Gwasanaeth Oedolion. Byddai 6 mis cyntaf y panel newydd yn cael ei dreulio yn ymgyfarwyddo/hyfforddi’r aelodau ym mhob agwedd o’r Gwasanaeth Oedolion (hyfforddiant a sesiynau codi ymwybyddiaeth fel a fu’n nodwedd o raglen waith y Panel gwella Gwasanaethau Plant presennol) gyda’r elfen perfformiad i gael sylw drwy raglen waith yn cyfuno elfennau o’r ddau wasanaeth gyda’r nod yn y pen draw o wella dealltwriaeth Aelodau o’r Gwasanaethau Cymdeithasol yn ei gyfanrwydd.   

 

Cadarnhaodd y Prif Weithredwr mai’r amcan oedd datblygu dealltwriaeth a gwerthfawrogiad Aelodau o anghenion y Gwasanaethau Oedolion i’r un lefel o aeddfedrwydd a ddatblygwyd yng nghyd-destun y Gwasanaethau Plant. Byddai hyn yn galluogi Aelodau i graffu a herio’r Gwasanaethau Oedolion gyda hyder, oherwydd bod ganddynt y wybodaeth angenrheidiol i allu gwneud hynny, fel sydd wedi digwydd gyda’r Gwasanaethau Plant.  

 

Yn dilyn ystyried yr holl wybodaeth a gyflwynwyd ynghyd â’r esboniadau a ddarparwyd gan y Swyddogion/Aelodau Portffolio mewn perthynas â’r pwyntiau a godwyd, PENDEFFYNWYD bod y Pwyllgor Sgriwtini Corfforaethol – 

 

           Yn cadarnhau ei fod yn fodlon â chyflymder y cynnydd a’r gwelliannau a wnaed hyd yma o fewn y Gwasanaethau Plant a Theuluoedd a llongyfarch y Gwasanaeth am hynny.

           Cymeradwyo sefydlu’r y Panel Gwella Gwasanaethau Cymdeithasol er mwyn gallu dechrau ar y gwaith ar unwaith. 

 

NI CHYNIGWYD UNRHYW GAMAU PELLACH 

 

           Cyflwynwyd adroddiad gan y Panel Gwella Gwasanaethau Plant yn disgrifio gwaith ac allbwn y Panel yn ystod y cyfnod rhwng Mawrth 2019 ac Ebrill 2019 ar gyfer ystyriaeth y Pwyllgor.

 

 

Adroddodd y Cynghorydd Richard Griffiths, cynrychiolydd y Pwyllgor Sgriwtini Corfforaethol ar y Panel, ar waith y Panel yn ystod y cyfnod hwn a oedd yn cynnwys themâu’r Cynllun Datblygu Gwasanaeth newydd a’r Ymweliadau Laming. Yn ychwanegol, roedd y Panel ym mis Ebrill wedi ymgymryd â hunan-werthusiad o’i effaith a byddai’n adrodd yn ôl ar y canlyniad yn yr adroddiad cynnydd nesaf i’r Pwyllgor a oedd wedi’i gynllunio ar gyfer Medi, 2019. Nid oedd unrhyw faterion wedi eu huwchgyfeirio ar gyfer sylw’r Pwyllgor yn y chwarter hwn a gofynnwyd i’r Pwyllgor ystyried a oedd yn fodlon â chadernid gwaith monitro’r Panel hyd yma.  

 

Yn dilyn ystyried yr adroddiad a chadarnhau ei fod yn fodlon â gwaith a chyfeiriad y Panel, penderfynodd y Pwyllgor Sgriwtini Corfforaethol nodi’r canlynol –

 

           Y cynnydd a wnaed hyd yma gyda gwaith y Panel Gwella Gwasanaethau Plant o ran cyflawni ei raglen waith.

           Bod y Cynllun Gwella Gwasanaeth bellach wedi ei fabwysiadu, gyda’r Cynllun Gwella Gwasanaeth blaenorol bellach wedi ei gau.

           Y meysydd gwaith sydd wedi eu cynnwys yn ystod Ymweliadau Laming fel ffordd o gryfhau atebolrwydd a gwybodaeth a dealltwriaeth aelodau’r Panel.

           Y rhaglen ddatblygu barhaus ar gyfer aelodau’r Panel sy’n cael ei darparu’n fewnol.  

 

NI GYNIGIWYD UNRHYW GAMAU PELLACH

Dogfennau ategol: