Eitem Rhaglen

Ceisiadau'n Codi

7.1 FPL/2018/42 – Stâd Llain Delyn, Gwalchmai

 

7.2 FPL/2019/31 – Tŷ Mawr, Pentraeth

Cofnodion:

7.1       FPL/2018/42 –  Cais llawn i godi 8 o anheddau marchnad agored a 2 o anheddau fforddiadwy, creu mynedfa newydd a ffordd i gerbydau ynghyd â gwaith tirlunio meddal a chaled ar dir ger Stad Llain Delyn, Gwalchmai

 

Cyflwynwyd y cais i’r Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion gan fod Aelod Lleol wedi ei alw i mewn. Yng nghyfarfod y Pwyllgor ar 5 Mehefin, penderfynwyd cynnal ymweliad safle a chynhaliwyd yr ymweliad hwnnw ar 19 Mehefin, 2019.

 

Siaradwr Cyhoeddus

 

Amlinellodd Sioned Edwards (o blaid y cais) natur y cais a, gan fod hwn yn gais am 10 uned, dywedodd fod ymgynghoriad cyn cyflwyno cais wedi’i gynnal a oedd yn cynnwys Aelodau Lleol, Cyngor Cymuned Trewalchmai, y cyhoedd, ac ymgyngoreion statudol. Codwyd pryderon am fynediad i safle’r cais drwy Stad Llain Delyn ac am yr effaith bosib ar breswylwyr eiddo cyfagos yn ystod y cyfnod adeiladu, yn arbennig mewn perthynas â cherbydau adeiladu yn defnyddio’r lôn breifat sy’n cysylltu safle’r cais â Stryd y Goron. Pwysleisiodd Ms Edwards fod Adran Briffyrdd y Cyngor wedi cadarnhau eu bod yn fodlon â’r cynnig mewn perthynas â’r fynedfa â chydymffurfiaeth â safonau parcio a bod y swyddogion yn argymell fod Cynllun Rheoli Traffig Adeiladu yn cael ei gyflwyno er mwyn cytuno ar lwybrau i’w ddilyn a threfniadau parcio. Yn dilyn hynny, bydd y datblygiad yn cael ei adeiladu yn unol â’r manylion y cytunwyd arnynt. Mae hyn yn dderbyniol i’r ymgeisydd a byddai hefyd yn sicrhau fod trefniadau mewn lle mewn perthynas â’r llwybr cyhoeddus sy’n rhedeg ar hyd y lôn breifat. Fel rhan o’r cynnig, bydd cyfraniad ariannol yn cael ei wneud tuag at ddarpariaeth addysg gynradd yn yr ardal a bydd 2 dŷ fforddiadwy yn cael eu darparu, ynghyd â llecyn agored a fydd hefyd yn rhan o’r datblygiad. Mae’r cynnig yn dderbyniol i Swyddogion Cynllunio, gydag amodau, a’r gobaith yw y bydd y Pwyllgor yn ei gefnogi.

 

Siaradodd y Cynghorydd R. G. Parry, OBE, FRAgS fel Aelod Lleol i gadarnhau, er nad oedd ganddo ef na’r Cyngor Cymuned unrhyw wrthwynebiad i’r cynnig, eu bod yn pryderu am yr effeithiau posib yn ystod y cyfnod adeiladau ac ynghylch mynediad i’r safle. Yn ystod yr ymweliad safle, byddai’r Pwyllgor wedi gweld bod dwy lôn wahanol yn rhoi mynediad i’r safle - y gyntaf drwy stad Llain Delyn a’r ail ar hyd y lôn o’r feddygfa. Roedd ef a’r Cyngor Cymuned yn gofyn am osod amod ar unrhyw ganiatâd cynllunio i gyfyngu mynediad i’r safle ar hyd y lôn yn arwain o’r feddygfa yn unig yn ystod y cyfnod adeiladu er mwyn osgoi unrhyw effaith neu beryglon posib o ganlyniad i gerbydau adeiladu’n teithio drwy stad dai Llain Delyn.

 

Adroddodd y Rheolwr Datblygu Cynllunio fod y Cyngor Cymuned, yn ogystal â mynegi pryder am y fynedfa, wedi cwestiynu’r angen am ddatblygiad tai yn y lleoliad hwn a’r effaith bosibl ar seilwaith lleol drwy roi mwy o bwysau ar yr ysgol leol a’r feddygfa. Mae safle’r cais o fewn y ffin ddatblygu ac mae Gwalchmai yn ganolfan wasanaeth lle y byddai disgwyl i ddatblygiad preswyl ddigwydd, yn unol â’r Cynllun Datblygu Lleol ar y Cyd. Nid yw’r Adran Briffyrdd wedi mynegi unrhyw wrthwynebiad ac argymhellir rhoi caniatâd gydag amodau, yn benodol mewn perthynas â rheoli traffig adeiladu yn unol ag amodau (10) ac (11) yn adroddiad y Swyddog, er mwyn lleddfu’r pryderon a godwyd gan y Cyngor Cymuned a’r Aelod Lleol. Dywedodd y Swyddog fod hynny’n golygu cytuno ar y manylion yn unol â’r amodau yn hytrach na gosod amod penodol i gyfyngu mynediad i gerbydau adeiladu ar hyd un llwybr yn unig. Mae’r gymysgedd o dai a gynigir fel rhan o’r datblygiad yn dderbyniol i’r Adran Dai ac ystyrir hefyd ei fod yn cydweddu â chymeriad ac edrychiad y rhan hon o Walchmai Uchaf, gan fod eiddo deulawr yn union gerllaw. Byddai cyfraniad ariannol yn cael ei roi tuag at dderbyn nifer tybiedig o ddisgyblion ychwanegol o’r datblygiad yn yr ysgol leol ynghyd â darparu llecyn agored, yn unol â Pholisi ISA 5. O ganlyniad, argymhelliad y Swyddog yw caniatáu’r cais, gyda’r amodau a rhestrwyd yn yr adroddiad, a chwblhau cytundeb cyfreithiol er mwyn sicrhau unrhyw gyfraniadau/darpariaethau perthnasol.

 

Wrth ystyried y cynnig, gofynnodd y Pwyllgor am farn yr Adran Briffyrdd am y mynediad i’r safle a chais yr Aelod Lleol am amod i bennu llwybr mynediad ar gyfer cerbydau adeiladu.

 

Cadarnhaodd yr Uwch Beiriannydd (Rheoli Datblygu – Priffyrdd) wrth drafod y Cynllun Rheoli Amgylcheddol ar gyfer Gwaith Adeiladu y cyfeirir ato yn amodau (10) ac (11) gyda’r datblygwr, y byddai Swyddogion Priffyrdd yn cymryd i ystyriaeth y pryderon a fynegwyd ac yn asesu’r ddau lwybr mynediad yn ofalus cyn dod i gytundeb gyda’r datblygwr ynghylch pa opsiwn fyddai orau - defnyddio un neu’r llall o’r llwybrau, neu rannu’r ddau. Ymhellach, mewn ymateb i sylwadau fod ffordd stad Llain Delyn yn gul, cadarnhaodd y Swyddog bod ffyrdd stadau yn tueddu i fod yn gulach na ffyrdd eraill, ond nad yw’r ffordd drwy Llain Delyn yn anghyffredin a bod lled y ffordd yn nodweddiadol ar gyfer y math hwn o ddatblygiad.

 

Cynigiodd y Cynghorydd Ken Hughes argymhelliad y Swyddog i gymeradwyo’r cais ac eiliwyd y cynnig gan y Cynghorydd Eric Jones.

 

Penderfynwyd caniatau’r cais yn unol ag argymhelliad ac adroddiad y Swyddog gyda’r amodau sydd wedi eu cynnwys yn yr adroddiad ysgrifenedig a bod cytundeb cyfreithiol yn cael ei lofnodi yn cynnwys yr ymrwymiadau fel y cawsant eu rhestru yn yr adroddiad. 

 

7.2       FPL/2019/31 – Cais llawn ar gyfer newid defnydd adeilad allanol yn uned gwyliau ynghyd â gosod tanc septig newydd yn Tŷ Mawr, Pentraeth

 

Cyfeiriwyd y cais i’r Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion am fod Aelod Lleol wedi ei alw i mewn. Yn ei gyfarfod ar 1 Mai 2019, penderfynodd y Pwyllgor gynnal ymweliad safle a chynhaliwyd yr ymweliad ar 15 Mai 2019. Yn dilyn hynny, yn ei gyfarfod ar 5 Mehefin 2019, penderfynodd y Pwyllgor ganiatáu’r cais yn groes i argymhelliad y Swyddog oherwydd y tybiwyd bod cyfiawnhad dros y datblygiad a’i fod yn cydymffurfio â Pholisïau TWR 2 y Cynllun Datblygu Lleol ar y Cyd a TAN23: Datblygu Economaidd (2014) ac y byddai’n dod â budd economaidd i’r ardal.

 

Gan ei bod wedi datgan diddordeb personol sy’n rhagfarnu yn y cais, gadawodd y Cynghorydd Nicola Roberts y cyfarfod yn ystod y drafodaeth a’r bleidlais ar y cais. Cadeiriwyd y cyfarfod gan yr Is-Gadeirydd, y Cynghorydd Richard O. Jones yn ystod yr eitem hon.

 

Ail-ddatganodd y Cynghorydd Ieuan Williams, Aelod Lleol, ei gred fod polisïau wedi cael eu dehongli’n rhy gaeth yn yr achos hwn gan fod gwrthwynebiad y Swyddog yn seiliedig ar faint yr addasiadau arfaethedig i’r hen adeilad, ond nad oedd yr estyniadau a ychwanegwyd dros gyfnod o amser wedi cael eu cymryd i ystyriaeth. Pwysleisiodd yr Aelod Lleol na fyddai ôl-troed yr adeilad wedi’i drosi ddim ond ychydig yn fwy na’r adeilad presennol ynghyd â’r estyniadau, ond byddai’n dod â budd economaidd gan fod yr ymgeiswyr – teulu amaethyddol – yn ceisio arallgyfeirio a chreu twristiaeth yn yr ardal. Mae’r adeilad dan sylw yn un o glwstwr o bedwar adeilad ac mae’r tri arall wedi cael eu gwerthu ar gyfer eu hail-ddatblygu gan olygu, o bosib, y byddai’r adeilad dan sylw’n cael ei adael i ddadfeilio ymhellach yn eu mysg petai’r cais yn cael ei wrthod. Dywedodd yr Aelod Lleol ei fod ar ddeall fod y rhai yr ymgynghorwyd â nhw yn cefnogi’r cais, yn cynnwys erbyn hyn prynwr yr olaf o’r pedwar adeilad yn ogystal â busnesau lleol, a gofynnodd i’r Pwyllgor ail-gadarnhau ei benderfyniad blaenorol i ganiatáu’r cais.

 

Gofynnodd y Cynghorydd John Griffith am eglurhad pellach ynghylch maint a graddfa’r bwriad i drosi’r adeilad a chyfeiriodd at adroddiad y Swyddog sydd yn nodi mai dim ond cyfran fechan o’r adeilad presennol fydd yn cael ei gadw ac y byddai estyniad sylweddol yn cael ei adeiladu er mwyn gwneud y cynnig yn hyfyw fel uned wyliau 4 llofft. O ganlyniad, byddai’n llawer mwy gweladwy na’r adeiladau eraill o’i gwmpas ac felly’n fwy ymwthiol yn yr ardal o’i gwmpas.

 

Eglurodd y Cynghorydd Ieuan Williams fod yr adeilad allan ar y safle yn cynnwys yr adeilad gwreiddiol a nifer o estyniadau a gafodd eu hychwanegu’n ddiweddarach; diystyriwyd yr estyniadau wrth asesu’r cynnig oherwydd nad oedd y swyddog yn barnu eu bod yn addas i gael eu trosi, ond roedd yr agwedd honno’n rhy lym yn ei farn ef a chyn belled ag yr oedd yn ymwybodol, nid yw hynny’n cael ei adlewyrchu mewn polisi cenedlaethol na’r Cynllun Datblygu Lleol ar y Cyd. O ran yr ôl-troed, dim ond 2% i 3% yn fwy na’r adeiladau presennol yw’r cynnig ac yn gyffredinol mae’r cynnig yn rhoi trefn ar yr hyn sydd eisoes ar y safle. Nid oedd yn credu chwaith y byddai’r cynnig yn rhy weladwy o’i leoliad nac yn cael unrhyw effaith ar unrhyw un nac ar unrhyw beth.

 

Dywedodd y Rheolwr Datblygu Cynllunio fod yr adroddiad yn darparu ymateb i’r rhesymau a roddwyd gan y Pwyllgor dros ganiatáu’r cais yn ei gyfarfod blaenorol, yn groes i argymhelliad y Swyddog. Derbyniwyd llythyr yn cefnogi’r cais gan yr ymgeisydd ac mae copi ohono yn y pecyn sylwadau, ynghyd â chopi o e-bost gan berchennog un o’r eiddo cyfagos yn cadarnhau nad oes unrhyw wrthwynebiad i’r cynnig. Pwysleisiodd y Swyddog, er nad oes gwrthwynebiad i drosi’r adeilad ac y derbynnir y byddai’n dod â budd economaidd i’r ardal, ystyrir bod y cynnig, ar ei ffurf bresennol, yn hynod o anaddas o ran ei raddfa a’i faint ac y byddai’n dominyddu’r clwstwr o adeiladau y mae’n rhan ohono, gan fod yr estyniadau arfaethedig 100% yn fwy na’r adeilad presennol. O ganlyniad i hynny, mae’r cynnig yn groes i Bolisi TWR 2 y Cynllun Datblygu Lleol ar y Cyd a TAN 23, paragraff 3.2.3, y dyfynnodd y Swyddog ohono, yn ogystal â CCA yr Awdurdod. O ganlyniad mae sail polisi clir dros wrthod y cais ac mae’r argymhelliad yn parhau i fod yn un o wrthod.

 

Cynigiodd y Cynghorydd John Griffith fod y cais yn cael ei wrthod yn unol ag argymhelliad y Swyddog oherwydd ei fod yn anaddas o ran ei raddfa a’i faint, ac wrth wneud hynny tynnodd sylw at sylwadau ysgrifenedig y Swyddog yn amlinellu pam nad yw’r cynnig yn cydymffurfio â Pholisi TWR2; byddai caniatáu hefyd yn gosod cynsail peryglus ar gyfer ceisiadau yn y dyfodol ac eiliwyd y cynnig gan y Cynghorydd Richard Owain Jones.

 

Cynigiodd y Cynghorydd Kenneth Hughes fod penderfyniad blaenorol y Pwyllgor yn cael ei ail-gadarnhau ac eiliwyd y cynnig gan y Cynghorydd Bryan Owen. Cytunodd y Cynghorydd Dafydd Roberts gan ddatgan, er na fyddai fel arfer yn cefnogi cais i drosi adeilad a oedd yn fwy o ran graddfa na’r adeilad gwreiddiol, roedd o’r farn fod y lleoliad diarffordd yn golygu bod y cynnig yn dderbyniol yn yr achos hwn.

 

Yn y bleidlais a ddilynodd, cymeradwywyd y cynnig i ail-gadarnhau’r caniatâd gan fwyafrif o’r Pwyllgor.

 

Penderfynwyd ail-gadarnhau penderfyniad blaenorol y Pwyllgor i gymeradwyo’r cais yn groes i argymhelliad y Swyddog ac i awdurdodi’r Swyddogion i osod amodau ar y caniatâd, fel y bo’n briodol.

Dogfennau ategol: