Cyflwyno adroddiad gan Gyfarwyddwr Dros Dro y Gwasanaethau Cymdeithasol.
Cofnodion:
Cyflwynwyd Adroddiad Blynyddol y Cyfarwyddwr Statudol Gwasanaethau Cymdeithasol ar effeithlonrwydd y Gwasanaethau Cymdeithasol ar gyfer ystyriaeth y Pwyllgor Gwaith.
Adroddodd y Cyfarwyddwr Gwasanethau Cymdeithasol Dros Dro / Pennaeth y Gwasanaeth Oedolion bod cynhyrchu adroddiad blynyddol sy’n ceisio hyrwyddo ymwybyddiaeth ac atebolrwydd am y perfformiad a’r cynnydd a wnaed dros y flwyddyn ddiwethaf wrth ddarparu Gwasanaethau Cymdeithasol i bobl Ynys Môn yn ddisgwyliad statudol. Mae’r adroddiad yn amlinellu rhai o gyraeddiadau allweddol y Gwasanaeth yn ystod y flwyddyn ddiwethaf ar draws y Gwasanaethau Oedolion a Phlant a Theuluoedd ynghyd â gosod cyfeiriad a blaenoriaethau ar gyfer y flwyddyn i ddod a’r heriau y bydd angen rhoi sylw iddynt er mwyn eu cyflawni.
Dywedodd y Cyfarwyddwr Dros Dro ei fod yn falch â’r cynnydd a wnaed yn ystod y flwyddyn ar draws y Gwasanaethau Plant a’r Gwasanaethau Oedolion. Dros y 12 mis diwethaf cafwyd nifer o ddatblygiadau yn y ddau faes y mae’r Gwasanaeth yn falch ohonynt; yn y Gwasanaethau Plant, mae’r Fframwaith Gwella Ansawdd Ymarfer bellach yn tanategu’r gwaith a gyflawnwyd ac a ddylunwiyd er mwyn llywodraethu ac arwain y gweithlu; mae gan Teulu Môn Strategaeth Ymgysylltu glir yn ei lle ac mae’r Gwasanaeth Camu Ymlaen â’r nod o gryfhau teuluoedd nad ydynt angen Cefnogaeth statudol bellach ond sy’n parhau i angen arweiniad. Gobeithir y bydd y Cynnig Newydd i Ofalwyr Maeth yn cynyddu gallu’r Awdurdod i recriwtio gofalwyr maeth ac i’w cynorthwyo nhw i ddarparu’r cymorth gorau i blant sy’n cael eu maethu. Yn yr un modd, mae agor cyfleuster Hafan Ceni a chomisiynu darpariaeth gofal cartref newydd i drigolion wedi helpu’r Gwasanaethau Oedolion i wneud cynnydd gyda’u nod o gefnogi oedolion i aros yn annibynnol yn eu cartrefi eu hunain. Mae Gwasanaethau Cefnogi Iechyd Meddwl wedi cryfhau eu ffocws ar helpu unigolion i wella ei llesiant drwy sesiynau iechyd a ffitrwydd grŵp.
Gorffennodd y Swyddog drwy ddiolch i holl staff y Gwasanaethau Cymdeithasol ynghyd â’r darparwyr hynny a gomisiynwyd am eu gwaith caled yn ystod 2018/19. Yn ogystal, diolchodd y Gwasanaeth i Dr Caroline Turner, y cyn gyfarwyddwr a oedd yn y swydd ar gyfer y rhan fwyaf o 2018/19, am ei chefnogaeth yn ystod y flwyddyn honno a’r flwyddyn flaenorol.
Bu’r Cynghorydd Aled Morris Jones, Cadeirydd y Pwyllgor Sgriwtini Corfforaethol adrodd yn ôl o gyfarfod y Pwyllgor a gynhaliwyd ar 8 Gorffennaf, ble cyflwynwyd yr Adroddiad Blynyddol iddo ac fe siaradodd i gadarnhau bod y Pwyllgor wedi cydnabod fod cynnydd wedi’i wneud dros y flwyddyn a bod hynny wedi eu adlewyrchu yn yr adroddiad a mynegodd ei ddiolch i ymrwymiad a gwaith caled y staff am wneud i hynny ddigwydd. Roedd trafodaeth y Pwyllgor ar y Gwasanaethau Plant wedi canolbwyntio ar symudiad Llywodraeth Cymru tuag at annog awdurdodau lleol i osod targed ar gyfer lleihau nifer y plant mewn gofal gyda’r Pwyllgor yn ei gwneud yn glir ei fod yn cefnogi’r Arweinydd wrth ymwrthod â cham o’r fath.
Mae’r Pwyllgor Gwaith hefyd yn cydnabod y camau mawr a wnaed yn ystod 2018/19 o ran y Gwasanaethau Plant ac Oedolion ond yn cydnabod ar yr un pryd fod meysydd y mae angen gweithio arnynt ac y bydd Gwasanaethau Cymdeithasol yn wynebu heriau yn y dyfodol. Cymerodd y Pwyllgor Gwaith sicrwydd o’r cynnydd a wnaed, yr oedd o’r farn y byddai’n darparu sylfaen gref i weithio arni er mwyn gallu bodloni’r heriau hynny.
Penderfynwyd cadarnhau bod y Pwyllgor Gwaith yn fodlon fod Adroddiad Blynyddol Cyfarwyddwr y Gwasanaethau Cymdeithasol 2018/19 yn –
• Cyfleu sefyllfa gyfredol y Cyngor o ran y modd mae’n darparu ei Wasanaethau Cymdeithasol.
• Adlewyrchu’n gywir ei flaenoriaethau gwella ar gyfer y Gwasanaethau Oedolion a Phlant a Theuluoedd am y flwyddyn i ddod.
• Adlewyrchu atebolrwydd a chyfrifoldeb y Cyngor mewn perthynas â’i Wasanaethau Cymdeithasol.
Dogfennau ategol: