Eitem Rhaglen

Cais am Ganiatâd Arbennig

Ystyried cais am ganaitâd arbennig.

 

Cofnodion:

Dywedodd y Cyfreithiwr (Llywodraethiant Corfforaethol) bod cais am ganiatâd arbennig wedi ei gyflwyno gan y Cynghorydd Derek Owen, Cadeirydd Cyngor Cymuned Llanbadrig mewn perthynas â’r Rhaglen Moderneiddio Ysgolion yn nalgylch Amlwch. Mae’r Cynghorydd Owen yn dymuno cymryd rhan yn y trafodaethau yn ystod y broses. 

 

Mae’r Cynghorydd Owen yn ystyried fod ganddo ddiddordeb bersonol gan ei fod yn daid i blant sy’n mynychu Ysgol Penysarn, sef un o’r ysgolion sydd dan ystyriaeth fel rhan o’r Rhaglen Moderneiddio Ysgolion ar gyfer ardal Amlwch. Ysgol Cemaes yw’r ysgol leol ar gyfer Cyngor Cymuned Llanbadrig ac mae’r ysgol hon hefyd dan ystyriaeth fel rhan o’r Rhaglen Moderneiddio Ysgolion ar gyfer ardal Amlwch. Mae diddordeb rhagfarnus y Cynghorydd Owen yn codi o’r ffaith bod Ysgol Penysarn ac Ysgol Cemaes yn rhan o’r un gyfres o ysgolion y bydd eu dyfodol yn cael ei adolygu.

  

Roedd y Panel Caniatâd Arbennig, drwy’r Cadeirydd wedi cytuno i ystyried y cais ar sail ymarfer papur yn unig. Nid oedd yr ymgeisydd yn bresennol yn y cyfarfod.  

 

Cyfeiriodd y Cyfreithiwr (Llywodraethiant Corfforaethol) at y Cod Ymddygiad ar gyfer Cyngor Cymuned Llanbadrig a thynnodd sylw at y sail perthnasol dros ddiddordeb personol y Cynghorydd Owen, sef Paragraff 10(2)(c)(i) ac mae’r cwestiwn a yw’r diddordeb yn rhagfarnus yn cael ei ystyried o dan Baragraff 12(1). 

 

Eglurodd y Cyfreithiwr (Llywodraethiant Corfforaethol) i’r Panel, petai’n cytuno bod gan y Cynghorydd Owen ddiddordeb personol ac un a oedd yn rhagfarnu, y byddai wedyn angen i’r Panel benderfynu a fyddai’n rhoi caniatâd arbennig, ac os felly, ar ba sail ac a fyddai’n ganiatâd arbennig llawn neu rhannol. 

 

Adroddodd y Swyddog Monitro, wrth benderfynu ar ddiddordeb sy’n rhagfarnu, nad dim ond rôl y sawl sy’n gwneud y penderfyniad sy’n rhaid ei ystyried, ond dylanwadu ar benderfyniad pwysig, sy’n creu diddordeb rhagfarnus. Nododd fod y posibilrwydd o gau ysgol neu ysgolion yn fater sylweddol ar gyfer yr ardal a’r rhai a effeithir arnynt.  

 

Adroddodd y Swyddog Monitro, fel rhan o’r Rhaglen Moderneiddio ysgolion, y gallai Cadeiryddion Cyrff Llywodraethwyr fynychu cyfarfodydd o Bwyllgor Sgriwtini Corfforaethol y Cyngor Sir er mwyn cyflwyno eu safbwyntiau. Yna, bydd y Pwyllgor Sgriwtini Corfforaethol yn cyflwyno ei safbwyntiau i’r Pwyllgor Gwaith, a fydd yn gwneud y penderfyniadau.

 

Trafododd y Panel yr amgylchiadau unigol mewn perthynas â’r cais ac fe gytunwyd fod diddordeb y Cynghorydd Owen yn bersonol ac yn rhagfarnu. Gan fod y Pwyllgor Safonau wedi rhoi caniatâd arbennig o dan amgylchiadau tebyg yn y gorffennol (h.y. Nain neu taid plant sy’n mynychu Ysgolion a effeithir gan y Rhaglen Moderneiddio Ysgolion) ystyriwyd fod gan yr ymgeisydd ddiddordeb personol a diddordeb rhagfarnus yn y cyswllt hwn hefyd.

 

Cynhaliodd Aelodau’r Panel drafodaeth breifat. Yn dilyn trafodaeth, cyhoeddodd y Cadeirydd fod y Pwyllgor Safonau wedi PENDERFYNU rhoi caniatâd arbennig llawn i’r Cynghorydd Derek Owen o Gyngor Cymuned Llanbadrig i:-

 

  ysgrifennu at swyddogion a/neu’r Pwyllgor/Cyngor Cymuned mewn perthynas â’r mater;

  siarad â swyddogion y Cyngor Cymuned am y mater heb amodau;

  siarad mewn cyfarfodydd Pwyllgor/Cyngor Cymuned ac ateb unrhyw gwestiynau am y mater;

  aros yn yr ystafell yn ystod unrhyw drafodaeth a phleidleisio ar y mater; 

  cymryd rhan yn yr holl gyfarfodydd allanol a chyfarfodydd unrhyw gyrff allanol yn ei gapasiti fel aelod o’r Cyngor Cymuned. 

 

Rhoddir y caniatâd arbennig o dan Baragraff 81(4) Deddf Llywodraeth Leol 2000 ar y sail ganlynol:- 

 

(d)  mae natur y diddordeb o’r fath na fyddai cymryd rhan yn y busnes y mae’r diddordeb yn berthnasol iddo yn niweidio hyder y cyhoedd; ac

(f)  mae modd cyfiawnhau’r Cynghorydd yn cymryd rhan o ganlyniad i’w rôl neu arbenigedd penodol (fel Cadeirydd Cyngor Cymuned Llanbadrig). 

 

Bydd y Caniatâd Arbennig yn ddilys tan i’r cyfnod ymgynghori ddod i ben a than i’r holl drafodaethau/penderfyniadau yn ymwneud â neu sy’n codi o unrhyw ymgynghoriad o'r fath mewn perthynas â’r ddarpariaeth o addysg yn ardal Amlwch ddod i ben neu tan ddiwedd tymor presennol y Cynghorydd Derek Owen ar Gyngor Cymuned Llanbadrig, pa bynnag un sydd hwyraf. 

 

Gweithred:

 

  Y Swyddog Monitro i ysgrifennu at y Cynghorydd Owen yn cadarnhau ei fod wedi cael caniatâd arbennig llawn yn caniatáu iddo ysgrifennu at swyddogion; siarad a phleidleisio ar yr holl faterion yn ymwneud â’r Rhaglen Moderneiddio Ysgolion;

  Y Swyddog Monitro i hysbysu Clerc Cyngor Cymuned Llanbadrig am benderfyniad y panel o ran y caniatâd arbennig a amlinellwyd uchod.

  Y Cynghorydd Owen i ddatgan ei ddiddordeb personol a’i ddiddordeb sy’n rhagfarnu pan fydd yn mynychu cyfarfodydd Pwyllgor/Cyngor Cymuned ac i gadarnhau ei fod wedi derbyn caniatâd arbennig. 

Dogfennau ategol: