Eitem Rhaglen

Adroddiad Blynyddol Iechyd a Diogelwch Corfforaethol 2018/19

Cyflwyno adroddiad y Pennaeth Gwasanaeth (Rheoleiddio a Datblygu Economaidd).

Cofnodion:

Cyflwynwyd adroddiad y Cyfarwyddwr Lle a Llesiant Cymunedol yn ymgorffori Adroddiad Blynyddol Iechyd a Diogelwch Corfforaethol 2018/19 i'w ystyried gan y Pwyllgor. ‘Roedd yr adroddiad yn dilyn y fformat a'r arweiniad a ddatblygwyd gan Gymdeithas Llywodraeth Leol Cymru sy'n darparu cyfres o benawdau ar gyfer adrodd ar berfformiad iechyd a diogelwch a ddylai gynorthwyo i nodi ymrwymiad, gallu a chyfeiriad mewn perthynas â rheoli iechyd a diogelwch galwedigaethol.

 

Roedd yr adroddiad yn cynnwys data ar yr holl ddamweiniau a digwyddiadau y cafwyd gwybod amdanynt yn 2018/19 ac roeddent wedi eu categoreiddio fel mân ddigwyddiadau, digwyddiadau difrifol a digwyddiadau RIDDOR (Rheoliadau Adrodd ar Anafiadau, Clefydau a Digwyddiadau Peryglus) sy'n ddigwyddiadau sy'n cwrdd â meini prawf penodol y mae'n rhaid adrodd arnynt i'r Weithrediaeth Iechyd a Diogelwch. Mae'r tabl ar dudalen 7 yr adroddiad yn cynnwys dadansoddiad o’r digwyddiadau yn ôl eu math ac fe’u torrwyd i lawr  ymhellach yn is-gategorïau ar gyfer rhai digwyddiadau. Mae'r fformat tabl yn caniatáu cymharu â'r data ar gyfer y tair blynedd flaenorol.

 

Hysbyswyd y Pwyllgor fod y data'n dangos ei fod yn edrych mai trais ac ymddygiad ymosodol a chodymau yw'r mathau mwyaf arwyddocaol o ddigwyddiadau. O ran trais ac ymddygiad ymosodol (cyfanswm o 287 o gymharu â 237 yn 2017/18), y nifer uchaf o ddigwyddiadau yw'r rheini sy'n cynnwys ymddygiad heriol lle efallai nad oes  bwriad i niweidio (106). Mae camdriniaeth eiriol gan aelodau o'r cyhoedd hefyd yn nifer sylweddol (103 o ddigwyddiadau o gymharu â 53 yn 2017/18). Er mai galwadau ffôn yw’r mwyafrif o’r rhain mae rhai yn cynnwys digwyddiadau wyneb yn wyneb. Gellir priodoli'r cynnydd i gyfuniad o ffactorau gan gynnwys pwysau cymdeithasol, yr hinsawdd economaidd a'r galw cynyddol am y gwasanaethau a ddarperir gan y Cyngor. Mae digwyddiadau codwm yn ymwneud yn bennaf â disgyblion ysgol a chleientiaid mewn cartrefi, ac nid oes a wnelo’r  mwyafrif ohonynt â goruchwyliaeth neu broblemau gyda'r amgylchedd. Mae'r categori “Math arall o Ddamwainhefyd yn dangos nifer uchel o ddigwyddiadau (135) ac mae'n cynnwys adroddiadau am ymwybyddiaeth o sefyllfaoedd felcelciomewn tai Cyngor; materion diogelu posib a gwybodaeth a ddarparwyd gan asiantaethau allanol a allai effeithio ar ddyletswydd gofal y Cyngor. Adolygir hyn i sefydlu a ellir cofnodi'r digwyddiadau hyn fel digwyddiadautrwch blewynneu a oes angen dull ychwanegol o gofnodi.

 

Wrth drafod yr adroddiad, cododd y Pwyllgor y materion a ganlyn -

 

           Gofynnodd y Pwyllgor am eglurhad ar yr hyn sy'n penderfynu a oes angen rhoi gwybod am ddigwyddiad fel un RIDDOR, a ph’un a yw pob digwyddiad o'r fath yn ddifrifol iawn ac a yw'r Cyngor yn meincnodi ei berfformiad yn hyn o beth yn erbyn awdurdodau eraill. Eglurodd yr Ymgynghorydd Iechyd a Diogelwch Corfforaethol fod yna feini prawf penodol sy'n penderfynu a oes raid adrodd am ddigwyddiad fel un RIDDOR a rhoddodd enghreifftiau o ddigwyddiadau sy'n cwrdd â diffiniad RIDDOR e.e. anafiadau i weithwyr sy'n golygu na allant weithio am dros 7 niwrnod. Weithiau, bydd digwyddiad yn ddifrifol ond nid yn un y byddai’n rhaid rhoi gwybod amdano dan y rheoliadau RIDDOR ond byddai'n destun ymchwiliad mewnol manylach. Mae ymchwilio i ddigwyddiadau RIDDOR yn un o dargedau perfformiad y Gwasanaeth. O dan RIDDOR, rhaid rhoi gwybod hefyd am anafiadau i weithwyr nad ydynt yn weithwyr y Cyngor ond lle bu’n rhaid eu cludo'n uniongyrchol i'r ysbyty (boed yr anafiadau’n ddifrifol ai peidio). Cadarnhaodd y Swyddog nad yw'r Cyngor ar hyn o bryd yn ymgymryd ag unrhyw feincnodi yn erbyn awdurdodau eraill o ran iechyd a diogelwch ond yn y gorffennol pan oedd cymariaethau'n cael eu gwneud, roedd ei berfformiad mewn perthynas ag adrodd ar ddigwyddiadau RIDDOR (a ddefnyddir fel meincnod oherwydd bod ei safonau'n berthnasol i bob Cyngor) yn debyg yn gyffredinol i berfformiad awdurdodau eraill Gogledd Cymru. Nid yw Grŵp Iechyd a Diogelwch Corfforaethol Gogledd Cymru wedi cyfarfod ers rhai blynyddoedd er y bu cais iddo gael ei ailsefydlu.

           Gofynnodd y Pwyllgor am eglurhad ynghylch pwy sy’n gyfrifol am ddiogelwch personol Cynghorwyr yn enwedig mewn hinsawdd lle gallent fod mewn mwy o berygl oherwydd natur eu dyletswyddau a’r rhyngweithio sydd ganddynt gyda’r cyhoedd. Dywedodd yr Ymgynghorydd Iechyd a Diogelwch Corfforaethol fod y Cyngor yn gyfrifol am ddiogelwch Cynghorwyr pan fyddant yn cyflawni dyletswyddau ar ei ran. Dywedodd y Swyddog y gofynnwyd iddo gyfrannu at hyfforddiant i gynghorwyr ar ddiogelwch personol ac i'r perwyl hwnnw ei fod yn gweithio ar gyflwyniad. Gofynnodd y Pwyllgor am i’r  hyfforddiant gael ei ddarparu cyn gynted ag y bod modd.

           Roedd y Pwyllgor yn pryderu am y cynnydd mewn digwyddiadau treisgar a thynnodd  sylw at 8 digwyddiad lle cafodd gweithiwr ei daro, a nododd hefyd y cynnydd yn nifer y digwyddiadau treisgar lle'r oedd aelod o'r cyhoedd wedi cam-drin aelod o staff yn eiriol  a oedd bron wedi dyblu o 53 i 103. Gofynnodd y Pwyllgor a oedd yr Heddlu’n cael gwybod am ddigwyddiadau treisgar, ac er budd diogelu staff, a ddylai fod rhybudd clir ym mhrif dderbynfa'r Cyngor yn dweud y bydd yr Heddlu’n cael gwybod am ymddygiad treisgar yn erbyn staff ac a yw'r Awdurdod yn fodlon bod staff yn cael y gefnogaeth sydd ei hangen arnynt pan fyddant wedi dioddef trais neu gamdriniaeth wrth gyflawni eu gwaith. Nododd y Pwyllgor hefyd y byddai'n ddefnyddiol pe gellid dadansoddi’r data ymhellach, trwy ddangos nifer y digwyddiadau ym mhob  gwasanaeth, gan y gallai tenantiaid tai, er enghraifft, fod yn torri eu tenantiaeth wrth gam-drin staff yn eiriol a gellir cymryd camau cadarnhaol yn erbyn y fath ymddygiad. Eglurodd yr Ymgynghorydd Iechyd a Diogelwch Corfforaethol fod mwyafrif y digwyddiadau treisgar yn digwydd yn amgylchedd yr ysgolion, sef disgybl yn erbyn disgybl o bosib, ond nad oedd yn ymwybodol bod yr Heddlu’n cael gwybod amdanynt. Er bod mwyafrif yr ymosodiadau corfforol yn ymwneud ag ymddygiad heriol lle mae problemau galluedd meddyliol a lle na ellid sefydlu bod bwriad i niweidio, mae nifer yr ymosodiadau corfforol cyffredinol lle na nodwyd unrhyw faterion galluedd meddyliol hefyd wedi cynyddu. Dywedodd y Swyddog, er nad oedd yn ymwybodol o unrhyw erlyniadau a ddeilliodd ohonynt, fod 2 ddigwyddiad yr oedd yr Heddlu wedi rhoi sylw iddynt. Mae arwyddion yn Cyswllt Môn (derbynfa gyhoeddus y Cyngor) sy'n tynnu sylw at y ffaith na fydd trais ac ymddygiad ymosodol yn cael eu goddef; mae cynnwys cyfeiriad ynddynt at yr Heddlu yn fater i'w drafod. Ar gyfer staff sydd wedi dioddef camdriniaeth yn ystod eu gwaith, mae cefnogaeth ac ymwybyddiaeth ar lefel Rheolwyr Llinell ac, yn ogystal,  gwnaed diwygiadau i'r Polisi Rheoli Cyswllt - Camau Derbyniol gan Gwsmeriaid a'r Polisi a’r Gweithdrefn Marcio’r Perygl o Drais.

 

Cadarnhaodd y Prif Weithredwr fod gan staff yr hawl i ddod â galwad ffôn i ben os yw'r galwr yn eu cam-drin ar lafar ac i roi gwybod am alwadau o'r fath i'r Pennaeth Gwasanaeth. Os bydd hyn yn digwydd dro ar ôl tro, yna mae'r Polisi Marcio Perygl o Drais yn darparu ar gyfer nodi’r galwr fel un sy'n ymosodol / bygythiol.

 

Penderfynwyd bod y Pwyllgor Archwilio a Llywodraethu yn derbyn yr Adroddiad Blynyddol Iechyd a Diogelwch Corfforaethol ac yn argymell bod yr adroddiad yn cael ei ystyried gan yr Awdurdod a bod y Cynllun Datblygu yn cael ei weithredu.

 

NI WNAED UNRHYW GYNNIG YCHWANEGOL

 

Dogfennau ategol: