Eitem Rhaglen

Adroddiad Blynyddol Cyfarwyddwr y Gwasanaethau Cymdeithasol ar Effeithiolrwydd y Gwasanaethau Cymdeithasol 2018/19

Cyflwyno’r Adroddiad Blynyddol drafft am 2018/19.

Cofnodion:

Cyflwynwyd Adroddiad Blynyddol y Cyfarwyddwr ar effeithiolrwydd y Gwasanaethau Cymdeithasol yn 2018/19 i'w ystyried gan y Pwyllgor. Cynhyrchir yr adroddiad yn unol â'r gofyniad statudol ac mae'n ceisio hyrwyddo ymwybyddiaeth ac atebolrwydd am y perfformiad a'r cynnydd a wnaed dros y flwyddyn ddiwethaf wrth ddarparu Gwasanaethau Cymdeithasol yn y Cyngor yn ogystal ag amlinellu'r blaenoriaethau gwella ar gyfer y flwyddyn i ddod.

 

Dywedodd Cyfarwyddwr Dros Dro y Gwasanaethau Cymdeithasol a Phennaeth y Gwasanaethau Oedolion yr hoffai yn y lle cyntaf ddiolch i Dr Caroline Turner, ei ragflaenydd a oedd yn y swydd am y rhan fwyaf o 2018/19, am ei gwaith a'i chefnogaeth dros y ddwy flynedd ddiwethaf. Dywedodd y Swyddog ei bod yn braf gallu adrodd ar y cynnydd a wnaed ar draws y Gwasanaethau Plant ac Oedolion fel ei gilydd yn y pedwerydd Adroddiad Blynyddol y mae Ynys Môn wedi'i gyhoeddi o dan Ddeddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant 2014. Penllanw’r gwaith da yn y Gwasanaethau Plant oedd arolygiad gan Arolygiaeth Gofal Cymru yn 2018 a ddangosodd fod y Gwasanaethau Cymdeithasol yn gwneud cynnydd da ond bod yn rhaid iddynt barhau i gryfhau gwasanaethau ac arferion.

 

Dros y 12 mis diwethaf, bu nifer o ddatblygiadau o fewn y Gwasanaethau Plant y mae'r Gwasanaeth yn falch ohonynt, gan gynnwys y modd y cafodd yr holl waith ei danategu gan y Fframwaith Ansawdd Gwella Ymarfer a ddyluniwyd i lywodraethu ac arwain y gweithlu; llunio Strategaeth Ymgysylltu Teulu Môn yn ogystal â'r Gwasanaeth Camu Ymlaen sy'n anelu at gryfhau ymhellach deuluoedd nad oes angen cymorth statudol arnynt bellach ond sy'n parhau i fod angen arweiniad. Mae'r Cynnig Newydd i Ofalwyr Maeth a gyflogir gan y Cyngor wedi'i weithredu a gobeithir y bydd yn cynyddu gallu'r Cyngor i recriwtio gofalwyr maeth a'u cynorthwyo i gynnig y gefnogaeth orau i blant sy'n cael eu maethu.

 

Yn yr un modd, mae’r Gwasanaethau Oedolion wedi gallu gwneud cynnydd yn eu nod i gynorthwyo oedolion i aros yn annibynnol yn eu cartrefi eu hunain ac adlewyrchir hynny yn agoriad yr Uned Gofal Ychwanegol newydd, sef Hafan Cefni. Mewn partneriaeth â BIPBC, mae'r Gwasanaeth wedi llwyddo i gomisiynu darpariaeth gofal cartref newydd i breswylwyr gan ddarparwyr sy’n seiliedig ar ardaloedd penodol. Mae'r Gwasanaethau Cymorth Iechyd Meddwl wedi cryfhau eu ffocws ar helpu unigolion i wella eu llesiant trwy sesiynau iechyd a ffitrwydd grŵp a thrwy gymryd rhan mewn gweithgareddau chwaraeon ar eu taith at adferiad.

 

Wrth edrych ymlaen, er bod 2019/20 yn parhau i fod â heriau pellach i’r Gwasanaethau Oedolion a’r Gwasanaethau Plant a Theuluoedd, ystyrir bod y ddau wasanaeth mewn sefyllfa dda i fynd i’r afael â nhw. Rhaid diolch yn arbennig i holl staff y Gwasanaethau Cymdeithasol am eu gwaith trwy gydol y flwyddyn a heb eu hymrwymiad a'u hymroddiad, ni fyddai'r cyflawniadau niferus y mae'r adroddiad blynyddol yn dyst iddynt wedi bod yn bosibl.

Wrth ystyried yr Adroddiad Blynyddol, roedd y Pwyllgor yn gytûn ei fod yn ei neges yn nodi llawer o lwyddiannau y gall y Cyngor gymryd sicrwydd ac anogaeth ohonynt. Cydnabu'r Pwyllgor fod y Gwasanaethau Cymdeithasol yn faes cymhleth lle gellir teimlo heriau newidiadau demograffig, galw cynyddol a phwysau costau yn ddifrifol a bod sicrhau cynnydd a gwelliant yn ymrwymiad parhaus. Yn y drafodaeth fanwl, cododd y Pwyllgor y materion a ganlyn -

           O dan Safon Mesur Ansawdd 3, nodir bod 79% o oedolion a gofalwyr ac 81% o blant yn yr Arolwg Dinasyddion yn dweud eu bod yn teimlo'n ddiogel. Gofynnodd y Pwyllgor am eglurhad o'r hyn y mae'r ystadegau hyn yn ei ddweud am yr 21% sy'n weddill o oedolion ac 11% o blant ac a yw'r unigolion hyn mewn perygl o lithro trwy'r rhwyd a pheidio â chael gofal priodol.

 

Dywedodd y Cyfarwyddwr Gwasanaethau Cymdeithasol Dros Dro fod yr Arolwg Dinasyddion yn caniatáu i ymatebwyr aros yn ddienw os ydynt yn dymuno ond mewn achosion lle mae ymatebwyr yn rhoi eu henwau a lle mae o fewn gallu'r Gwasanaeth i ddylanwadu ar eu sefyllfa, yna bydd y Gwasanaeth yn cysylltu â'r unigolyn (unigolion) dan sylw. Mae'n bwysig nodi, er bod y Gwasanaeth yn gallu ac yn ceisio gwella bywydau unigolion, mae yna achosion lle na fydd unigolion, er gwaethaf mewnbwn ac ymdrechion gorau'r Gwasanaeth, yn teimlo'n ddiogel 100% o'r amser ac yn achos person hŷn, gellir priodoli hyn i bryder ynghylch cael codwm er enghraifft. Bydd y Gwasanaeth yn gwrando ar sylwadau a lle bydd y cyfle yn codi, bydd yn darparu cefnogaeth ychwanegol e.e. er mwyn lleihau'r tebygolrwydd y bydd person yn cael codwm.

 

           Wrth gydnabod bod y Gwasanaethau Cymdeithasol yn wynebu sawl her, gofynnodd y Pwyllgor am eglurhad o'r prif heriau sy'n wynebu’r Gwasanaethau Oedolion yn benodol.

 

Dywedodd y Cyfarwyddwr Gwasanaethau Cymdeithasol Dros Dro fod y brif her yn dod o'r newid demograffig a ddaw yn sgil poblogaeth sy'n heneiddio a'r cynnydd posibl yn nifer y bobl sydd angen gofal cymdeithasol y gallai hyn arwain ato yn y dyfodol. Mae’n heriol ceisio sicrhau'r cydbwysedd iawn rhwng cefnogi unigolion trwy wasanaethau ataliol yn y gymuned a chydnabod bod yn rhaid darparu ar gyfer rhai unigolion y mae eu hanghenion yn ddifrifol. Y ffordd fwyaf effeithiol o fynd i’r afael â’r her hon yw trwy weithio mewn partneriaeth â Bwrdd Iechyd y Brifysgol a chyda'r Trydydd Sector a’r Sector Annibynnol a dyma'r ymagwedd sydd wedi ei mabwysiadu gyda datblygiad parhaus y Timau Adnoddau Cymunedol ar gyfer iechyd a gofal cymdeithasol i gefnogi pobl yn eu hardaloedd lleol eu hunain.

 

           Wrth gydnabod y pwysau ariannol ar y Gwasanaethau Plant o ganlyniad i'r cynnydd yn nifer y plant a'r bobl ifanc y mae angen gofalu amdanynt, roedd y Pwyllgor yn pryderu y gallai Llywodraeth Cymru fod yn dwyn pwysau ar awdurdodau lleol i osod targed ar gyfer lleihau yr angen i blant fynd i ofal. Gofynnodd y Pwyllgor am eglurhad ynghylch safiad y Cyngor ar yr ymagwedd hon.

 

Cadarnhaodd yr Aelod Portffolio Gwasanaethau Cymdeithasol mai bwriad Llywodraeth Cymru yw gweithio gyda phob cyngor lleol i benodi targed (er ei fod yn darged meddal) i leihau nifer y plant mewn gofal. Eglurodd yr Aelod Portffolio mai barn yr Awdurdod oedd nad oedd ymagwedd o'r fath yn ddefnyddiol ac y gallai fod yn broblemus ac er y byddai'n well gan yr Awdurdod pe na bai'n rhaid i blant ddod i ofal yn y lle cyntaf, mae wedi ymrwymo fel rhiant corfforaethol i sicrhau bod pob plentyn yn cael ei gadw'n ddiogel, a bod darpariaeth briodol ar eu cyfer lle mae angen; gallai gosod targed fel hyn wyro oddi wrth y cyfrifoldeb hwn. Ni fydd yr Awdurdod hwn yn gosod targed o'r fath a chafodd hynny ei gyfleu mewn cyfarfod o Ddeiliaid Portffolio Gwasanaethau Cymdeithasol yng Nghaerdydd yr wythnos diwethaf lle'r oedd Gweinidog a Dirprwy Weinidog Llywodraeth Cymru ar gyfer Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol yn bresennol. Fodd bynnag, dywedodd yr Aelod Portffolio wrth y Pwyllgor fod rhai awdurdodau yn gosod eu targedau eu hunain ar gyfer lleihau nifer y plant sy'n dod i'w gofal.

 

Esboniodd y Pennaeth Plant a Theuluoedd drefniadau cyfredol yr Awdurdod ar gyfer lleihau nifer y plant mewn gofal lle mae'n ddiogel i wneud hynny sy'n cynnwys adolygu sefyllfa'r plentyn sy'n derbyn gofal o leiaf ddwywaith y flwyddyn i weld a oes opsiwn arall ar ei gyfer. Er bod gan yr Awdurdod strategaeth glir i alluogi plant i adael gofal, nid yw mor hawdd iddo ddylanwadu ar nifer y plant sydd angen gofal. Ar adeg y cyfarfod â Swyddogion Llywodraeth Cymru, roedd yr holl blant yr oedd yr Awdurdod yn gofalu amdanynt yn destun gorchymyn llys sy'n golygu y barnwyd eu bod mewn perygl o niwed.

 

Roedd consensws ymhlith aelodau'r Pwyllgor bod gosod targed ar gyfer lleihau nifer y plant sy'n dod i ofal yr Awdurdod yn gam yr oedd ganddynt amheuon difrifol yn ei gylch ac nad oedd yn ddull priodol o fynd i'r afael â mater y nifer cynyddol o blant sy'n derbyn gofal y mae gan yr Awdurdod ddyletswydd gofal atynt fel rhai o’r unigolion mwyaf bregus yn ein cymdeithas. Roedd y Pwyllgor o'r farn bod perygl, unwaith y byddai targed wedi'i osod, mai cyflawni’r targed hwnnw yn hytrach na budd gorau'r unigolyn fyddai’n ganolbwynt sylw. Nododd y Pwyllgor ei fod yn hapus â strategaeth y Gwasanaeth ar gyfer lleihau nifer y plant mewn gofal, a bod ganddo hyder ynddi, ac roedd yn cytuno â'r Aelod Portffolio y dylid gwrthsefyll ymdrechion i osod targed.

 

Cynigiodd yr Is-gadeirydd, y Cynghorydd Dylan Rees, ac eiliwyd ef, fod y Pwyllgor yn nodi ei fod yn fodlon â chynlluniau strategaeth yr Adran ar gyfer lleihau nifer y plant sy’n derbyn gofal ac yn credu y byddai ymdrechion Llywodraeth Cymru i gyflwyno targedau yn wrthgynhyrchiol. Felly mae'r Pwyllgor yn cefnogi'r penderfyniad i beidio â chyflwyno targedau. Cefnogwyd y cynnig yn unfrydol gan y Pwyllgor.

 

Penderfynwyd -

 

           Bod y Pwyllgor Sgriwtini Corfforaethol yn derbyn ac yn nodi Adroddiad Blynyddol Cyfarwyddwr Gwasanaethau Cymdeithasol Cyngor Sir Ynys Môn ar Effeithiolrwydd y Gwasanaethau Cymdeithasol yn 2018/19 a'i fod ymhellach yn nodi ei fod yn fodlon â chynlluniau strategaeth leihau yr Adran ar gyfer plant sy’n derbyn gofal ac yn credu y byddai ymdrechion Llywodraeth Cymru i gyflwyno targedau yn wrthgynhyrchiol. Felly, mae'r Pwyllgor yn cefnogi'r penderfyniad i beidio â chyflwyno targedau.

 

           Bod y Pwyllgor yn fodlon bod yr adroddiad –

 

           Yn cyfleu sefyllfa bresennol y Cyngor o ran darparu Gwasanaethau Cymdeithasol

           Yn adlewyrchu'n gywir ei flaenoriaethau gwella ar gyfer y Gwasanaethau Oedolion a Phlant a Theuluoedd ar gyfer y flwyddyn i ddod

           Yn adlewyrchu atebolrwydd a chyfrifoldeb y Cyngor mewn perthynas â'i Wasanaethau Cymdeithasol.

 

NI ARGYMHELLWYD UNRHYW GAMAU GWEITHREDU PELLACH.

Dogfennau ategol: