Eitem Rhaglen

Gweddill y Ceisiadau

12.1  FPL/2019/40 – Clwb Golff, Llangefni

12.2  FPL/2018/42 – Stâd Llain Delyn, Gwalchmai

12.3  25C121H – Safle Maryfore, Llannerchymedd

Cofnodion:

12.1  FPL/2019/40 – Cais llawn ar gyfer newid defnydd siop golff (Dosbarth Defnydd A1) yn fwyty (Dosbarth Defnydd A3) ynghyd â gosod simnai allanol a ffliw echdynnu a chreu ardal decin y tu allan yng Nghlwb Golff Llangefni, Llangefni

 

Cyflwynwyd y cais i’r Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion gan fod y cais wedi’i leoli ar dir sydd ym meddiant y Cyngor.

 

Rhoes y Rheolwr Rheoli Datblygiad amlinelliad o’r prif fater cynllunio sy’n gysylltiedig â’r cais fel y’i  nodwyd yn yr adroddiad. Dywedodd fod rhan o’r cais yn un ôl-weithredol oherwydd mae drysau wedi cael eu gosod yn lle ffenestr fel y gellir cael mynediad i’r decin ac mae simnai allanol hefyd wedi cael ei hychwanegu at yr adeilad. Bydd angen i’r ymgeisydd gyflwyno manylion am y ffliw allanol cyn y gellir cymeradwyo’r cais. Gwnaed newid i adroddiad y swyddog – y dyddiad hwyraf ar gyfer derbyn sylwadau ydi 12 Mehefin, 2019. Dywedodd y swyddog ymhellach bod y cais yn cael ei gefnogi gan bolisïau cynllunio lleol a chenedlaethol, yn enwedig polisi MAN 6 y Cynllun Datblygu Lleol ar y Cyd. 

 

Holodd y Pwyllgor am y cyfleusterau parcio ar y safle. Dywedodd y Swyddog Priffyrdd y bydd maes parcio cyhoeddus Oriel Ynys Môn ar gael fel y mae yn awr i’r sawl sy’n defnyddio’r Llain Ymarfer Golff. 

 

Cynigiodd y Cynghorydd Dafydd Roberts y dylid caniatáu’r cais ac fe eiliwyd ei gynnig gan y Cynghorydd John Griffith.   

 

Cynigiodd y Cynghorydd Bryan Owen y dylid gwrthod y cais oherwydd ei effaith ar yr ardal leol. Fe eiliwyd y cynnig gan y Cynghorydd Eric W Jones. 

 

Yn dilyn y bleidlais:-

 

PENDERFYNWYD caniatáu’r cais a rhoi hawl i weithredu i’r Swyddogion wedi i’r cyfnod ymgynghori cyhoeddus statudol ddod i ben.

 

12.2  FPL/2018/42 – Cais llawn ar gyfer codi 8 o anheddau pris marchnad a 2 annedd fforddiadwy, adeiladu mynedfa newydd i gerbydau a lôn newydd ynghyd â gwaith tirlunio meddal a chaled ar dir ger Stad Llain Delyn, Gwalchmai

 

Cyflwynwyd y cais i’r Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion ar gais yr Aelod Lleol. 

 

Gofynnodd y Cynghorydd Bob Parry OBE FRAgS, Aelod Lleol, am ymweliad safle oherwydd pryderon ynghylch y fynedfa i’r safle.

 

PENDERFYNWYD ymweld â’r safle yn unol â chais yr Aelod Lleol am y rhesymau a roddwyd.

 

12.3  25C121H – Cais llawn ar gyfer codi 4 annedd a mynedfa i gerbydau yn Safle Maryfore, Llanerchymedd

 

Cyflwynwyd y cais i’r Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion gan fod rhan o safle’r cais wedi’i leoli ar dir sydd ym meddiant y Cyngor.

 

Rhoes y Rheolwr Rheoli Datblygiad amlinelliad o’r prif fater cynllunio sy’n gysylltiedig â’r cais. Dywedodd y bydd angen cytundeb cyfreithiol adran 106 mewn perthynas â chais y Gwasanaeth Addysg am gyfraniad tuag at ddarparu ar gyfer y disgyblion ychwanegol a bod angen un tŷ fforddiadwy fel rhan o’r datblygiad arfaethedig.

 

Cynigiodd y Cynghorydd Eric W Jones y dylid cymeradwyo’r cais ac fe eiliwyd ei gynnig gan y Cynghorydd Kenneth P Hughes.

 

PENDERFYNWYD caniatáu’r cais yn unol ag argymhelliad y swyddog a gyda’r amodau sydd wedi’i cynnwys yn yr adroddiad ysgrifenedig a bod cytundeb cyfreithiol A106 yn cael ei lofnodi mewn perthynas â’r ddarpariaeth tai fforddiadwy a’r cyfraniad addysg.

 

Dogfennau ategol: