Eitem Rhaglen

Gweddill y Ceisiadau

12.1 VAR/2019/14 – Cae Eithin, Malltraeth

 

12.2 FPL/2019/98 – Warden House, Awel y Môr, Rhosneigr

 

12.3 HHP/2019/129 – Tŷ Arfon, Lôn Refail, Llanfairpwll

 

12.4 FPL/2019/146 – Parc Peibio, Morawelon, Caergybi

Cofnodion:

12.1    VAR/2019/14 –  Cais dan Adran 73A i ddileu amod (08) (lefel llawr gorffenedig) ac amrywio amod (11) (cynlluniau a gymeradwywyd dan gais am y materion a gadwyd yn ôl rhif 15C48J/FR/DA) o gais cynllunio amlinellol rhif 15C48H (cais amlinellol ar gyfer codi annedd ynghyd â chreu mynedfa newydd i gerbydau) er mwyn galluogi diwygio gosodiad a dyluniad yr annedd a’r modurdy ar wahân a gymeradwywyd yn flaenorol, ynghyd â chodi wal amddiffyn llifogydd perimedr newydd yn Cae Eithin, Malltraeth

 

Cyflwynwyd y cais i’r Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion ar gais yr Aelod Lleol oherwydd pryderon ynghylch mynediad a materion yn ymwneud â pherchnogaeth tir.

 

Cynigiodd y Cynghorydd Bryan Owen fod ymweliad safle’n cael ei gynnal oherwydd y pryderon ynghylch y fynedfa a pherchnogaeth tir. Esboniodd y Cynghorydd Owen ei fod yn credu bod y cais hwn yn gynamserol gan nad oes gan yr ymgeisydd fynediad i’r annedd ar hyn o bryd ac y dylai’r Pwyllgor weld safle’r cais yn gyntaf cyn dod i benderfyniad arno.

 

Eglurodd y Rheolwr Datblygu Cynllunio fod y cais hwn ar gyfer diwygio’r caniatâd amlinellol a’r caniatâd materion a gadwyd yn ôl am annedd lle’r oedd y fynedfa yn cael ei rhannu â Pen Parc, yr eiddo drws nesaf. Rhoddwyd caniatâd ar wahân am fynedfa a dreif breifat ar wahân i Cae Eithin fel rhan o gais annibynnol diweddarach. Fodd bynnag, mae’r cais a gyflwynwyd ar gyfer amrywio amodau’r caniatâd yn ymwneud â’r annedd yn unig ac nid yw’n ymwneud â’r fynedfa breifat. O ganlyniad, nid yw’r rheswm a roddwyd ar gyfer cynnal ymweliad safle, h.y. materion yn ymwneud â’r fynedfa, yn rheswm cynllunio dilyn ar gyfer y cais hwn gan ei fod yn ymwneud â newidiadau i’r annedd.

 

Dywedodd y Cynghorydd Bryan Owen fod yr ail fynedfa y cyfeiriwyd ati wedi cael ei chreu ar dir nad yw’r ymgeisydd yn berchennog arno ac nad oes cytundeb rhwng yr ymgeisydd a’r cymydog drws nesaf ynghylch prynu’r tir. Dywedodd y Cynghorydd Owen y dylai’r mater yn ymwneud â’r fynedfa gael ei ddatrys yn gyntaf cyn bod modd dod i benderfyniad ar y cais hwn gan nad oes modd defnyddio’r eiddo heb fynediad cyfreithiol.

 

Cyflwynodd y Rheolwr Datblygu Cynllunio ychydig o wybodaeth gefndirol am y cais a’i gyd-destun i’r Pwyllgor ac, wrth gyfeirio at fap o’r safle, dangosodd y tir yr oedd y fynedfa ar wahân wedi’i lleoli arno mewn perthynas â’r tir y mae’r annedd sy’n destun y cais hwn wedi’i leoli arno. Cymeradwywyd y fynedfa ar wahân fel caniatâd annibynnol a bu’n destun ymchwiliad gorfodaeth mewn perthynas â thorri amodau. Eglurodd y swyddog hefyd, fel rhan o’r cais hwn ar gyfer newid y caniatâd amlinellol gwreiddiol a oedd yn cynnwys mynediad, fod yr ymgeisydd wedi cyflwyno rhybudd i’r tirfeddiannwr ac o ganlyniad bod modd delio gyda’r cais hwn. Ar wahân i hynny, nid yw perchnogaeth tir yn fater cynllunio.

 

Siaradwr Cyhoeddus

 

Dywedodd Mr Dafydd Jones Russell Hughes (o blaid y cais) mai’r unig faterion sy’n berthnasol i’r cais yw bod lefel orffenedig y llawr, mân newidiadau i faint a lleoliad y tŷ a’r garej ar y safle yn wahanol i’r hyn a ganiatawyd a bod y mater ynghylch perchnogaeth tir yn fater sifil. Manylir ar y materion hyn yn adroddiad y Swyddog. Mae lefel orffenedig y llawr 170mm yn is na’r hyn y cytunwyd arno rhwng yr Adran Gynllunio a Chyfoeth Naturiol Cymru (CNC) fel mesur i amddiffyn rhag llifogydd. Gan fod yr eiddo wedi cael ei gwblhau a’i ddodrefnu, byddai’n hynod o anodd a chostus i godi lefel y llawr o’r tu mewn felly rhoddwyd ystyriaeth i adeiladu wal berimedr fechan o gwmpas yr eiddo i uchder cyfartal â’r lefel angenrheidiol; mae CNC wedi cytuno fod hyn yn ddigonol. Bychan yn unig yw’r gwahaniaethau eraill mewn perthynas â maint yr eiddo a lleoliad yr eiddo a’r garej ar y plot o gymharu â’r hyn a ganiatawyd. Mae lefel crib yr eiddo’n cydymffurfio â’r lefel a nodir yn y caniatâd cynllunio. O ganlyniad, mae’r ymgeisydd yn gofyn am ganiatâd i adeiladu wal fechan i amddiffyn rhag llifogydd o amgylch yr eiddo ac i’r Pwyllgor ystyried na fydd y mân addasiadau i’r cynllun yn cael unrhyw effaith niweidiol ar yr amgylchedd naturiol neu adeiledig. Mae adroddiad y Swyddog yn cadarnhau na fydd yn cael effaith ar ddraenio dŵr wyneb. Dywedodd Mr Russell-Hughes eu bod nhw, fel asiantiaid ar ran yr ymgeisydd, wedi ymgynghori’n helaeth â’r Adran Gynllunio, CNC a’r Ymgynghorydd Rheoli Llifogydd er mwyn cyflwyno cais cynllunio sy’n delio’n foddhaol â’r mân newidiadau hyn. Ni chafodd y newidiadau eu gwneud er unrhyw fudd personol. Nid yw’r ymgeisydd yn adeiladwr a bu’n rhaid iddo ymddiried mewn eraill i adeiladu’r annedd yn unol â’r caniatâd cynllunio. O edrych ar hanes cynllunio’r safle, mae’n amlwg bod yr ymgeisydd wedi cyflwyno nifer o geisiadau i geisio sicrhau fod pob rhan o’r datblygiad yn gyfreithiol. Mae methu â defnyddio’r eiddo yr oedd ganddo hawl ei adeiladu wedi achosi llawer o boen meddwl i’r ymgeisydd a’i deulu. Gobeithir y bydd y Pwyllgor yn cytuno ag argymhelliad y Swyddog i ganiatáu.

 

Dywedodd y Cynghorydd Peter Rogers, Aelod Lleol, fod hwn yn gais a oedd wedi achosi gwrthdaro dros gyfnod hir o amser; cyfeiriodd at anghysonderau yn yr uchder, lefel orffenedig y llawr a gosodiad yr eiddo o gymharu â’r hyn a bennwyd yn amodau’r caniatâd cynllunio gwreiddiol. Roedd y materion hyn yn destun archwiliad gorfodaeth ac ni dderbyniwyd gwybodaeth am yr archwiliad hwnnw hyd yma. Yn ogystal, tynnodd y Cynghorydd Rogers sylw at y ffaith nad yw nifer o gwestiynau ynghylch y datblygiad ac achosion o dorri amodau cynllunio wedi cael eu hateb. Mae’r newidiadau i raddfa’r annedd, sydd wedi cynyddu ei uchder, hyd a lled, wedi creu datblygiad sydd yn rhy fawr ac mae ei effaith weledol yn fwy na’r hyn a ddangoswyd ar y cynlluniau a gymeradwywyd ac a ganiatawyd o dan yr amodau cynllunio. Dywedodd y Cynghorydd Rogers mai’r prif bryder yw’r dull arfaethedig o ddatrys y ffaith na chafodd y cynnig ei adeiladu yn unol â lefel orffenedig y llawr y manylwyd arno yn yr amod cynllunio, sef adeiladu wal berimedr i amddiffyn rhag llifogydd, a fydd yn gwaethygu effaith weledol y datblygiad ymhellach, yn ogystal â’i effaith ar fwynderau a phreifatrwydd yr eiddo gerllaw. Dywedodd y Cynghorydd Rogers mai’r rheswm dros geisio cael y caniatâd hwn yw er mwyn canfod yr ateb mwyaf effeithiol i broblem a grëwyd gan yr ymgeisydd ei hun. Dywedodd ei fod yn siomedig na fyddai ymweliad safle’n cael ei gynnal oherwydd yr oedd yn credu y dylai’r Pwyllgor weld drostynt eu hunain beth fu’r sefyllfa ar y safle ers ychydig o flynyddoedd yn awr.

 

Adroddodd y Rheolwr Datblygu Cynllunio mai’r prif bryder mewn perthynas â’r cais hwn yw effaith y wal amddiffyn rhag llifogydd ar fwynderau gweledol eiddo Pen Parc. Rhoddodd grynodeb o hanes cynllunio’r datblygiad a dywedodd fod ymchwiliad gorfodaeth ynglŷn â thorri amodau'r caniatâd cynllunio annibynnol am y fynedfa breifat ar wahân wedi canfod anghysonderau mewn perthynas â’r annedd ei hun. Mae’r anghysonderau hyn yn ymwneud â lefel orffenedig y llawr, gosodiad yr annedd ar y plot, cynnydd yn hyd a lled yr annedd orffenedig a newid yng ngogwydd y garej. O ganlyniad, mae’r cais yn ceisio rheoleiddio’r materion a nodwyd, a phetai’n cael ei ganiatáu, mae asiant yr ymgeisydd wedi nodi y byddai cais ar wahân yn cael ei gyflwyno i ddelio gyda materion sy’n codi mewn perthynas â’r fynedfa breifat.

 

Yn wreiddiol, roedd lleoliad y cynnig mewn ardal a ddosbarthwyd fel parth llifogydd C1 lle bydd datblygiad yn cael ei ganiatáu cyhyd â’i fod yn cyfarfod â’r meini prawf yn TAN 15. O ganlyniad, pennwyd bod rhaid i lefel orffenedig y llawr fod o leiaf 4.42m Uwchlaw Datwm Ordnans (AOD) er mwyn diogelu’r datblygiad a phreswylwyr yn y dyfodol rhag llifogydd yn ystod oes y datblygiad. Mae lefel orffenedig gwirioneddol llawr yr annedd yn 4.25 AOD, 170mm yn is na’r lefel a bennwyd yn yr amod. Er mwyn rhoi sylw i’r risg o lifogydd a nodwyd o ganlyniad i lefel orffenedig y llawr, y bwriad yw adeiladu wal i amddiffyn rhag llifogydd yn agos at yr annedd ac o’i amgylch. Bydd uchder y wal hefyd yn cymryd i ystyriaeth y ffaith fod dosbarthiad yr ardal wedi newid o barth C1 i C2 (a fyddai wedi golygu y byddai argymhelliad i wrthod y cynnig petai’r safle ym mharth C2  pan gyflwynwyd y cais gwreiddiol). Golyga hyn y bydd yr annedd yn cael ei amddiffyn yn well rhag llifogydd nag y byddai petai wedi cael ei adeiladu yn unol â’r manylion gwreiddiol. Ymgynghorwyd â Chyfoeth Naturiol Cymru fel rhan o’r cais ac nid ydynt wedi codi unrhyw wrthwynebiad.

 

Mae’r annedd hefyd 250mm yn hirach a 250mm yn lletach na’r hyn a ganiatawyd ac mae’r garej wedi’i lleoli fel bod y talcen blaen yn wynebu’r dreif newydd a gymeradwywyd fel rhan o’r caniatâd annibynnol ar gyfer mynedfa breifat. Dywedodd y Swyddog fod gwrthwynebiad cryf yn lleol i uchder yr annedd ac roedd y caniatâd cynllunio amlinellol yn nodi na ddylai’r uchder fod yn fwy na 6m. Mae uchder yr annedd a adeiladwyd, o lefel orffenedig y llawer i’r grib, yn 5.85m, sydd yn llai na’r 6m a bennwyd yn yr amod. Fodd bynnag, mae uchder yr annedd o lefel wreiddiol y ddaear i’r grib yn 7.15m. Er bod amod (10) yn pennu na ddylai uchder y grib fod yn fwy na 6m, nid yw’n nodi a ddylid cymryd y mesur hwnnw o lefel orffenedig y llawr neu o lefel wreiddiol y ddaear ac, oherwydd diffyg eglurdeb, mae’n annhebygol y byddai modd gorfodi’r amod hwnnw. Oherwydd hynny, ac am nad yw’r uchder o lefel orffenedig y llawr yn fwy na 6m, nid ystyrir fod yr amod wedi cael ei dorri. Er gwaethaf pryderon lleol am gywirdeb y mesuriadau, y prif fater yw effaith y newidiadau, ynghyd ag effaith y wal amddiffyn rhag llifogydd arfaethedig, o ran effaith weledol y datblygiad cyfan a’r effaith ar fwynderau eiddo cyfagos. Nid ystyrir chwaith y bydd y wal i amddiffyn rhag llifogydd yn creu unrhyw effaith weledol annerbyniol. O ganlyniad, yr argymhelliad yw caniatáu’r cais.

 

Dywedodd y Cynghorydd Kenneth Hughes, ar ôl ystyried yr holl wybodaeth a gyflwynwyd, ei fod o’r farn bod angen cynnal ymweliad safle er mwyn i Aelodau asesu drostynt eu hunain effeithiau posib y cynnig ar fwynderau’r ardal a mwynderau eiddo cyfagos. O ganlyniad cynigiodd fod y Pwyllgor yn ymweld â safle’r cais ac eiliwyd y cynnig gan y Cynghorydd Bryan Owen.

 

Penderfynwyd ymweld â’r safle am y rheswm a roddwyd.

 

12.2    FPL/2019/98 - Cais llawn ar gyfer newid defnydd yr ystafell gymunedol bresennol yn eiddo preswyl fforddiadwy yn Nhŷ’r Warden, Awel y Môr, Rhosneigr

 

Cyflwynwyd y cais i’r Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion oherwydd ei fod wedi ei gyflwyno gan y Cyngor.

 

Adroddodd y Rheolwr Datblygu Cynllunio fod y cynnig yn golygu newid defnydd yr ystafell gymunedol bresennol yn Nhŷ’r Warden yn annedd marchnad leol un ystafell wely. Lleolir y cynnig ar stad dai ac mae’n cynnig cyfle i greu annedd fechan ychwanegol ar gyfer y farchnad dai leol ac mae’n cydymffurfio â Pholisi TAI 5 y Cynllun Datblygu Lleol ar y Cyd.

 

Cynigiodd y Cynghorydd Bryan Owen argymhelliad y Swyddog i ganatau’r cais ac eiliwyd y cynnig gan y Cynghorydd Robin Williams.

 

Penderfynwyd caniatau’r cais yn unol ag adroddiad ac argymhelliad y Swyddog gyda’r amodau sydd wedi’u cynnwys yn yr adroddiad ysgrifenedig.

 

12.3    HHP/2019/129 – Cais llawn i godi garej ar wahân yn Tŷ Arfon, Lôn Refail, Llanfairpwll

 

Cyflwynwyd y cais i’r Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion am fod Aelod Lleol wedi ei alw i mewn.

 

Dywedodd y Cadeirydd ei bod ar ddeall fod yr Aelod Lleol yn dymuno i’r Pwyllgor ymweld â safle’r cais.

 

Cynigiodd y Cynghorydd Bryan Owen fod y Pwyllgor yn cynnal ymweliad safle er mwyn asesu yn well effeithiau posib y cynnig ar fwynderau preswyl ac eiliwyd y cynnig gan y Cynghorydd Robin Williams.

 

Penderfynwyd ymweld â safle’r cais yn unol â chais yr Aelod Lleol ac am y rheswm a roddwyd.

 

12.4    FPL/2019/146 – Cais llawn ar gyfer newid defnydd tir gwag i fod yn le chwarae sy’n cynnwys gosod offer chwarae yn Parc Peibio, Morawelon, Caergybi

 

Cyflwynwyd y cais i’r Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion gan mai’r Cyngor sy’n cyflwyno’r cais.

 

Gan ei fod wedi datgan diddordeb personol sy’n rhagfarnu yn y cais, gadawodd y Cynghorydd Bryan Owen y cyfarfod ac nid oedd yn bresennol yn ystod y drafodaeth na’r bleidlais ar y cais.

 

Adroddodd y Rheolwr Datblygu Cynllunio fod y cynnig yn golygu ail-leoli lle chwarae o dir preifat gerllaw i dir ym mherchnogaeth y Cyngor. Mae’r offer chwarae presennol yn dod i ddiwedd ei oes ddefnyddiol ond, yn hytrach nag adnewyddu’r parc presennol, bwriedir creu parc newydd oddeutu 23 metr i’r Gogledd, ac i dynnu’r parc presennol oddi yno. Derbyniwyd un llythyr sydd yn codi pryderon am breifatrwydd, mwynderau ac ymddygiad gwrthgymdeithasol. Dywedodd y Swyddog fod y lle chwarae arfaethedig 27 metr oddi wrth yr eiddo agosaf, ac mae hyn yn bellach na’r lle chwarae presennol ac, o gymryd hynny i ystyriaeth, yn ogystal â’r ffaith mai plant fydd yn defnyddio’r lle chwarae, nid ystyrir y bydd y cynnig yn cael unrhyw effaith ar breifatrwydd. Mae’r ardal yn ardal fawr agored sydd ar gael fel lle chwarae ac at ddefnydd hamdden ac nid ystyrir y byddai creu parc chwarae yn yr ardal hon yn cael mwy o effaith ar eiddo cyfagos nag sy’n bodoli’n barod. O ganlyniad, yr argymhelliad yw caniatau’r cais.

 

Cynigiodd y Cynghorydd Robin Williams argymhelliad y Swyddog i gymeradwyo’r cais ac eiliwyd y cynnig gan y Cynghorydd John Griffith.

 

Penderfynwyd caniatau’r cais yn unol ag adroddiad ac argymhelliad y Swyddog gyda’r amod sydd wedi’i gynnwys yn yr adroddiad ysgrifenedig.

Dogfennau ategol: