Eitem Rhaglen

Gweddill y Ceisiadau

12.1  FPL/2019/1 – Capel Carmel, Lôn Capel, Amlwch

 

12.2  DIS/2019/84 – Maes y Coed, Porthaethwy

 

12.3  FPL/2019/79 – Waun Dirion, Benllech

 

12.4  FPL/2018/55 – Penrhyn Owen, Caergybi

Cofnodion:

12.1  FPL/2019/1 – Cais llawn ar gyfer newid adeilad allanol yn saith fflat ynghyd â chreu mynedfa newydd i gerbydau yn Capel Carmel, Lôn Capel, Amlwch.

 

Cyflwynwyd y cais i’r Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion ar gais Aelod Lleol.

 

Dywedodd y Cadeirydd fod Aelod Lleol wedi cyflwyno cais i ymweld â safle’r cais o ganlyniad i bryderon lleol mewn perthyna â dymchwel wal derfyn i greu mynedfa newydd i gerbydau.

 

Cynigiodd y Cynghorydd Nicola Roberts y dylid ymweld â’r safle ac eiliwyd y cynnig gan y Cynghorydd Richard O Jones.

 

Ar gais yr Aelod Lleol, PENDERFYNWYD ymweld â’r safle.

 

12.2 DIS/2019/84 – Cais i ryddhau amod (11) (Cynllun rheoli traffig adeiladwaith) o ganiatâd cynllunio FPL/2019/9 ym Maes y Coed, Porthaethwy

 

Cyflwynwyd y cais i’r Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion gan ei fod yn un a wneir gan y Cyngor ar dir sy’n berchen i’r Awdurdod Lleol.  

 

Adroddodd y Rheolwr Datblygu Cynllunio mai cais oedd hwn i ryddhau amod 11 o gais cynllunio FPL/2019/9 a oedd yn gofyn am fanylion cynllun rheoli traffig adeiladu. Mae’r cynllun rheoli traffig adeiladu bellach wedi’i dderbyn gan yr Awdurdod Lleol ac fe’i ystyrir yn dderbyniol gan yr Awdurdod Priffyrdd. 

 

Cynigiodd y Cynghorydd Robin Williams y dylid caniatáu’r cais ac eiliwyd y cynnig hwnnw gan y Cynghorydd Eric W Jones. 

 

PENDERFYNWYD caniatáu’r cais yn unol ag argymhelliad y Swyddog gyda’r amodau sydd wedi’u cynnwys yn yr adroddiad ysgrifenedig.

 

12.3  FPL/2019/79 – Cais llawn i newid defnydd ystafell gymunedol bresennol i annedd 1 ystafell wely yn Waun Dirion, Benllech

 

Cyflwynwyd y cais i’r Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion gan fod y cais wedi’i gyflwyno gan yr Awdurdod Lleol.  

 

Adroddodd y Rheolwr Datblygu Cynllunio fod y cais yn cael ei ystyried yn dderbyniol ac nid yw’n cael ei ystyried fod y datblygiad yn cael effaith andwyol sylweddol ar gymeriad nac amwynderau’r ardal nac ar yr anheddau preswyl cyfagos na’r Iaith Gymraeg a’r Diwylliant Cymreig.

 

Cynigiodd y Cynghorydd Eric W Jones y dylid caniatáu’r cais ac eiliwyd y cais hwnnw gan y Cynghorydd Vaughan Hughes.

 

PENDERFYNWYD caniatáu’r cais yn unol ag argymhelliad y swyddog gyda’r amodau sydd wedi’u cynnwys yn yr adroddiad ysgrifenedig.

 

12.4 FPL/2018/55 – Cais llawn ar gyfer newid adeilad allanol yn llety gwyliau ynghyd â gosod gwaith trin carthffosiaeth yn Penrhyn Owen, Caergybi

 

Cyflwynwyd y cais i’r Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion ar gais yr Aelod Lleol. 

 

Adroddodd y Rheolwr Datblygu Cynllunio fod y cais gwreiddiol wedi’i ddiwygio er mwyn lleihau graddfa’r datblygiad arfaethedig ac mae’r cais wedi’i gefnogi gan Gynllun Busnes er mwyn cydymffurfio â pholisïau cynllunio. Dywedodd hefyd na ystyrir y bydd y datblygiad yn cael effaith negyddol ar unrhyw annedd breswyl na’r ardal gyfagos. Bydd angen cysylltu costau ychwanegol ag unrhyw ganiatâd a roddir i’r cais o ran y gofynion i fanylion y gwaith i’w ymgymryd ag ef hyd at waliau terfyn a mannau pasio at y briffordd gyfagos. Er bod yr Aelod Lleol wedi mynegi pryderon bod y ffordd i safle’r cais yn gul, dywedodd y Rheolwr Datblygu Cynllunio bod y ffordd yn briffordd breifat a bod yr Awdurdod Priffyrdd yn fodlon â’r cais yn amodol ar fannau pasio yn cael eu cynnwys fel rhan o’r amodau a roddir ar y cais cynllunio. Dywedodd y Rheolwr Datblygu Cynllunio nad yw’r cyfnod ymgynghori cyhoeddus yn dod i ben tan 5 Medi, 2019 a gofynnodd am roi’r hawl i Swyddogion weithredu yn dilyn diwedd y cyfnod ymgynghori os nad oedd unrhyw sylwadau wedi eu derbyn.      

 

Dywedodd y Cynghorydd T Ll Hughes, Aelod Lleol, fod ganddo bryderon fod y ffordd yn gul tuag at Ffordd Trearddur a Ffordd Porthdafach ac nad oedd pafin lle gallai pobl gerdded ger priffordd beryglus. Ymatebodd y Peiriannydd Rheoli Datblygu y defnyddir y briffordd gan nifer o gerddwyr a bod nifer o lwybrau cyhoeddus ger safle’r cais. Nododd fod yr Awdurdod Priffyrdd yn gofyn bod yr ymgeisydd yn cynnwys ‘man pasio’ fel rhan o’r cais.

 

Cynigiodd y Cynghorydd Robin Williams fod y cais yn cael ei ganiatáu ac eiliwyd y cynnig gan y Cynghorydd K P Hughes.

 

PENDERFYNWYD caniatáu’r cais gydag amodau ychwanegol parthed gofynion i greu llefydd pasio ar y briffordd gyfagos a chyflwyno manylion y gwaith mewn perthynas â waliau terfyn ac i roi’r hawl i’r Swyddog weithredu ar ôl i’r cyfnod ymgynghori statudol ddod i ben.

 

 

Dogfennau ategol: