Eitem Rhaglen

Galw Penderfyniad i Mewn: Adroddiad Blynyddol a Chyfrifon Ymddiriedolaeth Addysg Bellach Ynys Môn 2017/18

Penderfyniad a wnaed gan y Pwyllgor Gwaith yn ei gyfarfod a gynhaliwyd ar 29 Ebrill, 2019 mewn perthynas ag Adroddiad Blynyddol a Chyfrifon Ymddiriedolaeth Addysg Bellach Ynys Môn 2017/18 sydd wedi’i alw i mewn gan y Cynghorwyr Peter Rogers, Shaun Redmond, R. Llewelyn Jones, Kenneth Hughes a Bryan Owen.

 

Mae’r ddogfennaeth ynghlwm fel a ganlyn –

 

·        Y penderfyniad a gyhoeddwyd ar 2 Mai, 2019

 

·        Y cais galw i mewn

 

·        Adroddiad Blynyddol a Chyfrifon Ymddiriedolaeth Addysg Bellach Ynys Môn 2017/18 fel y’u cyflwynwyd i gyfarfod y Pwyllgor Gwaith ar 29 Ebrill, 2019.

Cofnodion:

Cafodd penderfyniad a wnaed gan y Pwyllgor Gwaith yn ei gyfarfod ar 29 Ebrill, 2019, i gymeradwyo Adroddiad Blynyddol a Chyfrifon Ymddiriedolaeth Addysg Bellach Ynys Môn ar gyfer 2017/18, ei alw i mewn gan y Cynghorwyr Peter Rogers, Kenneth Hughes, Robert Llewelyn Jones, Bryan Owen a Shaun Redmond. Cyflwynwyd penderfyniad y Pwyllgor Gwaith, y cais i alw’r penderfyniad i mewn ac adroddiad y Pennaeth Swyddogaeth (Adnoddau)/Swyddog Adran 151 i’r Pwyllgor Gwaith ar 29 Ebrill, 2019 a oedd yn cynnwys yr Adroddiad Blynyddol a Chyfrifon Ymddiriedolaeth Addysg Bellach Ynys Môn ar gyfer 2017/18. 

 

Eglurodd y Cynghorydd Peter Rogers, fel y Blaen Aelod Galw-i-Mewn, y rhesymau dros alw’r penderfyniad a wnaed gan y Pwyllgor Gwaith ar 29 Ebrill 2019 i mewn, fel y nodwyd yn y ffurflen berthnasol –

 

           Y ffordd bron yn wamal y bu i’r Pwyllgor Gwaith basio’r adroddiad hwn

           Roedd yr adroddiad a roddwyd i’r Pwyllgor Gwaith yn rhoi sylw i ddyledion drwg a cholledion ariannol yn y cyfrifon oherwydd costau atgyweirio sy’n parhau

           Ni roddwyd unrhyw dystiolaeth mewn gwirionedd o gefnogi addysg bellach ar gyfer pobl ifanc yn ystod eu blynyddoedd terfynol neu ar ôl gadael ysgol, er mwyn cefnogi eu hanghenion hyfforddiant. 

 

Dywedodd y Cynghorydd Peter Rogers ei fod yn bryderus am y ffordd bron yn frysiog yr oedd y Pwyllgor Gwaith wedi cymeradwyo Adroddiad Blynyddol a Chyfrifon Ymddiriedolaeth Addysg Bellach Ynys Môn 2017/18 yn ei gyfarfod a gynhaliwyd ar 29 Ebrill, 2019, gydag ychydig iawn o gwestiynau yn cael eu gofyn am yr hyn yr oedd y ffigyrau yn eu dangos am berfformiad yr Ymddiriedolaeth ac a oedd yn bodloni ei nodau ac amcanion o gynorthwyo disgyblion y presennol a’r gorffennol i allu cwblhau eu haddysg a/neu addysg bellach a hyfforddiant. Cyfeiriodd y Cynghorydd Rogers at hanes Ymddiriedolaeth Addysg Bellach Ynys Môn a’i egwyddorion sylfaenol a dywedodd ei fod yn bryderus fod y cyfrifon yn dangos na wneir y gorau o’r incwm o’r tir a’r mân-ddaliadau sy’n ffurfio rhan o stad David Hughes gan i’r Ymddiriedolaeth wneud colled ariannol yn 2017/18 o ganlyniad i gostau atgyweirio. Gyda rheolaeth fwy manwl gellid cynhyrchu mwy o refeniw o’r tir a'r eiddo i’w ddefnyddio at ddibenion addysgol sef y rheswm dros ffurfio’r Ymddiriedolaeth. Tynnodd y Cynghorydd Rogers sylw at y ffaith fod Adroddiad Blynyddol 2014/15 yn nodi bod grantiau o Gronfa’r Ymddiriedolaeth wedi stopio nifer o flynyddoedd ynghynt a holodd a yw’r ffurflenni grant yn cael eu cylchredeg fel y dylent ym mis Ebrill bob blwyddyn. Tra bod y Pwyllgor gwaith, fel rhan o’i benderfyniad ar y mater, yn cynnal adolygiad o’r Ymddiriedolaeth, y diweddaraf mewn nifer o newidiadau sydd wedi digwydd dros y blynyddoedd yn ei farn ef, ac wedi gofyn am adroddiad cynnydd o fewn 6 mis, gellid defnyddio’r amser hwnnw yn gwahodd ceisiadau am gyllid, dosbarthu’r arian ac yn helpu’r bobl ifanc yn y ffordd yr oedd yr Ymddiriedolaeth wedi bwriadu.       

 

Cyfeiriodd y Cynghorydd Rogers hefyd at lywodraethiant yr Ymddiriedolaeth fel sydd wedi’i grynhoi yn yr Adroddiad Blynyddol yn nodi mai Cyngor Sir Ynys Môn yw unig ymddiriedolwr Ymddiriedolaeth Addysg Bellach Ynys Môn a bod yr elusen yn cael ei rhedeg gan Bwyllgor Gwaith y Cyngor. Mae’r Adroddiad Blynyddol yn nodi bod ymddiriedolwyr newydd yn cael eu briffio ar eu dyletswyddau cyfreithiol o dan y gyfraith elusennol, cynnwys y ddogfen lywodraethu a’r broses gwneud penderfyniadau. Bydd unrhyw anghenion hyfforddiant yn cael eu hadnabod a’u cyflawni’n fewnol gan ymddiriedolwyr presennol eraill a swyddogion y Cyngor. Holodd y Cynghorydd Rogers a yw hyn yn digwydd mewn gwirionedd. 

 

Dywedodd y Cynghorydd Peter Rogers, wrth alw’r penderfyniad hwn i mewn, ei fod yn gofyn i’r Pwyllgor Gwaith ddiddymu’r penderfyniad a wnaeth ar 29 Ebrill er mwyn rhoi gweithdrefn yn ei lle a fyddai’n darparu buddion uniongyrchol i bobl ifanc yr Ynys heddiw, tra rhoddir ystyriaeth i ddiwygio’r Ymddiriedolaeth yn y tymor hir gan gynnwys edrych ar a oes gan yr Ymddiriedolwyr y sgiliau priodol ac a ydynt yn derbyn hyfforddiant. Rhoddwyd cyfle i’r Cynghorydd R. Llewelyn Jones a'r Cynghorydd Kenneth Hughes, nad ydynt yn aelodau o’r Pwyllgor Sgriwtini Corfforaethol, siarad gan eu bod wedi arwyddo’r cais i alw’r penderfyniad i mewn. Fe wnaethant siarad o blaid y Cynghorydd Peter Rogers gan nodi ei bod yn bwysig fod y mater hwn yn cael ei graffu er mwyn sefydlu a oes modd gwneud pethau’n well neu’n wahanol er lles, yn y pen draw, y bobl ifanc sydd i fod i elwa o Gronfa’r Ymddiriedolaeth. 

 

Dywedodd y Pennaeth Swyddogaeth (Adnoddau)/Swyddog Adran 151, wrth gadarnhau cyfansoddiad Ymddiriedolaeth Addysg Bellach Ynys Môn, fod yr Ymddiriedolaeth yn cynnwys tair cronfa ac un o’r rheini yw Stad Elusennol David Hughes (Cronfa Waddol) sy’n cynhyrchu incwm rhent gan y tir a’r bythynnod sy’n ffurfio rhan o’r gwaddol. Ar ôl i gostau rheoli, costau ariannol a chostau gweinyddol y stad gael eu tynnu, gellir dosbarthu gweddill yr incwm net. Bydd chwarter o unrhyw incwm dros ben yn cael ei dalu i Elusen David Hughes i’r Tlodion; nid yw’r elusen hon yn gysylltiedig â’r Cyngor ac fe’i rheolir yn annibynnol. Mae gweddill yr incwm wedyn yn ffurfio rhan o Gronfa Addysg bellach Ynys Môn sydd wedyn yn cael ei rhannu’n ddwy gronfa bellach – Cronfa Ymddiriedolaeth Addysg Bellach Ynys Môn lle defnyddir ⅓ o’r cyllid er budd disgyblion presennol yn y pum ysgol uwchradd a weithredir gan y Cyngor, a’r Gronfa Ymddiriedolaeth Addysg Bellach Ynys Môn lle defnyddir ⅔ o’r cyllid er mwyn cynorthwyo cyn ddisgyblion y pum ysgol uwchradd gydag addysg bellach neu addysg uwch a hyfforddiant. Mae’r Ymddiriedolwyr (y Cyngor) yn dosbarthu cyllid yn unol â Chynllun dyddiedig 18 Gorffennaf, 1960 (sy’n addasu’n sylweddol y Cynllun 1939 blaenorol) y mae’r Ymddiriedolaeth wedi’i reoleiddio ganddo. Mae’r swyddogaeth hwn h.y. dosbarthu grantiau addysgol, wedi ei ddirprwyo i’r Pennaeth Dysgu.              

 

Gan ddyfynnu o’r Saesneg, dywedodd y Swyddog fod y Cynllun 1960 yn nodi “the Council may apply such yearly sums they think fit to provide special benefit for senior pupils at county schools. The Council may apply such yearly sums as they think fit being not more than ⅓ of the said net yearly income in providing such special benefit of any kind not normally provided by the Council in its capacity as Local Education Authority for senior pupils as in the opinion of the Council may assist or encourage the said pupils to finish their courses at one of the county’s schools specified in this scheme provided that if in any year a sum less than the said ⅓ is expended under this clause, the Council may if they think fit accumulate the balance for application under this clause in any subsequent year.” Mae’r cynllun hefyd yn darparu o dan “Buddion Addysgol Eraill” bod “subject thereto, the residue of the said net yearly income  shall be applied by the Council in one or more of the following ways for the benefit of the persons of either sex resident in the administering county of Anglesey who have not attained the age of 25 years who have for not less than 2 years at any time attended one of the county schools specified in the Scheme and who are in the opinion of the Council in need of financial assistance.” Mae’r Cynllun yn nodi’r hyn y gellir defnyddio’r cyllid ar ei gyfer sef -

 

           “in the award to beneficiaries of exhibitions tenable at any training college for teachers, university or other institution of further, including professional and technical education, approved by the Council to be awarded under rules to be made by the Council including rules as to the value and period of tenure of exhibitions and qualifications and method of ascertainment and selectin of candidates; 

           in the provision of financial assistance, outfits, clothing, tools, instruments or books to enable beneficiaries on leaving school, university or any other educational establishment to prepare for or to assist their entry into a profession, trade or calling;

           in otherwise promoting the further education or training including postgraduate study of beneficiaries.”

 

Dywedodd y Pennaeth Swyddogaeth (Adnoddau) / Swyddog Adran 151, er bod y Cynllun yn dynodi sut y dylid gwario’r cyllid, mae’r iaith a ddefnyddir yn golygu nad yw rhai o’r diffiniadau yn hawdd eu dehongli ac felly mae’n anodd ei weithredu wrth benderfynu pwy sy’n gymwys am gyllid o dan yr Ymddiriedolaeth. Mae’r Pwyllgor Gwaith wedi gofyn, er mwyn sicrhau eglurder ac er mwyn galluogi’r Gwasanaeth Dysgu ac ysgolion i gael gwell dealltwriaeth o gymhwyster o dan reolau’r Ymddiriedolaeth, bod y diffiniadau yn cael eu hadolygu gyda chymorth cyngor cyfreithiol allanol. Mae’r broses hon wedi dechrau.     

 

Gofynnodd y Cynghorydd Bryan Owen, aelod o’r Pwyllgor ac un o’r rhai a arwyddodd y cais i alw’r penderfyniad i mewn, am gadarnhad o’r incwm a oedd wedi’i greu gan yr Ymddiriedolaeth, cyfrifoldeb pwy yw hyfforddi’r Ymddiriedolwyr ac a yw’r hyfforddiant wedi’i ddarparu.  

 

Dywedodd y Pennaeth Swyddogaeth (Adnoddau) / Swyddog Adran 151 fod yr Ymddiriedolaeth ar gyfer 2017/18 wedi derbyn cyfanswm incwm o £128,223, £124,087 o rent a £4,136 o incwm buddsoddi. Daeth gwariant i £177,917 ac o hwnnw roedd £119,473 wedi’i wario ar drwsio a chynnal a chadw a chafodd £13,902 pellach ei wario ar gostau cefnogi gan arwain at golled diwedd blwyddyn o £62,786. Nod oedd hyn yn annisgwyl gan fod y gwariant cyfalaf wedi ei gynllunio. Nid oedd unrhyw incwm dros ben i ddosbarthu cyllid ohono yn 2017/18, ond roedd cyllid na ddosbarthwyd yn y blynyddoedd blaenorol ar gael a rhoddwyd grantiau o hyd at £1,000. Dywedodd y Swyddog fod yr Ymddiriedolaeth wedi gwneud elw yn y gorffennol ond oherwydd y buddsoddiad yn y Stad sy’n dod o Gronfa’r Ymddiriedolaeth, na ddigwyddodd hynny yn 2016/17 na 2017/18. Dywedodd y Swyddog na allai gadarnhau a oedd y Pwyllgor Gwaith, fel y corff gwneud penderfyniadau mewn perthynas â’r Ymddiriedolaeth, wedi derbyn hyfforddiant.    

 

Rhoddwyd cyfle i’r Arweinydd, yr Aelod Portffolio Cyllid a’r Aelod Portffolio Addysg, Llyfrgelloedd, Ieuenctid a Diwylliant ymateb; fe bwysleisiwyd ganddynt mai dogfen ffeithiol yw’r Adroddiad Blynyddol a’r Cyfrifon 2017/18 ac mai dyma’r ail dro i’r adroddiad blynyddol ddod gerbron y Pwyllgor Gwaith, y cyntaf oedd Adroddiad Blynyddol a Chyfrifon 2016/17 a gyflwynwyd i’r Pwyllgor Gwaith ym Mawrth 2018. Mae cyfrifon 2017/18 yn dangos colled oherwydd yr arian a gafodd ei wario ar drwsio, cynnal a chadw ac uwchraddio’r stad. Gan gydnabod fod y ffordd y mae’r Ymddiriedolaeth yn cael ei strwythuro ar hyn o bryd yn gyfyngedig a bod iaith y cynllun y caiff ei reoli o dano yn hen ffasiwn, mae’r Pwyllgor Gwaith wedi gofyn bod yr Ymddiriedolaeth yn cael ei hadolygu er mwyn i gyllid yr Ymddiriedolaeth allu cael ei ddosbarthu’n fwy effeithiol ac i nifer uwch o fuddiolwyr mewn ffordd sy’n ymateb yn well i’w hanghenion ac mewn ffordd sy’n adlewyrchu gofynion addysgol modern yn well. 

 

Rhoddwyd cyfle i’r Cynghorydd Peter Rogers, fel y Blaen Aelod Galw i Mewn, y cyfle i grynhoi’r drafodaeth.  

 

Ystyriodd y Pwyllgor y wybodaeth a gyflwynwyd a gwnaed y pwyntiau a ganlyn –  

 

           Nododd a derbyniodd y Pwyllgor fod yr Adroddiad Blynyddol a Chyfrifon yn dangos sut mae’r Ymddiriedolaeth wedi’i reoli a’r arian a wariwyd yn ystod y flwyddyn a’u bod yn ddatganiadau ffeithiol a baratowyd yn unol â gofynion adrodd ariannol ar gyfer elusennau er y nodwyd na chyfeirir ynddo at Gyfarfod Cyffredinol Blynyddol.

 

Cadarnhaodd y Pennaeth Swyddogaeth (Adnoddau) / Swyddog Adran 151 fod y Pwyllgor Gwaith yn derbyn yr Adroddiad Blynyddol a’r Cyfrifon 2017/18 yn ei gyfarfod ar 29 Ebrill, 2019 yn cyd-fynd â Chyfarfod Blynyddol Cyffredinol.

 

           Nododd y Pwyllgor fod arian wedi’i wario dros y 2 flynedd diwethaf yn uwchraddio’r stad sy’n cyfri am y diffyg refeniw dros ben ar gyfer ei ddosbarthu yn ystod y blynyddoedd hynny.

 

           Nododd y Pwyllgor bod adolygiad o’r Ymddiriedolaeth wedi’i gomisiynu gyda golwg ar  ei ddiweddaru i’w wneud yn fwy perthnasol i’r amgylchedd addysg heddiw, ac fe groesawyd hynny yn enwedig os oedd yn golygu bod potensial i fwy o bobl ifanc elwa ohono. Fodd bynnag, nododd y Pwyllgor y dylai’r adolygiad gael ei gwblhau cyn gynted â phosib.

 

Dywedodd y Pennaeth Swyddogaeth (Adnoddau) / Swyddog Adran 151 mai’r bwriad yw cadarnhau a diweddaru geiriad cynllun gweithredu’r Ymddiriedolaeth tra’n  gadael ei nodau ac amcanion heb eu newid a allai olygu y gellid cwblhau’r adolygiad yn gynt. 

 

           Nododd y Pwyllgor nad yw hi’n glir a yw Ymddiriedolwyr Ymddiriedolaeth Addysg Bellach Ynys Môn wedi derbyn hyfforddiant ac o ganlyniad mae eu gofynion hyfforddiant angen eu sefydlu a’u delio â nhw fel bo’n briodol.

 

           Nododd y Pwyllgor bod cwmpas i Sgriwtini ychwanegu gwerth drwy graffu adolygiad yr Ymddiriedolaeth Addysg Bellach Ynys Môn er mwyn gweld a yw’r newidiadau a wnaed yn bodloni’r gofynion. 

 

Dywedodd y Cadeirydd fod gan y Pwyllgor dri opsiwn wrth ddod i benderfyniad ar yr eitem galw i mewn, sef: 

           Gwrthod y galw i mewn a chadarnhau penderfyniad y Pwyllgor Gwaith

           Gwrthod penderfyniad y Pwyllgor Gwaith a’i gyfeirio’n ôl i’r Pwyllgor Gwaith gydag argymhelliad y dylid ei ailystyried a / neu ei ddiwygio.

           Gwrthod penderfyniad y Pwyllgor Gwaith a chyfeirio’r mater gydag argymhelliad i’r Cyngor Llawn. 

 

Yn ogystal, fe allai’r Pwyllgor ddymuno gwneud argymhellion ar unrhyw rai o’r pwyntiau a nodwyd yn ystod y drafodaeth. 

 

Cafodd ei argymell a’i eilio y dylai’r cais a gafodd ei alw i mewn gael ei wrthod. Cafwyd gwelliant y dylid derbyn y cais a gafodd ei alw i mewn ac y dylid anfon y penderfyniad yn ôl i’r Pwyllgor Gwaith; ni chafwyd eilydd i’r gwelliant. Yn y bleidlais i ddilyn, cafodd y cynnig i wrthod y mater a oedd wedi’i alw i mewn ei basio.

 

Penderfynwyd –

 

           Gwrthod y Galw i Mewn o benderfyniad y Pwyllgor Gwaith a wnaed yng nghyfarfod 29 Ebrill, 2019 mewn perthynas ag Adroddiad Blynyddol a Chyfrifon Ymddiriedolaeth Addysg Bellach Ynys Môn 2017/18 ac, 

           Argymell –

           Bod anghenion hyfforddiant Ymddiriedolwyr Ymddiriedolaeth Addysg Bellach Ynys Môn yn cael eu hystyried a’u datrys;

 

           Bod yr adolygiad o Ymddiriedolaeth Addysg Bellach Ynys Môn a ysgogwyd gan y Pwyllgor Gwaith hefyd yn cael ei gyfeirio at Sgriwtini ar gyfer ei ystyried.  

 

Daw penderfyniad y Pwyllgor Gwaith ar 29 Ebrill, 2019 yn weithredol ar unwaith. 

 

 

Dogfennau ategol: