Eitem Rhaglen

Gweddill y Ceisiadau

12.1  FPL/2019/162 – Ysgol Gynradd Morswyn, Ffordd Cyttir, Caergybi

12.2  FPL/2019/161 – Ysgol Gynradd Pencarnisiog, Pencarnisiog

12.3  FPL/2019/171 – Maes Awyr Môn, Ffordd Minffordd, Caergeiliog

12.4  FPL/2019/50 – Parc Gwledig y Morglawdd, Caergybi

12.5  OP/2019/6 – Hen Safle Peboc, Llangefni

Cofnodion:

12.1  FPL/2019/162 – Cais llawn ar gyfer newid defnydd tir amaethyddol yn gae chwarae ar gyfer yr ysgol, codi ystafell ddosbarth symudol, codi ffensys a waliau terfyn ynghyd â gwaith tirlunio meddal a chaled yn Ysgol Gynradd Morswyn, Ffordd Cyttir, Caergybi

 

Cyflwynwyd y cais i’r Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion gan fod y tir ym mherchnogaeth y Cyngor.

 

Amlinellodd y Rheolwr Datblygu Cynllunio y cais i’r Pwyllgor ac ychwanegodd nad yw’r cyfnod ymgynghori cyhoeddus yn dod i ben tan 24 Gorffennaf, 2019 a gofynnodd i Swyddogion gael hawl i weithredu ar ôl i’r cyfnod ymgynghori cyhoeddus ddod i ben os na dderbynnir unrhyw sylwadau.

 

Cynigiodd y Cynghorydd Kenneth P Hughes fod y cais yn cael ei ganiatáu ac eiliwyd y cynnig gan y Cynghorydd Robin Williams.

 

PENDERFYNWYD caniatáu’r cais a rhoi hawl i weithredu i’r Swyddogion wedi i’r cyfnod ymgynghori cyhoeddus statudol ddod i ben.

 

12.2  FPL/2019/161 – Cais llawn ar gyfer codi ystafell ddosbarth symudol yn Ysgol Gynradd Pencarnisiog, Pencarnisiog

 

Cyflwynwyd y cais i’r Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion gan fod y tir ym mherchnogaeth y Cyngor.

 

Amlinellodd y Rheolwr Datblygu Cynllunio y cais ac ychwanegodd fod yr Awdurdod Priffyrdd wedi gofyn am amod ychwanegol er mwyn cyflwyno Cynllun Rheoli Traffig yn ystod cyfnod adeiladu’r datblygiad.

 

Cynigiodd y Cynghorydd Bryan Owen fod y cais yn cael ei ganiatáu ac eiliwyd y cynnig gan y Cynghorydd Eric W Jones.

 

          PENDERFYNWYD caniatáu’r cais yn unol ag argymhelliad y Swyddog yn amodol ar yr amodau sydd wedi eu cynnwys yn yr adroddiad ysgrifenedig a bod amod ychwanegol yn cael ei osod bod Cynllun Rheoli Traffig yn cael ei gyflwyno yn ystod y cyfnod adeiladu.

 

12.3  FLP/2019/171 - Cais llawn ar gyfer dymchwel y ffens bresennol ynghyd â chodi ffens newydd ym Maes Awyr Môn, Ffordd Minffordd, Caergeiliog

 

Cyflwynwyd y cais i’r Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion am fod y cais wedi’i gyflwyno gan y Cyngor.

 

Amlinellodd y Rheolwr Datblygu Cynllunio y cais a dywedodd ei bod yn dymuno diwygio adroddiad y Swyddog gan mai 3.15 metr yw uchder y ffens newydd. Nododd fod cais tebyg wedi’i ganiatáu’n ddiweddar ar y safle hwn ond bod y Weinyddiaeth Amddiffyn yn gwrthwynebu gan fod y safle o fewn ardal lle cyfyngir ar ddatblygiad er mwyn sicrhau nad oes unrhyw effaith ar awyrennau; nid oedd uchder y ffens yn dderbyniol i’r Weinyddiaeth Amddiffyn. Mae uchder y ffens ddiogelwch arfaethedig wedi gostwng ychydig, ynghyd â’i dyluniad, ac mae bellach yn dderbyniol i’r weinyddiaeth amddiffyn.

 

Cynigiodd y Cynghorydd Bryan Owen fod y cais yn cael ei ganiatáu ac eiliwyd y cynnig gan y Cynghorydd Robin Williams.

 

          PENDERFYNWYD caniatáu’r cais yn unol ag argymhelliad y swyddog gyda’r amodau sydd wedi’u cynnwys yn yr adroddiad ysgrifenedig.

 

12.4  FPL/2019/50 – Cais llawn ar gyfer addasu ac ehangu ynghyd â chreu lle chwarae treftadaeth a thirlunio cysylltiedig ym Mharc Gwledig y Morglawdd, Caergybi

 

Cyflwynwyd y cais i’r Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion gan fod y cais yn cael ei gyflwyno ar ran y Cyngor.

 

Amlinellodd y Rheolwr Datblygu Cynllunio y cais a nododd y bydd y datblygiad arfaethedig yn gwella cyfleusterau’r Parc Gwledig. Dywedodd nad yw’r safle datblygu o fewn yr AHNE ac na fydd yn cael effaith ar yr ardal o gwmpas AHNE y Parc Gwledig; o ganlyniad, mae’n cydymffurfio â pholisïau perthnasol.

 

Cynigiodd y Cynghorydd Kenneth P Hughes fod y cais yn cael ei gymeradwyo ac eiliwyd y cynnig gan y Cynghorydd Bryan Owen.

 

PENDERFYNWYD caniatáu’r cais yn unol ag argymhelliad y swyddog gyda’r amodau sydd wedi’u cynnwys yn yr adroddiad ysgrifenedig.

 

12.5  OP/2019/6 – Cais amlinellol gyda’r holl faterion wedi eu cadw’n ôl ar gyfer dymchwel cyn weithle cemegol ynghyd â chodi 7 uned defnydd busnes (Dosbarth B1), defnydd diwydiannol cyffredinol (Dosbarth B2) a defnydd warws a dosbarthu (Dosbarth B8) yn yr hen safle Peboc, Llangefni

 

Cyflwynwyd y cais i’r Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion am ei fod yn gais a gyflwynwyd gan y Cyngor.

 

Amlinellodd y Rheolwr Datblygu Cynllunio y cais i’r Pwyllgor a dywedodd fod safle’r cais wedi’i leoli o fewn ffin ddatblygu Llangefni a’i fod wedi’i glustnodi ar gyfer defnydd cyflogaeth o fewn y Cynllun Datblygu Lleol ar y Cyd. Ychwanegodd y bydd yr adeilad presennol ar y safle’n cael ei ddymchwel ac mae amod wedi’i gynnwys yn adroddiad y Swyddog yn nodi bod rhaid delio gydag unrhyw lygredd o’r safle cyn i unrhyw waith gychwyn ar y safle.

 

Cynigiodd y Cynghorydd T Ll Hughes fod y cais yn cael ei ganiatáu ac eiliwyd y cynnig gan y Cynghorydd Eric W Jones.

 

PENDERFYNWYD caniatáu’r cais yn unol ag argymhelliad y swyddog gyda’r amodau sydd wedi’u cynnwys yn yr adroddiad ysgrifenedig.

Dogfennau ategol: