Eitem Rhaglen

Rhaglen Arfor

Cyflwyno adroddiad gan y Prif Weithredwr.

Cofnodion:

Cyflwynwyd adroddiad y Prif Weithredwr mewn perthynas â gweithredu’r Rhaglen Arfor ar Ynys Môn ar gyfer ystyriaeth y Pwyllgor Gwaith.  

 

Adroddodd y Deilydd Portffolio Prosiectau Mawr a Datblygiad Economaidd bod Llywodraeth Cymru wedi cytuno i ddyrannu £2m i ariannu Cronfa Arloesi Arfor yn ystod y cyfnod 2 flynedd 2019/20 i 2020/21. Nod y rhaglen Arfor yw peilota gwahanol agweddau a phrosiectau sy’n hyrwyddo entrepreneuriaeth a thwf busnes gan ganolbwyntio ar hyrwyddo’r Gymraeg ac mae’n canolbwyntio ar y pedair Sir lle mae’r Gymraeg ar ei chryfaf – Gwynedd, Ynys Môn, Ceredigion a Chaerfyrddin.  Mae Adran Economi Llywodraeth Cymru yn darparu’r cyllid ac mae’r cynnig grant yn gosod dibenion, amcanion ac allbynnau penodol sy’n cael eu crynhoi yn yr adroddiad. Bydd Cyngor Gwynedd yn arwain ar reoli’r rhaglen a bydd rhai elfennau o’r rhaglen yn cael eu gweithredu ar y cyd rhwng y 4 sir o dan gydlyniadnt Cyngor Gwynedd tra bydd eraill yn cael eu gweithredu yn lleol drwy’r Cynghorau Sir unigol. Darperir synopsis o gynlluniau Arfor Ynys Môn, y bwriad yw dechrau gweithio mewn partneriaeth â Menter Môn er mwyn ychwanegu gwerth ac osgoi dyblygu gwaith. Bydd cynlluniau penodol i Ynys Môn yn cael eu llywodraethu gan banel grantiau Arfor a fydd yn rheoli’r gyllideb, yn penderfynu ar geisiadau ac yn monitro trefniadau.  

 

Dywedodd yr Aelod Portffolio, ynghyd a sichrau bod penderfyniadau economaidd yn cael eu gwneud ar lefel leol, bod y Rhaglen Arfor yn gosod y Gymraeg wrth wraidd datblygiad economaidd yn y pedair sir gan wneud yr iaith yn bwynt gwerthu unigryw ar gyfer busnesau. Gobeithir y bydd datblygu Cynllun Strategol a gwerthuso’r gwahanol brosiectau peilot yn arwain at greu rhaglen hirdymor newydd er mwyn cefnogi pedair sir Arfor ac ardaloedd eraill o bosib lle mae’r Gymraeg yn parhau i fod yn iaith gymunedol.  

 

Tynnodd y Rheolwr Adfywio sylw at y ffaith bod Llywodraeth Cymru wedi pwysleisio, fel rhan o’r rhaglen, na ddylai cynlluniau presennol gael eu dyblygu a bod yn rhaid i agweddau newydd ac arloesol gael eu creu a’u cefnogi. Cadarnhaodd y Swyddog y bydd unrhyw brosiectau na fyddant yn cael eu cefnogi o ganlyniad yn cael eu hailgyfeirio i raglenni eraill.

 

Croesawodd y Pwyllgor Gwaith y fenter gan ganmol yr agwedd o gydweithio sy’n galluogi gweithrediad cynlluniau sy’n berthnasol yn lleol drwy’r cynghorau sir unigol. Mewn ymateb i gwestiynau, dywedodd yr Aelod Portffolio Prosiectau Mawr a Datblygiad Economaidd bod y gronfa wedi’i chreu gyda’r bwriad o gael ei defnyddio i gefnogi a chreu busnesau preifat yn lleol yn hytrach nag ar gyfer cynlluniau’r Cyngor ac nad oes disgwyl i’r Cyngor roi unrhyw arian cyfatebol tuag at y rhaglen.  

 

Penderfynwyd cefnogi a gweithredu’r Rhaglen Arfor ar Ynys Môn, ac awdurdodi’r Pennaeth Rheoleiddio a Datblygu Economaidd i –

 

           Dderbyn y cyllid Arfor gan Lywodraeth Cymru trwy Gyngor Gwynedd a’i ddefnyddio ar weithgareddau cymwys.

           Gweithio mewn partneriaeth efo Cyngor Gwynedd neu gynghorau eraill yn yr ardal Arfor i weithredu’r rhaglen

           Gweithio mewn partneriaeth â Menter Môn er mwyn gweithredu’r rhaglen Arfor.

           Gweithredu rhaglen grantiau o’r Gronfa Arfor i gynlluniau cymwys.

Dogfennau ategol: