Eitem Rhaglen

Cronfa'r Degwm

Cyflwyno adroddiad gan y Pennaeth Gwasanaeth (Adnoddau)/Swyddog Adran 151.

 

Cofnodion:

Cyflwynwyd adroddiad y Pennaeth Swyddogaeth (Adnoddau) / Swyddog Adran 151 a oedd yn ceisio cymeradwyaeth y Pwyllgor Gwaith i gynllun drafft ar gyfer gweinyddu Cronfa’r Degwm Ynys Môn.

 

Bu’r Aelod Portffolio Cyllid grynhoi’r cefndir i sefydlu Cronfa’r Degwm a ffurfiwyd pan ddiddymodd Deddf yr Eglwys yng Nghymru 1914 yr Eglwys yng Nghymru a throsglwyddo asedau i Gynghorau Sir. Sefydlwyd y gronfa ym 1922 ond ni ddosbarthwyd yr asedau yn llawn tan 1996. Parhaodd y gronfa i gael ei gweinyddu gan Gyngor Sir Ynys Môn hyd adeg ad-drefnu llywodraeth leol ym 1974 pan ddaethpwyd â chronfeydd a oedd yn berthnasol i Ynys Môn, Sir Gaernarfon, y rhan fwyaf o Meirionnydd a rhannau o Sir Ddinbych ynghyd o dan reolaeth Cyngor Gwynedd. Yn dilyn ad-drefnu llywodraeth leol ym 1996, cafodd yr asedau a oedd yn cael eu dal gan Gyngor Sir Gwynedd eu dosbarthu i’r tri awdurdod newydd. Mae’r adroddiad yn amlinellu’r materion sydd wedi codi o ran datgymalu Cronfa bresennol Cyngor Gwynedd a gwerth y tri darn o dir sydd wedi cymryd amser sylweddol i’w ddatrys; mae’r materion hynny bellach wedi eu datrys ac mae wedi’i gadarnhau bod modd i’r Gronfa gael ei dosrannu rhwng y tri parti perthnasol sef Ynys Mon, Conwy a Gwynedd er mwyn iddynt allu sefydlu eu cronfeydd unigol eu hunain at y diben elusennol y’i bwriadwyd ar eu cyfer ac fel a ddiffinnir.     

 

Dywedodd yr Aelod Portffolio bod y Cyngor, ar 25 Mai, 2019 wedi derbyn arian parod fel ei gyfran o’r Gronfa gyda gweddill yr asedau yn cael eu trosglwyddo i’r Cyngor gan gynnwysdau ddarn o dir. Bydd angen  i’r Cyngor gymeradwyo cynllun ar gyfer gweinyddu ac ymgeisio ar gyfer y cyllid sydd ar gael. Mae cynllun arfaethedig wedi’i atodi yn Atodiad B o’r adroddiad. Roedd y Gronfa Degwm ar y cyd rhwng Ynys Môn, Gwynedd a Chonwy yn elusen gofrestredig a bydd angen sefydlu elusen newydd ar gyfer Cronfa’r Degwm Ynys Môn. 

 

Tynnodd y Pennaeth Swyddogaeth (Adnoddau) / Swyddog Adran 151 sylw at y ffaith, er i’r gronfa barhau i gael ei gweinyddu gan Gyngor Gwynedd, y dyfarnwyd grantiau yn seiliedig ar benderfyniadau a wnaed gan Gyngor Sir Ynys Môn.

 

Penderfynwyd

 

           Cymeradwyo’r cynllun drafft fel sydd ynghlwm yn Atodiad B yr adroddiad a dirprwyo’r grym i’r Pennaeth Swyddogaeth (Adnoddau) / Swyddog Adran 151 a’r Pennaeth Swyddogaeth (Busnes y Cyngor) / Swyddog Monitro mewn ymgynghoriad â’r Aelod Portffolio Cyllid i

 

           Gwblhau’r trefniadau sy’n angenrheidiol i’r cynllun gael ei gymeradwyo ac i sefydlu’r corff elusennol.

 

           Gwneud unrhyw newidiadau sy’n ofynnol i’r cynllun drafft gan y Comisiwn Elusennau neu’r cynghorwyr cyfreithiol er mwyn cwblhau’r broses, ar yr amod nad yw’r newidiadau yn gwrthdaro ag egwyddorion y cynllun drafft. Os bydd unrhyw newid gofynnol yn newid yr egwyddorion a adlewyrchir yn y cynllun drafft, bydd angen cymeradwyaeth bellach gan y Pwyllgor Gwaith cyn i’r newidiadau i’r cynllun gael eu mabwysiadu.

 

           Gofyn i’r Pennaeth Swyddogaeth (Adnoddau) / Swyddog Adran 151 geisio cyngor annibynnol ar sut i gael yr elw mwyaf posib ar fuddsoddiadau o’r tir a’r arian sy’n cael eu dal yn y Gronfa.

Dogfennau ategol: