Eitem Rhaglen

Adroddiad Blynyddol 2018/19: Gwrando a Dysgu o Gwynion

Cyflwyno Adroddiad Blynyddol Trefn Gwyno’r Gwasanaethau Cymdeithasol am 2018/19.

Cofnodion:

Cyflwynwyd yr Adroddiad Blynyddol ar weithrediad Gweithdrefn Sylwadau a Chwynion Statudol y Gwasanaethau Cymdeithasol am y cyfnod rhwng Ebrill, 2018 a diwedd Mawrth, 2018/19 i'w ystyried gan y Pwyllgor.

 

I grynhoi, roedd yr adroddiad yn dangos

 

           Y cofnodwyd cyfanswm o 212 o sylwadau cadarnhaol yn ystod y flwyddyn - rhoddwyd blas ohonynt yn yr adroddiad (68 ar gyfer y Gwasanaethau Plant a Theuluoedd a 144 ar gyfer y Gwasanaethau Oedolion) - gostyngiad bychan o gymharu â’r cyfanswm o 232 yn 2017/18 ond yn uwch na'r 202 a dderbyniwyd yn 2016/17.

           Cofnodwyd cyfanswm o 59 o sylwadau / pryderon negyddol gan y Swyddog Cwynion yn ystod y flwyddyn - 49 ar gyfer y Gwasanaethau Plant a Theuluoedd (i fyny o 32 yn y flwyddyn flaenorol) a 10 ar gyfer Gwasanaethau Oedolion (i lawr o 11 yn y flwyddyn flaenorol). Dylid edrych ar hyn yng nghyd-destun nifer gostyngol y cwynion swyddogol sy'n awgrymu bod mwy o bryderon yn cael eu datrys yn anffurfiol gan osgoi eu huwch-gyfeirio i Gam 1 y Weithdrefn Cwynion.

           Cofnodwyd cyfanswm o 44 o gwynion Cam 1 (51 yn 2017/18) sy’n rhannu’n 14 ar gyfer y Gwasanaethau Oedolion a 30 ar gyfer y Gwasanaethau Plant a Theuluoedd) a chynhaliwyd 8 ymchwiliad Cam 2 (9 yn 2017/18) - 6 yn y Gwasanaethau Oedolion a 2 yn y Gwasanaethau Plant a Theuluoedd.

           Mewn perthynas â pherfformiad o ran ymateb i gwynion Cam 1 o fewn yr amserlenni statudol, yn y Gwasanaethau Plant a Theuluoedd cynigiwyd trafodaeth i 80% (24 allan o 30) o achwynwyr o fewn yr amserlen sydd ychydig yn is na'r 82% yn 2017/18 tra bod 57% (17 allan o 30) wedi derbyn ymateb ysgrifenedig o fewn yr amserlen sy'n gynnydd bychan o gymharu â’r 55% yn 2017/18. Yn achos y Gwasanaethau Oedolion, cynigiwyd trafodaeth i 92% (12 allan o 14) o achwynwyr o fewn yr amserlen sydd i fyny o 62% yn 2017/18 a derbyniodd 64% ymateb ysgrifenedig o fewn yr amserlen (9 allan o 14) sydd i fyny o 31% yn 2017/18.

 

Dywedodd yr Aelod Portffolio ar gyfer y Gwasanaethau Cymdeithasol bod nifer y canmoliaethau a dderbyniwyd yn galonogol iawn ac yn adlewyrchu'r gwelliannau yn gyffredinol yn y Gwasanaethau Cymdeithasol; fodd bynnag, ni fedrir diystyru'r ffaith y cafwyd sylwadau negyddol hefyd am rai agweddau ar wasanaethau ac y bydd y Gwasanaethau Cymdeithasol yn edrych ar y rhain ac yn dysgu ohonynt. Mae'r Swyddog Cwynion Dynodedig wedi sefydlu proses ar gyfer sicrhau yr ymatebir i gwynion mewn modd cyson ac amserol ac mae llawer o fuddsoddiad hefyd wedi'i wneud yng Ngham 1 y broses i ddatrys cwynion yn lleol.

 

Dywedodd Cyfarwyddwr Dros Dro y Gwasanaethau Cymdeithasol / Pennaeth y Gwasanaethau Oedolion, er bod amseroedd ymateb wedi gwella yn enwedig yn y Gwasanaethau Oedolion, mae'r Gwasanaeth wedi gosod nod o sicrhau ymateb 100% o fewn yr amserlen ac y bydd yn gweithio tuag at y nod hwnnw. Ffurfiwyd Cynllun Gweithredu i gryfhau ymhellach y modd y rheolir cwynion yn ystod 2019/20 ac mae ynghlwm yn Atodiad 2 yr adroddiad blynyddol.

Wrth ystyried yr adroddiad, gofynnodd y Pwyllgor am eglurhad ynghylch a oedd unrhyw un o'r cwynion yn gysylltiedig â'r gweithlu a’r modd y byddid yn mynd ati i ddelio ag unrhyw gwynion o'r fath.

 

Dywedodd y Cyfarwyddwr Gwasanaethau Cymdeithasol Dros Dro / Pennaeth y Gwasanaethau Oedolion fod cwynion o'r fath yn cael sylw yn bennaf ar lefel Rheolwr Tîm a bod staff yn cael cefnogaeth fel rhan o'r broses ymchwilio ac y gofynnir am eu barn. Gellid delio hefyd ag unrhyw honiad yn ymwneud ag ymddygiad neu ddiogelu o dan y broses ddiogelu fwy ffurfiol - cadarnhaodd y Swyddog nad oedd unrhyw fater o'r fath wedi codi yn y Gwasanaethau Oedolion na'r Gwasanaethau Plant a Theuluoedd yn 2018/19.

 

Penderfynwyd

 

           I nodi sylwadau defnyddwyr gwasanaeth a dderbyniwyd yn ystod 2018/19 ynghylch y gwasanaethau a ddarperir gan y Gwasanaethau Cymdeithasol.

           Nodi perfformiad y Gwasanaethau Cymdeithasol wrth weithredu'r Weithdrefn Sylwadau a Chwynion ac wrth ddelio â chwynion.

           Nodi'r Cynllun Gweithredu ar gyfer datblygu'r trefniadau ar gyfer delio'n effeithiol â sylwadau a chwynion a dderbynnir gan ddefnyddwyr gwasanaeth a'u cynrychiolwyr.

 

NI ARGYMHELLWYD UNRHYW GAMAU GWEITHREDU PELLACH.

Dogfennau ategol: