Eitem Rhaglen

Ceisiadau'n Gwyro

10.1 VAR/2019/5 – Tyn Pwll, Benllech

 

10.2 VAR/2019/30 – Min y Ffrwd, Minffrwd, Brynteg

Cofnodion:

10.1    VAR/2019/5 – Cais dan Adran 73A i amrywio amodau (09), (10) a (11) o gais cynllunio 30C246K/VAR (cais dan Adran 73 i amrywio amodau er mwyn symud lleoliad un annedd) fel y gellir cyflwyno manylion ynglŷn â draenio dŵr wyneb, cynllun rheoli traffig, a manylion ar gyfer cynnal a chadw’r system ddraenio yn dilyn cychwyn y datblygiad ar dir ger Tŷ’n Pwll, Benllech

 

Cyflwynwyd y cais i’r Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion gan ei fod yn groes i bolisïau’r Cynllun Datblygu Lleol ar y Cyd ond yn un y mae’r Awdurdod Cynllunio Lleol â’i fryd ar ei ganiatáu.

 

Adroddodd y Rheolwr Datblygu Cynllunio bod caniatâd ar gyfer tair annedd wedi ei roi ar y safle o dan y Cynllun Datblygu blaenorol a chaniatawyd cais i ail-leoli’r un o’r anheddau yn gymharol ddiweddar, gydag amodau mewn perthynas â draenio dŵr wyneb, cynllun rheoli traffig a manylion cynnal a chadw system ddraenio. Mae gwaith wedi cychwyn ar y safle cyn i’r amodau gael eu rhyddhau felly mae’r cais presennol yn ceisio amrywio’r amodau hynny er mwyn caniatáu i’r manylion gael eu cyflwyno a’u cymeradwyo ar ôl i’r gwaith gychwyn. Dywedodd y Swyddog bod y manylion y gofynnir amdanynt o dan yr amodau uchod wedi cael eu darparu a’u hasesu fel rhan o’r cais a’u bod yn dderbyniol ac yn cydymffurfio â gofynion yr amodau yn ôl-weithredol.

 

Cynigiodd y Cynghorydd Kenneth Hughes argymhelliad y Swyddog i ganiatáu’r cais ac eiliwyd y cynnig gan y Cynghorydd Robin Williams.

 

Penderfynwyd caniatáu’r cais yn unol ag adroddiad ac argymhelliad y swyddog gyda’r amodau sydd wedi’u cynnwys yn yr adroddiad ysgrifenedig.

 

10.2    Cais dan Adran 73A i ddiwygio amod (04) (cynlluniau a gymeradwywyd) o gais cynllunio rhif 30C755B/DEL (Cais i dynnu amodau (09), (10), ac (11) (Côd ar gyfer Cartrefi Cynaliadwy) ac amrywio amod (08) (deunyddiau) o gais cynllunio 30C755 (Cais amlinellol i godi annedd) er mwyn ail-leoli’r annedd, diwygio’r dyluniad ac ychwanegu ystafell haul ym Min y Ffrwd, Minffrwd, Brynteg

 

Cyflwynwyd y cais i’r Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion gan fod y cynnig yn groes i bolisïau’r Cynllun Datblygu Lleol ond yn un y mae’r Awdurdod Cynllunio Lleol a’i fryd ar ei gymeradwyo.

 

Adroddodd y Rheolwr Datblygu Cynllunio fod yr egwyddor o annedd wedi cael ei sefydlu yn y lleoliad hwn eisoes o dan y Cynllun Datblygu blaenorol a bod y cais hwn ar gyfer dileu’r amodau uchod er mwyn gwneud newidiadau i’r cynllun a gymeradwywyd yn flaenorol, gan gynnwys ail-leoli’r annedd 6m i’r Gogledd Ddwyrain, newidiadau i’r drysau a’r ffenestri, yn cynnwys ffenestri dormer a ffenestri to, ac ychwanegu ystafell haul ar y drychiad De Orllewin yn wynebu’r briffordd. Mae’r newidiadau arfaethedig yn dderbyniol ac ystyrir eu bod yn welliant cyffredinol ar y cynlluniau a ganiatawyd eisoes. Er bod y cais yn groes i Bolisi TAI 6 y Cynllun Datblygu Lleol ar y Cyd, o ystyried y caniatâd cynllunio sy’n bodoli’n barod a’r gwelliant a ddeuai yn sgil y newidiadau arfaethedig, yr argymhelliad yw caniatáu’r cais.

Cynigiodd y Cynghorydd Bryan Owen argymhelliad y Swyddog i ganiatáu’r cais ac eiliwyd y cynnig gan y Cynghorydd Robin Williams.

 

Penderfynwyd caniatáu’r cais yn unol ag adroddiad ac argymhelliad y swyddog gyda’r amodau sydd wedi’u cynnwys yn yr adroddiad ysgrifenedig.

Dogfennau ategol: