Eitem Rhaglen

Archwilio Allanol:Archwiliad o " Hyrwyddo Ynys Môn er mwyn annog Datblygwyr Mawr i Fuddsoddi yn yr Ynys"

Cyflwyno adroddiad Archwilio Allanol.

Cofnodion:

Cyflwynwyd i’r Pwyllgor ei ystyried – adroddiad Archwilio Allanol ar ganfyddiadau ei ymchwiliad i gam y mae’r Cyngor yn ei gymryd i gwrdd â’i amcanion llesiant, sef hyrwyddo Ynys Môn i annog datblygwyr mawr i fuddsoddi yn yr Ynys a defnyddio hyn fel catalydd i ddatblygu busnes a swyddi ar yr Ynys.

 

Adroddodd Mr Alan Hughes, Swyddog Arweiniol Archwilio Perfformiad (SAC), fod gofyn statudol i Archwilydd Cyffredinol Cymru, yn unol â Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol, archwilio cyrff cyhoeddus i asesu i ba raddau maent wedi gweithredu yn unol â’r egwyddor datblygu cynaliadwy wrth iddynt osod eu hamcanion llesiant a chymryd camau i gwrdd â hwy. Yn yr adroddiad uchod, mae’r Archwilydd Allanol wedi ceisio sefydlu p’un a yw’r Cyngor yn gweithredu yn unol â’r egwyddor datblygu cynaliadwy yn ei gam i hyrwyddo Ynys Môn er mwyn annog datblygwyr mawr i fuddsoddi yn yr Ynys. Er mwyn gweithredu’n unol â’r egwyddor datblygu cynaliadwy, mae’n rhaid i gyrff cyhoeddus roi ystyriaeth i’r “pum ffordd o weithio” fel y cânt eu diffinio yn y ddogfen “Yr Hanfodion” yn Neddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) 2015 sy’n ymwneud â diogelu’r gallu i gwrdd ag anghenion tymor hir; gweithredu i atal problemau rhag digwydd neu fynd yn waeth; ystyried integreiddio amcanion llesiant y corff cyhoeddus gyda’u hamcanion eraill neu amcanion corff cyhoeddus arall; gweithredu gan gydweithio ag unrhyw berson arall neu rannau gwahanol o’r corff ei hun a chynnwys pobl sydd â diddordeb mewn cyflawni’r amcanion llesiant gan sicrhau bod y bobl hynny’n adlewyrchu amrywiaeth yr ardal y mae’r corff yn ei gwasanaethu.

 

Daeth yr adroddiad i’r casgliadau hyn –

 

           Mae’r Cyngor wedi gweithredu yn unol â’r egwyddor datblygu cynaliadwy o ran datblygu’r cam, ond mae cyfleoedd i wreiddio’r pum ffordd o weithio ymhellach.

           Mae’r Cyngor wedi ceisio cael dealltwriaeth drylwyr o effeithiau anffafriol prosiect ar raddfa fawr, ac mae’n deall pwysigrwydd casglu data i oleuo’i weithgareddau ataliol.

           Mae’r Cyngor yn ystyried sut y gallai ei gam gyfrannu at y saith nod llesiant cenedlaethol a’i amcanion llesiant eraill, ond nid yw wedi ystyried yn ffurfiol sut y bydd y datblygiad yn effeithio ar amcanion llesiant cyrff cyhoeddus eraill.

           Mae’r Cyngor wedi cymryd camau i gydweithio gyda phartneriaid ac adlewyrchu anghenion a dymuniadau cymunedau lleol, ond gallai wella’r modd y mae’n adolygu effeithiolrwydd y cydweithio.

           Mae’r Cyngor wedi cynnwys rhan-ddeiliaid ym mhrosiect Wylfa Newydd, ond mae angen iddo ddatblygu ei ddull o gynnwys amrywiaeth lawn y gymuned.

 

Ar ôl i’r gwaith maes ddod i ben, cyflwynwyd canfyddiadau’r Archwilydd Allanol i Swyddogion y Cyngor mewn gweithdy ym mis Mawrth, 2019 lle dechreuodd y Cyngor ystyried ei ymateb i’r canfyddiadau. O ganlyniad i’r trafodaethau yn y gweithdy a myfyrio ymhellach ar y canfyddiadau, mae’r Cyngor wedi datblygu cyfres o gamau gweithredu o dan themâu penodol ac mae’r rhain wedi eu rhestru yn y tabl yn Rhan 2 yr adroddiad.

 

Dywedodd y Prif Weithredwr fod yr archwiliad yn ceisio gofyn a yw’r Cyngor wedi dechrau arddel egwyddorion y Ddeddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol yn ei waith dydd i ddydd, sef prif ffocws yr adroddiad. Mae’r adroddiad yn canfod bod y Cyngor wedi dechrau cymhwyso’r egwyddorion hynny’n llwyddiannus ac mae’n tynnu sylw at nifer o gryfderau yn y gwaith y mae’r Cyngor wedi’i wneud mewn perthynas â phwnc yr astudiaeth hon ond mae’n cydnabod hefyd fod angen cydbwysedd rhwng gwaith sy’n gysylltiedig â’r Ddeddf Cenedlaethau’r Dyfodol a gofynion a blaenoriaethau eraill ehangach y Cyngor. Yng nghyswllt Wylfa Newydd mae’r Cyngor wedi dysgu llawer iawn, a hynny o weithio ar y prosiect ei hun ac o gydweithredu â Swyddfa Archwilio Cymru ar yr astudiaeth uchod. Mae’r camau gweithredu y mae’r Cyngor wedi eu datblygu mewn ymateb i’r adroddiad i’w gweld ym mharagraff 32 ac maent yn cadarnhau’n glir ymrwymiad y Cyngor i hyrwyddo’r Ynys fel cyrchfan ar gyfer datblygiadau ynni ar raddfa fawr.

 

Derbyniodd y Pwyllgor yr adroddiad fel un a roddai asesiad positif ar y cyfan o waith y Cyngor wrth gymhwyso’r egwyddor datblygu cynaliadwy yn ei ymdrech i hyrwyddo Ynys Môn i annog datblygwyr mawr i fuddsoddi yn yr Ynys.

 

Penderfynwyd derbyn yr adroddiad Archwilio Allanol ar ei archwiliad o “Hyrwyddo Ynys Môn i annog Datblygwyr Mawr i Fuddsoddi yn yr Ynys.”

 

NI WNAED UNRHYW GYNNIG YCHWANEGOL

Dogfennau ategol: