Eitem Rhaglen

Ceisiadau'n Gwyro

10.1  VAR/2019/34 – 8 Ger y Môr, Rhosneigr

10.2  VAR/2019/32 – Yr Erw, Llansadwrn

10.3  VAR/2019/42 – Fferm Garreg Fawr, Trearddur

Cofnodion:

 10.1  VAR/2019/34 - Cais dan Adran 73 i amrywio amodau (13) (mynediad) a (15) (cyfleuster parcio ceir) o ganiatâd cynllunio amlinellol 28C511 (cais amlinellol ar gyfer dymchwel yr annedd bresennol ynghyd â chodi 4 o fflatiau) ac amodau (02) (tirlunio), (03) (mynediad), (07) (cyfleuster parcio ceir) a (08) (cynlluniau a gymeradwywyd) o’r materion cysylltiedig a gadwyd yn ôl ar gais 28C511A/DA (cais mewn perthynas â’r materion a gadwyd yn ôl ar gyfer codi 4 fflat) er mwyn diwygio’r cynlluniau a gymeradwywyd fel y gellir altro’r fynedfa i’r safle, parcio a thirlunio yn 8 Ger y Môr, Rhosneigr

 

Cyflwynwyd y cais i’r Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion gan fod y cynnig yn groes i bolisïau’r Cynllun Datblygu Lleol ar y Cyd ond yn un y mae’r Awdurdod Cynllunio Lleol a’i fryd ar ei ganiatáu.

Adroddodd y Rheolwr Datblygu Cynllunio fod egwyddor y cais hwn eisoes wedi’i barod yn y lleoliad hwn o dan y Cynllun Datblygu blaenorol a bod y cais ar gyfer amrywio’r amodau a nodir uchod.

 

Cynigiodd y Cynghorydd Robin Williams fod y cais yn cael ei gymeradwyo ac eiliwyd y cynnig gan y Cynghorydd John Griffith.

 

PENDERFYNWYD cymeradwyo’r cais yn unol ag argymhellion y Swyddog gyda’r amodau sydd wedi eu cynnwys yn yr adroddiad ysgrifenedig.

 

10.2  VAR/2019/32 – Cais dan Adran 73A i amrywio amod (02) (manylion draenio) o ganiatâd cynllunio cyfeirnod 17C126F/DA (cais mewn perthynas â’r materion a gadwyd yn ôl ar gyfer codi annedd) er mwyn galluogi cyflwyno’r manylion yn dilyn cychwyn gwaith yn Yr Erw, Llansadwrn

 

Cyflwynwyd y cais i’r Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion gan fod y cynnig yn groes i bolisïau yn y Cynllun Datblygu Lleol ar y cyd ond yn un y mae’r Awdurdod Cynllunio Lleol a’i fryd ar ei ganiatáu.

 

Adroddodd y Rheolwr Datblygu Cynllunio fod egwyddor y cais eisoes wedi’i sefydlu yn y lleoliad hwn o dan y Cynllun Datblygu blaenorol. Nododd fod Tystysgrif Cyfreithlondeb wedi’i rhoi ar y sail fod gwaith wedi cael ei wneud ar fynedfa i’r safle. Fodd bynnag, gwnaed y gwaith heb yn gyntaf gyflawni amod (02) cais cynllunio rhif 17C126F/DA a oedd yn gofyn i fanylion gael eu cyflwyno, cyn i waith ddechrau ar y datblygiad, yn dangos sut y byddai dŵr wyneb o’r fynedfa i gerbydau a’r ardal barcio yn cael ei reoli a’i gadw o fewn cwrtil y safle. O ganlyniad, mae’r cais hwn ar gyfer rheoleiddio’r sefyllfa drwy wneud cais o dan Adran 73A er mwyn amrywio gofynion yr amod. Nodwyd fod yr ymgyngoreion statudol yn fodlon rhyddhau’r amod.

 

Cynigiodd y Cynghorydd Robin Williams fod y cais yn cael ei ganiatáu ac eiliwyd y cynnig gan y Cynghorydd Dafydd Roberts.

 

PENDERFYNWYD caniatáu’r cais yn unol ag argymhelliad y swyddog gyda’r amodau sydd wedi eu cynnwys yn yr adroddiad ysgrifenedig.

 

10.3  VAR/2019/42 – Cais o dan Adran 73A i ddiwygio amod (02) o ganiatâd cynllunio rhif 46C410F (codi 13 o dai) er mwyn galluogi cyflwyno manylion terfynau ar ôl i’r gwaith gychwyn ynghyd â dileu amod (07) (ecoleg) yn Garreg Fawr Farm, Bae Trearddur

 

Cyflwynwyd y cais i’r Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion gan fod y cynnig yn groes i bolisïau o fewn y Cynllun Datblygu Lleol ar y Cyd ond yn un y mae’r Awdurdod Cynllunio Lleol a’i fryd ar ei ganiatáu.

 

Adroddodd y Rheolwr Datblygu Cynllunio fod egwyddor y cais eisoes wedi’i sefydlu yn y lleoliad hwn o dan y Cynllun Datblygu blaenorol. Nododd fod Trearddur, ers mabwysiadu’r Cynllun Datblygu Lleol ar y Cyd, yn cael ei ddynodi yn Bentref Arfordirol a Gwledig o dan Bolisi TAI 5 ac felly nid yw’r polisi yn cefnogi darparu tai marchnad agored. O ganlyniad, mae angen gwneud cytundeb cyfreithiol A106 er mwyn darparu 4 tŷ fforddiadwy fel rhan o’r datblygiad.

 

Cynigiodd y Cynghorydd Robin Williams fod y cais yn cael ei ganiatáu ac eiliwyd y cynnig gan y Cynghorydd Kenneth P Hughes.

 

PENDERFYNWYD caniatáu’r cais yn unol ag argymhelliad y Swyddog gyda’r amodau sydd wedi eu cynnwys yn yr adroddiad ysgrifenedig ynghyd â chytundeb cyfreithiol A106 er mwyn darparu 4 tŷ fforddiadwy fel rhan o’r datblygiad.

 

 

Dogfennau ategol: