Cyflwyno adroddiad gan y Trysorydd.
Cofnodion:
Cyflwynwyd – adroddiad y Trysorydd mewn perthynas â’r uchod.
Dywedwyd mai pwrpas yr adroddiad oedd ystyried y ceisiadau a oedd yn berthnasol i Ymddiriedolaeth Elusennol Ynys Môn. Dyrennir arian yn flynyddol ar gyfer prosiectau yn y categorïau canlynol:-
Cyfleusterau Cymunedol a Chwaraeon (prosiectau cyfalaf bychan)
Grantiau Eraill (grantiau unwaith ac am byth yn bennaf)
Yn ei gyfarfod ar 23 Ionawr, 2019, penderfynodd yr Ymddiriedolaeth lawn ddirprwyo cyllideb o £125k i’r Pwyllgor Grantiau Cyffredinol ar gyfer y rhaglen grantiau blynyddol. Yn ogystal, penderfynodd yr Ymddiriedolaeth lawn yn ei gyfarfod i ddirprwyo awdurdod i’r Pwyllgor Grantiau Cyffredinol i gymeradwyo ceisiadau am Grantiau Bach ac, o’r herwydd, ni fydd angen i’r Ymddiriedolaeth Elusennol lawn ond nodi cofnodion y Pwyllgor Grantiau Cyffredinol o hyn ymlaen. Uchafswm y grant mewn perthynas â Grantiau Cyfleusterau Cymunedol a Chwaraeon yw £8,000 a hyd 70% o’r gost gymwys. Fodd bynnag, yn ei gyfarfod ar 21 Ebrill 2011, penderfynodd yr Ymddiriedolaeth lawn roi hyblygrwydd i’r Pwyllgor hwn i godi’r uchafswm a’r gyfradd o gefnogaeth yn wyneb y ceisiadau a ddeuai i law.
Mae’r swyddogion perthnasol o fewn Cyngor Sir Ynys Môn wedi ystyried a blaenoriaethu’r ceisiadau a dderbyniwyd, i’r graddau y mae hynny’n bosibl ac yn gyson gyda phenderfyniadau’r Ymddiriedolaeth a meini prawf a sefydlwyd yn y gorffennol. Mae system gyfeirio ar y cyd wedi cael ei sefydlu ar gyfer y ddau fath o grantiau a gyflwynwyd i’r Pwyllgor hwn ac ar gyfer ceisiadau am gyllid o Gronfa’r Degwm; bydd unrhyw fylchau yn y cyfeirnodau i’w priodoli i’r ffaith bod y grantiau hynny wedi cael eu cyflwyno i Gronfa’r Degwm yn hytrach na’r Ymddiriedolaeth hon.
Mae’r ceisiadau yn cael eu hystyried yn unol â’r ‘Meini Prawf ar gyfer Dosbarthu Grantiau o Ymddiriedolaeth Elusennol Ynys Môn’, ac mae copi ynghlwm yn Atodiad B i’r adroddiad.
Dyma’r ceisiadau a dderbyniwyd a’r symiau a argymhellwyd ar gyfer Cyfleusterau Cymunedol a Chwaraeon 2019/20 fel a ganlyn:-
001 – DHDC (Darganfod Cyfieithu hanes llawn deiliaid £3,500
Hen Dai Cymreig) Plas Penmynydd o 1500 hyd
heddiw, yn cynnwys adroddiad
pensaernïol a thaflenni o hanes
byr Plas Penmynydd ar gyfer
ymwelwyr.
002 – Parti Meibion Bara Brith Prynu allweddell a weithredir gan £79
fatri i biano trydan i’w defnyddio
lle nad oes trydan ar gael ac i brynu
bag i’w gludo.
005 - MȎN-SAR Prynu offer achub hanfodol i ymdopi DIM
gydag ehangu’r tîm a chyhoeddusrwydd.
(cais wedi ei gyfeirio i’r Pwyllgor Adfywio)
006 – Cymdeithas Ddinesig Cyhoeddi llyfryn yn ymwneud £848
Bro Porthaethwy â bwyd traddodiadol Ynys Môn. Uwchraddio’r
Wefan i ddarparu gwasanaeth dwyieithog.
007 – Gobaith Môn Prynu cawell pêl-droed a threlar. £5,600
008 – Neuadd Goffa Amnewid dau foeler gwres canolog £5,005
Bodedern a phrynu byrddau a throli i’w cludo.
009 – Cyngor Cymuned Gosod matiau diogelwch o dan/o DIM
Bryngwran gwmpas offer cae Chwarae Bryngwran.
(Wedi derbyn grant yn 2017/18 felly ddim yn gymwys)
010 – Cantorion Menai Prosiect Cerddorol ar raddfa fawr i £4,500 lwyfannu gwaith corawl gydag unawdwyr
Proffesiynol o Gymru, Cantorion Menai
a cherddorfa leol.
012 – GeoMôn UNESCO Prynu offer cyfrifiadurol i’w ddefnyddio £2,380
Global Geopark gan ymwelwyr i’r Tŵr Gwylio GeoMôn
yn Amlwch.
013 – Cyngor Cymuned Prynu offer ar gyfer y cael chwarae. £7,000
Llanddaniel
(yn amodol ar dderbyn amcancyfrif)
014 – Jon Egging Trust I gyflogi Swyddog Cyswllt Ieuenctid DIM
dwyieithog i gyflwyno pecynnau ‘Blue
Skies Inspire’ i ddwy ysgol ar Ynys
Môn.
(cais wedi ei gyfeirio i’r Pwyllgor Adfywio)
015 – Pwyllgor Gŵyl Trefnu gŵyl undydd ‘Ysgrifennu Môn. DIM
Montage
(cais wedi ei gyfeirio i’r Gronfa’r Degwm)
016 – Canolfan Cynghori Uwchraddio’r adeilad maent wedi £559
Ynys Môn symud iddo’n ddiweddar a phrynu
dodrefn ail-law a dodrefn ystafell fwyta newydd.
(rhoi grant tuag at gost y dodrefn yn unig ar yr amod y cyflwynir ail amcangyfrif. Dim yn gymwys ar gyfer cyllid ar gyfer gwaith atgyweirio oherwydd nid oes ganddynt brydles 21+ blynedd)
017 – Canolfan Iorwerth Prynu a gosod boeler newydd a £6,951
Rowlands gwaith ategol.
Cais wedi ei gyfeirio o’r Grantiau Mawr fel a ganlyn:-Application referred from
17 - Cerddoriaeth mewn Darparu dau gyngerdd cerddoriaeth DIM
Ysbytai a Gofal Cymru byw proffesiynol ar gyfer yr henoed,
y bregus ac i bobl sydd yn byw yng
Nhartrefi Gofal Ynys Môn.
(cais wedi ei gyfeirio i’r Gronfa’r Degwm)
PENDERFYNWYD :-
· Cymeradwyo’r symiau, fel a restrir uchod (£36,422) [yn ymyl y symiau a argymhellwyd], sef cyfradd grant o 70%;
· bod hysbyseb bellach yn cael ei rhoi yn y wasg leol ac ar y cyfryngau cymdeithasol ym mis Medi 2019 am geisiadau am grantiau gan sefydliadau gwirfoddol a sefydliadau eraill oherwydd mai ychydig iawn o geisiadau a dderbyniwyd am gymorth Grantiau Cyfalaf ar gyfer Cyfleusterau Cymuned a Chwaraeon yn 2019/20;
· bod y ceisiadau sydd wedi derbyn cyllid grant yn ystod y ddwy flynedd ddiwethaf yn cael eu hystyried (os oes arian ar gael) ar ddiwedd y broses dyrannu grantiau.
Dogfennau ategol: